Y testun wedi'i olygu mewn orgraff ddiweddar

  1. Arwr dwy ysgwydd a dan ei dalfrith
    Ystyr llinell 1

    Mae’n amlwg fod rhyw lygru wedi bod ar y testun yma, ac anodd iawn yw cynnig esboniad cwbl foddhaol. Ceir llawer iawn o gyfeiriadau yng ngwaith y beirdd at eu noddwyr yn ymladd â tharianau. Dal y darian yn erbyn un ysgwydd oedd yr arferiad, fel bod y llaw arall yn rhydd i drin arfau. Beth yw arwyddocâd dwy ysgwydd yma? Ai ceisio dweud y mae’r bardd fod Buddfan yn dal ei darian mor gadarn â phetai nerth dwy ysgwydd oddi tani?

    Y mae’n werth sylwi bod dehongliad Ifor Williams o’r llinell hon yn dra gwahanol. Dyma’i ddarlleniad ef o’r testun: Arwr ardwy ysgwyd a dan ei dalfrith, ac ar y sail honno gellid cynnig yr aralleiriad ‘arwr [a chanddo] darian amddiffynnol o dan ei dalcen brych’.

  2. Ac ail tith orwyddan.
    Ystyr llinell 2

    Ar droed gall Buddfan symud mor chwim â cheffyl.

  3. Bu trydar yn aerfre, bu tân,
  4. Bu ehud ei waywawr, bu huan,
  5. Bu bwyd brain, bu budd i frân,
    Ystyr llinell 5

    Y mae’r un topos, neu syniad, i‘w gael yn Awdl I, gweler y nodiadau ar ystyr llinellau 13-16. 0 gofio mai Buddfan yw enw’r arwr sy’n cael ei goffáu, y mae’n amlwg fod chwarae bwriadol ar eiriau yma.

  6. A chyn edewid yn rhydongan wlith,
  7. Eryr tith tirion,
    Ystyr llinellau 6-7

    Gwrthrych y ferf edewid yw eryr tith tirion, ond y mae trefn naturiol y cymal – a chyn edewid eryr tith tirion yn rhydon – wedi cael ei wyrdroi yma.

  8. Ac o du gwasgar gwaneg tu bron,
  9. Beirdd byd barnant ŵr o galon.
    Ystyr llinell 9

    Fel y gwelsom, wrth drafod ystyr y geiriau gŵr o galon, y ffurf luosog gwŷr sydd i’w chael yn Llyfr Aneirin, ac y mae’r sylw beirdd byd barnant wŷr o galon yn un o linellau enwocaf Y Gododdin, ac yn llinell sydd erbyn hyn wedi magu statws dihareb i bob pwrpas. Ar sail eu gweithredoedd ar faes y gad, y mae beirdd y byd yn dyfarnu pwy yw’r arwyr dewr o galon! Dyna gyfleu mewn un llinell holl hanfod swyddogaeth y bardd mewn cymdeithas arwrol. Y bardd, drwy gyfrwng ei ganeuon, sydd yn sicrhau bod clod tragwyddol yn deillio o weithredoedd arwrol.

  10. Diebyrth ei gerth ei gyngyr,
    Ystyr llinell 10

    Sylwch, yn gyntaf oll, ar drefn y frawddeg yn y llinell hon. Y drefn arferol yn y Gymraeg yw Ciciodd [berf] y bachgen [goddrych] y bêl [gwrthrych]. Mae’r patrwm hwnnw yn cael ei wyrdroi yma. Yr hyn a gawn yw Diebyrth [berf] ei gerth [gwrthrych] ei gyngyr [goddrych]. Y drefn arferol felly fyddai Diebyrth ei gyngyr ei gerth, h.y. ‘Amddifadodd ei gynghorion ei haeddiant’. Beth yw ystyr hynny? Holl hanfod cynghorion ac anogaethau Buddfan i’w wŷr oedd yr angen i sefyll eu tir ac ymladd i’r eithaf. Yn sgil yr anogaethau arwrol hynny fe gollodd ef yr hyn yr oedd ganddo hawl iddo, sef bywyd ei hun.

  11. Difa oedd ei gynrain gan wŷr,
  12. A chyn ei olo o dan Eleirch – Fre
  13. Ydoedd wryd yn ei arch.
    Ystyr llinell 13

    Mae’n dra phosibl fod amwysedd bwriadol yn y llinell hon. Fe welwch ein bod, yn yr aralleiriad mewn Cymraeg modern, wedi cynnig yr esboniad ‘roedd dewrder yn ei fynwes’, gan dderbyn un o ystyron ffigurol arch, sef ‘mynwes’. Ond mae’n werth cofio hefyd am y gair arch ‘gorchymyn’, a fyddai yn ein galluogi i roi’r esboniad ‘roedd dewrder yn ei orchymyn’, h.y. roedd pob arch ‘gorchymyn’ a roddai Buddfan i’w wŷr mewn brwydr yn fynegiant o’i ddewrder (sylwer bod y bardd wedi crybwyll ei gyngyr ‘cynghorion’ yn barod). Mae’n eithaf sicr y byddai cynulleidfa yn yr Oesoedd Canol wedi gwerthfawrogi’r fath chwarae medrus ar eiriau. Yn ôl Gerallt Gymro roedd Cymry’r Oesoedd Canol yn eithriadol o hoff o eiriau mwys ac ystyron deublyg. Mae ganddo stori led gyfoes â’i amser ei hun i brofi hynny. Roedd Tegeingl yn enw ar dalaith yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr oedd y tywysog Dafydd ab Owain (m. 1203) yn arglwyddiaethu drosti. Ond am gyfnod cyn hynny bu Tegeingl ym meddiant ei frawd Rhodri ab Owain (m. 1195). Tegeingl hefyd oedd enw rhyw wraig y dywedid i’r ddau dywysog fod yn gariadon iddi yn eu tro. Yn sgil hyn, fe lefarodd rhywun y frawddeg fachog ac amwys a ganlyn: ‘Gan fod ei frawd wedi ei chael hi’n barod, tydi hi ddim yn iawn i Ddafydd gael Tegeingl’.

  14. Gorolches ei grau ei seirch,
    Ystyr llinell 14

    Dyma’r math o ddarlun egr o ryfela a geir yn Y Gododdin. Cymaint oedd y gwaed a gollodd Buddfan fel bod y gwaed hwnnw wedi llwyr olchi ei arfwisg! Y mae’n amlwg fod hwn hefyd yn syniad fformiwlaig yng nghanu’r beirdd. Yn y gerdd ‘Armes Prydain’ digwydd y llinell Eu crysau yn llawn crau a orolchant (‘Eu crysau yn llawn gwaed a olchant’); ac mewn cerdd broffwydol arall o’r Oesoedd Canol digwydd y llinell Gwyar gorolchai gwarthaf iad (‘golchai gwaed [hyd] ran uchaf y pen’). Yn ôl y bardd Dafydd Benfras (13g.), roedd Llywelyn Fawr (m. 1240) yn ymffrostio yn y ffaith ei fod wedi golchi ei arf yng ngwaed y gelyn, Oedd balch gwalch golchiad ei lain (‘balch oedd y rhyfelwr o olchiad ei arf’, h.y. yng ngwaed y gelyn.). Yn un o linellau eraill Y Gododdin dywedir bod yr arwr Neirthiad wedi gwneud ennaint crau ymhlith y gelyn. Ystyr ennaint yma yw ‘golchfa’ neu ‘faddon’; fe wnaed ‘golchfa o waed’ neu ‘faddon o waed’ (h.y. blood-bath) gan yr arwr hwn.

  15. Buddfan fab Bleiddfan ddihafarch.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Y testun fel y mae yn Llyfr Aneirin

Responsive image
  1. Arwr y dwy ysgwyd adan e dalvrith.
  2. ac eil tith orwydan.
  3. bu trydar ên aerure bu tan.
  4. bu ehut e waewawr bu huan.
  5. bu bwyt brein bu bud e vran.
  6. a chyn edewit ên rydon
  7. gan wlith eryr tith tiryon.
  8. ac o du gwasgar gwanec tu bronn.
  9. beird byt barnant wyr o gallon.
  10. diebyrth e gerth e gynghyr.
  11. diua oed e gynrein gan wyr.
  12. a chyn e olo a dan eleirch vre.
  13. ytoed wryt ene arch.
  14. gorgolches gorgolches e greu y seirch
  15. budvan vab bleidvan dihavarch.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Ystyr y testun mewn Cymraeg modern

  1. Arwr [a nerth] dwy ysgwydd o dan ei darian amryliw,
  2. Ac un [a chanddo] symudiad [chwim] megis ceffyl.
  3. Bu'n gynnwrf ar fryn y frwydr, bu’n dân,
  4. Bu ei waywffyn yn gyflym, bu’n llachar.
  5. Bu'n fwyd [ar gyfer] brain, bu’n elw i frân,
  6. A chyn bod yr eryr gosgeiddig ei symudiad
  7. Wedi cael ei adael yn y rhydau gyda’r gwlith,
  8. Wrth ymyl gwasgariad y don ar ochr y lan,
  9. [Wele] feirdd y byd yn ei ddyfarnu’n ŵr dewr.
  10. Cafodd yr hyn a oedd yn ddyledus iddo ei gipio i ffwrdd gan ei gynghorion [rhyfelgar],
  11. Yr oedd ei ryfelwyr blaen wedi eu lladd gan wŷr [y gelyn],
  12. A chyn ei gladdu o dan Fryn Eleirch
  13. Yr oedd dewrder yn ei fynwes.
  14. Golchodd ei waed ei arfwisg,
  15. Buddfan gadarn fab Bleiddfan.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Cymharu

Y testun wedi'i olygu mewn orgraff ddiweddar
  1. Arwr dwy ysgwydd a dan ei dalfrith,
  2. Ac ail tith orwyddan.
  3. Bu trydar yn aerfre, bu tân,
  4. Bu ehud ei waywawr, bu huan,
  5. Bu bwyd brain, bu budd i frân,
  6. A chyn edewid yn rhydon - gan wlith,
  7. Eryr tith tirion
  8. Ac o du gwasgar gwaneg tu bron,
  9. Beirdd byd barnant ŵr o galon.
  10. Diebyrth ei gerth ei gyngyr,
  11. Difa oedd ei gynrain gan ŵyr,
  12. A chyn ei olo o dan Eleirch - Fre
  13. Ydoedd wryd yn ei arch.
  14. Gorolches ei grau ei seirch,
  15. Buddfan fab Bleiddfan ddihafarch.
Ystyr y testun mewn Cymraeg modern
  1. Arwr [a nerth] dwy ysgwydd o dan ei darian amryliw,
  2. Ac un [a chanddo] symudiad [chwim] megis ceffyl.
  3. Bu'n gynnwrf ar fryn y frwydr, bu'n dân,
  4. Bu ei waywffyn yn gyflym, bu'n llachar.
  5. Bu'n fwyd [ar gyfer] brain, bu'n elw i frân,
  6. A chyn bod yr eryr gosgeiddig ei symudiad
  7. Wedi cael ei adael yn y rhydau gyda'r gwlith,
  8. Wrth ymyl gwasgariad y don ar ochr y lan,
  9. [Wele] feirdd y byd yn ei ddyfarnu'n ŵr dewr.
  10. Cafodd yr hyn a oedd yn ddyledus iddo ei gipio i ffwrdd gan ei gynghorion [rhyfelgar],
  11. Yr oedd ei ryfelwyr blaen wedi eu lladd gan wŷr [y gelyn],
  12. A chyn ei gladdu o dan Fryn Eleirch
  13. Yr oedd dewrder yn ei fynwes.
  14. Golchodd ei waed ei arfwisg,
  15. Buddfan gadarn fab Bleiddfan.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Cefndir a themâu

Fel y gwelsom yn achos Awdl I, y mae’r arwyr unigol sy’n cael eu coffáu yn awdlau’r Gododdin yn cael eu henwi gan amlaf yn y llinell olaf. Fe welwch fod yr awdl hon wedi’i chynllunio gan ddilyn yr un patrwm. Yn ôl y llinell glo, enw gwrthrych yr awdl hon yw Buddfan fab Bleiddfan (gweler y nodyn ar linell 15 ar arwyddocâd yr enw). Yn llinell 6 dywedir iddo gael ei ladd ar doriad y wawr – dyna ystyr ffigurol gan wlith – a hynny wrth ymladd mewn rhyw ryd neu rydau. Os yw’r dehongliad o linell 12 yn gywir, cafodd ei gladdu mewn lle o’r enw Eleirch Fre (‘bryn yr elyrch’ yw ystyr yr enw) a gellir casglu bod hwnnw’n fryncyn uwchlaw’r rhyd.

Yn anffodus, nid oes unrhyw gofnod arall o’r enw Eleirch Fre wedi goroesi. Mae’r enw lle anhysbys hwn yn brawf o’r math o broblemau sy’n codi wrth geisio gosod awdlau’r Gododdin mewn rhyw fath o gyd-destun hanesyddol sy’n ymwneud â brwydr honedig Catraeth. A oes modd i ni gynnig fod hwn yn fryn rhywle yn ardal Catraeth? Ymhellach, a yw’r sôn sydd yma am frwydro mewn rhydau yn cynnig rhagor o dystiolaeth am leoliad y frwydr? Gwaetha’r modd, dyma seiliau sy’n llawer rhy simsan ar gyfer ail-greu amgylchiadau brwydr hynod o annelwig o’r gorffennol pell. Pa mor hen bynnag oedd dechreuadau’r Gododdin, y mae’n gwbl amlwg fod y gerdd wedi cael ei newid dros y canrifoedd a bod yr hyn sydd i’w gael yn Llyfr Aneirin yn ffrwyth proses gymhleth o ailgyfansoddi ac ailwampio.

O safbwynt llenyddol, yr hyn a gawn yn awdlau’r Gododdin yw amrywiadau ar yr un themâu sylfaenol, ac o awdl i awdl y mae’r un math o syniadau yn cael eu hailadrodd a’u hailweithio gyda chysondeb rhyfeddol. Ar sail y ddealltwriaeth sydd gennych yn barod o Awdl I, fe ddaw hynny’n glir iawn yn eich golwg wrth i chi fynd ati i astudio a dadansoddi Awdl XXIV.

Darlun o’r arwr yn ei lawn nerth a gawn yn y llinell gyntaf. Os gellir derbyn y dehongliad o’r llinell a gynigiwyd, dyma filwr a oedd yn cynnal ei darian gyda nerth rhyfeddol. Ond yr oedd Buddfan hefyd yn rhedwr chwim ac y mae ei ruthr didostur mewn brwydr a’i allu i ryfela yn cael eu cyfleu yn effeithiol yn llinellau 3-4. Fodd bynnag, fe welwch yn llinell 5 mai uchafbwynt anochel y rhyfela hwn oedd y ffaith iddo gael ei ladd. Dyna yw arwyddocâd y geiriau sy’n sôn fel yr aeth Buddfan yn fwyd ar gyfer brain. (Fe gofiwch, mae’n siŵr, fod y syniad fformiwlaig hwn i’w gael hefyd yn Awdl I, a thrafodir y mater ymhellach yn y nodiadau ar ystyr llinellau 13-16 yn yr awdl honno).

Ar wahân i’r cyfeiriad fformiwlaig hwn at fwydo brain, y mae’r modd y cafodd agoriad yr awdl hon ei saernïo hefyd yn rhyfeddol o debyg i linellau agoriadol Awdl I. Yno fe gawn ddarlun byw o Owain fab Marro ar ei geffyl. Yma, unwaith yn rhagor, fe welwch fod y pwyslais ar gyfleu nerth a chyflymder Buddfan. Holl ddiben gwneud hynny, wrth gwrs, yw dyfnhau’r gwrthgyferbyniad sydd wedi ei wau drwy’r awdl rhwng y Buddfan byw a’r Buddfan marw. Mae’r un math o wrthgyferbyniad i’w gael, fel y gwelsoch, yn Awdl I yn achos Owain fab Marro. Cafodd y gwrthgyferbyniad ei gyfleu’n gryno iawn hefyd yn un o awdlau enwocaf Y Gododdin (Gwŷr a aeth Gatraeth): yno ceir y llinell Wedi elwch tawelwch fu (‘ar ôl twrw mawr bu tawelwch’).

Y mae’r tawelwch enbyd hwn – tawelwch marwolaeth – yn cael ei gyfleu yn yr awdl hon mewn ffordd sy’n ymylu ar fod yn delynegol o hardd. Sylwch ar linellau 6-8. Cawn ddarlun yma o Buddfan – a’r gwlith heb godi eto – yn gorwedd yn farw mewn rhyw ryd a’r tonnau’n golchi drosto. Yna yn llinell 12 sonnir am ei gladdu yn Eleirch Fre (‘bryn yr elyrch’). Onid yw harddwch urddasol yr enw hwnnw yn gwrthgyferbynnu’n rhyfeddol â’r disgrifiadau o frwydro ac o ladd sydd i’w cael yn yr awdl? Dyma linellau sy’n llawn pathos.

Fel yn achos Awdl I, mae yma fynegiant clir hefyd o’r paradocs arwrol. Fel y nodir yn llinell 10, oherwydd ei ddewrder fe gollodd Buddfan y peth sylfaenol hwnnw y mae gan bawb hawl iddo, sef bywyd ei hun. Ond roedd y beirdd – beirdd byd yng ngeiriau’r gerdd – eisoes wedi sylwi bod hwn yn ŵr dewr, yn ŵr o galon (llinell 9). Oherwydd ei weithredoedd arwrol felly fe fyddai’r beirdd yn sicrhau y byddai clod tragwyddol iddo. Drwy farw mor ddewr ar faes y frwydr byddai ei enw yn byw am byth yng ngherddi’r beirdd.

Fe welwch hefyd fod llawer o nodweddion confensiynol a topoi eraill i’w cael yma. Mae’r cyfeiriad at darian wedi ei hystaenio â gwaed yn llinell 1 yn enghraifft o hynny (gweler y nodyn ar y gair talfrith), ac mae elfen gref o gonfensiwn yn yr awgrym fod Buddfan wedi ei ladd wrth ymladd mewn rhyd (gweler y nodyn ar rhydon yn llinell 6). Mae’n ddiddorol nodi hefyd fel yr ailadroddir y ferf golo ‘gorchuddio’ mewn cyd-destunau tebyg mewn rhannau eraill o’r Gododdin (gweler y nodyn ar golo yn llinell 12). Fe welwn hefyd fod y sôn eironig am waed y frwydr yn golchi arfau ac arfwisgoedd yn un sy’n cael ei ailadrodd mewn mannau eraill (gweler y nodyn ar ystyr llinell 14). O sylwi ar hyn oll, gallwn ailadrodd sylw a wnaethom wrth drafod cefndir a themâu Awdl I. Y mae’r Gododdin yn waith sy’n tynnu’n helaeth ar gonfensiynau llenyddol penodol. Ac eto, ar yr un pryd, y mae barddoniaeth gofiadwy yn llawer o’r awdlau – barddoniaeth sydd â’r gallu i’n hysgwyd o hyd ac ennyn ymateb ynom.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Arddull: Mesur y gerdd, rhan 1

Ar yr olwg gyntaf, y mae’n ymddangos fod hyd y llinellau yn afreolaidd gan eu bod yn amrywio o bum sillaf hyd at ddeg sillaf.

Ond, wrth syllu’n fanylach, fe welir bod yma resymeg a bod dau fesur gwahanol wedi cael eu cyfuno yn yr awdl hon. Fe ddylech fod yn gyfarwydd ag un o’r mesurau hyn. Ei enw yw’r Toddaid Byr ac y mae i’w gael yn llinellau 1-2, 6-7 a 12-13.

Erbyn heddiw y mae’r Toddaid Byr yn cynnwys llinell 10 sillaf a llinell 6 sillaf. Mae’r Toddaid Byr yn llinellau 1-2 yn cydymffurfio â’r cyfrif hwnnw, ond fe welwch fod ail linell y Toddaid Byr sydd yn llinellau 6-7 yn cynnwys 5 sillaf, a bod ail linell y toddaid byr sydd yn llinellau 12-13 yn cynnwys 7 sillaf. Bydd yr odl ddiweddol yn cael ei mewnosod yn llinell gyntaf y Toddaid Byr (ar y seithfed, yr wythfed neu’r nawfed sillaf). Ond yn yr hen ganu ceir digonedd o engreifftiau hefyd o hepgor yr odl ddiweddol o’r llinell gyntaf. Mae hynny i’w weld yn llinell 1 (sylwch nad yw a dan yn odli gyda tân a brân), ac mae’n werth cofio bod yr un amrywiad i’w gael yn englynion ‘Stafell Gynddylan’ hefyd.

  1. Arwr dwy ysgwydd a dan ei dalfrith
  2. Ac ail tith orwyddan.
  3. Bu trydar yn aerfre, bu tân,
  4. Bu ehud ei waywawr, bu huan,
  5. Bu bwyd brain, bu budd i frân,
  6. A chyn edewid yn rhydon – gan wlith,
  7. Eryr tith tirion,
  8. Ac o du gwasgar gwaneg tu bron,
  9. Beirdd byd barnant ŵr o galon.
  10. Diebyrth ei gerth ei gyngyr,
  11. Difa oedd ei gynrain gan wŷr,
  12. A chyn ei olo o dan Eleirch – Fre
  13. Ydoedd wryd yn ei arch.
  14. Gorolches ei grau ei seirch,
  15. Buddfan fab Bleiddfan ddihafarch.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Arddull: Mesur y gerdd, rhan 2

Ar yr olwg gyntaf, y mae’n ymddangos fod hyd y llinellau yn afreolaidd gan eu bod yn amrywio o bum sillaf hyd at ddeg sillaf.

Roedd y beirdd yn yr Oesoedd Canol hefyd yn gofalu am gysondeb curiadau yn eu mesurau. Pedwar curiad oedd i’w gael yn llinell gyntaf y Toddaid Byr a dau yn yr ail.

Yr ail fesur a geir yma yw’r un sy’n cael ei adnabod erbyn hyn fel Cyhydedd Fer. Llinell ac ynddi wyth sillaf (gan amlaf) a thri churiad oedd y Gyhydedd Fer yn yr Oesoedd Canol. Gallai nifer y sillafau amrywio, ond roedd cysondeb yn nifer y curiadau.

Mae un llinell ar ôl, sef llinell 8. Mae’n ymddangos bod honno’n cynnwys naw sillaf a phedwar curiad. Yr hen enw ar y mesur a oedd yn cynnwys llinellau o’r fath oedd Cyhydedd Naw Ban.

Ceir pedair odl ddiweddol wahanol yn yr awdl hon.

Sylwch yn ofalus ar natur yr odlau yn llinellau 12-15. I ni heddiw nid yw -eirch ac -arch yn ymddangos yn odlau dilys. Yr hyn a welir yma yw proest ochr yn ochr ag odl.

  1. Arwr dwy ysgwydd a dan ei dalfrith
  2. Ac ail tith orwyddan.
  3. Bu trydar yn aerfre, bu tân,
  4. Bu ehud ei waywawr, bu huan,
  5. Bu bwyd brain, bu budd i frân,
  6. A chyn edewid yn rhydon – gan wlith,
  7. Eryr tith tirion,
  8. Ac o du gwasgar gwaneg tu bron,
  9. Beirdd byd barnant ŵr o galon.
  10. Diebyrth ei gerth ei gyngyr,
  11. Difa oedd ei gynrain gan wŷr,
  12. A chyn ei olo o dan Eleirch – Fre
  13. Ydoedd wryd yn ei arch.
  14. Gorolches ei grau ei seirch,
  15. Buddfan fab Bleiddfan ddihafarch.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Arddull: Addurniadau mydryddol

Cytseinedd

Un o nodweddion pwysig barddoniaeth gynnar Gymraeg yw cytseinedd. Mae’r addurn hwnnw yn amlwg iawn yn yr awdl hon.

Wrth drafod yr addurniadau mydryddol yn Awdl I, gwelsom fod yr hen feirdd yn ystyried bod cytseinedd yn bosibl rhwng cytsain gysefin a’i ffurf dreigledig. Mae’n bosibl fod enghraifft o hynny yn llinell 2, ac ail . . . [g]orwyddan (cofiwch mai fel ag y byddwn yn ynganu’r cysylltair ac), llinell 5, bu bwyd brain, bu budd . . . [b]rân, ac yn llinell 9, (g)ŵr o galon.

Odlau Mewnol

Yn y Toddaid Byr cyntaf a’r ail defnyddir odl i gysylltu diwedd y llinell gyntaf a chanol yr ail linell (fe welwch mai cytseinedd sydd yn cyflawni’r un swyddogaeth yn y Toddaid Byr yn llinellau 12-13).

Yn llinell 10 ceir enghraifft o broest.

Cymeriad

Roedd yr hen feirdd yn hoff iawn o gysylltu dechrau gwahanol linellau gyda’i gilydd. Enw’r ddyfais hon oedd ‘cymeriad’. Y dull symlaf arno yw ‘cymeriad llythrennol’, sef rhoi’r un sain ar ddechrau cyfres o linellau; er enghraifft ailadrodd y gytsain b- ar ddechrau llinellau 3-5 a’r gytsain d- ar ddechrau llinellau 10-11. Os ceir gwahanol lafariaid ar ddechrau llinellau dilynol, mae hynny’n cyfrif fel cymeriad hefyd; er enghraifft, llinellau 1-2, 6-7 a 12-13. Gall llafariad sefyll ochr yn ochr â chytsain hefyd fel yn llinellau 8-9. Os yw’r synnwyr neu’r frawddeg heb eu cwblhau mewn llinell, a bod angen y cymal yn y llinell nesaf i gael yr ystyr yn llawn, ni welai’r beirdd angen am gymeriad. Dyna’r rheswm dros hepgor y cymeriad yn llinellau 14-15 (mae’r rhagenwau ei yn llinell 14 yn cyfeirio ymlaen at yr enw Buddfan yn llinell 15).

  1. Arwr dwy ysgwydd a dan ei dalfrith
  2. Ac ail tith orwyddan.
  3. Bu trydar yn aerfre, bu tân,
  4. Bu ehud ei waywawr, bu huan,
  5. Bu bwyd brain, bu budd i frân,
  6. A chyn edewid yn rhydon – gan wlith,
  7. Eryr tith tirion,
  8. Ac o du gwasgar gwaneg tu bron,
  9. Beirdd byd barnant ŵr o galon.
  10. Diebyrth ei gerth ei gyngyr,
  11. Difa oedd ei gynrain gan wŷr,
  12. A chyn ei olo o dan Eleirch – Fre
  13. Ydoedd wryd yn ei arch.
  14. Gorolches ei grau ei seirch,
  15. Buddfan fab Bleiddfan ddihafarch.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Arddull: Iaith a nodweddion llenyddol

  1. Arwr dwy ysgwydd a dan ei dalfrith,
  2. Ac ail tith orwyddan.
  3. Bu trydar yn aerfre, bu tân,
  4. Bu ehud ei waywawr, bu huan,
  5. Bu bwyd brain, bu budd i frân,
  6. A chyn edewid yn rhydon - gan wlith,
  7. Eryr tith tirion
  8. Ac o du gwasgar gwaneg tu bron,
  9. Beirdd byd barnant ŵr o galon.
  10. Diebyrth ei gerth ei gyngyr,
  11. Difa oedd ei gynrain gan ŵyr,
  12. A chyn ei olo o dan Eleirch - Fre
  13. Ydoedd wryd yn ei arch.
  14. Gorolches ei grau ei seirch,
  15. Buddfan fab Bleiddfan ddihafarch.

Mae’n werth nodi, yn gyntaf oll, fod dau ysgolhaig – Ifor Williams a John T. Koch – wedi awgrymu mai cyfuniad o wahanol awdlau sydd yma mewn gwirionedd. Ym marn Ifor Williams, y mae llinellau 1-9 yn deillio o un awdl a llinellau10-15 yn perthyn i ryw awdl arall. Y mae John T. Koch, ar y llaw arall, yn awgrymu mai llinellau 1-5 a 10-15 yn unig oedd yn yr awdl wreiddiol a bod llinellau 6-9 wedi eu hychwanegu atynt o ryw ffynhonnell arall. O gofio pa mor gymhleth yw hanes trosglwyddo’r Gododdin, ac o gofio ei bod hi’n gerdd a gafodd ei hailwampio a’i hailgyfansoddi ar sawl achlysur, y mae’n gwbl bosibl fod yma ddarnau o wahanol awdlau wedi eu dwyn ynghyd. Eto, wrth sylwi ar rai o themâu Awdl XXIV (gweler y nodiadau ar Gefndir a Themâu) ac wrth fynd ati i drafod rhai o’i nodweddion llenyddol, y mae modd dadlau bod yma fwy o undod nag sy’n taro’r llygad ar yr olwg gyntaf.

Fel yn achos Awdl I, un o nodweddion canolog yr awdl hon yw’r gwrthgyferbyniad sy’n cael ei gyfleu ynddi rhwng y byw a’r marw (gweler y drafodaeth ar gefndir a themâu’r awdl). Ymhellach, fel yn achos Awdl I, gellir awgrymu bod y gwrthgyferbyniad hwnnw’n cael ei danlinellu gan arddull ieithyddol yr awdl. Y mae’n ddiddorol sylwi ar y modd y caiff yr un gystrawen ei hailadrodd yn y chwe brawddeg fer yn llinellau 3-5 (Bu trydar yn aerfre,). Y mae rhuthr Buddfan yn y frwydr – a chyffro’r frwydr ei hunan – yn cael eu cyfleu’n ardderchog drwy gyfrwng yr ailadrodd a’r brawddegau byrion hyn. (Fe welwch hefyd eu bod yn arwain at yr uchafbwynt anorfod hwnnw yn hanes arwyr Y Gododdin, sef marwolaeth ar faes y gad: bu bwyd i frain, bu budd i frân.) Yn llinellau 6-9 y mae’r naws yn wahanol iawn: A chyn edewid yn rhydon … ŵr o galon. Sôn am y tawelwch enbyd hwnnw sy’n dilyn y frwydr a wneir yn bennaf yma, ac mae’n ddiddorol nodi mai un frawddeg hir (gydag is-gymalau) sydd i’w chael yma. Yn briodol iawn, y mae’r frawddeg hir hon fel petai hi’n llonyddu a thawelu holl symudiad yr awdl.

Fel yn achos Awdl I, y mae yma, wrth gwrs, nodweddion arddull yr ydym yn eu cysylltu â thraddodiad y canu mawl. Ceir cymhariaeth yn yr ail linell: y mae Buddfan, o ran ei gyflymder, y debyg i geffyl: Ac ail tith orwyddan. Ceir yma sawl enghraifft – yn llinellau 3-5 yn bennaf – o’r troad ymadrodd sy’n cael ei alw yn arallenwad. Hynny yw, cyfeirir at Buddfan drwy ddisgrifiadau cryno yn hytrach na’i enwi’n uniongyrchol: bu’n gynnwrf (trydar); bu’n dân; bu’n fwyd brain ac yn elw (budd) i frân. Mae’r arallenwad yn llinell 7 – eryr – yn un cyffredin iawn yng nghanu’r beirdd (gweler y nodiadau ar y gair). Nodwedd gyffredin arall yn nhraddodiad y canu mawl yw geiriau cyfansawdd a cheir dwy enghraifft yma, sef talfrith (llinell 1) ac aerfre (llinell 3). Yr oedd yr hen feirdd yn hoff iawn hefyd o ddyfais gormodiaith yn eu cerddi mawl, ac y mae’r sôn yn llinell 14 – Gorolches ei grau ei seirch – am waed yn golchi arfau ac arfwisgoedd yn enghraifft o hynny.

Fe geir yma ddefnydd o amwysedd neu eiriau mwys. Trafodir hynny ymhellach yn y nodyn ar y gair ehud yn llinell 4 a’r gair arch yn llinell 13 (gweler y nodyn ar ystyr llinell 13). O gofio mai Buddfan yw enw gwrthrych yr awdl, y mae’n gwbl amlwg hefyd fod yna chwarae bwriadol ar eiriau yn llinell 5 (budd i frân).

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch