Sêr ffilmiau

Beth yw seren?

Mae’r dasg hon yn sefydlu rhai pwyntiau allweddol am y term ‘seren’. Cyn gwneud y dasg hon, gall dysgwyr astudio montage o sêr a cheisio eu cysylltu nhw â’r ffilmiau cywir [taflen adnoddau] er mwyn datblygu gwybodaeth am actorion a'r syniad o beth sy'n gwneud seren.

Yn y dasg cardiau gosodiad hon, gall y dysgwyr gytuno neu anghytuno â’r gosodiadau – does dim ateb pendant oherwydd mae’r elfennau hyn i gyd yn bwysig i ddealltwriaeth o ystyr y term ‘seren’. Gall y dysgwyr ychwanegu gosodiadau eraill drwy ddefnyddio’r offeryn ysgrifbin a thrwy ysgrifennu ar y bwrdd.

Felly beth yw seren? Rhowch y cardiau trafod mewn trefn i ddangos i ba raddau rydych chi’n cytuno â nhw.

Cytuno

  • Rhaid i seren fod yn adnabyddus yn fyd-eang
  • Rhaid i seren fod yn ddeniadol
  • Rhaid i seren fod wedi ennill gwobrau – canmoliaeth gan feirniaid
  • Bydd pobl yn gwylio ffilmiau os ydyn nhw’n hoffi'r sêr
  • Mae angen i seren gael delwedd arbennig
  • Dylai seren fod yn enwog am fwy nag un peth
  • Mae sêr yn bwysig i gynulleidfaoedd
  • Mae actorion yn gallu troi’n seren yn syth
  • Mae angen i sêr fod yn amryddawn – gallu newid eu delwedd a chwarae rolau amrywiol
  • Mae angen rhywbeth arbennig ar seren i’w gwneud nhw’n wahanol i actorion eraill

Anghytuno