Gallwch chi ddatblygu astudiaeth fanylach wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, oherwydd yn aml bydd gan sêr ddelwedd gymhleth sydd wedi datblygu dros amser, ar draws rolau amrywiol. Mae gan rai sêr fywydau personol gwahanol iawn i’r ddelwedd sydd wedi’i chreu gan y diwydiant, a gall hyn arwain at ddehongliad mwy cymhleth o’r rolau maen nhw’n eu chwarae. Mae rhai sêr yn methu ag addasu a newid dros amser – mae eu gwerthoedd ideolegol yn methu â chytuno ag ysbryd yr oes, tra bod eraill yn parhau i daro deuddeg am wahanol resymau.