Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Iechyd a Diogelwch mewn stadiwm chwaraeon - Cyflwyniad




Gweithgaredd 1

Lluniwch ffeil ffeithiau o Stadiwm Liberty yn Abertawe i gynnwys gwybodaeth allweddol gan ddefnyddio’r cyswllt isod.

www.liberty-stadium.com/index.php



Datblygiad meysydd pêl-droed a thrychinebau mawr

Fel y nodwyd eisoes, cafwyd cyfres o drychinebau mawr mewn meysydd pêl-droed yn y gorffennol ac roedd hwliganiaeth yn fwy cyffredin o lawer nag y mae heddiw.

Roedd y prif ddigwyddiadau yn cynnwys:

  1. Parc Ibrox, Glasgow 1971 – 66 o gefnogwyr wedi’u sathru a’u gwasgu i farwolaeth
  2. Bradford City 1985 – 55 o bobl wedi’u llosgi i farwolaeth
  3. Stadiwm Heysel, Brwsel 1986 – mwy na 20 o bobl wedi’u lladd mewn ymladd rhwng cefnogwyr Lerpwl a Juventus
  4. Hillsborough, Sheffield 1989 – 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi’u gwasgu i farwolaeth

Gweithgaredd 2

Ymchwiliwch i bob un o’r digwyddiadau hyn, a lluniwch grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd yn achos pob un.

  • Parc Ibrox
  • Bradford City
  • Stadiwm Heysel
  • Hillsborough


Y Stadiwm Modern

Gweithgaredd 3

Un o’r nifer o effeithiau a gafodd trychinebau’r 1980au oedd bod clybiau mawr naill ai wedi ailddatblygu eu meysydd, fel yn achos Old Trafford er enghraifft, neu wedi symud i stadiwm newydd â seddau yn unig.

Ar gyfer y clybiau sydd wedi’u rhestru isod, nodwch neu ymchwiliwch i enwau’r stadiwm newydd a’r hen stadiwm.

  • Dinas Abertawe
  • Derby County
  • Leicester City
  • Sunderland
  • Reading
  • Dinas Caerdydd
  • Bolton Wanderers
  • Wigan Athletic
  • Middlesborough
  • Hull City
  • Southampton
  • Manchester City
Adroddiadau a Deddfwriaeth

Arweiniodd trychineb tân Bradford City at Adroddiad Popplewell yn 1986 ac arweiniodd trychineb Hillsborough at Adroddiad Taylor yn 1990.

Mae’r mesurau a argymhellwyd yn yr adroddiadau hyn yn gyffredin erbyn hyn yn y meysydd pêl-droed modern, ond cawson nhw eu cyflwyno ar ôl i lawer o bobl golli eu bywydau. Dyma rai o fesurau allweddol yr adroddiadau:

  • Pob stadiwm yn yr Uwch Gynghrair/Adran 1 i fod â seddau yn unigo 1995 – Tan hynny roedd sawl stadiwm enwog yn cynnwys terasau sefyll enwog fel y Kop yn Anfield (Lerpwl) a’r Shed yn Stamford Bridge (Chelsea).
  • Gostwng y nifer mwyaf o wylwyr a allai fynd i bob stadiwm oedd â therasau – Roedd hyn yn lleihau’r perygl o gael gormod o bobl yno
  • Cynyddu elfennau diogelwch – Roedd y rhain yn cynnwys barrau diogelwch, mynedfeydd/allanfeydd, dulliau gweithredu yn achos tân, a hysbysiadau/arwyddion clir.
  • Cael gwared â ffensys o amgylch y maes – Roedd y rhain wedi cael eu codi mewn sawl maes i atal pobl rhag mynd ar y maes chwarae. Fodd bynnag, ffens o’r fath oedd un o’r prif ffactorau a arweiniodd at drychineb Hillsborough.
  • Cael gwared ag eisteddleoedd/seddau (pren) fflamadwy – Eisteddleoedd/seddau pren oedd un o’r prif ffactorau yn nhân Bradford City.
  • Stiwardio digonol a hyfforddi stiwardiaid.
  • Gwahanu cefnogwyr – Cyn yr 1990au roedd gwahanu cefnogwyr yn llai trefnus nag y mae heddiw.
  • Teledu cylch-caeedig a monitro llawn mewn ystafell reoli – erbyn hyn gellir defnyddio teledu cylch-caeedig i ymchwilio i gynnwrf a monitro ymddygiad y dorf.
  • Gwell cyfathrebu yn achos stiwardiaid/ystafell reoli.
Rhestr o Dermau

Mae llawer o bobl yn mynd i stadiwm modern i wylio gemau pêl-droed neu rygbi neu i fwynhau gweithgareddau eraill fel cyngherddau. Dydy’r rhan fwyaf o’r bobl hyn ddim yn gwybod llawer am fanylion technegol dyluniad stadiwm modern a’r mesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth sy’n weithredol i ddarparu amgylchedd diogel.

Mae llawer o dermau a diffiniadau yn gysylltiedig a stadiwm modern a’r mesurau iechyd, diogelwch a gwarchodaeth a weithredir yno. Mae’r tabl isod yn cynnwys detholiad o’r rhain.

Gweithgaredd 4

Dewiswch y term cywir o’r blwch isod i gyd-fynd â’r diffiniadau a roddir.

ParafeddygLlawlyfr gweithrediadauTeras
CynteddStadiwmCynllun wrth gefn
Atalfa o amgylch y maesTramwyfa (Vomitory)Lle o ddiogelwch rhesymol
AllanfaAtalfa (Barrier)Person cymorth cyntaf
CylchrediadCanllaw (Handrail)Oriel wylwyr/td>
Safon wylioCyfradd symudLle rheoli
Cynllun brysLlinell weldLle i wylwyr
Maes chwaraeFfens o amgylch y maes

Term

Diffiniad

Unrhyw elfen o faes chwarae, parhaol neu dros dro, y bwriedir iddi atal pobl rhag cwympo, ac i gadw, atal neu lywio pobl.

Symudiad rhydd o wylwyr mewn maes chwarae.

Oriel lle gall gwylwyr fynd i wylio’r gweithgaredd, mae fel arfer wedi’i chysylltu ag ardal lletygarwch.

Nifer y bobl am bob lled metr am bob munud sy’n symud drwy elfen o system mynd allan.

Unrhyw le lle mae campau neu weithgareddau cystadleuol eraill yn digwydd yn yr awyr agored ac mae lle wedi’i ddarparu ar gyfer gwylwyr, mae’n cynnwys adeiladwaith artiffisial neu adeiladwaith naturiol a addaswyd yn artiffisial at y diben.

Ardal o risiau sy’n darparu lle sefyll i wylwyr.

Rheilen y bydd pobl fel arfer yn cydio ynddi â llaw ar gyfer eu tywys neu eu cynnal.

Cynllun a baratowyd gan y gwasanaethau brys ar gyfer delio â digwyddiad mawr yn y lleoliad neu yn yr ardal.

Person sydd â thystysgrif safonol cymorth cyntaf a roddir i bobl sy’n gweithio fel pobl cymorth cyntaf dan Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.

Atalfa sy’n gwahanu gwylwyr oddi wrth y maes neu ardal y gweithgaredd.

Ardal lle gall pobl gerdded o gwmpas gyda mynediad uniongyrchol i ac o’r lle gwylwyr, trwy risiau, rampiau, tramwyfeydd, neu lwybrau gwastad, a lle gall gwylwyr ymgynnull i gael diod neu adloniant. Gall hefyd ddarparu mynediad uniongyrchol i doiledau.

Y rhan o’r stadiwm neu adeiladwaith yn y stadiwm a ddarperir at ddefnydd gwylwyr, gan gynnwys pob ardal lle gall pobl cerdded o gwmpas, y cynteddau a’r lle gwylio.

Maes chwarae lle bydd gwyliwr fel arfer yn gwylio’r gweithgaredd o un man, er enghraifft mewn gemau pêl-droed neu rygbi, mewn cyferbyniad â mannau lle bydd gwylwyr yn debygol o symud o gwmpas, fel yn achos rasio ceffylau a golff.

Grisiau, tramwyfa, llwybr, ramp, porth, drws a phob modd arall a ddefnyddir i adael y maes chwarae.

Caiff hwn ei baratoi gan reolwyr y maes yn nodi’r camau i’w cymryd os bydd rhywbeth yn digwydd yn y lleoliad a allai beryglu diogelwch y cyhoedd neu amharu ar weithrediadau arferol.

Person sydd â chofrestriad cyfredol y wladwriaeth gan Gyngor Pobl Iechyd Proffesiynol (Health Professional Council - HPC).

Ystafell neu ardal sydd wedi’i neilltuo yn y maes lle rheolir a gweithredir y strwythur rheoli diogelwch.

Gallu gwyliwr i weld pwynt ffocws penodedig (fel yr ystlys agosaf neu lôn allanol trac rhedeg) dros bennau’r gwylwyr sydd yn union o’i flaen.

Ansawdd y golwg sydd ar gael i wylwyr, mae’n cynnwys tair elfen: y llinellau gweld, presenoldeb unrhyw rwystrau gwylio a’r pellter rhwng y gwyliwr a’r maes neu ardal y gweithgaredd.

Llwybr mynediad wedi’i adeiladu i mewn i raddiant eisteddle sy’n cysylltu lle gwylwyr yn uniongyrchol â chynteddau a/neu lwybrau ar gyfer mynd i mewn, mynd allan neu wagio.

Atalfa sy’n uwch nag 1.1m sy’n gwahanu gwylwyr oddi wrth y maes neu ardal y gweithgaredd.

Llawlyfr sy’n nodi’r ffordd mae maes chwarae yn gweithredu o ddydd i ddydd. Dylai gynnwys y cynllun stiwardio, cynllun meddygol, amserlen cynnal a chadw ataliol gynlluniedig, asesiad risg tân, dulliau gweithredu diwrnod digwyddiad, cynlluniau wrth gefn, cyfrifiadau nifer y lleoedd, cynlluniau’r safle a manylion am gyfarpar diogelwch, ond ni ddylid cyfyngu’r cynnwys i hyn yn unig.

Lle o fewn adeilad neu adeiladwaith lle, am gyfnod cyfyngedig, bydd gan bobl rywfaint o ddiogelwch rhag effeithiau tân a mwg. Bydd y lle hwn, fel arfer coridor neu risiau, isafswm o 30 munud o ddiogelwch rhag tân a bydd yn galluogi pobl i barhau i ddianc i fan diogel.

Cliciwch y botwm dangos uchod i wirio eich atebion.



Gwefan gan Gwerin