Ogofwyr
Un grŵp o gwsmeriaid mae Dan-yr-Ogof yn gwneud darpariaeth arbennig ar ei gyfer yw ogofwyr. Mae’r adran o’r Ogofâu Arddangos sy’n agored i’r cyhoedd yn ffracsiwn bach yn unig o’r system ogofâu sy’n ymestyn am 17 cilometr o dan fynyddoedd Bannau Brycheiniog.

Mewn gwirionedd, mae system Dan-yr-Ogof ymhlith yr hiraf yn y DU, gyda systemau ogofâu eraill yn Ne Cymru yn hirach byth.
Safle |
Enw’r Ogof |
Hyd (km) |
Cwmpas Fertigol (m) |
Rhanbarth |
Mwy o Wybodaeth |
1 |
Ogof Draenen |
70 |
151 |
De Cymru |
|
2 |
Lancaster - Easegill - Pippikin |
60 |
211 |
Northern Dales |
|
3 |
Ogof Ffynnon Ddu |
50 |
308 |
De Cymru |
|
4 |
Agen Allwedd |
32.5 |
160 |
De Cymru |
|
5 |
Ogof Daren Cilau System |
28 |
232 |
De Cymru |
|
6 |
Kingsdale Master Cave |
27 |
165 |
Northern Dales |
|
7 |
Clearwell Caves |
24 |
107 |
Forest Of Dean |
|
8 |
Ireby Fell Cavern - Notts Pot - Large Pot - Rift Pot |
23.4 |
183 |
Northern Dales |
|
9 |
Peak Cavern - Speedwell Cavern |
17.59 |
248 |
Peak District |
|
10 |
Gaping Gill System |
16.9 |
197.5 |
Northern Dales |
|
11 |
Dan-yr-Ogof |
16 |
150 |
De Cymru |
Mae ogofa yn weithgaredd hamdden poblogaidd i nifer rhyfeddol o fawr o bobl sy’n mwynhau’r her o weithio’u ffordd drwy systemau tanddaearol a gweld y tirffurfiau naturiol trawiadol sydd i’w cael mewn ogofâu mawr.
Nodir isod esboniad o’r gweithgaredd ogofa.
Mae heriau’r gweithgaredd yn dibynnu ar yr ogof, ond yn aml maen nhw’n cynnwys ceisio mynd heibio dringennau, gwasgiadau a dŵr (ond mae ‘ogofddeifio’ yn weithgaredd gwahanol a wneir gan ychydig iawn yn unig o ogofwyr). Yn aml mae angen dringo neu gropian, a defnyddir rhaffau yn helaeth i oresgyn mannau arbennig o serth neu lithrig yn ddiogel.
Yn aml bydd pobl yn ymgymryd ag ogofa er mwyn mwynhau’r gweithgaredd awyr agored neu ar gyfer ymarfer corfforol, yn ogystal ag ar gyfer archwilio gwreiddiol, yn debyg i fynydda neu ddeifio. Systemau ogofâu heb eu darganfod yw rhai o’r rhanbarthau anchwiliedig olaf ar y Ddaear a rhoddir llawer o ymdrech i geisio cael hyd iddyn nhw a mynd i mewn iddyn nhw. Mewn rhanbarthau sydd wedi’u harchwilio’n dda, mae’r ogofâu mwyaf hygyrch eisoes wedi cael eu harchwilio.
Yn y ganrif ddiwethaf mae ogofa wedi datblygu i fod yn adloniant athletaidd soffistigedig. Yn y degawdau diwethaf mae ogofa wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i argaeledd dillad amddiffyn modern a chyfarpar modern. Mae hefyd yn ddiweddar wedi cael ei nodi fel “camp eithafol”, ond mae ogofa modern yn fwy diogel o lawer nag y bu yn y gorffennol.
Gweithgaredd 1
Datblygwch gyflwyniad sy’n egluro atyniad a mwynhad ogofa. Defnyddiwch ddelweddau a gewch o’r cyswllt isod i ddarlunio’ch cyflwyniad. Ymchwiliwch i wefannau eraill i gael hyd i wybodaeth ychwanegol.
Y tu hwnt i’r mannau sy’n agored i’r cyhoedd, mae’r system ogofâu yn gweithredu’n wahanol iawn. Fodd bynnag, mae rheoliadau llym o ran Iechyd a Diogelwch yn dal yn weithredol i ddiogelu’r ogofwr ac amgylchedd y system ogofâu.
Gweithgaredd 2
Defnyddiwch wefan Pwyllgor Ymgynghorol Ogofâu Dan-yr-Ogof: www.dyo.org.uk i ateb y cwestiynau isod:
- Beth mae’r llythrennau SWCC yn ei gynrychioli yn y Saesneg?
- Beth yw prif gyfrifoldebau ‘wardeniaid’?
- Faint o ‘ddeiliaid allweddi’ sydd a pham mae ‘deiliaid allweddi’ yn bwysig?
- Beth sy’n digwydd os ydy priodas yn mynd yn ei blaen yn Ogof yr Eglwys Gadeiriol?
- Beth yw’r nifer mwyaf a’r nifer lleiaf o bobl mewn grŵp ogofa?
- Pa fath o yswiriant sy’n ofynnol ar bob ogofwr?
- Pa ddogfennau mae’n rhaid eu llenwi cyn ac ar ôl taith?
- Beth yw swyddogaeth staff yr Ogofâu Arddangos?
- Pa fath o olau y dylid ei ddefnyddio yn yr ogofâu?
- Sut mae person yn dod yn ‘warden’?