Parhaodd y frwydr o adeg codi'r haul hyd adeg machlud. Ond mae'r dweud llafurus yn y llinell hon ('o'r amser pan gyfyd yr haul hyd pan ddysgynna') yn cyfleu i'r dim y ffordd y mae'r ymladd yn llusgo ymlaen drwy'r dydd. Ceir gwrthgyferbyniad celfydd rhwng ymdrech y diwrnod hwn a'r diwrnod o segurdod na chafodd ei ganiatáu i filwyr yr ardal, o Argoed hyd Arfynydd. Ni châi'r rheini oedi hyd yr un dydd, sef 'hyd yr un diwrnod' am eu gwasanaeth i wrthsefyll cyrch Fflamddwyn a'i bedair byddin.
Ymosododd yr arweinydd Fflamddwyn a’i filwyr wedi’u trefnu’n bedair byddin. Mae’r manylyn am strategaeth yr ymosod yn cynyddu’r argraff fod yma ddisgrifiad o frwydr go-iawn a bod Fflamddwyn yn elyn peryglus a chanddo reolaeth Iwyr dros ei filwyr. Ym meddwl yr Oesoedd Canol, roedd pedwar yn rhif a oedd yn cyfleu perffeithrwydd ac undod, a byddai’r syniad o bedair byddin gyda’i gilydd fel hyn yn sicr o godi braw. Creu tyndra a disgwyliad a wneir yma drwy gyflwyno nerth y gelyn cyn inni weld Urien ac Owain.
Roedd dynion ardaloedd Goddau a Rheged yn eu trefnu'u hunain yn fyddin.
Aeth galwad am filwyr allan drwy’r holl ardal a oedd dan reolaeth Urien, o Argoed hyd Arfynydd. Mae’r dweud yn gynnil, ac nid oes berf yma
Yr alwad a aeth allan o Argoed hyd Arfynydd (llinell 5) oedd hyn: ni châi dynion Goddau a Rheged oedi am ddiwrnod.
Bloeddiodd Fflamddwyn, mawr ei ymffrost. Dyma’r ail waith y mae Fflamddwyn yn cael ei enwi. Mae’r llinell yn rhwysgfawr ac yn swnllyd, ac yn cyfleu hyder a rhodres arweinydd y gelyn.
Clywn union eiriau Fflamddwyn yma’n gofyn dau gwestiwn haerllug, sef ‘A ydyw fy ngwystlon wedi dod? A ydynt yn barod?’. Trafodir y defnydd hwn o araith uniongyrchol dan Arddull.
Dywed y llinell hon i Owain ateb Fflamddwyn. Disgrifir Owain fel un sydd yn ‘gystudd y dwyrain’. Golyga hynny ei fod yn dod â phoen a dioddefaint i drigolion cadarnleoedd yr Angliaid yng ngogledd-ddwyrain Prydain.
Mae Owain yn ateb Fflamddwyn drwy ddweud nad yw’r gwystlon wedi dod (‘ni ddaethant), ac nad ydynt yn barod (‘nid ydynt’, “dydyn nhw ddim yn barod’).
Mae Owain yn dweud y byddai unrhyw ddisgynnydd i Goel, ei gyndad enwog, mewn sefyllfa go anobeithiol cyn y byddai’n fodlon trosglwyddo unrhyw wystlon i‘r gelyn.
Bloeddiodd Urien, arglwydd Erechwydd.
Mae Urien yn dechrau ar ei araith: ‘Os bydd cyfarfod i drafod cymodi neu gadoediad.’
Geiriau Urien a glywn yma: ‘Fe godwn amddiffynfa ar y mynydd’.
Mae Urien yn parhau i annerch ei filwyr: ‘Ac fe ddaliwn ein hwyneb uwchlaw ymyl (yr amddiffynfa)’.
Mae araith Urien yn parhau: ‘ac fe fyddwn yn codi gwaywffyn uwchben pennau dynion’. Neu efallai, os dilynwn Gwyn Thomas, ‘a chodwn waywifyn uwchben pennau, O ddynion!’
Parhau y mae araith Urien: ‘ac fe fyddwn yn ymosod ar Fflamddwyn yng nghanol ei fyddinoedd’.
Dyma benllanw araith fawr Urien: ‘ ac fe fyddwn yn lladd Fflamddwyn ynghyd â’i fintai!’
‘O flaen Argoed Llwyfain bu llawer o gyrff’. Dyma ganlyniad y brwydro.
Mae dau ddewis yma o ran dehongli’r llinell: o hepgor rhag, yr ystyr yw ‘Roedd y rhyfelwyr yn peri i‘r brain gochi (gan waed)’. Ond os mynnir cadw rhag, yna ‘cochai’r brain o flaen y rhyfelwyr’ yw’r ystyr tebycaf.
Mae’r bardd yn sôn yma am y rhai y bydd ef yn dathlu eu buddugoliaeth, sef yr holl fyddin a ymosododd gyda’r hen bennaeth Urien.
24. text enter here!
Arfer y llawysgrifau cynnar oedd copïo barddoniaeth fel petai’n rhyddiaith gan ddefnyddio holl led y gofod ysgrifennu. Roedd hyn yn fodd i arbed memrwn. Ond dyma’r gerdd wedi ei gosod ar ffurf barddoniaeth yn ôl ein harfer ni heddiw, mewn llinellau mydryddol. Er mai’r llythyren 6 a ddefnyddir yn y llawysgrif, y llythyren w a ddefnyddir yma. Mae’r pwyntiau du a welwch yn y gerdd yn dynodi geiriau a ysgrifennwyd gyda’i gilydd yn y llawysgrif, ond a nodwyd ar wahân yma, e.e. yn llinell 1 auu = a•uu ‘a fu’.
Awgrymiadau 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Awgrymiadau 3: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Fe welwch y testun yma gyda'r seiniau wedi’u cynrychioli gan y llythrennau a ddefnyddiwn ni heddiw. Mae priflythrennu ac atalnodi modern wedi’u defnyddio.
Mae newidiadau neu ddiwygiadau golygyddol i‘r testun yn cael eu dangos mewn print italig coch, gyda darlleniad y Ilawysgrif yn y troednodiadau isod. Mae [ ] yn dangos lle mae gair yn y testun wedi cael ei dynnu allan wrth olygu.
1Dyuwy 5gweith
2Nyt 6rac
3vab 7einewyd
4A
Mae'r gerdd hon, fel llawer o’r Hengerdd, yn ymwneud ag ymladd am diriogaeth yn yr Hen Ogledd, sef de’r Alban a gogledd Lloegr heddiw. Y canrifoedd wedi i‘r Rhufeiniaid dynnu eu byddinoedd allan o Brydain yn 410 O.C. sydd dan sylw. Wrth i’r Ymerodraeth Rufeinig wanychu, roedd pobloedd eraill yn llygadu’r ynys. Symudodd pobl yma o Iwerddon gan ymsefydlu ar hyd arfordir gorllewin Prydain — daeth rhai i ynysoedd yr Alban, yn enwedig, ond hefyd i Fôn, Llŷn a Phenfro. Ar yr un pryd yn nwyrain Prydain roedd pobloedd Germanaidd yn cyrchu draw o’u cynefin ar dir mawr Ewrop. I ogledd Prydain y daeth yr Angliaid, llwyth o Anglia, sef y rhan o dir a elwir yn Schleswig-Holstein heddiw, rhwng Denmarc a’r Almaen. Ymhellach i‘r de roedd troedle cyntaf y Sacsoniaid a ddaeth o Sacsoni, yng ngogledd yr Almaen. Roedd y mewnfudwyr hyn i gyd yn fygythiad i frodorion ynys Prydain, sef y llwythau Brythonig. Celtiaid oedd y rhain, yn siarad yr iaith Frythoneg (mamiaith y Gymraeg) a pheth Lladin yn ogystal. Rydym yn gwybod hen enwau rhai o’r llwythau Brythonig yng Ngogledd Prydain — y Votadini (llwyth y Gododdin o gwmpas Caeredin), y Brigantes yn Swydd Efrog, y Parisii ymhellach i‘r dwyrain, a’r Carvetii yn y gorllewin. Rydym hefyd yn gwybod enwau rhai o’r teyrnasoedd a ymffurfiodd yn yr Hen Ogledd: Ystrad Clud a Gododdin, gyda Rheged ac Elfed ymhellach i’r de.
Ychydig iawn o wybodaeth gadarn sydd gennym am wleidyddiaeth yr Hen Ogledd yn ystod oes Urien Rheged yn ail hanner y chweched ganrif. Mae’n debygol iawn fod y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn ei gilydd yn ogystal ag yn erbyn y mewnfudwyr. Mae hefyd yn debygol iawn fod y mewnfudo ymhen hir a hwyr wedi arwain at integreiddio a rhyngbriodi rhwng y llwythau o’r cyfandir a’r brodorion. Fodd bynnag, y darlun a gawn yn yr Hengerdd ac mewn ffynonellau hanesyddol o’r nawfed ganrif ymlaen yw mai yn erbyn yr Angliaid yr oedd y brodorion — y Cymry cynnar — yn ymladd am eu heinioes, ac am eu tir a daear. Aflwyddiannus fu eu hymdrech: erbyn canol y seithfed ganrif, roedd pob un o deyrnasoedd Cymreig yr Hen Ogledd ac eithrio Ystrad Clud wedi eu concro gan yr Angliaid.
Yn ôl tystiolaeth yr Historia Brittonum, fwy na thebyg yng Ngwynedd, bu Urien, brenin Rheged, yn arwain cynghrair o frenhinoedd Cymreig yr Hen Ogledd (Rhydderch, Gwallog a Morgant). Buont yn ymladd yn ffyrnig yn erbyn yr Angliaid dan Theodric fab Ida, brenin teyrnas Brynaich, a dwyn gwarchae llwyddiannus ar Ynys Lindisfarne ar yr arfordir dwyreiniol. Dywed yr un ffynhonnell fod Urien wedi cael ei Iadd oherwydd cenfigen Morgant, ac mae darnau o farddoniaeth o’r nawfed ganrif hefyd yn awgrymu mai drwy frad un o’i gyd-Gymry y Iladdwyd ef.
Beth arall sy’n hysbys am Urien? Rydym yn gwybod ei fod yn fab i Gynfarch fab Meirchion fab Gwrwst fab Coel Hen, ac yn perthyn felly i deulu estynedig y Coeling — y rheini a oedd yn arddel Coel yn gyndad. Mae’r achau cynnar yn dweud fod gan Urien chwe mab, sef Owain, Rhun, Rhiwallon, Elffin, Pasgen, a Chadell. Mae’r gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’ yn portreadu Owain yn ymladd wrth ochr Urien, ac yn cymryd rhan bwysig yn yr herio rhwng lluoedd Rheged a Fflamddwyn, arweinydd y gelyn. Dywed y gerdd fod Owain yn ddwyrain ffosawd 'un sy’n dod â gofid i’r dwyrain’; awgryma hyn fod Owain, fel ei dad, yn enwog am ymosod ar diriogaeth yr Angliaid yn ngogledd-ddwyrain Lloegr. Efallai mai Owain a ddaeth yn frenin Rheged wedi marwolaeth Urien tua 580.
Mae’r nodiadau yn trafod mater dyrys lleoli teyrnas Rheged, ond ymddengys mai ardal yng ngorllewin yr Hen Ogledd oedd hon. Mae Urien ac Owain yn cael eu cysylltu yn y cerddi cynnar ag ardal Llwyfenydd, ac efallai mai’r fro honno, ger afon Lyvennet i’r de-ddwyrain o Gaerliwelydd (Carlisle), oedd calon teyrnas Rheged. Roedd Taliesin, yn ôl tystiolaeth yr wyth cerdd fawl i Urien Rheged, yn fardd llys Urien, ac mae lle i gredu mai ef hefyd oedd awdur ‘Marwnad Owain’. Er bod enwau beirdd eraill, Tristfardd a Dygynnelw, yn cael eu cysylltu ag Urien ac Owain mewn ambell ffynhonnell, ni wyddom ddim am y beirdd hynny nac am eu gwaith.
Cerdd unllygeidiog yw hon a’i phrif amcan yw dathlu buddugoliaeth lluoedd Urien ac Owain dros bedair byddin Fflamddwyn ym mrwydr fawr Argoed Llwyfain. Mae hynny’n cael ei wneud mewn ffordd anarferol drwy ddefnyddio araith uniongyrchol. Ymryson geiriol sydd yma, rhwng Fflamddwyn ac Owain i ddechrau, yna rhwng Fflamddwyn ac Urien. Mae hynny’n creu tensiwn a drama wrth inni weld y mab a’r tad yn ateb Fflamddwyn yn ffraeth ac yn eofn. Nid yw ei haerllugrwydd ef yn poeni dim arnynt. Felly mae’r gerdd yn pwysleisio fod gan Owain ac Urien y sgiliau angenrheidiol i arwain byddin yn llwyddiannus: nid milwyr dewr yn unig mohonynt, ond arweinwyr deallus a ffraeth. Mae anrhydedd yn bwysig iddynt, anrhydedd teulu’r Coeling, ond mae ganddynt hefyd y gallu i feddwl yn strategol ac i ysbrydoli eu dynion. Roedd hyn yn gwbl hanfodol yn y cyfnod cynnar fel y mae heddiw.
Ail swyddogaeth yr ymgomio rhwng arweinwyr y ddwy ochr yw rhoi rhagflas o’r ymladd sydd i ddod. Mae hyn yn enwedig o glir yn yr ail ymgom wrth i Urien ddisgrifio’r paratoadau a fydd yn cael eu gwneud i godi amddiffynfa ac i ymosod ar fyddinoedd Fflamddwyn a'u lladd. Yn wir, mae hyn yn caniatáu hepgor disgrifiad o’r frwydr fel y cyfryw.
Yn drydydd, mae Urien yma yn cyhoeddi’r ‘arfaeth’, gar y mae’r ‘Gododdin’ yn ei ddefnyddio i olygu bwriad. Yn y cyd-destun arwrol, datganiad o fwriad i ymladd hyd angau yw’r arfaeth. Drwy gyhoeddi hyn, mae Urien yn pwysleisio nerth a phenderfyniad y fyddin, ac yn bwysicach yma, efallai, yn annog y milwyr ac yn rhoi tân yn eu bol. Byddai hyn yn fodd i‘r gynulleidfa hefyd i uniaethu â’r fyddin ac i deimlo’n rhan o’r ymgyrch i warchod buddiannau’r llwyth. Mae’r tair swyddogaeth hyn yn amlwg yn gysylltiedig â phropaganda: mae’r bardd yn cymell pobl i feddwl mewn ffordd arbennig, ffordd sy’n bleidiol i‘r noddwr sy’n talu am y gerdd. Yma, mae’r gwrandawyr yn cael eu cymell i edmygu dewrder ac arweinyddiaeth Urien ac Owain, i ryfeddu at rym y fyddin, ac i lawenhau fod y gelyn yn cael ei drechu mor derfynol. Llwm yw’r canlyniad anochel: llawer celain, a brain yn goch gan waed.
A oes pwrpas neu amcan arall? Oes, yn sicr. Ar ddechrau’r gerdd, mae’r bardd yn ofalus i enwi’r ardaloedd sy’n darparu milwyr ar gyfer y frwydr — Rheged, wrth gwrs, ond Goddau hefyd, a’r ardal ‘o Argoed hyd Arfynydd’. Mae fel petai am gydnabod teyrngarwch yr holl ardaloedd sydd dan awdurdod Urien, a chydnabod eu cyfraniad i‘r llwyddiant milwrol. Y fyddin sy’n cael y sylw ar ddiwedd y gerdd eto: bwriad y bardd, meddai, yw paratoi cân a fydd yn dathlu eu buddugoliaeth am flwyddyn gron.
Yn ogystal â moli arwriaeth a ffraethineb Urien ac Owain, a thalu teyrnged i‘r fyddin fuddugoliaethus, mae’r gerdd ar ei hyd yn coffáu digwyddiad hanesyddol pwysig — neu felly y mae’r gerdd yn ei awgrymu. Nid oes gennym gofnod hanesyddol i‘w roi ochr yn ochr â’r gerdd, ond cawn yr argraff bendant fod hon yn frwydr fawr. Mae’r elfen o naratif, o adrodd stori, yn cadarnhau’r teimlad fod y bardd wedi bod yn bresennol ei hun; mae’r manylion am y lle a’r amser a hyd y frwydr hefyd yn ategu ei fod wedi gweld y cyfan â’i lygaid ei hun ar y dydd Sadwrn tyngedfennol hwnnw.
Y mae’r mesur a ddefnyddir yn llinellau 1-19 a 23-24 yn cyfateb yn fras i’r mesur sy’n cael ei alw’n Gyhydedd Naw Ban yn y Gramadegau Barddol (o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen). Mae hwn yn fesur cyffredin iawn yn awdlau’r Hengerdd. Er bod yr enw yn awgrymu fod hwn yn fesur ac ynddo linellau naw sillaf, mae’r enghreifftiau yn yr Hengerdd yn dangos fod cryn hyblygrwydd o ran y nifer a allai fod yn y llinell hon — deg sillaf weithiau, neu — yn llai aml — wyth sillaf. Yn y gerdd hon, mae enghreifftiau sicr o linellau â deg sillaf, e.e. llinellau 7, 8, 9, 13, 14, 16, 17. Mae’n bosibl hefyd fod y llinell gyntaf yn un ddegsill (trowch at y nodiadau geiriol am drafodaeth bellach).
Nodwedd arall ar y Gyhydedd Naw Ban yw fod saib amlwg, neu orffwysfa ym mhob llinell: fel arfer mae hyn yn syrthio bedair sillaf cyn diwedd y llinell:
Y patrymau 5+4 a 6+4 sydd fwyaf cyffredin. Y mae’r patrwm cyson o bedair sillaf wedi’r orffwysfa yn cadarnhau sefydlogrwydd diwedd y llinell; mae’n ategu swyddogaeth y brifodl sy’n dynodi diwedd llinell fydryddol.
Gwahanol yw mesur llinellau 20-22 ac mae effaith y newid yn drawiadol. Mae’n tanlinellu’r ffaith fod y bardd wedi symud ymlaen yn gyflym (rhyw fath o fast forward) o’r ymgom rhwng yr arweinwyr i’r hyn a gafwyd yn sgil y frwydr. Patrwm 5 + 5 + 6 (neu efallai 7) sydd yma.
Yr enw am y patrymu hwn yn y Gramadegau Barddol yw Traeanog — a’r enw yn adlewyrchu ei natur driphlyg. Ond nid yw’r Traeanog heb gysylltiad â gweddill y gerdd: mae’r odl derfynol yn cydio â’r gyfres o brifodlau -ydd (neu’r odlau Gwyddelig -yl, neu -yr) sy’n rhedeg yn ddi-dor o linell 13 Erechwydd hyd linell 24 cynnydd. Ar un olwg, mae’n haws meddwl am y Traeanog fel un llinell hir iawn sy’n creu patrwm gwahanol cyn inni ddychwelyd i brif fesur y gerdd yn llineIIau 23-24. Mae amrywio mesurau yn y modd hwn yn sicrhau nad yw cerddi’n mynd yn rhy undonog; yn yr achos hwn, mae hefyd yn caniatáu effaith lenyddol ysgytwol.
Mae angen rhoi sylw hefyd i rythm y llinellau, a’r acenion sydd ynddynt. Ceir pedair prif acen mewn llawer o’r llinellau, dwy ar bob ochr i’r orffwysfa:
Dyna sut y byddem yn acennu’r geiriau heddiw gan fod yr acen yn syrthio ar y sillaf olaf ond un, sef y goben. Ond rydym yn gwybod i sicrwydd mai ar sillaf olaf y gair yr oedd yr acen yn y chweched ganrif. Felly, byddai’r bardd Taliesin wedi datgan rhywbeth tebyg i hyn:
I’n clustiau ni heddiw, mae’r aceniad cyntaf (A) yn swnio’n fwy naturiol, yn fwy cywir na B. Ond mae rhywbeth trwsgl hefyd yn yr ail linell gyda dwy acen yn nesaf at ei gilydd (ŷnt/ barawd). Os darllenwch chi B, gyda’r acen ar y sillaf olaf, fe glywch fod y brifodl a’r odl fewnol (ynt) yn dod allan yn gryfach. Nid ydym yn gwybod digon am sut roedd y cerddi’n cael eu perfformio; efallai fod peth acennu ‘annaturiol’ er mwyn creu llinellau mwy rheolaidd. Efallai hefyd fod rhai llinellau o bryd i’w gilydd yn cynnwys tair acen gref yn lle pedair — a hynny er mwyn creu amrywiaeth, efallai. Mae enghreifftiau posibl yn llinellau 18 a 19 lle mae’r tempo fel petai’n cyflymu:
Mae’r brifodl yn cydio diwedd pob llinell â’i gilydd, ac mae’n newid bob hyn a hyn. Fel hyn y mae’r blociau odl yn ymrannu:
llinellau 1-4 -u
llinellau 5-6 -ydd
llinellau 7-12 -awd
llinellau 13-19 -ydd
Traeanog -yr
llinellau 23-24 -ydd
Yn ogystal a’r prifodlau llawn, fe welwch yma hefyd hanner odlau (a elwir yn odlau generig weithiau). Y math sydd gennym yma yw’r Odl Wyddelig lle mae’r gytsain olaf fymryn yn wahanol. Ifor Williams a fathodd y term hwn drwy gymharu barddoniaeth Iwerddon: roedd hanner odl yn cael ei hystyried yn fwy celfydd nag odl lawn! Yn llinell 11, mae gymwyawg yn ffurfio Odl Wyddelig gydag -awd. Yn ll. 16 a 17, mae ymyl a gwŷr yn ffurfio Odl Wyddelig gyda’i gilydd a gydag -ydd, fel y mae rhyfelwyr yn llinell 22.
Yn ogystal, mae odlau mewnol achlysurol.
Mae’r gerdd yn defnyddio cytseinedd i gysylltu geiriau sydd yn yr un llinell neu linellau cyfagos.
Mae posibilrwydd matsio cytsain â’i ffurf dreigledig, fel yn llinell 11.
Sylwer fod cyfres o gytseiniaid yn gallu cael ei hateb.
Sylwer hefyd fod dwy gytsain yn olynol yn gallu cael eu hateb gan ddwy gytsain sydd heb fod ar ddechrau gair, fel yn llinellau 19-20, a 23-24.
Mae cymeriad geiriol yn cydio dechrau rhai llinellau, fel ac/a yn llinellau 16-19.
Sylwn hefyd fod cryn fesur o ailadrodd geiriau yn yr holi a’r ateb rhwng yr arweinwyr: A ddoddynt... yn llinell 8 yn cael ei ateb gan Ni ddoddynt...yn llinell 10.
Yn llinellau 15-19 mae ailadrodd y terfyniad berfol -wn: dyrchafwn, amborthwn, dyrchafwn, cyrchwn, lladdwn.
Yn ogystal mae’r arddodiad odduch yn digwydd dair gwaith tua diwedd llinellau 15-17.
Anarferol yw’r gerdd hon o’i chymharu ag awdlau eraill yr Hengerdd, a hynny am ddau reswm penodol — yr araith uniongyrchol, a’r elfen storïol. Mae hi’n defnyddio union eiriau pobl, geiriau Fflamddwyn, Owain ac Urien yn yr achos yma. Nid yw araith uniongyrchol fel hyn yn digwydd fel arfer yn yr Hengerdd, ond mae rhai eithriadau. Mewn un awdl grefyddol, ‘Proffwydoliaeth Ynghylch Dydd y Farn’ (Armes Dydd Brawd), mae Crist ar y Groes yn siarad â’r pechaduriaid. Mewn awdl arall, rydym yn gweld lesu gyda’i rieni Mair a Joseff yn ffoi i’r Aifft, ac yn cael eu herlid gan fyddin y brenin Herod. Rydym yn clywed union eiriau’r sgwrs rhwng milwyr Herod a ffarmwr sydd newydd weld y teulu yn mynd heibio. Mae’n werth nodi fod cryn elfen o naratif, o adrodd stori, yn y cerddi uchod, fel sydd yn y gerdd bresennol. Yn Llyfr Du Caerfyrddin, mae sgwrs rhwng y porthor, Glewlwyd Gafaelfawr a’r brenin Arthur a rhai o’i fyddin: unwaith eto, mae hyn yn rhoi cyfle i sawl cymeriad adrodd pytiau o storïau am anturiaethau Arthur a’i wŷr. Enghraifft arall ar ffurf awdl yw’r ymddiddan rhwng Taliesin a Myrddin, sydd hefyd wedi’i gadw yn y Llyfr Du. Ond ffurf yr englyn sy’n cael ei defnyddio amlaf gan y beirdd cynnar wrth greu ymddiddan rhwng cymeriadau: mae cryn nifer o’r rhain wedi goroesi, gan gynnwys sgyrsiau rhwng Llywarch a’i feibion, a rhwng cymeriadau eraill o fyd chwedloniaeth a hanes.
Yr ail beth anarferol am y gerdd hon o’i chymharu â llawer o’r Hengerdd yw fod ynddi gryn elfen o naratif, neu adrodd stori. Gwelwn hynny mewn cerdd frwydr arall gan Daliesin, sef ‘Gwaith Gwen Ystrad’; mae honno hefyd yn disgrifio’r paratoadau ar gyfer yr ymladd, ac yn dangos mawredd arweinyddiaeth Urien. Yn wahanol i ‘Gwaith Argoed Llwyfain’, mae’r frwydr ei hun (ac nid y canlyniad yn unig) yn cael ei disgrifio’n fanwl iawn gyda’r pwyslais ar y dioddefaint sy’n dod i ran y gelyn. Mae cerdd arall sef ‘Ar un blynedd’ gan Daliesin yn dweud stori: mae Urien i ffwrdd yn ymladd tra bo’r bardd a gwraig Urien yn hel meddyliau yn y llys, yn dychmygu fod yr hen bennaeth efallai wedi cael ei ladd ar faes y frwydr. Ond clywir sŵn wrth y drws: ai’r môr sy’n dod dros y tir? ai daeargryn sydd yno? Nage: Urien sy’n dychwelyd yn fuddugoliaethus yng nghwmni ei fyddin sy’n canu cân o deyrngarwch iddo wrth orymdeithio adref.
Mae cerddi epig yn adrodd storïau gan ddefnyddio areithiau a dialog yn ogystal â llais yr adroddwr. Mae rhai enwog wedi goroesi o’r cyfnod cynnar: yr Iliad yn yr iaith Roeg, er enghraifft, am y rhyfeloedd rhwng y Groegiaid a gwŷr Caerdroea (yr wythfed ganrif C.C.), a’r Odyssey am grwydriadau’r arwr Odysseus. Yn Lladin, maer Aeneid gan Virgil (y ganrif gyntaf C.C.). Mewn Hen Saesneg mae cerddi hirfaith Beowulf (yr wythfed i‘r ddegfed ganrif) a'r Battle of Maldon (y ddegfed ganrif). Mewn rhai gwledydd yn nwyrain Ewrop, parhaodd cerddi epig arwrol i gael eu canu tan yr ugeinfed ganrif. Bu rhai ysgolheigion fel Saunders Lewis yn holi tybed a oedd gan y beirdd Cymraeg cynnar — Taliesin yn enwedig — wybodaeth o gerddi epig Lladin, ac yn benodol, o waith Virgil. Er bod hynny’n bosibl, mae’n anodd ei brofi. Mae eraill o blaid gweld naratif a dialog mewn barddoniaeth gynnar yn hytrach fel arwyddion o egin epig brodorol nad oedd wedi cael ei ddatblygu’n llawn hyd y gwyddom. Bid a fo am hynny, gallwn nodi fod holi ac ateb rhwng arweinwyr dwy blaid ar faes y gad, yn gymysg ag epithetau yn eu disgrifio—
Adorelwis Fflamddwyn, fawr drybestawd...
Ys atebwys Owain, dwyrain ffosawd —
yn dechneg sy’n cael ei defnyddio mewn cerddi epig fel y rhai a nodwyd yn barod. Hawdd gweld ei bod yn creu drama a thyndra heb ei ail.
Mae’r gerdd Hen Saesneg The Battle of Maldon yn disgrifio brwydr a ymladdwyd yn Essex yn 991. Yr Iarll Byrhtnoth oedd yn amddiffyn y Saeson rhag ymosodiadau’r môr-ladron o Sgandinafia, sef y Vikings. Yn y darn hwn, clywir negesydd yn dod â neges haerllug at Byrhtnoth yn mynnu trysorau ac aur (fel y mae Fflamddwyn yn gofyn am wystlon sicrhau cadoediad). Ond mae Byrhtnoth yn llawn dirmyg: ymladd yn anrhydeddus y bydd y Saeson ac maent yn paratoi eu rhengoedd ar lan yr afon a’u tarianau wedi codi’n barod.
Mae’r cyflwyniad hwn eisoes wedi tynnu sylw at y ffordd y mae’r llinellau ar ddechrau ‘Gwaith Argoed Llwyfain’ yn gosod allan y ffeithiau moel — pryd oedd y frwydr, pa mor hir y parhaodd, pwy oedd yn ymosod, sawl byddin oedd gan y gelyn, beth oedd ymateb gwŷr Rheged a’u cefnogwyr. Mae’r cefndir hwn yn cael ei egluro’n chwim ac yn effeithiol. Teimlwn, fel y fyddin sy’n ymgasglu, nad oes amser i‘w golli.
Daw llais cras Fflamddwyn i holi’r haerllug am wystlon. Dynwared ei eiriau’n wawdlyd a wna Owain ag ateb digyfaddawd ac ynddo dri negydd: ‘Ni ddoddynt, nid ydynt, nid ŷnt barawd’. Mater o anrhydedd yw hyn, meddai: ni fyddai unrhyw aelod o lwyth y Coeling yn ystyried y fath beth oni bai ei fod mewn cyfyngder. Yna, cawn araith fawr Urien ar ffurf un frawddeg hir (32 gair) sy’n egluro beth fydd yn digwydd os bydd ‘ymgyfarfod am gerennydd’ (trowch at y nodiadau i weld trafodaeth ar y geiriau hyn).
Fel y nodwyd yn barod, mae ailadrodd y cysylltair a (4 gwaith) ynghyd â’r terfyniad berfol -wn (5 gwaith), a’r arddodiad odduch (3 gwaith), yn dwysáu’r dweud yma ac yn adeiladu’r tensiwn nes cyrraedd y penllanw: ‘a lladdwn ac ef a’i gyweithydd!’. Yna’r newid mesur sy’n arwyddo bod amser wedi mynd heibio. Ar ôl holl sŵn a dwndwr yr areithiau, mae’r frwydr drosodd. Syml ac ymataliol yw’r dweud — ‘Bu llawer celain’; mae’r brain coch, delwedd gyffredin iawn yn yr Hengerdd, yn dweud y cyfan. Mae’r bardd yn troi oddi wrth y cyrff at y rhai byw, y rhyfelwyr a ymosododd gydag Urien, ac wrth wneud hynny mae’n ailgydio ym mesur y Gyhydedd Naw Ban. Eglura y bydd yn paratoi cân — y gân hon, yn ôl pob tebyg — a fydd yn gyfrwng dathlu am flwyddyn gron eu buddugoliaeth dydd Sadwrn yn Argoed Llwyfain.
Then stood on the shore, stoutly calling out
a Viking messenger, making speech,
menacingly delivering the sea-pirate ‘s
message to this Earl on the opposite shore standing:
‘I send to you from the bold seamen,
a command to tell that you must quickly send
treasures to us, and it would be better to you if
with tribute buy off this conflict of spears
than with us bitter battle share.
No need to slaughter each other if you be generous with us;
we would be willing for gold to bring a truce.
If you believe which of these is the noblest path,
and that your people are desirous of assurance,
then pay the sea-farers on their own terms
money towards peace and receive peace from us,
for we with this tribute will take to our ships,
depart on the sea and keep peace with you.’
Byrhtnoth spoke, his shield raised aloft,
brandishing a slender ash-wood spear, speaking words,
wrathful and resolute did he give his answer:
‘Hear now you, pirate, what this people say?
They desire to you a tribute of spears to pay,
poisoned spears and old swords,
the war-gear which you in battle will not profit from.
Sea-thieves messenger, deliver back in reply,
tell your people this spiteful message,
that here stands undaunted an Earl with his band of men
who will defend our homeland,
Aethelred’s country, the lord of my
people and land. Fall shall you
heathen in battle! To us it would be shameful
that you with our coin to your ships should get away
without a fight, now you thus far
into our homeland have come.
You shall not so easily carry off our treasure:
with us must spear and blade first decide the terms,
fierce conflict, is the tribute we will hand over.’
He then ordered their shields taken up, his soldiers
advancing
until on the river-bank they all stood.
(cyfieithiad Douglas B. Killings)