Mae'r dylunydd sain yn cynllunio ac yn darparu'r effeithiau sain yn y ddrama, gan gynnwys cerddoriaeth o ffynonellau sydd eisoes yn bodoli. Hefyd, gall cyfansoddwr ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer y sioe. Mae'r holl gerddoriaeth a/neu effeithiau mewn drama o'u hystyried gyda'i gilydd yn creu'r "seinlun" (soundscape).
Yn ogystal â synau'r geiriau a siaredir gan yr actorion, gall drama hefyd ofyn am effeithiau sain i ail-greu synau naturiol neu ddefnyddio cerddoriaeth neu synau haniaethol na ellir eu hadnabod i gefnogi'r ddrama.