Ar ôl ystyried i ddechrau pa agweddau wnaeth ddylanwadu ar eu penderfyniad i weld ffilm benodol, bydd gofyn i ddysgwyr drefnu’r pethau a ddylanwadodd arnynt yn nhrefn eu pwysigrwydd, yn rhoi cipolwg manylach ar fyd newidiol marchnata.
Efallai y bydd cyfryngau cymdeithasol yn bwysicach o ran targedu’r demograffig iau a dylanwadu arnynt. Tra bod mathau traddodiadol o farchnata fel rhaghysbysebion ffilm yn dal i fod yn bwysig, gallai cynulleidfa iau fod yn gwylio'r rhaghysbyseb hwn mewn lle gwahanol neu mewn ffordd wahanol. Mae pwysigrwydd cyfryngau cymdeithasol i farchnata ffilm yn cynyddu. Mae cyfryngau cymdeithasol yn fodd cyfathrebu dwyffordd sy’n gwahodd rhyngweithio a chyfathrebu rhwng cynulleidfaoedd. [http://www.tintup.com/blog/movies-and-social-media-marketing-films-with-new-media/]
Bydd trafodaethau’n debygol o ddangos y ffaith bod ffilmiau heddiw’n cael eu marchnata ar draws platfformau, gan ddwyn cynulleidfaoedd i mewn i ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol soffistigedig iawn. Mae cynulleidfaoedd yn dod yn rhan o bob cam nawr, wrth i ffilm gael ei hyrwyddo, ac yn y pen draw, yn rhan o lwyddiant y ffilm.
Gellir ymchwilio ymhellach i ymgyrchoedd arloesol yn y cyfryngau cymdeithasol a’u hastudio nhw ochr yn ochr â'r dulliau mwy traddodiadol o raghysbysebion ffilm. [Mae The Shorty Awards yn cydnabod ymgyrchoedd arloesol yn y cyfryngau cymdeithasol. Gweler: http://industry.shortyawards.com/category/6th_annual/film. Mae hwn hefyd yn faes diddorol ar gyfer ymchwilio i ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol addas i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth fel astudiaethau achos ehangach.]