Sêr ffilmiau

Manteision sêr i’r diwydiant

Gallwch chi ddefnyddio unrhyw seren i ddangos y ffyrdd y mae’r diwydiant yn defnyddio sêr: apelio at gynulleidfaoedd, sicrhau atyniad i swyddfeydd tocynnau a sicrhau llwyddiant masnachol.

Manteision sêr i’r diwydiant? Ysgrifennwch dair ffordd y mae modd i'r diwydiant ffilmiau ddefnyddio sêr.

Dros gyfnod o amser, mae sêr yn ennill dilynwyr ac felly’n denu cynulleidfaoedd i’w ffilmiau.

Mae sêr yn aml yn cael eu cysylltu â genres a rolau penodol, ac mae hyn felly'n gallu bod yn rhyw fath o law-fer mewn deunydd marchnata – mae cynulleidfaoedd yn hoff o bethau maen nhw’n gyfarwydd â nhw, pethau maen nhw wedi’u profi o’r blaen.

Bydd sêr wedi ymddangos o'r blaen mewn ffilmiau a oedd yn rhai llwyddiannus, ac felly maen nhw’n ymddwyn fel marc ansawdd sy’n rhoi sicrwydd a hyder i gynulleidfaoedd. Rhaid bod y ffilm yn dda os…