Gofynnwch i’r dysgwyr wrando ar sain y rhaghysbyseb heb ddangos yr elfen weledol. Mae’r gweithgaredd hwn yn ddefnyddiol gan ei fod yn ffocysu sylw’r dysgwyr ar bwysigrwydd codau sain o fewn rhaghysbyseb. Mae’r cwestiynau’n gweithredu fel prompt ynglŷn â beth mae nodweddion sain yn gallu ei wneud… eu pwrpas a’u heffaith.
Gwrandewch ar raghysbyseb gyda'r sain yn unig.
Godzilla
Beth alla i ei glywed | Pwrpas/effaith |
---|---|
Beth yw eich disgwyliadau o’r ffilm o’r synau rydych chi’n gallu eu clywed?
Pa gliwiau sydd ynglŷn â genre'r ffilm?
Ydych chi’n cael syniad o’r stori?
Ydy’r sain yn creu disgwyliadau?
Pa wybodaeth go iawn sy’n cael ei rhoi? Beth ydych chi wedi’i ddysgu am y ffilm o’r sain yn unig?