Y testun wedi'i olygu mewn orgraff ddiweddar

  1. Greddf gŵr, oed gwas;
    Ystyr llinell 1

    Gan fod mwy nag un ystyr i rai o’r geiriau – greddf a gŵr yn benodol – y mae’n amlwg na ellir rhoi un esboniad terfynol ac mae’n bosibl iawn fod yma chwarae bwriadol â gwahanol ystyron y geiriau hyn beth bynnag. Ond, yn gyntaf, dyma gynnig ar gyfieithu’r llinell yn gwbl lythrennol: ‘Greddf dyn, oedran llencyn’. Yn awr, sylwch mai disgrifiadau o Owain fab Marro, yr arwr a laddwyd, sydd yma; mae ei nodweddion yn cael eu personoli yn y geiriau hyn. Petaem am gyfleu hynny mewn dull mwy cwmpasog, gallem gynnig ‘un a oedd yn ddyn o ran ei reddf, [ond] llencyn o ran ei oedran’, neu ‘un a oedd yn arwr o ran ei gadernid, [ond] llencyn o ran ei oedran’. Fel y gwelwch, ceir gwrthgyferbyniad yn y llinell. Llencyn oedd Owain. Cafodd ei ladd cyn iddo gyrraedd oedran gŵr. Ond eto, ar faes y gad, roedd yn hen law ar drin arfau ac mor aeddfed â dyn. Wrth iddo ymladd, roedd y llencyn hwn yn arddangos cadernid yr arwr profiadol. A defnyddio ymadrodd Cymraeg diweddar, roedd Owain yn hen ben ar ysgwyddau ifanc.

    Y mae’r paradocs hwn yn nodwedd gyffredin iawn mewn barddoniaeth arwrol. Yn yr hen ganu englynol (o’r 9g. neu’r 10g.) sy’n sôn am gymeriad Llywarch Hen, mae Llywarch yn llefaru’r geiriau a ganlyn wrth iddo sôn am ei ieuenctid: Gwnawn weithred gŵr cyd byddwn gwas, ‘Gwnawn weithred gŵr er mai llencyn oeddwn i’. Hynny yw, yn ei ieuenctid byddai’n arfer ymladd gyda holl gadernid gŵr neu ddyn yn ei lawn oedran. Fe welwn, felly, fod yma syniad sy’n cael ei ailadrodd – syniad stoc. A dyna elfen bwysig iawn mewn canu arwrol a hen ganu mawl. Mae llawer o’r deunydd crai a’r themâu sydd mewn canu o’r fath yn cael ei ailgylchu. Canu adleisiol yw hwn sy’n dibynnu’n drwm ar syniadau a themâu stoc. Mewn beirniadaeth lenyddol ryngwladol defnyddir y gair Groeg topos (lluosog = topoi) am syniad neu thema a ailadroddir mewn llenyddiaeth. Mae’r topos – y syniad stoc – sydd yn llinell gyntaf yr awdl hon yn un rhyngwladol mewn gwirionedd, ac fe’i ceir mewn llenyddiaeth arwrol ar hyd y canrifoedd mewn ieithoedd amrywiol. Y llencyn sy’n arddangos profiad ac aeddfedrwydd gŵr – dyma’r topos a fedyddiwyd gan feirniaid yn dopos y puer senilis neu puer senex (geiriau Lladin yw puer ‘llanc’, senilis ‘henaidd’, senex ‘hen ŵr’).

  2. Gwryd amddias.
    Ystyr llinell 2

    Mewn disgrifiadau o ryfel mewn hen lenyddiaeth un peth sy’n cael ei gyfleu yn rymus o hyd yw sŵn y brwydro – sŵn arfau’n taro yn erbyn ei gilydd, ac wrth gwrs, sŵn rhyfelgri’r milwyr wrth iddynt ruthro i’r frwydr. Un felly yw Owain fab Marro, gwrthrych y llinellau hyn. Ar faes y gad ‘[un a’i] ddewrder yn floeddfawr’ ydyw, neu ‘[un] bloeddfawr ei ddewrder’.

  3. Meirch mwth myngfras
  4. A dan forddwyd mygrwas;
  5. Ysgwyd ysgafn llydan
  6. Ar bedrain mainfuan;
  7. Cleddyfawr glas glân,
  8. Eddi aur aphan.
  9. Ni bi ef a fi
  10. Cas yrhof a thi.
    Ystyr llinellau 9-10

    Mae ystyron yr holl eiriau unigol yn llinellau 9-10 yn weddol eglur, a phetaem yn eu cyfieithu’n gwbl lythrennol, byddent yn darllen fel hyn: ‘ni bydd fe fydd / casineb rhyngof fi a thi’. Beth ar y ddaear yw ystyr brawddeg fel yna! Gadewch i ni anwybyddu’r ‘ni bydd’ ar ddechrau’r frawddeg am y tro. Yr hyn a gaem wedyn fyddai ‘fe fydd / casineb rhyngof a thi’, sef brawddeg gadarnhaol. Yr hyn a wna’r bardd yn syml ddigon yw gosod ‘ni bydd’ (ni bi) ar ddechrau’r frawddeg hon er mwyn ei negyddu hi mewn ffordd bendant iawn (ac mae’n werth nodi bod brawddegau negyddol tebyg i’w cael mewn barddoniaeth Gymraeg gynnar). Fe geir yma yr hyn a elwir yn ‘lleihad’, sef gwneud gosodiad drwy wadu neu negyddu’r hyn sydd yn groes iddo, er enghraifft, ‘nid drwg o beth fyddai hynny’ = ‘peth da iawn fyddai hynny’. Yn y llinellau hyn felly, ‘ni bydd casineb rhyngof a thi’ = ‘fe fydd cyfeillgarwch mawr rhyngof a thi’.

  11. Gwell gwneif â thi,
  12. Ar wawd dy foli!
  13. Cynt ei waed i lawr
  14. Nogyd i neithiawr.
  15. Cynt i fwyd i frain
  16. Nog i argyfrain.
    Ystyr llinellau 13-16

    Yn y llinellau hyn (13–16), fe gawn weddau pellach ar y ddelfryd arwrol. Y mae’r paradocs y cyfeiriwyd ato yn y llinell gyntaf i’w weld yma eto. Un ifanc (a diniwed ar un ystyr) oedd yr arwr hwn, un nad oedd hyd yma wedi priodi â gwraig, ac eto bu farw mewn arwriaeth ar faes y gad. (Mae’n werth sylwi hefyd ar y disgrifiad o’r arwr Madog yn yr awdl ddilynol yn Llyfr Aneirin. Fe’i disgrifir, yn naturiol ddigon, fel milwr dewr a didostur mewn brwydr, ond eto yr oedd yn ‘ddiffun’ o flaen merch. Ystyr ‘diffun’ yw ‘dianadl’, a’r hyn a olygir yma yw bod yr arwr ifanc hwn, er ei holl ffyrnigrwydd ar faes y gad, eto’n colli’i anadl yng nghwmni merched oherwydd ei ddiniweidrwydd a’i wyleidd-dra.) Ond yr hyn a welir gliriaf yn y llinellau hyn yw’r elfen ganolog honno yn y ddelfryd arwrol, sef mai nod ac uchelgais pob arwr yw marw’n arwrol ar faes y gad; drwy hynny’n unig y ceir anfarwoldeb. Nid drwy briodas a chladdedigaeth ffurfiol ar ôl bywyd diantur y daw anfarwoldeb i’r arwr, ond drwy golli’i waed a cholli’i einioes mewn brwydr. Yn ein trafodaeth gyffredinol ar farddoniaeth arwrol a’r ddelfryd arwrol, yr ydym wedi sôn yn barod am yr arwr Achilles yn yr arwrgerdd enwog yr Iliad. Cafodd Achilles neges gan ei fam mewn breuddwyd fod un o ddwy dynged yn ei wynebu: aros yng Nghaerdroea i ymladd a marw a sicrhau clod tragwyddol iddo’i hun, neu fynd adref a byw yno heb anrhydedd nac arwriaeth i fod yn hen ŵr. Dewis y trywydd cyntaf a wnaeth Achilles, felly hefyd yr arwr Owain fab Marro yn yr awdl hon. Roedd yn well ganddo weld tywallt ei waed mewn brwydr nag ymrwymo i briodas; roedd marwolaeth drwy drais ar faes y gad yn llawer mwy anrhydeddus yn ei olwg na chladdedigaeth ffurfiol ar ôl byw bywyd anarwrol.

    Y mae’r syniad fod yr arwr yn ei roi ei hun – a hynny drwy farw ar faes y frwydr – yn fwyd i’r brain yn gysylltiedig ag un arall o’r themâu stoc hynny (topoi) a geir mewn barddoniaeth arwrol yn gyffredinol. Y mae’r un syniad i’w gael yn y darn arall o’r Gododdin y byddwch yn ei astudio. Yng ngwaith Beirdd y Tywysogion yn ystod y 12g. a’r 13g. y mae’r un syniad i’w gael, ond o ongl wahanol. Cyfeiria’r beirdd at y tywysogion droeon fel rhai a oedd yn bwydo’r brain; hynny yw, yr oeddent yn lladd cymaint o’u gelynion ar faes y gad fel bod bwyd helaeth ar gael i’r brain ac adar ysglyfaethus eraill. Syniad fformiwlaig sy’n cael ei ailadrodd wrth sôn am frwydro sydd yma, ond yr oedd o gymorth mawr i’r beirdd hefyd fod brain a brwydr yn cytseinio!

  17. Cu cyfaillt Ywain;
    Ystyr linellau 17

    Fel y gwelwch, fe ddaw’r ansoddair cu o flaen yr enw sy’n cael ei ddisgrifio ganddo: ‘annwyl gyfaill’ = ‘cyfaill annwyl’. Nid oes berf yn y llinell, ond y mae hi ymhlyg yn yr ystyr (hynny yw, fe geir yma’r hyn a elwir yn frawddeg enwol bur). Gyda’r ferf yn ddealledig gallwn roi’r ystyr a ganlyn i’r llinell, ‘Cyfaill annwyl [oedd] Owain’.

  18. Cŵl ei fod o dan fain.
  19. Marth im pa fro
  20. Lladd un mab Marro.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Y testun fel y mae yn Llyfr Aneirin

Responsive image
  1. Gredyf gwr oed gwas
  2. gwrhyt am dias.
  3. meirch mwth myngvras.
  4. a dan vordwyt megyrwas.
  5. ysgwyt ysgauyn lledan
  6. ar bedrein mein vuan.
  7. kledyuawr glas glan
  8. ethy eur a phan.
  9. ny bu ef a vi
  10. cas e rof a thi.
  11. Gwell gwneif a thi
  12. ar wawt dy uoli.
  13. kynt y waet elawr
  14. nogyt y neithyawr.
  15. kynt y vwyt y vrein
  16. noc y argyurein.
  17. ku kyueillt ewein
  18. kwl y uot a dan vrein.
  19. marth ym pa vro
  20. llad vn mab marro.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Ystyr y testun mewn Cymraeg modern

  1. [Un a chanddo] gadernid gŵr [ond] llencyn o ran oedran,
  2. [Un] bloeddfawr ei wrhydri.
  3. Meirch chwim mawr eu mwng
  4. O dan forddwyd llanc teg;
  5. Tarian ysgafn lydan
  6. Ar bedrain [ceffyl] main a buan;
  7. Cleddyfau llwydlas glân
  8. [Ac] ymylon o waith aur.
  9. Ni bydd
  10. Casineb rhyngof a thi.
  11. Gwell y gwnaf â thi,
  12. Dy foli ar gân!
  13. Cynt ei waed i’r llawr
  14. Nag [yr âi ef] i wledd briodas.
  15. Cynt yn fwyd i frain
  16. Nag i gladdedigaeth ffurfiol.
  17. Cyfaill annwyl oedd Owain;
  18. Drwg [o beth] ei fod o dan feini.
  19. Syndod im ym mha fro
  20. [Y gwelwyd] lladd unig fab Marro.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Cymharu

Y testun wedi'i olygu mewn orgraff ddiweddar
  1. Greddf gŵr, oed gwas;
  2. Gwryd amddias.
  3. Meirch mwth myngfras
  4. A dan forddwyd mygrwas;
  5. Ysgwyd ysgafn llydan
  6. Ar bedrain mainfuan;
  7. Cleddyfawr glas glân,
  8. Eddi aur aphan.
  9. Ni bi ef a fi
  10. Cas yrhof a thi.
  11. Gwell gwneif â thi,
  12. Ar wawd dy foli!
  13. Cynt ei waed i lawr
  14. Nogyd i neithiawr.
  15. Cynt i fwyd i frain
  16. Nog i argyfrain.
  17. Cu cyfaillt Ywain;
  18. Cŵl ei fod o dan fain.
  19. Marth im pa fro
  20. Lladd un mab Marro.
Ystyr y testun mewn Cymraeg modern
  1. [Un a chanddo] gadernid gŵr [ond] llencyn o ran oedran,
  2. [Un] bloeddfawr ei wrhydri.
  3. Meirch chwim mawr eu mwng
  4. O dan forddwyd llanc teg;
  5. Tarian ysgafn lydan
  6. Ar bedrain [ceffyl] main a buan;
  7. Cleddyfau llwydlas glân
  8. [Ac] ymylon o waith aur.
  9. Ni bydd
  10. Casineb rhyngof a thi.
  11. Gwell y gwnaf â thi,
  12. Dy foli ar gân!
  13. Cynt ei waed i’r llawr
  14. Nag [yr âi ef] i wledd briodas.
  15. Cynt yn fwyd i frain
  16. Nag i gladdedigaeth ffurfiol.
  17. Cyfaill annwyl oedd Owain;
  18. Drwg [o beth] ei fod o dan feini.
  19. Syndod im ym mha fro
  20. [Y gwelwyd] lladd unig fab Marro.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Cefndir a themâu

Hon yw awdl gyntaf Y Gododdin yn Llyfr Aneirin. Cyfansoddiad llenyddol gafodd ei addasu a’i newid yng nghwrs y canrifoedd yw’r Gododdin, ac mae’n bur debyg y dylid gosod yr awdl hon ymhlith y deunydd a gafodd ei ychwanegu at graidd gwreiddiol y gerdd. Gweler y cyflwyniad i’r Gododdin.

Yn rhai o awdlau’r Gododdin, caiff y fyddin gyfan a aeth i Gatraeth ei choffáu. Mewn awdlau eraill canolbwyntio ar arwyr unigol a wneir. Arwr unigol sy’n cael ei goffáu yma. Fel y dengys llinellau 17 a 20, ei enw oedd Owain fab Marro. Y mae’r bardd – neu’r persona barddol sy’n llefaru yn yr awdl – hefyd yn cyfleu bod gwir gyfeillgarwch rhyngddo ac Owain. Y mae’n ei gyfarch yn uniongyrchol yn yr ail berson yn llinellau 9-12, a dywed ei fod yn gyfaill annwyl iddo (llinell 17). Dyma rywbeth sy’n cael ei ailadrodd mewn mannau eraill yn Y Gododdin, sef y syniad fod y bardd yn coffáu arwyr a oedd hefyd yn wir gyfeillion iddo. Y mae hynny, yn ei dro, yn rhoi awgrym i ni o’r cwlwm personol tyn – yr ysbryd o frawdgarwch – a fodolai ymhlith arwyr Y Gododdin. Y mae’r un math o ymlyniad clòs ac agosatrwydd ymhlith llu dethol o filwyr yn cael ei bortreadu’n aml hefyd mewn llenyddiaeth arwrol yn gyffredinol.

Y peth cyntaf sy’n cael ei gyfleu yn yr awdl yw pa mor ifanc oedd yr arwr hwn. Y mae hynny’n gwbl gyson â’r hyn a ddywedir wrthym am arwyr eraill mewn rhannau eraill o’r Gododdin. Y mae’n gyson hefyd â’r modd y caiff yr arwr ei bortreadu mewn llenyddiaeth arwrol. Cawn ddarlun byw o Owain yn marchogaeth i’r frwydr yn y llinellau agoriadol, ac o astudio gweddill Y Gododdin, daw’n amlwg mai llu dethol o farchogion oedd y ‘gwŷr aeth Gatraeth’.

Yr hyn sy’n cael ei gyfleu’n ardderchog yn yr awdl hon yw’r gwrthgyferbyniad rhwng y byw (yn llinellau 1-8) a’r marw (yn llinellau 13-20), a chaiff y gwrthgyferbyniad hwn ei ategu gan rai nodweddion arddull (gweler yr adran ar arddull).

Mae yma fynegiant gwych hefyd o’r paradocs arwrol. Wrth ddarllen llinellau 1-8, cawn yr argraff fod y bardd yn disgrifio arwr sydd eto’n fyw. Ategir hynny yn llinellau 9-12 lle mae’r bardd yn cyfarch Owain yn yr ail berson ac yn datgan ei fwriad i lunio cerddi mawl iddo yn y dyfodol. Ar yr olwg gyntaf, y mae’r sylw hwnnw’n anghyson â’r hyn sy’n cael ei adrodd yn llinellau 13-20. Ym mha fodd y gellir canu mawl i rywun sydd wedi hen farw? Beth oedd diben rhoi darlun mor fyw i ni o Owain yn llinellau 1-8, a’r bardd yn gwybod yn iawn ei fod wedi ei ladd ar faes y gad?

Ond dyna’r paradocs arwrol wrth gwrs. Yn sgil ei arwriaeth, yn sgil ei barodrwydd i ymladd i’r eithaf a marw ar faes y gad y mae’r cof am Owain yn parhau am byth. Drwy ildio’i fywyd yn y fath fodd, fe sicrhaodd anfarwoldeb iddo’i hunan yng nghanu’r beirdd; fe haeddodd hwn glod a mawl a fydd yn sicrhau bod y cof amdano yn parhau am byth. Y mae’r awdl hon yn tystio i hynny. Fel y dengys llinellau 1-12, y mae’r Owain hwn yn parhau, ar un ystyr, yn fythol ifanc ac yn fythol fyw mewn darn o farddoniaeth. Ond, wrth gwrs, amod y ‘bywyd’ tragwyddol hwnnw yw’r hyn sydd yn cael ei ddarlunio yn llinellau 13-20, sef y ffaith iddo farw mewn modd mor arwrol yng Nghatraeth.

Fel y gwelwch wrth ddarllen y nodiadau, y mae yn yr awdl hon lawer o nodweddion confensiynol sydd i’w cael mewn hen farddoniaeth fawl ac yn fwy cyffredinol mewn llenyddiaeth arwrol. Sylwch ar y topos yn y llinell gyntaf: y llencyn ifanc sy’n meddu ar gryfder gŵr (gweler y nodyn ar linell 1); sylwch ar yr elfennau fformiwlaig (y sôn am neithior a brain) a ddefnyddir yn y llinellau sy’n darlunio marwolaeth Owain ar faes y gad. Wrth astudio arddull yr awdl, fe welwch hefyd fod y bardd wrth gyplysu rhai geiriau yn tynnu ar draddodiad ehangach. Dyma un o nodweddion pwysig Y Gododdin. Y mae’n waith sy’n tynnu’n helaeth ar gonfensiynau llenyddol penodol. Ac eto, ar yr un pryd, y mae yma hefyd farddoniaeth gofiadwy sydd â’r gallu i’n hysgwyd ni o hyd.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Arddull: Mesur y gerdd

Ceir yma gyfres o linellau byrion sy’n amrywio o ran hyd. Mae ychydig dros eu hanner yn cynnwys pum sillaf, a’r gweddill naill ai’n cynnwys pedair neu chwech o sillafau.

Fe welir hefyd fod dau brif guriad yn y rhan fwyaf o’r llinellau.

Sylwer, fodd bynnag, nad yw’r Gododdin wedi ei threfnu’n llinellau taclus yn Llyfr Aneirin. Mae wedi ei gosod allan fel y byddwn ni yn ysgrifennu rhyddiaith. Mae’n bosibl iawn, felly, mai cynrychioli hanner llinell ym meddwl y bardd a wnâi’r cymalau hyn a drefnwyd yn llinellau gennym ni, a bod dau gymal – Greddf gŵr, oed gwas; gwryd amddias – yn ffurfio’n llinell unigol yng ngolwg y bardd.

Ceir yma odlau diweddol sy’n newid fesul pedair llinell neu gymal; ond yn llinellau 13–14 a 19–20, mae’r odl ddiweddol yn cael ei chynnal dros ddwy linell yn unig.

  1. Greddf gŵr, oed gwas;
  2. Gwryd amddias.
  3. Meirch mwth myngfras
  4. A dan forddwyd mygrwas;
  5. Ysgwyd ysgafn llydan
  6. Ar bedrain mainfuan;
  7. Cleddyfawr glas glân,
  8. Eddi aur aphan.
  9. Ni bi ef a fi
  10. Cas yrhof a thi.
  11. Gwell gwneif â thi,
  12. Ar wawd dy foli!
  13. Cynt ei waed i lawr
  14. Nogyd i neithiawr
  15. Cynt i fwyd i frain
  16. Nog i argyfrain.
  17. Cu cyfaillt Ywain;
  18. Cŵl ei fod o dan fain.
  19. Marth im pa fro
  20. Lladd un mab Marro.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Arddull: Addurniadau mydryddol

Cytseinedd

Un o nodweddion amlwg barddoniaeth gynnar Gymraeg yw cytseinedd. Mae’r addurn hwnnw i’w weld yn y mwyafrif o’r llinellau gan ymestyn weithiau dros fwy nag un llinell neu gymal.

Mae’n dra phosibl hefyd fod cytseinedd yn cael ei ganiatáu rhwng cytsain gysefin a ffurf dreigledig. Er enghraifft yn llinell 4 daw forddwyd o morddwyd sydd felly’n cynnal cyflythreniad yr ‘m’ yn meirch, mwth, myngfras, f[m]orddwyd, mygyrwas. A gellir cynnig y byddai’r bardd yn ystyried fod cytseinedd rhwng wawd (o gwawd) yn llinell 12 a gwell a gwneif yn y llinell flaenorol, a waed (o gwaed) yn llinell 13 a’r llinell ddilynol.

Odl fewnol

Yr unig ddefnydd yma o odl fewnol yw llinell 6.

  1. Greddf gŵr, oed gwas;
  2. Gwryd amddias.
  3. Meirch mwth myngfras
  4. A dan forddwyd mygrwas;
  5. Ysgwyd ysgafn llydan
  6. Ar bedrain mainfuan;
  7. Cleddyfawr glas glân,
  8. Eddi aur aphan.
  9. Ni bi ef a fi
  10. Cas yrhof a thi.
  11. Gwell gwneif â thi,
  12. Ar wawd dy foli!
  13. Cynt ei waed i lawr
  14. Nogyd i neithiawr
  15. Cynt i fwyd i frain
  16. Nog i argyfrain.
  17. Cu cyfaillt Ywain;
  18. Cŵl ei fod o dan fain.
  19. Marth im pa fro
  20. Lladd un mab Marro.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch


Arddull: Iaith a nodweddion llenyddol

  1. Greddf gŵr, oed gwas;
  2. Gwryd amddias.
  3. Meirch mwth myngfras
  4. A dan forddwyd mygrwas;
  5. Ysgwyd ysgafn llydan
  6. Ar bedrain mainfuan;
  7. Cleddyfawr glas glân,
  8. Eddi aur aphan.
  9. Ni bi ef a fi
  10. Cas yrhof a thi.
  11. Gwell gwneif â thi,
  12. Ar wawd dy foli!
  13. Cynt ei waed i lawr
  14. Nogyd i neithiawr.
  15. Cynt i fwyd i frain
  16. Nog i argyfrain.
  17. Cu cyfaillt Ywain;
  18. Cŵl ei fod o dan fain.
  19. Marth im pa fro
  20. Lladd un mab Marro.

O ran iaith, un o nodweddion yr awdl hon yw natur uniongyrchol a diwastraff y traethu, yn enwedig o linell 13 ymlaen. Mae’n amlwg fod natur gryno’r mesur (hynny yw, y llinellau neu gymalau byr 4/5/6 sillaf) yn dylanwadu ar ei harddull ieithyddol ac ar y modd yr ydym yn ymateb iddi. Y mae rhuthr yr arwr ifanc i’r frwydr – a’i ruthr tuag at ei dranc creulon o gynnar – fel petai’n cael ei gyfleu gan guriadau’r mesur.

Ceir yma nodweddion arddull pwysig sy’n cael eu cysylltu â thraddodiad y canu mawl. Yn llinellau 1-2, gwelwn dair enghraifft o’r troad ymadrodd yr ydym yn ei alw’n arallenwad: i) Greddf gŵr; ii) oed gwas; iii) gwryd amdias. Ceir enghraifft o’r un troad ymadrodd (un mab Marro) yn llinell 20; a defnyddir arallenwad i gyfeirio at y ceffyl yn llinell 6 (mainfuan).

Fel y dangosir yn y nodyn ar linellau 9-10, gwelwn yma enghraifft o droad ymadrodd arall a ddefnyddiwyd gan y beirdd, sef lleihad: Ni bi ef a fi Cas yrhof a thi. Ceir clwstwr o eiriau cyfansawdd yn rhan gyntaf y gerdd (amddias, myngfras, mygrwas, mainfuan). Ond sylwer ar absenoldeb y geiriau cyfansawdd yn ail ran y gerdd wrth i’r bardd fynd ati i draethu’n fwy uniongyrchol a diwastraff. (Y mae hyn hefyd i’w gysylltu â’r gwrthgyferbyniadau sy’n rhan mor bwysig o gynnwys ac adeiledd yr awdl: gweler isod).

Fe welir ymhellach ôl dylanwad traddodiad y canu mawl gan y modd y cyplysir rhai geiriau yma. Sylwer, er enghraifft, ar y llinell meirch mwth myngfras. Yng nghanu Taliesin i Urien fe welwn yr ymadroddion meirch mwth a marchawg mwth. Fe welwn hefyd yn Llyfr Taliesin yr ymadroddion marchawg mwth a march myngfras. Pan aeth y bardd Llywarch ap Llywelyn ati i ganu mawl y tywysog Dafydd ap Llywelyn yn ystod y 1170au, dywed iddo gael ei anrhegu gan y tywysog â meirch breisgar . . . / mwth, myng-gan (meirch mawr cedyrn . . . / cyflym, gwyn eu mwng). Yr hyn sy’n cymell y math hwn o ailadrodd yn y lle cyntaf yw cytseinedd. Ond mae’n amlwg hefyd fod y beirdd yn mynd ati’n ymwybodol i ail-weithio ac adleisio hen ymadroddion, yn union fel yr aent ati i ailgyflwyno ac ailgylchu themâu a syniadau stoc yn eu cerddi.

Nodweddion sy’n rhyw fath o bont rhwng arddull a themâu yn y gerdd hon yw gwrthgyferbyniad a pharadocs.

Y mae’r topos yn y llinell gyntaf yn seiliedig ar y gwrthgyferbyniad rhwng gŵr a gwas (gweler y nodiadau geiriol). Ceir gwrthgyferbyniad amlwg rhwng cas ‘casineb’ a gwawd ‘cerdd o fawl’ yn llinellau 10 a 12. Y mae’r ddwy frawddeg yn llinellau 13-16 hefyd yn cynnwys cymalau gwrthgyferbyniol. Ond, yn bwysicach na dim oll, gwelir bod holl adeiledd yr awdl yn seiliedig ar wrthgyferbyniad: y llencyn llawn bywyd yn llinellau1-8; yr arwr marw yn llinellau 13-20 (a’r paradocs eithaf, wrth gwrs, yw bod i’r arwr marw hwn eto anfarwoldeb ym mawl y bardd).

Daw’r gwrthgyferbyniad hwn i’r amlwg yn yr arddull hefyd. Fel y nodwyd uchod, defnyddir geiriau cyfansawdd yn llinellau 1-8 ond gwelwn draethu llawer mwy moel yn llinellau 13-20. Y mae’n ddiddorol nodi hefyd fel y mae’r bardd yn cyfarch yn yr ail berson unigol yn llinellau 9-12 gan ddyfnhau’r ymdeimlad o hollt neu wrthgyferbyniad rhwng llinellau 1-8 a llinellau 13-20: Ni bi ef a fi Cas yrhof a thi. Gwell gwneif â thi Ar wawd dy foli. Mae hynny yn fodd o gyfleu’r syniad fod yma wir adnabyddiaeth ac agosatrwydd. Ond disgrifio Owain yn y trydydd person a wneir yn llinellau 1-8, ac eto yn llinellau 13-20: Cynt ei waed i lawr Nogyd i neithiawr. Mae’r newid amlwg hwn ym mherson y ferf yn llinellau 9-12 yn creu bwlch neu hollt yn y meddwl rhwng rhan gyntaf yr awdl a’r rhan olaf.

Golygwyd gan Yr Athro Peredur Lynch