Dylunydd Sain

Llyfr Nodiadau ar y broses a Viva

Bydd angen i bob ymgeisydd gadw cofnod o'r broses. Bydd y cynnwys yn benodol o ran sgiliau.

Awgrymir y dylid cadw manylion y broses mewn ffolder cyflawn y gellir dewis deunydd ohoni wedyn ar gyfer cyflwyniadau mwy penodol fel:

  • Cofnodion Creadigol
  • Gwerthusiadau

Gall y cynnwys gynnwys:

Yn gyffredin i BOB ymgeisydd dylunio ac actio:

  • ymchwil ar ffurf nodiadau
  • diagramau
  • ffotograffau
  • brasluniau
  • siartiau
  • delweddau gweledol
  • cyfryngau digidol, gan gynnwys recordiadau byr o adrannau o ymarfer neu ddeunydd sy'n briodol i'r maes sgiliau e.e. clipiau sain. Ni ddylai'r rhain fod yn hwy na munud.

Yn benodol i DDYLUNIO SAIN:

  • tystiolaeth o ymchwilio i seiniau a/neu gerddoriaeth wahanol
  • nodiadau ar ymchwilio i gyfarpar e.e. desgiau cymysgu, microffonau, seinyddion, cyfarpar golygu
  • ffeiliau sain camau'r datblygiad
  • cipluniau o ffeiliau yn ystod y broses olygu e.e. Audacity
  • gwybodaeth recordio, golygu a chymysgu

Viva

Dylai ymgeiswyr ddylunio, paratoi a gallu siarad am y canlynol:

Ymateb ar gyfer dewis o sbardunau a/neu ARDDULL/YMARFERYDD neu GWMNI THEATR gan gynnwys:

  • Ymatebion cychwynnol
  • Ysbrydoliaethau
  • Sut y gwnaeth y sbardunau ysgogi proses ddylunio

Trafod y TESTUN a'r dewis o ARDDULL / YMARFERYDD neu GWMNI THEATR gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso'r arddull/ ymarferydd/ cwmni theatr at y set, y goleuo, y sain neu'r gwisgoedd
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Trafod yr hyn a DDYFEISIWYD a'r ARDDULL/ YMARFERYDD neu GWMNI THEATR a ddewiswyd gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull/ ymarferydd/ cwmni a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso'r arddull/ ymarferydd/ cwmni at y set neu'r goleuo neu'r sain neu'r gwisgoedd
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Elfennau dylunio penodol gan gynnwys, er enghraifft:

Sain:

  • Anghenion y ddau ddarn
  • Defnydd o gyfarpar sain, ffynonellau sain, cymysgu, golygu
  • Defnydd o lefel, lefel y sain, sain yn y perfformiad(au)
  • Dylanwadau ar arddull, ymarferydd/cwmni

Y broses ddylunio gan gynnwys:

  • Addasu syniadau
  • Sut y tyfodd/datblygodd y dyluniadau drwy gydol y broses ymarfer

Cysylltiadau clir rhwng
DYLUNIO
ac ARDDULL neu YMARFERYDD/CWMNI
ac YSGOGIADAU

Asesir ansawdd y sgil dylunio yn ystod y perfformiad. Yn y viva, gall dysgwyr hefyd ddangos:

Sain

  • Ffolder o'r dyluniad/gwaith cysyniadol - gallai hyn fod ar ffurf papur NEU electronig h.y. dyluniadau a gyflawnir drwy becyn dylunio;
  • Dilyniant sain ar bapur gan gynnwys e.e.
    • rhestr ciwiau
    • disgrifiadau ciwiau sain/li>
  • Dilyniant sain ar DÂP neu unrhyw ddyfais storio arall e.e. CD, iPod, minidisc, gliniadur, cyfrifiadur, pecyn sain;
  • Elfennau cymysgu/golygu;
  • COPI PROMT neu sgript wedi'i hanodi ar gyfer ciwio sy'n cyfeirio at o leiaf 8 ciw gwahanol;
  • Tystiolaeth a gofnodwyd o'r holl elfennau h.y. yr athro yn ffilmio'r tudalennau yn ffolder yr ymgeisydd ac elfennau eraill a gyflwynir i'w hasesu;
  • Tystiolaeth o'r broses e.e. enghraifft o sain, ffynonellau sain;
  • Tystiolaeth o gydweithio â'r actorion e.e. nodiadau ymarfer, nodiadau cyfarfod cynhyrchu;
  • Tystiolaeth o wybodaeth effeithiol o ddesg gymysgu gan gynnwys, os yw'n bosibl, arddangosiad ohoni ar waith.

POB UN yn berthnasol i'r dewis ymarferydd/ cwmni neu arddull ar gyfer pob darn.