Mae sain yn arbennig o bwysig i’r ffilm hon gan fod rhu’r anghenfil yn agwedd eiconig ar y creadur y byddai dilynwyr [sydd eisoes yn gyfarwydd â masnachfraint Godzilla] yn ei ddisgwyl. Mae’r ymgyrch farchnata a’r agweddau rhyngweithiol ar wefan swyddogol y ffilm yn amlwg yn manteisio yma ar yr apêl hon i ddilynwyr.
Mae’r stiwdio [drwy’r wefan swyddogol] yn defnyddio rhu’r anghenfil fel ffordd o annog dilynwyr i gymryd rhan weithredol ac i ddefnyddio deunydd swyddogol i greu pethau ar y we a allai fynd yn feiral. Mae hyn yn ffordd o godi ymwybyddiaeth yn ystod y cyfnod o gyffro cyn rhyddhau’r ffilm.
Mae bloedd ryfel nerthol Godzilla nawr ar gael i chi ei rhannu, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld beth allwch chi ei wneud â hi. Os oes gennych chi syniad cŵl am sut i ailgymysgu’r clip sain hwn, gwneud fideo teyrnged neu unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano, rhannwch eich creadigaeth gan ddefnyddio #godzilla neu trydarwch ni yn @legendary.