Mae dylunwyr sain yn dechrau eu gwaith drwy astudio'r sgript, gan gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am unrhyw sain neu gerddoriaeth y mae'r sgript yn gofyn amdano. Fel gyda phob agwedd arall ar ddylunio, mae cyfarfod cynnar â'r cyfarwyddwr a'r tîm dylunio yn hanfodol er mwyn deall yn well y cysyniad cynhyrchu.
Bydd gan rai cyfarwyddwyr eisoes syniadau clir am yr effeithiau sain a/neu gerddoriaeth yr hoffent eu cael, tra bydd eraill yn gofyn i'r dylunydd sain/cyfansoddwr ddod i ymarferion er mwyn eu helpu i ddatblygu effeithiau a cherddoriaeth i gyd-fynd â'r cyd-destunau penodol y cânt eu defnyddio ynddynt. Pan fydd ganddynt ymdeimlad go iawn o'r hyn sydd ei angen ar y cynhyrchiad o ran cerddoriaeth neu sain, bydd y cyfansoddwr yn dechrau cyfansoddi'r darnau cerddorol angenrheidiol a bydd y dylunydd sain yn dechrau casglu a chreu'r synau angenrheidiol.
Gall synau a cherddoriaeth yn y theatr:
Mae'r dylunydd neu'r cyfansoddwr yn cyfuno ac yn amrywio pum nodwedd reoledig seiniau i greu'r effeithiau unigryw neu'r gerddoriaeth sydd ei hangen gan gynhyrchiad y ddrama.
Nodweddion rheoledig sain yw:
Adnoddau cynllunio dylunwyr sain a chyfansoddwyr:
Awgrym Defnyddiol:
Peidiwch ag anghofio y bydd ymarferydd/ cwmni theatr neu arddull benodol yn dylanwadu ar eich dyluniad. Felly wrth ddarllen ac ymchwilio i'r sgript, meddyliwch sut y gellir cymhwyso confensiynau penodol eich dewis ymarferydd/cwmni theatr neu arddull yn effeithiol.
Ar gyfer darnau a ddyfeisir neu a ail-ddehonglir sicrhewch eich bod yn gwneud y confensiynau a'r technegau hyn yn rhan ganolog o'ch gwaith.
COFIWCH AM HYN O DDECHRAU EICH PROSES DDYLUNIO.