Y testun wedi'i olygu mewn orgraff ddiweddar

  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle’th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddai'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu’r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Ystyr y testun mewn Cymraeg modern

  1. Yr wylan deg ar y llanw, yn sicr,
  2. o'r un lliw ag eira neu'r lleuad wen,
  3. mae dy degwch di yn ddilychwin,
  4. darn fel haul, maneg ddur y môr.
  5. Ysgafn wyt ti ar donnau'r môr,
  6. aderyn chwim a balch sy'n bwyta pysgod.
  7. Yn agos yr aet ger yr angor
  8. law-yn-llaw â mi, lili'r môr.
  9. Fe'th beintiwyd yn arian yn union fel llythyr(en),
  10. lleian wyt ar frig llanw'r môr.

  11. Clod perffaith merch, cei dy foli'n helaeth,
  12. cyrcha at dro caer a chastell.
  13. Edrycha a weli di, wylan,
  14. un o'r un lliw ag Eigr ar y gaer deg.
  15. Dywed fy ngeiriau eiddgar,
  16. dewised hi fi, cer at y ferch.
  17. Os bydd ar ei phen ei hun, mentra'i chyfarch,
  18. bydd yn gwrtais wrth y ferch lednais
  19. er lles; dywed na fyddaf fi,
  20. llanc bonheddig a diwylliedig, fyw oni chaf hi yn gariad.
  21. Rwyf yn ei charu, nerth angerdd llawn,
  22. och wŷr, ni charodd
  23. Myrddin gyda'i wefusau gwenithaidd iach,
  24. na Thaliesin erioed un dlysach na hi.
  25. Merch y mae ymgiprys amdani sy'n gwisgo lliain main dan [wallt o liw] copor,
  26. golwg rhagorol, hynod o drwsiadus.

  27. Och wylan, os cei di weld
  28. boch y ferch harddaf yn y byd,
  29. os na chaf fi gyfarchiad addfwyn iawn,
  30. bydd y ferch yn achosi fy marwolaeth.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Cymharu

Y testun wedi'i olygu mewn orgraff ddiweddar
  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Ystyr y testun mewn Cymraeg modern
  1. Yr wylan deg ar y llanw, yn sicr,
  2. o'r un lliw ag eira neu'r lleuad wen,
  3. mae dy degwch di yn ddilychwin,
  4. darn fel haul, maneg ddur y môr.
  5. Ysgafn wyt ti ar donnau'r môr,
  6. aderyn chwim a balch sy'n bwyta pysgod.
  7. Yn agos yr aet ger yr angor
  8. law-yn-llaw â mi, lili'r môr.
  9. Fe'th beintiwyd yn arian yn union fel llythyr(en),
  10. lleian wyt ar frig llanw'r môr.

  11. Clod perffaith merch, cei dy foli'n helaeth,
  12. cyrcha at dro caer a chastell.
  13. Edrycha a weli di, wylan,
  14. un o'r un lliw ag Eigr ar y gaer deg.
  15. Dywed fy ngeiriau eiddgar,
  16. dewised hi fi, cer at y ferch.
  17. Os bydd ar ei phen ei hun, mentra'i chyfarch,
  18. bydd yn gwrtais wrth y ferch lednais
  19. er lles; dywed na fyddaf fi,
  20. llanc bonheddig a diwylliedig, fyw oni chaf hi yn gariad.
  21. Rwyf yn ei charu, nerth angerdd llawn,
  22. och wŷr, ni charodd
  23. Myrddin gyda'i wefusau gwenithaidd iach,
  24. na Thaliesin erioed un dlysach na hi.
  25. Merch y mae ymgiprys amdani sy'n gwisgo lliain main dan [wallt o liw] copor,
  26. golwg rhagorol, hynod o drwsiadus.

  27. Och wylan, os cei di weld
  28. boch y ferch harddaf yn y byd,
  29. os na chaf fi gyfarchiad addfwyn iawn,
  30. bydd y ferch yn achosi fy marwolaeth.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Cyflwyniad

Pam cyfansoddi cerdd i wylan, tybed? Dyma gwestiwn y bydd modd inni gynnig sawl ateb iddo maes o law. Ond cyn gwneud hynny, mae’n bwysig rhoi sylw i ambell ystyriaeth gychwynnol.

Yn gyntaf, cofiwn mai golygyddion diweddar sydd wedi dewis y teitl ‘Yr Wylan’. Ni allwn honni bod y teitl yn gynnyrch dychymyg y bardd ei hun. Wedi dweud hynny, mae’r teitl yn un amlwg o ystyried cynnwys y gerdd, ac mae hefyd yn cyfateb i ddau air cyntaf y llinell gyntaf. Mae rhai o’r llawysgrifau cynharaf hefyd yn cynnig teitlau tebyg, megis ‘Cywydd yr Wylan’ ac ‘I’r Wylan’, ynghyd ag ambell fersiwn hwy fel ‘Cywydd y bardd yn gyrru’r wylan drosto at ei gariad’. Ond wrth ddarllen y gerdd, ni ddylem deimlo bod angen rhoi ystyriaeth fanwl i’r teitl.

Yr ail beth i’w nodi yw mai un o gerddi llatai Dafydd ap Gwilym yw’r cywydd hwn. Negesydd serch yw llatai, ac ym marddoniaeth y cyfnod hwn nid bod dynol mo’r llatai gan amlaf ond yn hytrach anifail neu nodwedd arall o fyd natur. Dyfais lenyddol oedd y llatai i fardd fel Dafydd ap Gwilym, felly. Cyfansoddodd Dafydd nifer o gywyddau llatai, gan gynnwys cerddi sy’n gofyn i’r iwrch, yr ehedydd a’r gwynt gludo neges at ei gariad. I’r un traddodiad y perthyn ‘Yr Wylan’. Gan fod y bardd yn dibynnu ar negesydd i gyfathrebu â’i gariad, gallwn dybio bod rhyw fath o rwystr rhyngddynt. Felly byddwn yn aml yn synhwyro elfen o anniddigrwydd neu rwystredigaeth yn y cerddi llatai hyn.

Nodwyd eisoes mai dewis golygyddion yw teitl y gerdd. Yn yr un modd, golygyddion diweddar sydd wedi dewis rhannu’r gerdd yn dair rhan; eto, rhaid cofio nad oes unrhyw dystiolaeth mai felly y cafodd ei pherfformio yn wreiddiol. Yn wir, byddai modd ei rhannu’n bedair rhan drwy osod llinellau 21-26 yn uned ar wahân. Neu fe ellid cadw’r gerdd yn un uned ddi-dor. Pa ddull y byddech chi’n ei ffafrio, tybed? Beth bynnag yw'r ateb, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar ffurf y gerdd ar y tudalen.

Daw'r golygiad o'r gerdd oddi ar dafyddapgwilym.net (o dan y tair cerdd)

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Darllen y gerdd 1

Dechreuwn felly drwy ystyried y ddau gwpled agoriadol.

Mae’r cywydd yn agor mewn modd digon syml drwy ganmol yr aderyn am ei degwch. Mae’r ebychiad ‘dioer’ (‘yn sicr’) yn awgrymu bod y bardd yn argyhoeddedig na allai neb anghytuno ag ef wrth ryfeddu at harddwch yr wylan hon. Drwy gyfeirio at eira (‘eiry’) a’r lleuad (‘[g]wenlloer’) mae’r bardd yn cyfleu gwynder trawiadol yr wylan, ac mae’r syniad hwnnw yn awgrym o lendid a phurdeb yr aderyn. Yn wir, dywed y bardd fod ei degwch yn ‘[d]dilwch’, sef yn ddilychwin neu’n ddi-fai.

Gall mai’r ymadrodd ‘dyrnfol heli’ yw’r mwyaf trawiadol yn y ddau gwpled cyntaf hyn. Math o faneg drom oedd dyrnfol a wisgid er mwyn diogelu’r llaw rhag anaf. Roedd sawl math yn bodoli - byddai coedwyr, er enghraifft, yn gwisgo dyrnfolau wrth eu gwaith. Ond go brin mai at fenig gweithwyr isel eu statws y mae Dafydd yn cyfeirio yma. Yn hytrach, mae’n siŵr mai am ddyrnfol milwr y mae Dafydd yn sôn. Roedd dyrnfolau yn rhan o arfwisg milwyr cyfoethog, a chan fod arnynt ddarnau metel mae’n siŵr y byddent yn fflachio yn yr haul mewn modd trawiadol. Mae Dafydd felly yn cysylltu’r wylan â chyfoeth a grym y dosbarth milwrol. Ond - yn anorfod felly - mae rhyw awgrym o drais yma hefyd.

  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Darllen y gerdd 2

Parhau i ganmol yr wylan a wna Dafydd yn y tri chwpled nesaf:

Y tro hwn mae’r bardd yn pwysleisio gallu’r aderyn i hedfan yn chwim ac mae’n cyfleu ei ddyhead i allu gwneud yr un peth drwy ei ddychmygu ei hun a’r aderyn yn teithio law yn llaw â’i gilydd (er mor amhosibl fyddai hynny, wrth gwrs). Unwaith eto mae harddwch a phurdeb yr wylan yn cael eu cyfleu gan y trosiadau: lili, lleian, a llythyr neu lythyren arian.

Wedi iddo sefydlu’r darlun o’r wylan hardd a gosgeiddig, mae’r bardd yn mynd ati i ofyn am ei chymorth:

Yma mae’r bardd yn llunio cysylltiad rhwng yr aderyn a’r ferch y mae’n ei charu. Drwy ei galw’n cyweriglod bun dweud y mae’r bardd fod yr wylan ei hun yn glod addas i’r ferch—hynny yw, mae’r gymhariaeth rhwng harddwch y ddwy yn gwbl briodol. Ond mae’r ffaith fod y ferch mewn castell neu gaer yn golygu ei bod y tu hwnt i gyrraedd y bardd ei hun a rhaid iddo anfon yr wylan i chwilio amdani ac i lefaru wrthi ar ei ran.

Gall yr wylan hedfan uwch muriau’r castell, wrth gwrs, ac y mae'r bardd yn gofyn iddi fentro i gyfarch y ferch:

Mae’r neges yn un bwysig: dywed y bardd y bydd farw oni chaiff y ferch. Er bod hyn yn ymddangos dros-ben-llestri i ni, roedd honni y gallai diffyg ymateb gan gariadferch ladd ei charwr yn nodwedd gyffredin o gerddi serch y cyfnod. Sylwn yma hefyd fod y ferf ‘caf’ yn cyfleu awydd y bardd i feddiannu’r ferch yn gyfan gwbl, gan awgrymu ei deimladau rhywiol cryfion tuag ati.

  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Darllen y gerdd 3

Yn nesaf, mae’r bardd yn datgan ei gariad at y ferch:

Ni charodd y beirdd hanesyddol Myrddin a Taliesin erioed ei thlysach, meddai’r bardd. Ond ymddengys fod y cariad hwn yn peri loes iddo, gan ei fod yn ochneidio gerbron ei wrandawyr (‘och wŷr’). Mae harddwch y ferch yn eithafol, ac yn union wedi’r cyfeiriad at ei thlysni, mae’r bardd yn rhoi disgrifiad hynod drawiadol ohoni:

Mae’n cyfeirio at ei hymddangosiad a’r hyn y mae’n ei wisgo drwy ddefnyddio gair digon prin ac egsotig: siprys. Ond nid yr eirfa yn unig sy’n gofiadwy yn y cwpled hwn. Mae ei ddarllen yn uchel yn ei gwneud yn amlwg ei fod yn anarferol o gyfoethog ei gynghanedd—yn wir mae’r llinellau hyn yn gryn gwlwm tafod! Gallwn weld hynny ar bapur os awn ati i nodi’r cytseiniaid sydd yn rhan o’r gynghanedd mewn print trwm a nodi’r brifodl mewn print italig.

Mae yn y cwpled hwn 27 o gytseiniaid, ac mae pob un ond un (sef yr S- gychwynnol) yn cyfrannu at y gynghanedd neu’r brifodl. Anarferol yw cael cymaint o gytseiniaid mewn cwpled, a mwy anarferol fyth yw cael y fath gyfatebiaeth gytseiniol. Mae’n amlwg fod y bardd yma’n ceisio cyfleu harddwch a soffistigeiddrwydd anarferol y ferch hon, ac mae’r cynganeddu cywrain yn cyfrannu at y ddelwedd honno.

  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Darllen y gerdd 4

Wedi’r uchafbwynt hwnnw, mae’r arddull yn symleiddio unwaith eto ac mae’r bardd yn cydnabod bod y ferch yn dal i fod y tu hwnt i’w afael:

Mae’n ochneidio unwaith eto — y tro hwn wrth gyfarch yr wylan — mewn modd sy’n gwrthgyferbynnu â thôn gadarnhaol y cyfarchiad ar ddechrau’r gerdd. Ac wrth iddo ddigalonni, mae’r bardd yn gosod y ferch ar bedestal uwch eto. Mae eisoes wedi ei chymharu ag Eigr — y ferch harddaf ym Mhrydain yn ôl y chwedl — ond bellach dywed mai’r ferch yw’r harddaf yn holl wledydd Cred. Ond pa les yw hynny os na fydd yn ymateb? Yng nghwpled olaf y gerdd dywed y bardd y bydd yn marw oni chaiff ganddi’r cyfarchiad mwynaf. Nodwyd eisoes fod awgrymu — neu ddweud yn blaen — fod cariad at ferch yn debyg o achosi marwolaeth yn dopos cyffredin gan feirdd y cyfnod hwn. Ond mae’r gair a ddefnyddir yna, sef dihenydd, yn un cryf iawn. Nid marwolaeth gyffredin mo dihenydd, ond marwolaeth drwy drais neu yn sgil dedfryd llys barn. Er nad yw’r gair yn bodoli heddiw, rydym yn dal i ddefnyddio’r ferf gysylltiedig dienyddio i gyfleu marwolaeth dan law’r awdurdodau. Mae’r gerdd felly yn cloi mewn modd tywyll os nad treisgar.

  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Dehongliadau

Rydym bellach wedi darllen y gerdd i gyd, ac wedi tynnu sylw at rai o’i nodweddion amlycaf. Ond rydym yn awr am geisio ymateb i’r gerdd yn ei chyfanrwydd. Wrth wneud hynny, a ddylem geisio diffinio beth yw ei neges? Na ddylem. Mae cerdd fel hon yn wrthrych creadigol a sawl gwedd iddi, a gwneud cam â hi fyddai ceisio ei chrynhoi i un neges syml. Gwell fyddai dechrau drwy geisio meddwl am y profiad o’i darllen.

Ar ddechrau’r gerdd, cawn ddarlun o harddwch a glendid yr wylan, a’r bardd yn ymhyfrydu yn ei thegwch. Wedyn, mae’r bardd yn gofyn i’r wylan fynd â neges at ferch, gan ddangos fod rhyw rwystr yn eu cadw ar wahân. Dywed y bardd na all fyw hebddi a’i fod yn ei charu. Cawn glywed am harddwch eithafol y ferch, a daw’r gerdd i ben wrth i’r bardd ddweud eto y daw ei fywyd i ben oni fydd hi’n rhoi ateb ffafriol iddo. Rydym wedi symud felly oddi wrth harddwch pleserus ar ddechrau’r gerdd, i harddwch sy’n peri cariad eithafol a all ladd y bardd yn y pen draw.

Mae modd ymateb i hyn mewn sawl ffordd. Yn syml iawn, gallwn ddweud bod y gerdd yn ymwneud â’r tensiwn rhwng y gallu i werthfawrogi merch hardd a’r anallu i’w meddiannu. Dymuniad y bardd yw cael perchenogaeth ar y ferch, ond nid yw hynny’n bosibl. Mae’r wylan ynddi hi ei hun yn ymgnawdoliad o harddwch ac mae ganddi hefyd y gallu i ymgysylltu â harddwch y ferch, dau beth sydd y tu hwnt i gyrraedd y bardd. Ar lefel haniaethol, felly, gallwn ddweud bod y gerdd yn trafod y rhwystredigaeth a brofir pan fo’r gallu i werthfawrogi harddwch yn cyd-fynd ag anallu i’w feddiannu.

Ond gallwn hefyd gynnig darlleniad sydd wedi ei seilio ar gyd-destun hanesyddol y gerdd. Mae’r ferch wedi ei lleoli mewn castell, ac yn y cyfnod hwn roedd cestyll yn ganolfannau milwrol, gweinyddol a gwleidyddol. Gallwn ddadlau felly fod y ferch yn cynrychioli grym gwleidyddol a milwrol, rhywbeth yr hoffai’r bardd ei brofi ond sydd y tu hwnt i’w gyrraedd. Gellid dadlau bod y defnydd o’r geiriau dyrnfol a dihenydd yn cefnogi’r darlleniad hwn.

Gallwn fynd â’r ddadl hon ymhellach drwy nodi mai gwlad wedi ei choncro oedd Cymru Dafydd ap Gwilym a bod y cestyll yn fynegiant ymarferol a symbolaidd o’r ffaith honno. Gan hynny, gallwn ddarllen rhwystredigaeth y bardd ynghylch y ferch yn y castell fel mynegiant o rwystredigaeth ehangach fod y cestyll Seisnig yn cadw’r Cymry rhag perchenogi grym gwleidyddol yn eu gwlad eu hunain.

Yn sicr, felly, nid oes yn y gerdd hon un ‘neges’ syml. Fel yn achos pob cerdd, mae modd cynnig darlleniadau gwahanol. Y peth pwysig yw cofio bod angen seilio pob un ar ddealltwriaeth fanwl o gynnwys y gerdd ei hun.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Cynghanedd



  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans


Arddull: brawddegau/sangiadau

Dyma lif y prif frawddegau yn y cywydd hwn wedi eu nodi mewn coch. Mae’r sangiadau sy’n rhannu’r dweud wedi eu nodi mewn du. Trowch i‘r adran ‘Darllen gwaith Dafydd ap Gwilym’ yn y Cyflwyniad am fwy o wybodaeth am sangiadau.

  1. Yr wylan deg ar lanw, dioer,
  2. Unlliw ag eiry neu wenlloer,
  3. Dilwch yw dy degwch di,
  4. Darn fal haul, dyrnfol heli.
  5. Ysgafn ar don eigion wyd,
  6. Esgudfalch edn bysgodfwyd.
  7. Yngo'r aud wrth yr angor
  8. Lawlaw â mi, lili môr.
  9. Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
  10. Lleian ym mrig llanw môr wyd.

  11. Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
  12. Cyrch ystum caer a chastell.
  13. Edrych a welych, wylan,
  14. Eigr o liw ar y gaer lân.
  15. Dywaid fy ngeiriau dyun,
  16. Dewised fi, dos hyd fun.
  17. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
  18. Bydd fedrus wrth fwythus ferch
  19. Er budd; dywaid na byddaf,
  20. Fwynwas coeth, fyw onis caf.
  21. Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
  22. Och wŷr, erioed ni charawdd
  23. Na Merddin wenithfin iach,
  24. Na Thaliesin ei thlysach.
  25. Siprys dyn giprys dan gopr,
  26. Rhagorbryd rhy gyweirbropr.

  27. Och wylan, o chai weled
  28. Grudd y ddyn lanaf o Gred,
  29. Oni chaf fwynaf annerch,
  30. Fy nihenydd fydd y ferch.

Golygwyd gan y Dr Dylan Foster Evans