Mae’r model syml hwn yn atgyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr o bwrpas sylfaenol marchnata, gan fynd â nhw'n ôl at bwysigrwydd ffigurau swyddfeydd tocynnau, wrth fesur llwyddiant masnachol ffilm. Mae hyn hefyd yn lleoli rhaghysbysebion a phosteri yng nghyd-destun hysbysebu a marchnata.
Nod marchnata yw codi ymwybyddiaeth o ryddhau'r ffilm.
Creu diddordeb yn y ffilm ei hun.
Cynhyrchu awydd i weld y ffilm a gweithredu i brynu tocyn sinema. [AIDA]
Beth yw’r pedwar gair allweddol?
- C------- (Y ffilm ei hun sydd angen ei gwerthu i gynulleidfaoedd.) Cynnyrch (Y ffilm ei hun sydd angen ei gwerthu i gynulleidfaoedd.)
- A------ (Pryd yn ystod y flwyddyn mae ffilm yn cael ei rhyddhau e.e. ffilmiau blocbyster yr haf yn yr haf, ffilmiau arswyd yn ystod mis Hydref, ffilmiau i’r teulu yn ystod cyfnodau gwyliau – Nadolig/penwythnosau gŵyl banc.) Amseriad (Pryd yn ystod y flwyddyn mae ffilm yn cael ei rhyddhau e.e. ffilmiau blocbyster yr haf yn yr haf, ffilmiau arswyd yn ystod mis Hydref, ffilmiau i’r teulu yn ystod cyfnodau gwyliau – Nadolig/penwythnosau gŵyl banc.)
- H------- (Sut mae ffilmiau’n cael eu marchnata: rhaghysbysebion, posteri, hysbysebion teledu, nwyddau, cysylltiadau (tie-ins), gwefannau.) Hyrwyddo (Sut mae ffilmiau’n cael eu marchnata: rhaghysbysebion, posteri, hysbysebion teledu, nwyddau, cysylltiadau (tie-ins), gwefannau.)
- C------------- (Cyfweliadau/ymddangosiadau teledu, datganiadau i’r wasg, erthyglau, adolygiadau.) Cyhoeddusrwydd (Cyfweliadau/ymddangosiadau teledu, datganiadau i’r wasg, erthyglau, adolygiadau.)
Dyddiad rhyddhau Star Wars Episode VII yw 18 Rhagfyr 2015. Pam maen nhw wedi dewis y dyddiad rhyddhau hwn? Rhowch resymau.