Rhagair a ffilm

Y Gododdin yw un o’r cerddi Cymraeg enwocaf a gyfansoddwyd erioed. Nid yng Nghymru yn unig y mae hi’n enwog – dyma gerdd sydd hefyd yn gyfarwydd i bawb drwy’r byd sy’n ymddiddori ym maes astudiaethau Celtaidd.

Mae’n siŵr fod gennych eisoes beth gwybodaeth am y gerdd hon. Fe fyddwch, efallai, wedi gwylio’r cyflwyniad i’r Gododdin ar ffurf ffilm sy’n rhan o’r adnodd addysgol hwn. Mae’r ffilm yn seiliedig ar ddehongliad enwog Ifor Williams o gefndir y gerdd. Ond nod y nodiadau yma yw camu y tu hwnt i’r dehongliad hwnnw a rhoi mwy o arfau i chi ar gyfer astudio’r ddwy ran o’r Gododdin sy’n rhan o fanyleb y cwrs Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf).

Wrth fynd ati i astudio’r rhan hon o’r cwrs dylech edrych yn gyntaf ar y cyflwyniad ffilm i’r Gododdin. Wedyn dylech ddarllen y nodiadau yn adrannau 1-6 cyn mynd ati i astudio Awdl I ac Awdl XXIV. Er mwyn deall arwyddocâd y nodiadau yn adrannau 7-8 y mae’n angenrheidiol eich bod chi wedi darllen y ddwy awdl.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Llyfr Aneirin

Un o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yw llawysgrif o’r enw Llyfr Aneirin. Llawysgrif femrwn fechan yw Llyfr Aneirin ac mae’n cynnwys 38 o dudalennau. Ar frig y dudalen gyntaf cawn y geiriau canlynol: hwn yw e gododin. aneirin ae cant (‘hwn yw y Gododdin. Aneirin a’i canodd’). Gwelwn felly mai prif gynnwys y llawysgrif yw cerdd o’r enw Y Gododdin, a bod y gerdd yn cael ei phriodoli i fardd o’r enw Aneirin.

Cafodd y llawysgrif ei llunio yn ystod ail hanner y 13g. Bu dau gopïydd anhysbys wrthi’n ysgrifennu’r deunydd sydd ynddi, a’r arferiad yw cyfeirio atynt fel ‘llaw A’ a ‘llaw B’. Mae’r llawysgrif bellach yn anghyflawn a chredir bod deg tudalen ar ei diwedd ar goll. Amhosibl yw dweud yn bendant ym mha le y cafodd hi ei chopïo. Ond mae’n bosibl mai mewn mynachlog yng Ngwynedd y digwyddodd hynny, ac mae’n bosibilrwydd pellach – ond posibilrwydd yn unig, cofiwch – mai abaty Sistersaidd Aberconwy oedd y fynachlog honno.

Yr hyn a gawn yn Llyfr Aneirin yw dau fersiwn gwahanol o’r Gododdin, un gan ‘law A’ a’r llall gan ‘law B’. Yn ôl ein dull ni heddiw o drefnu’r llinellau, mae’r fersiwn cyntaf, sef un ‘llaw A’, yn cynnwys 875 o linellau, ac mae fersiwn ‘llaw B’ yn cynnwys 382 o linellau. Mae fersiwn ‘llaw B’ yn fyrrach am mai ei waith copïo ef a oedd i’w gael yn y darn o’r llawysgrif a aeth ar goll. Mae’r gerdd hefyd wedi cael ei rhannu’n gyfres hir o benillion neu awdlau byrion. Yn fersiwn ‘llaw A’ y mae 88 o awdlau ac mae fersiwn ‘llaw B’ yn cynnwys 42, gyda 29 o’r rhain yn amrywiadau ar awdlau a gopïwyd yn barod gan ‘law A’.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Beth yw ystyr y gair ‘Gododdin’?

Responsive image
Trwy ganiatâd caredig Dr Alex Woolf, Prifysgol St Andrews a'r Athro John T. Koch, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Nid enw ar y gerdd yn unig yw’r gair ‘Gododdin’. Mae hefyd yn enw ar bobl neu lwyth ac yn enw ar y wlad lle’r oedd y bobl hynny’n byw. Er mwyn deall cefndir y gerdd, y mae angen i ni drafod arwyddocâd yr enw hwn.

Mae’r gair ‘Gododdin’ yn ffurf Gymraeg ar enw hen lwyth Brythonig, sef y Votadini. Roedd y llwyth hwnnw’n byw yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr yn y cyfnod Rhufeinig ac am ychydig ganrifoedd ar ôl hynny. Yr ardal o Afon Forth (yn yr Alban heddiw) hyd at ardal Wear (yn swydd Durham, Lloegr, heddiw) oedd tiriogaeth y llwyth. Yn ystod y cyfnod Rhufeinig y mae’n ymddangos fod llwyth y Gododdin yn cynorthwyo’r Rhufeiniaid drwy amddiffyn ffin ogleddol yr ymerodraeth rhag y Pictiaid.

Cafwyd hyd i olion archaeolegol sy’n gysylltiedig â’r llwyth ym mryngaer Traprain Law yn Swydd Lothian, yr Alban, ac erbyn y 6g. ei brif ganolfan oedd Din Eidyn, sef Caeredin (Edinburgh). Mae’n debyg mai’r graig uchel lle saif castell Caeredin heddiw oedd safle’r Din Eidyn gwreiddiol. Ar sail tystiolaeth hen gronicl o Iwerddon, y mae’n ymddangos i Gaeredin gael ei chipio gan y Saeson yn 638. Arweiniodd hynny at ddiwedd teyrnas y Gododdin.

Pan ddaeth y Rhufeiniaid i Brydain, Brythoneg oedd iaith y rhannau hynny o’r wlad sy’n cyfateb heddiw i Loegr, Cymru a de’r Alban. Erbyn dechrau’r 6g. roedd y Frythoneg wedi troi’n Gymraeg cynnar ac roedd yr iaith honno’n cael ei siarad ymhell y tu hwnt i’n Cymru ni. Roedd yr iaith i’w chlywed mewn teyrnasoedd Brythonig yng ngogledd Lloegr a de’r Alban. Roedd y Gododdin yn un o’r teyrnsoedd hyn, a pharhaodd y cof hefyd yng Nghymru’r Oesoedd Canol am deyrnasoedd Rheged, Ystrad Clud ac Elfed. Dyma i ni Hen Ogledd y traddodiad Cymraeg. Am wybodaeth bellach trowch at www.scotland.gov.uk

Prawf o fodolaeth y Gymraeg ar un adeg yn y mannau hyn yw enwau lleoedd. Er enghraifft, y mae enwau megis Edinburgh (o’r Gymraeg Eidyn y daw’r elfen gyntaf), Penicuik (Pen-y-gog) a Melrose (o moel a rhos) yn brawf o fodolaeth y Gymraeg yn nheyrnas y Gododdin. Fel y gwelsom, cafodd teyrnas y Gododdin ei threchu gan y Saeson yn 638, ond parhaodd Ystrad Clud yn deyrnas Frythonig hyd at ddechrau’r 11g. Yng Nghymru ei hunan hefyd fe barhaodd y cof yn gryf am yr Hen Ogledd (gweler adran 7).

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Beth yw cynnwys y gerdd?

Responsive image

Mae’r Gododdin yn gyfres hir o farwnadau i filwyr a laddwyd mewn brwydr, gyda phob un pennill neu awdl ar ffurf marwnad fechan. Nid cerdd sy’n adrodd stori yw hi. Prin iawn yw’r ffeithiau yn llawer o’r awdlau. Rhestru rhagoriaethau’r milwyr a laddwyd a wneir; sôn am eu dewrder ar faes y gad; sôn weithiau am eu haelioni tuag at feirdd a cherddorion; dro arall gwrthgyferbynnu eu ffyrnigrwydd tuag at y gelyn â’u haddfwynder tuag at eu cyfeillion. Yn naturiol, ceir yma ymdeimlad â cholled ar ôl y milwyr. Ond yr hyn a wneir yn bennaf yw datgan fel y bu iddynt sicrhau clod tragwyddol trwy ymladd i’r eithaf ar ran eu harglwydd a chadw eu hanrhydedd fel milwyr hyd yn oed yn wyneb angau ei hunan. Mae yma, yn amlwg, ddelfrydau arwrol sy’n cael eu hailadrodd o awdl i awdl.

Mae’r rhan fwyaf o’r marwnadau yn canolbwyntio ar filwyr unigol gan enwi’r milwr sy’n cael ei goffáu, gan amlaf yn y llinell glo. Weithiau cawn enw mwy nag un milwr yn yr un awdl. Dro arall canolbwyntir ar yr osgordd gyfan a gollwyd. Mae’r ddwy awdl y byddwch chi yn eu hastudio yn coffáu milwyr o’r enw Owain fab Marro (Awdl I) a Buddfan fab Bleiddfan (Awdl XXIV). Ceir enwau tua 80 o filwyr i gyd yn Y Gododdin ac mae rhai ohonynt yn enwau cyfarwydd, er enghraifft Caradog, Cynon, Cynwal, Gwion, Gwyn, Heilyn, Ieuan, Madog, Rhys ac Owain. Ond mae llawer ohonynt yn enwau dieithr, er enghraifft Bufon, Edar, Erthgi, Gwaednerth, Gwid, Gwrwelling, Senyllt a Tafloyw.

Dilyniant llac o awdlau sydd yma, ac nid oes rhaid derbyn bod yr holl filwyr y cyfeirir atynt wedi cael eu lladd yn yr un frwydr. Ond yn rhai o’r marwnadau enwir Catraeth, sef Catterick yng ngogledd swydd Efrog, fel safle’r frwydr. Nodir yn achos rhai o’r milwyr eu bod yn aelodau o osgordd filwrol o deyrnas y Gododdin, ac yn rhai o linellau enwocaf y gerdd dywedir mai 300 oedd rhif yr osgordd hon. Os yw’r dehongliad traddodiadol yn gywir, Mynyddog oedd enw’r arglwydd yr oedd yr osgordd yn ei wasanaethu. Ef oedd arglwydd Din Eidyn a chyfeirir ato ar un achlysur fel Mynyddog Mwynfawr (mwynfawr = ‘cyfoethog, hael’).

Mae darlun Y Gododdin o’r osgordd filwrol yn adlewyrchu gwerthoedd cymdeithas sy’n rhoi bri ar y gallu i drin arfau. Mewn cymdeithasau cynnar roedd gan bob brenin ei osgordd ddethol o wŷr arfog a fyddai’n ei wasanaethu ac yn tyngu llw o ffyddlondeb iddo. Byddai aelodau’r osgordd yn byw gyda’u harglwydd, yn cael eu cynnal ganddo, ac yna’n ymrwymo i ymladd ar ei ran. Yng nghyfreithiau Cymreig yr Oesoedd Canol – cyfreithiau Hywel Dda – y term am osgordd o’r fath yw teulu.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Iaith Y Gododdin

Responsive image

Er mwyn trafod iaith Y Gododdin mae’n bwysig fod gennych ddirnadaeth o wahanol gyfnodau’r iaith. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Fe gofiwch mai mewn llawysgrif o ail hanner y 13g. y cadwyd Y Gododdin. Mae fersiwn cyntaf y gerdd yn y llawysgrif – sef fersiwn ‘llaw A’ – yn cydymffurfio’n llwyr bron â chonfensiynau Cymraeg Canol (h.y. Cymraeg cyfnod llunio’r llawysgrif). Fe welwn yn ‘llaw A’ y math o gonfensiynau sillafu sydd i’w cael mewn Cymraeg Canol, e.e. kynted = cyntedd; rac = rhag.

Yn achos ‘llaw B’, gwelwn fod dechrau ei fersiwn ef hefyd yn arddangos nodweddion sillafu Cymraeg Canol. Ond yna ceir olion cynyddol o sillafu sy’n perthyn i gyfnod Hen Gymraeg (e.e. Hen Gymraeg trileo = trylew mewn Cymraeg Canol; Hen Gymraeg muihiam = mwyaf mewn Cymraeg Canol). Mae’n amlwg fod copi neu gopïau o’r Gododdin i’w cael yng nghyfnod Hen Gymraeg ac mai tynnu ei ddeunydd o un o’r copïau coll hyn yr oedd ‘llaw B’.

O safbwynt ieithyddol, y mae’r Gododdin felly yn gerdd a gadwyd mewn Cymraeg Canol ond gydag olion copïo o destun Hen Gymraeg mewn un fersiwn ohoni. Gwelwn felly fod yma ychydig o ddirgelwch. Dyma gerdd sy’n bodoli mewn Cymraeg Canol i bob pwrpas. Eto, mae hi’n sôn am osgordd filwrol o deyrnas y Gododdin – teyrnas a ddaeth i ben yn 638!

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Aneirin

Responsive image

Mae enw’r bardd Aneirin wedi ei gofnodi mewn hen lyfr ‘hanes’ a luniwyd yng Ngwynedd yn y blynyddoedd 829–30. Enw’r gwaith enwog hwn yw Historia Brittonum (‘Hanes y Brythoniaid’). Er ei fod yn gymysgedd o chwedl a hanes, fe gawn yn yr Historia wybodaeth am y cyfnod o’r 5g. hyd at y 7g. Mewn un man yn yr Historia enwir brenin o’r enw Eudeyrn, ac mae’n amlwg o’r cyd-destun ei fod yn ei flodau tua chanol y 6g. (h.y. tua’r flwyddyn 550). Dyma’r hyn a ddywedir amdano, o’i gyfieithu i’r Gymraeg:

Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Eudeyrn yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a bu Neirin a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd), ynghyd yn yr un amser, yn enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.

Dyma gyfeiriad dadlennol sy’n rhestru pump o feirdd Cymraeg enwog o’r 6g. Y Cynfeirdd yw’r rhain, sef y beirdd Cymraeg cynharaf y gwyddom unrhyw beth amdanynt. Diflannodd Talhaearn Tad Awen, Blwchfardd a Chian i niwl y gorffennol. Ond, ganrifoedd yn ddiweddarach, fe briodolwyd barddoniaeth i Aneirin (sef Neirin yr Historia Brittonum) yn Llyfr Aneirin. Yn fuan wedyn, ar ddechrau’r 14g., priodolwyd barddoniaeth i Daliesin yn Llyfr Taliesin. Mae bwlch mawr rhwng Prydain y 6g. a’r cofnod cynharaf sydd gennym o waith honedig Aneirin yn Llyfr Aneirin. A ellir derbyn mai gwaith y bardd hwn o’r 6g. yw’r Gododdin – bardd a fyddai wedi bod yn cyfansoddi ei gerddi mewn Cymraeg Cynnar neu Hynafol? Ymhlith ysgolheigion dyma bwnc y mae anghytuno mawr yn ei gylch.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Ifor Williams a chreu stori’r Gododdin

Syr Ifor Williams
Responsive image
Trwy ganiatâd Llfyrgell Genedlaethol Cymru

Ym 1938 cyhoeddwyd Canu Aneirin gan Ifor Williams (1881–1965). Yn ei ragymadrodd i’r gyfrol cyflwynodd ddamcaniaethau am darddiad Y Gododdin a dyddiad ei chyfansoddi.

Dadleuodd Ifor Williams y gallasai’r Gododdin – yn ei hanfod o leiaf – fod yn waith yr Aneirin o’r 6g. sy’n cael ei enwi yn yr Historia Brittonum. Ni chredai mai’r union eiriau a lefarodd Aneirin a gofnodwyd yn Llyfr Aneirin. Am rai canrifoedd cafodd y gerdd ei throsglwyddo ar lafar ymhlith y datgeiniaid a’r beirdd. Cafodd ei diweddaru a’i newid wrth i’r Gymraeg ei hun newid o’r 6g. ymlaen. Llygrwyd y testun mewn sawl man ac ychwanegwyd deunydd ato nad oedd yn perthyn yn wreiddiol i gerdd Aneirin.

Ceisiodd Ifor Williams hefyd roi cnawd storïol ar esgyrn sychion Y Gododdin. Nid cerdd sy’n adrodd stori yw’r Gododdin, ond ar sail cyfeiriadau yn y gerdd ceisiodd Ifor Williams ail-greu’r digwyddiadau a roddodd fod iddi. Cofiwch, creadigaeth ddamcaniaethol yw’r ‘stori’ hon ac Ifor Williams yw ei hawdur.

Dyma’r stori yn ôl Ifor Williams.

Roedd Mynyddog Mwynfawr yn arglwydd Din Eidyn yn nheyrnas y Gododdin. Penderfynodd Mynyddog gasglu llu o ryfelwyr nerthol ynghyd, ei wŷr ei hunan yn bennaf, ond hefyd arwyr o Aeron, Elfed, Gwynedd a rhai mannau eraill. Dywed rhai o linellau’r Gododdin fod yr osgordd ddethol hon yn cynnwys 300 o ryfelwyr. Holl bwrpas dwyn yr osgordd ynghyd oedd cipio Catraeth. Am flwyddyn gyfan bu gosgordd Mynyddog yn paratoi a gwledda yn Nin Eidyn. Ceir llawer o gyfeiriadau at yfed medd yn yr awdlau, ac roedd derbyn medd Mynyddog yn arwydd o barodrwydd y rhyfelwyr hyn i’w wasanaethu hyd at angau.

Yna bu’r ymosodiad ar Gatraeth, a oedd ryw 170 milltir i’r de. Yn ôl Ifor Williams, yn y cyfnod 590–600 y bu’r frwydr, ac awgrymodd fod rhesymau strategol dros geisio cipio’r lle. Bu Catraeth gynt ym meddiant y Brythoniaid. Yng Nghatraeth, roedd yr hen ffordd Rufeinig o Efrog i’r gogledd yn croesi Afon Swale, a rhyw bum milltir ymhellach i’r gogledd roedd y ffordd honno’n ymrannu’n ddwy. O reoli Catraeth roedd modd rheoli darn helaeth o wlad ac adennill awdurdod y Brythoniaid neu’r Cymry dros ran helaeth o ogledd Lloegr. Nid Mynyddog ei hun a oedd yn arwain yr osgordd, ond yr arwr amlycaf oedd Cynon fab Clydno o Aeron. Y gelynion oedd Lloegrwys ‘gwŷr Lloegr’, ac yn fwy penodol, gwŷr Deifr (Deira) a Brynaich (Bernicia), sef dwy o deyrnasoedd y Saeson yn y gogledd-ddwyrain.

Trychineb fu brwydr Catraeth. Daeth y 300 wyneb yn wyneb â byddin anferthol a chawsant eu trechu. Yn ôl rhai cyfeiriadau, dim ond un o’r arwyr a ddychwelodd. Yn ôl cyfeiriadau eraill, dychwelodd tri, ynghyd â’r bardd ei hunan. Er mai colli’r dydd a wnaed yng Nghatraeth, bu’r bardd yn dyst i arwriaeth yr osgordd. Mae’r Gododdin yn ddathliad o’r ffaith i’r rhyfelwyr ymladd i’r eithaf ar ran eu harglwydd a ‘thalu’ am eu medd.

Stori ddamcaniaethol sydd yma, a cheir damcaniaethau eraill am frwydr Catraeth (cewch ragor o wybodaeth yma). Dylid cofio un peth arall hefyd: ar wahân i’r Gododdin nid oes unrhyw gofnod arall o frwydr Catraeth. Os oedd Catraeth yn frwydr enwog yn hanes y cyfnod 590-600, y mae’n rhyfedd iawn na fyddai rhyw gofnod ohoni wedi goroesi. Erbyn hyn hefyd y mae llawer o ysgolheigion yn bwrw amheuaeth ar esboniadau Ifor Williams. Byddai rhai yn rhoi mwy o bwyslais ar yr awgrym mai cerdd yw’r Gododdin a ddatblygodd yn bennaf yng Nghymru’r Oesoedd Canol ar sail rhyw hen draddodiad o’r Hen Ogledd am frwydr Catraeth. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i hynny yn yr adran nesaf. Ond ewch ati’n awr i ddarllen Awdlau 1 a XXIV.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Y Gododdin ac Oes Arwrol yr Hen Ogledd

Yn ciniawa yn llys y tywysog - delwedd yn seiliedig ar ddarlun mewn llawysgrif ganoloesol.
Responsive image
Gyda chaniatâd caredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Carl Parry www.wrecsam.gov.uk/heritage

Mae’n amlwg fod gwahanol fersiynau o’r Gododdin yn cylchdroi yng Nghymru yng nghyfnodau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol (o tua’r 9g. ymlaen). Roedd Y Gododdin yn gerdd a oedd yn cael ei pherfformio mewn llysoedd yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw. Mae tystiolaeth glir yn Llyfr Aneirin sy’n nodi ei bod hi’n arferiad gan y beirdd ei hadrodd mewn ymrysonau barddol.

Mae’n amlwg hefyd nad gwaith un bardd yw’r Gododdin fel ag y mae yn Llyfr Aneirin. Beth bynnag oedd y cnewyllyn gwreiddiol, bu cryn ychwanegu ato a chryn ailwampio hefyd. Ni ddylem feddwl am Y Gododdin fel petai hi’n gerdd o’r cyfnod modern ac yn ffrwyth myfyrdod un bardd. Roedd yn destun byw ar hyd y canrifoedd, a chyfrannodd beirdd o sawl cyfnod at ei chynnwys presennol. Yn wir, mae’n debygol iawn mai ychwanegiadau diweddar yw darnau mwyaf enwog Y Gododdin, gan gynnwys y ddwy awdl yr ydych chi yn eu hastudio.

Yn ychwanegol at ei hadrodd mewn ymrysonau barddol, gallwn gynnig rheswm arall dros boblogrwydd Y Gododdin yn llysoedd tywysogion yr Oesoedd Canol a pham y byddai’n demtasiwn i’r beirdd ychwanegu ati. Dyma gerdd a oedd yn sôn am ryfela; dyma gerdd a oedd yn sôn am osgordd filwrol ddelfrydol o’r gorffennol pell; dyma gerdd am arwyr a’u gwrhydri ar faes y gad yn gosod safon dewrder i bob gosgordd arall. Roedd cymdeithas Gymreig yr Oesoedd Canol yn parhau i fod yn gymdeithas a roddai fri ar ryfela. Roedd hi’n gymdeithas a allai lwyr uniaethu â’r math o werthoedd arwrol sy’n cael eu dyrchafu yn Y Gododdin.

Mae’r Gododdin hefyd yn gerdd arwyddocaol o ran y darlun a geir ynddi o Oes Arwrol yr Hen Ogledd. O tua’r 9g. ymlaen roedd yng Nghymru ddiddordeb ysol yng nghymeriadau’r Hen Ogledd. Cafodd llawer o draddodiadau a oedd yn ymwneud â ‘Gwŷr y Gogledd’ yn y 6g. eu hadleoli yma a daethant yn ddeunydd crai ar gyfer corff helaeth o chwedlau a barddoniaeth. Yn nychymyg y Cymry o’r 9g. ymlaen cafodd byd yr Hen Ogledd ei droi’n oes arwrol ac yn llwyfan ar gyfer adrodd hanesion am ryfel ac am arwyr. Dyma Oes Arwrol yr Hen Ogledd. Cysyniad neu greadigaeth lenyddol ydyw a grewyd yn eu llenyddiaeth gan Gymry’r 9g.–13g.

Dyna i ni un allwedd felly ar gyfer deall Y Gododdin fel testun llenyddol. A dilyn y trywydd hwn, gellir awgrymu bod traddodiadau am osgordd teyrnas y Gododdin ac am ryw frwydr yng Nghatraeth wedi deillio o’r Hen Ogledd. Ai ar ffurf cerdd gynnar a oedd yn cael ei phriodoli i Aneirin y trosglwyddwyd yr wybodaeth honno i Gymru? Dyna’r dirgelwch, wrth gwrs.

Ond y patrwm o hyd yng Nghymru’r Oesoedd Canol oedd datblygu’r hen draddodiadau o’r Hen Ogledd ac ehangu arnynt. Efallai fod Y Gododdin, fel y mae yn Llyfr Aneirin, yn ffrwyth proses o’r fath. Mae’n bosibl hefyd fod Cymry’r Oesoedd Canol yn gyfarwydd â chorff o straeon am frwydr Catraeth na wyddom ni ddim oll amdanynt. Efallai mai tyfu o gylch y straeon hyn a wnaeth Y Gododdin. Yn sicr, mae hi’n crisialu’r math o ddelfrydau arwrol yr oedd Cymry’r Oesoedd Canol yn eu cysylltu â Hen Ogledd y 6g., a’r delfrydau hynny sy’n rhoi undod iddi

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Y Gododdin a barddoniaeth arwrol

Responsive image

Yn y nodiadau hyn yr ydym wedi defnyddio’r ansoddair ‘arwrol’ sawl tro. Buom yn sôn yn adran 7 am Oes Arwrol yr Hen Ogledd. Rydym hefyd wedi defnyddio’r geiriau ‘llenyddiaeth arwrol’ a ‘barddoniaeth arwrol’. Byddwn yn defnyddio’r gair ‘arwr’ mewn llawer o gyd-destunau modern. Mae gennym arwyr ym myd chwaraeon. Mae gennym arwyr hefyd ym myd canu poblogaidd a byd y ffilmiau. Ond, yng nghyd-destun Y Gododdin, rydym yn dychwelyd at ystyr wreiddiol y gair, sef ‘gŵr dewr, rhyfelwr’. Barddoniaeth am ryfelwyr yw’r Gododdin a dyna un rheswm dros ei galw’n farddoniaeth arwrol.

Ond mae’n bwysig cofio hefyd fod ‘barddoniaeth arwrol’ (heroic poetry yn Saesneg) yn derm llenyddol rhyngwladol. Dyma farddoniaeth sy’n adrodd straeon am ryfela, a phrif gymeriadau’r straeon hynny yw rhyfelwyr aristocrataidd. Gan amlaf mae’r straeon wedi eu lleoli mewn rhyw oes arwrol sy’n perthyn i’r gorffennol. Y ffurf lawnaf ar farddoniaeth o’r fath yw epigau neu gerddi storïol enwog Homer, sef yr Iliad a’r Odyssey. Mae llawer o lenyddiaeth gynnar y Germaniaid, y Sgandinafiaid a’r Saeson hefyd yn farddoniaeth arwrol, er enghraifft y gerdd Hen Saesneg Beowulf.

Mae un gwahaniaeth rhwng Y Gododdin a barddoniaeth arwrol yn gyffredinol. Cerddi hir sy’n adrodd straeon yw cerddi Homer er enghraifft, a dyna nodwedd gyffredinol ar farddoniaeth arwrol. Nid yw’r Gododdin yn gerdd sy’n adrodd stori. Ond, o ran y math o werthoedd sy’n cael eu dathlu ynddi, y mae’r Gododdin yn rhyfeddol o debyg i’r math hwn o lenyddiaeth. Mae yn Y Gododdin syniadau a sefyllfaoedd sy’n cydymffurfio â’r math o batrymau cyffredinol sydd i’w gweld mewn barddoniaeth arwrol.

Dyma rai o’r patrymau hynny.

(a) Ystyriwch arwyr Y Gododdin. Bodau dynol o gig a gwaed ydynt, h.y. meidrolion, ac nid cymeriadau arallfydol. Er bod elfennau arallfydol mewn rhai cerddi arwrol (e.e. ymyrraeth y duwiau yn epigau Homer), y mae’r arwyr o hyd yn bobl go iawn o gig a gwaed. Meidrolion ydynt a’u dewrder personol mewn brwydr sy’n eu dyrchafu uwchlaw meidrolion eraill. Mae’r arwyr hefyd yn aristocratiaid (nid milwyr cyffredin mohonynt). Yn amlach na pheidio y maent yn filwyr dethol, yn aelodau o osgordd filwrol sy’n gwasanaethu arglwydd neu frenin. Ymroi i’r bywyd milwrol a gwasanaethu eu harglwydd yw nod eu bywydau. Mae’n siŵr y cytunwch chi fod Y Gododdin yn cyd-fynd â’r patrwm cyffredinol hwn.

(b) Gwŷr ifanc yw’r arwyr gan amlaf mewn barddoniaeth arwrol, a marw’n ifanc yw eu hanes. Uchafbwynt y bywyd arwrol yw marwolaeth. Dyna dynged yr arwr. Yn yr Iliad, dywed yr arwr Achilles i’w fam ei hysbysu bod un o ddau ddewis yn ei wynebu. Gall aros yng Nghaerdroea i ymladd, aros yno i farw’n arwrol ar faes y gad a thrwy hynny sicrhau clod tragwyddol. Y dewis arall fyddai dychwelyd i’w famwlad. O wneud hynny, byddai’n byw i fod yn hen ŵr, ond byddai hefyd yn ildio ei hawl i glod tragwyddol ac anrhydedd (h.y. byddai’n gwneud peth mor anarwrol â marw’n dawel yn ei wely). Y llwybr arwrol a ddewiswyd gan Achilles. Dyma’r paradocs arwrol. Drwy farw’n ddewr ac yn ifanc ar faes y gad y mae enw da’r arwr a’r cof amdano yn parhau am byth. Drwy gyfrwng ei ddewrder y mae’n trechu marwolaeth. Fel y gwelwch wrth astudio Awdlau I a XXIV, y mae’r un syniad i’w gael yn Y Gododdin a’r un awch am glod tragwyddol yn cael ei fynegi’n gyson yn y gerdd.

(c) Bydd dewrder yr arwr yn wyneb angau ei hun yn cael ei arddangos yn aml mewn sefyllfaoedd sy’n anobeithiol yn filwrol. Bydd ef, neu griw bychan o arwyr, yn wynebu gelynion dirifedi. Wrth gwrs, sefyllfa debyg sy’n Y Gododdin gyda thrichant o filwyr wyneb yn wyneb â byddin anferthol.

(ch) Bydd anfarwoldeb yr arwr a’r cof tragwyddol am ei wrhydri yn cael eu sicrhau yng nghanu’r beirdd. Dyma elfen glir yn llawer iawn o’r cerddi arwrol. Yn y ddwy awdl y byddwch chi’n eu hastudio y mae’r un syniad i’w gael; sylwch yn arbennig ar y nodyn ar linell 9 yn Awdl XXIV.

(d) Dau brif leoliad sydd mewn barddoniaeth arwrol: maes y frwydr a’r wledd yn y llys. Ceir disgrifiadau o’r arwyr yn gwledda ac yn gwrando ar ganu’r beirdd. Yn y canu Hen Saesneg a’r canu o wledydd Llychlyn, y diota ar ôl y wledd sy’n cael y sylw pennaf, ac wrth drafod natur perthynas y brenin â’i osgordd cyfeirir yn aml at y medd, y gwin a’r cwrw y mae’r brenin yn eu rhannu i’w osgordd. Er nad yw hynny i’w weld yn Awdlau I a XXIV, fe gawn ddisgrifiadau yn Y Gododdin o’r arwyr yn llys eu harglwydd, a chyfeiriadau atynt yn yfed ei fedd. Yn Y Gododdin y mae’r medd yn symbol o ymrwymiad yr osgordd i’w harglwydd. Ar ôl ymrwymo i’w wasanaethu, bu’n rhaid iddynt ‘dalu’ am eu medd ac ymladd hyd at angau.

Yn y byd modern diwydiannol daeth barddoniaeth arwrol i ben. Ond, fel y dangoswyd gan Gwyn Thomas, mae un cyfrwng modern sy’n pwyso’n drwm ar hen syniadau ynghylch arwriaeth. Byd ffilm yw’r cyfrwng hwnnw. Er enghraifft, yn niwylliant ffilmiau’r cyfnod modern y mae rhyw apêl o hyd mewn stori am frwydr sy’n arwain at safiad arwrol olaf gan fyddin fechan. Dyna hanes gwarchae’r Alamo ym 1836 a welir yn ffilm enwog John Wayne The Alamo (1960), neu’r hanes o’r hen fyd clasurol am safiad olaf y Sbartiaid – trichant ohonynt, fel yn Y Gododdin – ym mrwydr Thermopylae (480 CC) a fu’n sail i ddwy ffilm, The 300 Spartans (1962) a 300 (2007). Un ffordd ddiddorol hefyd i chi ddod i ddeall mwy am lenyddiaeth arwrol yw trwy wylio ffilmiau sy’n seiliedig ar hen farddoniaeth arwrol. Er enghraifft, y ffilm Troy (2004) sy’n rhannol seiliedig ar Iliad Homer a’r ffilm animeiddiedig Beowulf (2007) sy’n addasiad o’r gerdd Hen Saesneg. A fedrwch chi ganfod nodweddion yn y rhain sy’n debyg i’r Gododdin?

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Map o'r Hen Ogledd

Responsive image
Trwy ganiatâd caredig Dr Alex Woolf, Prifysgol St Andrews a'r Athro John T. Koch, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Agweddau Cyfoes

Llun: Luned Aaron

Fersiwn rap o Awdl XXIV gan Aneirin Karadog wedi ei gomisiynu'n arbennig ar gyfer yr adnodd hwn.

Rap Aneirin

trac cerddoriaeth gefndir yn unig i chi arbrofi a'ch rap eich hun

Ffilm yn cynnwys darn o’r ddrama Llwyth gan Dafydd James, cynhyrchiad Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Yn y clip, gwelwn yr awdur ac Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, yn trafod agweddau ar y cysyniad o berthyn i lwyth, boed yn llwyth o filwyr fel yn Y Gododdin, o Gymry, neu o bobl hoyw. Ar y clip eglura’r awdur y thema y mae ef yn ei gweld yn llinyn cyswllt rhwng y cerddi hynafol a’r ddrama gyfoes.

Buarth beirdd clawr 5Dyma gyfrol i‘ch cyflwyno i‘r llawysgrifau sy’n rhoi gwedd gyfoes ar y gwaith: Buarth beirdd gol. Eurig Salisbury, Cyhoeddiadau Barddas
(978-1906-396-67-1).
I archebu copi, cliciwch yma.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch