Sêr ffilmiau

Y 5 actor mwyaf llwyddiannus

Mae modd archwilio’r holl actorion yn fanylach, naill ai fel dosbarth cyfan neu mewn aseiniadau unigol. Mae arddangosfa yn y dosbarth o ‘sêr’, yr actorion a nodwyd isod a’r ffilmiau y maen nhw'n gysylltiedig â nhw yn gallu bod yn offeryn dysgu gweledol defnyddiol.

Mae angen i seren yn Hollywood fod yn gallu agor ffilm. Mae’r actorion banciadwy hyn yn cael eu hystyried yn ddigon adnabyddus i allu denu cynulleidfaoedd i’r penwythnos agoriadol gan sicrhau llwyddiant yn y swyddfa docynnau [ac elw i fuddsoddwyr]. Mae yna wahaniaeth enfawr rhwng enillion sêr gwrywaidd ac enillion sêr benywaidd yn Hollywood a’r ffioedd maen nhw’n eu cael – gall hyn fod yn sail i drafodaeth bellach.
Gweler: http://www.theguardian.com/film/2015/aug/23/melissa-mccarthy-bridesmaids-star-kept-it-real-and-cleaned-up

Y pum actor gwrywaidd a benywaidd fwyaf llwyddiannus yn 2015 – allwch chi eu henwi nhw?

Actorion gwrywaidd a enillodd fwyaf yn 2015
1

Robert Downey Junior

$80 miliwn
2

Jackie Chan

$50 miliwn
3

Vin Diesel

$47 miliwn
4

Bradley Cooper

$41.5 miliwn
5

Adam Sandler

$41 miliwn
Actorion benywaidd a enillodd fwyaf yn 2015
1

Jennifer Lawrence

$52 miliwn
2

Scarlett Johansson

$35.5 miliwn
3

Melissa McCarthy

$23 miliwn
4

Bingbing Fan

$21 miliwn
5

Jennifer Aniston

$16.5 miliwn