Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Cyflwyniad i Dan-yr-Ogof

Gweithgaredd 1

Astudiwch y delweddau ac yna ystyriwch y peryglon a’r materion posibl o ran Iechyd, Diogelwch a Gwarchodaeth y tu mewn i’r ogofâu.

Awgrymwch yr amrywiaeth o beryglon a materion posibl o ran iechyd a diogelwch sy’n bresennol yn ogofâu arddangos Dan-yr-Ogof.



Faint o beryglon a materion y gwnaethoch eu nodi? Cliciwch y botwm dangos uchod.


Gweithgaredd 2a

Ar ôl gwylio’r fideo ac ystyried y prif beryglon, ystyriwch yr hyn y byddech chi’n ei ysgrifennu fel rhybudd Iechyd a Diogelwch ar gyfer pobl sy’n ymweld â’r Ogofâu Arddangos. Ar ôl i chi orffen eich datganiad, datgelwch yr hysbysiad go iawn a welir yn y fynedfa i’r ogofâu.

Gweithgaredd 2b

Mae arwyddion yn bwysig yn Dan-yr-Ogof. (Bydd hyn yn cael ei archwilio mewn adran ddiweddarach.) Mae’r hysbysiad yn y fynedfa i’r ogofâu yn un o lawer a welir o gwmpas y safle ac yn yr ogofâu. Yn eich barn chi, a oes unrhyw wybodaeth ychwanegol y dylid ei hychwanegu at yr hysbysiad hwn? Os oes, pa wybodaeth y dylid ei hychwanegu?

Gweithgaredd 3

Fel y gwelir o’r ddelwedd isod, mae Dan-yr-Ogof yn cynnig 10 atyniad ar yr un safle.

Defnyddiwch wefan y corff - http://www.showcaves.co.uk/index.html - i ddatblygu crynodeb o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddarperir yn Dan-yr-Ogof.



Gwefan gan Gwerin