Mae delweddau llonydd yn caniatáu i chi ddadansoddi nodweddion allweddol rhaghysbyseb yn fanwl, a'r ffordd y mae’r rhaghysbyseb wedi’i strwythuro. Gallwch ofyn i’r dysgwr anodi’r lluniau llonydd gan ddefnyddio terminoleg allweddol i roi sylwadau am bwrpas a gwaith pob ffrâm.
Allwch chi enwi’r saethiadau camera?
- saethiad agos
- saethiad canolig
- saethiad ymateb
- saethiad safbwynt
- saethiad ongl isel
- saethiad o’r awyr
- saethiad sefydlu
- Termau eraill:
- mise en scène
- rhyngdeitlau
- genre
- eiconograffeg y genre
- codau lliw
- codau cyffro
- codau enigma
- codau mynegeiol
Sut mae’r delweddau a ddefnyddiwyd yn y rhaghysbyseb yn codi disgwyliadau’r gynulleidfa?
Ystyriwch y canlynol:
Pa wybodaeth mae logo Warner Brothers yn ei hychwanegu at ddisgwyliadau’r gynulleidfa o’r ffilm?
Allwch chi adnabod unrhyw godau genre?
Pa gliwiau sy’n cael eu rhoi am genre'r ffilm?
Pa wybodaeth sy’n cael ei rhoi am leoliadau?
Oes yna syniad o naratif?
Pa wybodaeth ychwanegol mae’r rhyngdeitlau'n ei rhoi i gynulleidfaoedd am y ffilm?
Sut mae’r rhaghysbyseb yn annog cynulleidfaoedd i ymgysylltu?
Oes gan y rhaghysbyseb strwythur clir?