Dadansoddi perfformiad

Cyflwyniad

Mae dadansoddi perfformiad yn cynnwys y gallu i nodi cryfderau chwarae/perfformio a meysydd lle mae angen gwelliannau gan unigolion a thimau. Mae'r ffynhonnell adborth i'r hyfforddwr, athro ac, yn y pen draw, y perfformiwr.

Cynnwys

  • Dulliau ansoddol a meintiol (corfforol, tactegol, technegol ac ymddygiadol)
  • Dehongli data

Diagram o'r broses hyfforddi

Mae gan ddadansoddi perfformiad rôl allweddol yn y broses hyfforddi ac yn llywio pob agwedd ar y model.

The Coaching Process

Dadansoddiad corfforol o berfformiad

Mae'r maes hwn yn ymdrin â monitro a gwerthuso perfformiad dynol. Mae hyn yn cael ei wneud yn bennaf drwy brofion ffitrwydd. Mewn chwaraeon elît modern, mae'r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli yn fach iawn, ac mae paratoadau corfforol yn elfen allweddol o lwyddiant. Mae profion ffitrwydd yn rhoi proffil ffitrwydd cyffredinol o'r chwaraewr i hyfforddwyr. Bydd y proffiliau hyn yn benodol i'r gamp honno neu hyd yn oed safle'r chwaraewr, e.e. bydd proffil ffitrwydd prop rygbi yn wahanol i un asgellwr oherwydd gofynion gwahanol y ddau safle. Mae ffurfiau modern o brofion yn mynd yn fwy cymhleth a manwl, gan ddefnyddio offer monitro a chofnodi arbenigol. Mae profion arbenigol o'r fath yn cael eu galw'n Brofion labordy. Gall yr hyfforddwr a'r perfformiwr ddefnyddio'r wybodaeth hon i:

  • nodi cryfderau a gwendidau mewn ffitrwydd;
  • gwneud newidiadau mawr neu benodol i raglen hyfforddi;
  • datblygu proffil ffitrwydd parhaus o'r perfformiwr;
  • gosod nodau tra phenodol.

Yn anochel, mae gan offer o'r fath anfanteision, sy'n ymwneud yn bennaf â chost a natur arbenigol y profwyr a'r offer. Mae hyn yn golygu mai dim ond y sbortsmyn elît gorau sy'n gallu elwa ar brofion parhaus o'r fath.

Dadansoddi agweddau technegol a thactegol ar berfformiad

Sut mae hyfforddwyr a chwaraewyr yn defnyddio dadansoddiadau perfformiad

Yn y bôn, dadansoddi perfformiad yw creu cofnod dibynadwy o berfformiad drwy gyfrwng arsylwadau y gellir eu dadansoddi, gyda rhaglenni hyfforddi a dewisiadau tîm yn cael eu haddasu, ar sail yr arsylwadau hyn.

Gellir rhannu dadansoddiad perfformiad tactegol a thechnegol yn ddwy ddisgyblaeth ar wahân ond cysylltiedig:

  • Dadansoddiad nodiannol/gêm, lle'r ydych chi'n dadansoddi perfformiad unigolyn neu dîm ar sail nifer o ddangosyddion perfformiad, e.e. ar gyfer tîm: amser mewn meddiant, nifer yr ergydion ac ati, neu ar gyfer unigolyn: nifer y taclau, pasio llwyddiannus, rhyng-gipiadau ac ati.
  • Dadansoddiad biomecanyddol, lle'r ydych chi'n dadansoddi perfformiad sgil neu weithgaredd, e.e. tafliad gwaywffon, ac yn dadansoddi'r perfformiad ar sail pwyntiau allweddol y sgil, e.e. safle'r pen, breichiau, coesau adeg rhyddhau'r waywffon. Mae hyn yn aml yn cynnwys defnydd tra arbenigol o fideo i fesur onglau cymalau, cynhyrchiant grym, cylchdro'r corff, ac ati.

Mae'r ddwy ddisgyblaeth yn defnyddio dulliau tebyg i gasglu data, ac mae'r ddwy yn dibynnu ar TG i ddadansoddi data.

Dadansoddiad nodiannol

Mewn chwaraeon unigol a chwaraeon tîm, mae'n anodd, os nad yn amhosibl, i hyfforddwyr sylwi a chofio'r holl ddigwyddiadau allweddol sy'n digwydd mewn sesiwn hyfforddi neu gêm, gyda dim ond eu gwybodaeth am chwaraeon a'u pwerau arsylwi. Nid yw arsylwadau a chof pobl yn ddigon dibynadwy i roi'r wybodaeth fanwl sydd ei hangen i ddatblygu perfformiad. Yn ôl astudiaeth gan Franks a Miller (1986), roedd hyfforddwyr pêl-droed yn llai na 45% yn gywir yn eu hasesiad ar ôl y gêm o'r hyn ddigwyddodd yn y gêm ei hun. Mae ffactorau sy'n effeithio ar ganfyddiad hyfforddwr yn cynnwys:

  • Mae'n anodd cofio'r wybodaeth enfawr mewn gêm/perfformiad.
  • Gall emosiynau yn ystod y gêm/perfformiad effeithio ar grebwyll.
  • Syniadau rhagdybiedig a rhagfarn bersonol chwaraewyr a gwrthwynebwyr.
  • Mae gwahanol hyfforddwyr yn edrych ar wahanol ddangosyddion perfformiad, e.e. byddai hyfforddwr sy'n canolbwyntio ar ymosod yn edrych ar bethau gwahanol i hyfforddwr sy'n canolbwyntio ar amddiffyn.

O ganlyniad mae systemau dadansoddi nodiannol wedi'u ffurfio i roi llawer mwy o wrthrychedd (ystadegau penodol, ac ati) yn hytrach na dadansoddiad goddrychol yr hyfforddwr. Mae dadansoddiad nodiannol wedi datblygu'n gyflym dros y degawd diwethaf ac mae wedi'i hwyluso gan ddatblygiadau yn yr adnoddau TG sydd ar gael i hyfforddwyr. Gall fod ar ffurf nodiant amser real â llaw neu gyfrifiadur (yn digwydd yn ystod y digwyddiad) neu ddadansoddiad fideo/cyfrifiadurol (ar ôl y digwyddiad). Mae dadansoddiad nodiannol bellach yn cael ei gydnabod fel cynhorthwy i wella perfformiad ar bob lefel.

Dulliau dadansoddi nodiannol

Gellir dadansoddi perfformiad mewn sawl ffordd wahanol gan ddefnyddio dadansoddiad nodiannol:

  • Asesiad unigol o chwaraewyr yn y tîm, e.e. saethwyr mewn pêl-droed.
  • Asesiad o agwedd ar berfformiad y tîm cyfan, e.e. monitro effeithiolrwydd sgorio mewn pêl-fasged.
  • Asesiad o berfformiad uned, e.e. amddiffyniad mewn pêl-rwyd.

Mae dadansoddiad nodiannol yn broses lle mae gêm yn cael ei dadansoddi (naill ai'n fyw, neu ar ôl y gêm), ar sail nifer o ddangosyddion perfformiad sydd wedi'u pennu.

Dadansoddiad amser real

Roedd dadansoddiad nodiannol byw yn arfer cael ei wneud gyda phen a phapur, ond gyda dyfodiad technoleg ddiweddar a dadansoddwyr perfformiad arbenigol, mae'r defnydd o feddalwedd cyfrifiadurol yn gyffredin mewn chwaraeon lefel uchel.

Caiff templed ei greu ac mae perfformiad pob chwaraewr yn cael ei nodi ar sail y templed. Mae'r hyfforddwr yn cofnodi â llaw holl ddigwyddiadau'r gêm, gan gyflwyno crynodebau i hyfforddwyr eraill a chwaraewyr lle bo angen yn ystod y gêm.

Manteision dadansoddiad amser real:

  • Mae gwybodaeth ar gael i'r hyfforddwyr ar unwaith.
  • Mae hyfforddwyr yn gallu gweithredu ar sail y wybodaeth hon i newid chwaraewyr, tactegau ac ati.
  • Gellir dadansoddi'r gwrthwynebwyr ac, unwaith eto, gellir gwneud newidiadau yn unol â hynny.

Anfanteision dadansoddiad amser real:

  • Mae faint o wybodaeth y gellir ei chofnodi yn gyfyngedig.
  • Mae'n anodd prosesu, cymaint o wybodaeth ar gyfer y sawl sy'n cofnodi.
  • Mae angen hyfforddiant arbenigol i wneud dadansoddiad cyfrifiadurol.
  • Mae angen llawer o ymarfer i allu gwneud nodiadau manwl â llaw.

Dadansoddiad fideo/cyfrifiadurol ar ôl gêm/perfformiad

Mae dadansoddiad nodiannol ar ôl gêm yn golygu defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol arbenigol gyda recordiad o'r gêm gyda'r hyfforddwr neu ddadansoddwr perfformiad yn nodi nifer o ganlyniadau. Ar ôl gwylio a 'chodio' gemau, mae dadansoddwyr perfformiad yn cynhyrchu casgliadau fideo/cyfrifiadurol o agweddau ar chwarae i'w defnyddio maes o law. Yn ogystal, mae data ystadegol yn cael ei gasglu o'r gemau. Cyn datblygiadau gyda meddalwedd gyfrifiadurol, byddai hyfforddwyr yn defnyddio fideo neu DVD o bob gêm ac yn rhoi adborth ar sail hynny. Gyda dyfodiad meddalwedd gyfrifiadurol fodern, bydd chwaraewyr yn ogystal â hyfforddwyr yn adolygu eu perfformiad nhw'u hunain a pherfformiad y tîm. Mae'n ddull defnyddiol iawn i chwaraewyr ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddatblygu eu perfformiad chwaraeon nhw'u hunain.

Clip 1 – Gêm dadansoddi cic

Clip 2 – Hyfforddiant dadansoddi cic

Clip 3 – Dadansoddi llinell gwrthwynebwyr

Dadansoddiad cyfrifiadurol amser real

Defnyddir meddalwedd sy'n galluogi dadansoddi gemau'n fyw, drwy recordio'r gêm yn uniongyrchol ar liniadur, fel bod modd i'r hyfforddwr recordio holl ddigwyddiadau'r gêm a chreu casgliad fideo yn y fan a'r lle. Mae gwybodaeth o'r fath yn aml yn cael ei rhannu gyda chwaraewyr adeg hanner amser neu yn ystod seibiannau yn y chwarae.

Systemau lleoli byd-eang (GPS) mewn chwaraeon

Mae systemau GPS yn rhywbeth cyffredin mewn chwaraeon elît erbyn hyn; defnyddir y systemau hyn i gasglu gwybodaeth am y chwaraewyr naill ai mewn sefyllfa gêm neu sefyllfa hyfforddi. Mae systemau GPS modern yn mesur pellter a deithiwyd, cyflymder dros bellteroedd penodol, cyfradd curiad y galon a hyd yn oed grym unrhyw wrthdrawiad neu ardrawiad. Gellir defnyddio gwybodaeth o'r fath i lywio rhaglenni cryfder a chyflyru penodol a gellir ei defnyddio i newid tactegau, hyd ac arddwysedd sesiynau hyfforddi neu hyd yn oed pwy sy'n cael eu dewis i'r tîm.

Manteision dadansoddiad fideo/cyfrifiadur ar ôl y gêm

  • Cofnod parhaol o berfformiad, y gellir ei ddefnyddio i gymharu lefelau perfformiad ddoe a heddiw.
  • Cofnod parhaol o berfformiad y gwrthwynebwyr.
  • Gellir defnyddio gwahanol onglau camera i roi persbectifau gwahanol, e.e. lluniau o'r awyr.
  • Gall arafu a rhewi'r lluniau roi dadansoddiad manwl-gywir
  • Diolch i systemau cyfrifiadurol modern drwy GPS, mae modd olrhain chwaraewr bob eiliad o'r gêm. Nodi pellter a deithiwyd, gwahanol arddwysedd gwaith, cyfradd curiad y galon a grymoedd ardrawiad, ac ati.
  • Gall hyfforddiant fod yn fwy penodol o lawer o ran hyd yr amser ar y cae a'r arddwysedd (gan efelychu sefyllfa gêm).
  • Gall chwaraewyr ei ddefnyddio ar gyfer hunan-ddadansoddi, sy'n aml yn fath mwy pwerus o ddadansoddiad nag adborth hyfforddwr.

Anfanteision dadansoddiad fideo/cyfrifiadur ar ôl y gêm

  • Gall rhaglenni dadansoddi cyfrifiadurol modern fod yn ddrud.
  • Mae angen hyfforddiant penodol i wneud defnydd llawn o'r offer.
  • Mae'n cymryd llawer o amser. Gall gymryd hyd at 20 awr i ddadansoddi'n llawn gêm gyfan o unrhyw gamp.

Defnydd cyffredinol o ddadansoddi perfformiad

Cyn gêm Yn ystod gêm Tymor byr ar ôl gêm Tymor hir ar ôl gêm
Addysg Hanner amser adborth Ôl-drafodaeth tîm Archwiliadau chwaraewyr
Tactegol Llawn-amser adborth Ôl-drafodaeth Uned Archwiliadau tîm
Cymhelliant Ôl-drafodaeth chwaraewr Ymchwil
Gwrthwynebiad Tueddiadau

Proses dadansoddi nodiannol a phenderfynu ar ddangosyddion perfformiad allweddol (KPIs)

Cam cyntaf dadansoddiad nodiannol yw amlinellu'r digwyddiadau posibl mewn gêm a blaenoriaethu pa rai i'w cynnwys yn y dadansoddiad. Mae hyn yn golygu diffinio'r amrediad o weithredoedd posibl yn y gêm a chysylltu'r gweithredoedd hyn â chanlyniadau posibl - er enghraifft, byddai cic gôl geidwad, tafliad allan, ac ati yn cyfrif fel gweithred, ac mae cadw meddiant rhag yr amddiffynwyr, ymosod yng nghanol cae yn ganlyniadau. Yn y rhan fwyaf o gemau, mae nifer y gweithredoedd a chanlyniadau posibl bron yn ddiddiwedd, sy'n sicrhau bod rhaid i'r hyfforddwr flaenoriaethu'r rheini sy'n dylanwadu fwyaf ar y gêm. Er enghraifft, mewn rygbi, yr amddiffynwyr yn atal llinell fantais o sefyllfaoedd cyfnod 1af. Ym mhêl-rwyd, cyfradd lwyddo'r bàs ganol. Yn yr un modd, gall hyfforddwr dderbyn data am naill ai chwaraewyr unigol neu'r tîm yn ei gyfanrwydd. Dyma enghraifft o'r broses y gallai rheolwr pêl-droed ei dilyn wrth benderfynu beth mae e eisiau ei ddadansoddi: (gweler y dudalen nesaf)

The Coaching Process

O ddefnyddio'r digwyddiadau a'r canlyniadau hyn, mae modd creu templed papur - neu dempled electronig os oes pecyn meddalwedd yn cael ei ddefnyddio - ac mae'r hyfforddwr yn defnyddio'r templed i ddadansoddi'r gêm. Bob tro y bydd gweithred yn digwydd yn y gêm, mae'r dadansoddwr yn nodi'r weithred a'r canlyniad, e.e. Gweithred = pàs dros 5m / Canlyniad = cywir. Drwy ddadansoddi'r canlyniadau i gyd, mae'n bosibl y bydd modd nodi meysydd sydd angen eu haddasu yn y tîm. Mae'r math hwn o ddadansoddiad yn galluogi'r hyfforddwr i greu dadansoddiad ystadegol gwrthrychol o'r gêm i'w ddefnyddio wrth roi adborth, boed hynny yn ystod y gêm neu mewn sesiynau hyfforddi neu gyfarfodydd tîm wedi hynny.

Cyflwyno a dehongli data

Mae'n bwysig bod yn ofalus ynghylch sut caiff data ei gyflwyno oherwydd, ar ei ben ei hun, mae'n gallu rhoi darlun gwyrgam o berfformiad.

Mae cymharu perfformiadau rhwng timau, aelodau tîm ac o fewn unigolion yn aml yn haws ac yn fwy cywir os caiff dangosyddion perfformiad eu mynegi yn nhermau canran llwyddiant i fethiant, fel meddiant i golli meddiant, enillwyr i gamgymeriadau, a phasiau a dderbyniwyd i basiau a gwblhawyd. Er enghraifft, mewn pêl-rwyd, efallai fod y saethwr gôl wedi sgorio 50 o'r 70 gôl mewn gêm, sy'n ymddangos yn dda iawn. Fodd bynnag, pe bai'r saethwr wedi cael 100 ymgais i sgorio, ei chyfradd rwydo yw 50%. Er efallai fod yr ymosodwr gôl wedi sgorio dim ond 20 gôl ond wedi cael 30 ymgais yn unig, mae hyn yn rhoi cyfartaledd o 66%, sy'n gyfartaledd gwell. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd cael data ystadegol llawn. Yr hyfforddwyr fyddai i benderfynu wedyn sut mae defnyddio'r data hwn. Ydy hi'n well cael mwy o geisiadau a mwy o fethiannau neu lai o geisiadau gyda chyfradd lwyddo uchel?

Mae lluniau fideo yn cael eu cyflwyno ar deledu gan amlaf, er bod cyflwyniadau ar gyfrifiadur yn galluogi llawer mwy o hyblygrwydd wrth gyflwyno gwybodaeth i chwaraewyr. Gellir defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i wella'r wybodaeth weledol sy'n cael ei dangos i chwaraewyr, drwy amlygu sefyllfaoedd allweddol yn y gêm a'u defnyddio at ddibenion adborth. Yn aml, bydd y fideo ei hun yn cael ei rannu'n adrannau fel ei fod yn haws i'w wylio, e.e. ymosod ac amddiffyn. Yna byddai'r rhain yn cael eu rhannu eto'n fwy o rannau a byddai'r broses yn parhau felly nes bod yr hyfforddwr yn hapus bod y lluniau fideo yn amlygu pwyntiau allweddol. Gall ystadegau o ddadansoddiadau nodiannol gael eu cyflwyno i chwaraewyr neu hyfforddwyr eraill yn weledol drwy gyfrwng siartiau neu graffiau.

Mae lleihau cyfanswm yr ystadegau a gyflwynir i'r rheini sy'n amlygu prif amcanion y dadansoddiad yn bwysig i hyfforddwyr, oherwydd bod cael llawer iawn o ystadegau yn aml yn gallu drysu chwaraewyr a hyfforddwyr. Yn ogystal, efallai na fydd ystadegau o gategorïau sy'n rhy gyffredinol yn cynnig rhyw lawer o wybodaeth, e.e. nid yw siart yn dangos nifer y pasiau yn berthnasol iawn i hyfforddwr, ond mae'r math o bàs, ble mae'n digwydd, cwblhau pasiau ac ati yn ddangosyddion perfformiad mwy defnyddiol o lawer.

Dadansoddiad biomecanyddol

Biomecaneg yw'r wyddor sy'n ymwneud â'r grymoedd mewnol ac allanol ar y corff dynol ac effeithiau'r grymoedd hyn. Ar lefelau uchaf chwaraeon lle mae technegau'n bwysig iawn, mae gwelliant yn deillio o sylw manwl i fanylion, felly ni all unrhyw hyfforddwr fentro gadael y manylion hyn i ffawd neu ddyfalu. I hyfforddwyr o'r fath, gallai gwybodaeth am fiomecaneg gael ei ystyried yn hanfodol. Mae'r maes dadansoddi perfformiad hwn yn gyffredin mewn chwaraeon unigol gan mwyaf sy'n gofyn am symudiadau cymhleth sy'n defnyddio'r corff cyfan, e.e. gymnasteg, digwyddiadau maes athletau a gwibio, ac ati. Mae camerâu, synwyryddion a rhaglenni cyfrifiadurol tra arbenigol wedi'u dylunio i ddarparu manylion a data eithriadol am dechneg perfformiwr. Yna caiff y data hwn ei ddefnyddio gan yr hyfforddwr a'r athletwr i wella meysydd fel effeithlonrwydd symud, cynhrychu mwy o rym, ac aerodynameg. Mae'r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli mor fach ar lefelau uchaf chwaraeon nes bod athletwyr a hyfforddwyr yn chwilio am bob mantais bosibl. Dyma rai o'r prif feysydd y mae dadansoddiad biomecanyddol yn ymdrin â nhw.

Buanedd a Chyflymder

Mae buanedd a chyflymder yn disgrifio'r gyfradd y mae'r corff yn symud o un lleoliad i'r llall. Yn aml, mae pobl yn meddwl bod y ddau derm yr un fath, ond mae hynny'n anghywir. Ceir buanedd cyfartalog y corff drwy rannu'r pellter gyda'r amser a gymerwyd, a cheir cyflymder cyfartalog drwy rannu'r dadleoliad gan yr amser a gymerwyd, e.e. meddyliwch am nofiwr mewn ras 50m mewn pwll 25m o hyd sy'n cwblhau'r ras mewn 60 eiliad - y pellter yw 50m a'r dadleoliad yw 0m (mae'r nofiwr yn ôl y man dechrau) felly'r buanedd yw 50/60= 0.83m/e a'r cyflymder yw 0/60=0 m/e

  • Buanedd a chyflymder = pellter a deithiwyd ÷ amser a gymerwyd

Cyflymiad

Diffinnir cyflymiad fel y gyfradd y mae cyflymder yn newid mewn perthynas ag amser.

  • Cyflymiad cyfartalog = (cyflymder terfynol - cyflymder cychwynnol) ÷ amser a aeth heibio

O 2il ddeddf Newton:

  • Grym = Màs x Cyflymiad
  • Cyflymiad = Grym ÷ Màs

Os yw màs gwibiwr yn 70kh a bod y grym a roddir ar y blociau cychwyn yn 700N, yna cyflymiad = 700 ÷ 70 = 10 mheil²

Liferi

Er mwyn i chi symud eich braich, coes neu unrhyw ran o'r corff, rhaid i'r cyhyrau a'r esgyrn priodol weithio gyda'i gilydd fel cyfres o liferi. Mae gan lifer dair cydran:

  • Ffwlcrwm neu golyn - y pwynt y mae'r lifer yn cylchdroi o'i amgylch.
  • Llwyth - y grym sy'n cael ei osod gan y system lifer.
  • Ymdrech - y grym sy'n cael ei osod gan ddefnyddiwr y system lifer.

Mae'r ffordd y bydd lifer yn gweithio yn dibynnu ar y math o lifer.

Dosbarthu liferi

Dosbarth 1 - Mae'r ffwlcrwm rhwng yr ymdrech a'r llwyth.

Enghreifftiau o liferi sy'n cael eu defnyddio wrth hyfforddi â phwysau

Estyn y cyhyr triphen gyda dymbel yn eistedd

Dosbarth 2 - Mae'r ffwlcrwm ar yr un pen, yr ymdrech ar y pen arall ac mae'r llwyth rhwng yr ymdrech a'r ffwlcrwm.

Enghreifftiau o liferi sy'n cael eu defnyddio wrth hyfforddi â phwysau

Codi'r sawdl yn sefyll

Dosbarth 3 - Mae'r ffwlcrwm ar yr un pen, yr ymdrech ar y pen arall ac mae'r llwyth rhwng yr ymdrech a'r ffwlcrwm.

Enghreifftiau o liferi sy'n cael eu defnyddio wrth hyfforddi â phwysau

Cyrlio'r cyhyr deuben yn eistedd

Dadansoddi mewn seicoleg chwaraeon

Camau i ddatrys problemau

  • Nodi problem (un go iawn vs. un a ragwelir; synhwyraidd vs. emosiynol)
  • Cyfeiriadedd damcaniaethol (datganiad damcaniaethol, h.y. "pam a sut")
  • Asesiad / dadansoddiad seicolegol
    1. Cyfweliad cyntaf
    2. Arsylwi ar ymddygiad
    3. Profion
  • Strategaethau ymyrryd

Cyfweliad cyntaf

Diffiniad: Cyfarfod llafar wyneb yn wyneb sydd wedi'i gynllunio'n ofalus, ei weithredu'n fwriadol ac yn gelfydd ac sy'n canolbwyntio ar nodau drwyddo draw yw cyfweliad.

Mae cyfweliad yn fwy pwrpasol a threfnus na sgwrs arferol, ond yn llai ffurfiol a safonol na phrawf seicolegol.

Mathau o gyfweliad cyntaf

  • Cyfweliad hanes achos (ffeithiau cadarn, dyddiadau, digwyddiadau, ac ati)
  • Cyfweliad diagnostig (mynegiant, osgo, hwyliau ac emosiynau, deallusrwydd, tueddiadau meddyliol annormal)
  • Cyfweliad cyn prawf ac ar ôl prawf (cynnal prawf personoliaeth)
  • Cyfweliad argyfwng (lleihau'r posibilrwydd o drychineb ac atal argyfwng)
  • Cyfweliad cyn therapi (ennyn gwybodaeth benodol)

Technegau cyfweld

  • Rapport: "When the atmosphere is permissive, reasonably harmonious, and characterized by mutual interest, the interviewing relationship is described as ên rapport." Berg, 1954.
  • Cyfathrebu: *iaith, *tawelwch, *gwrando, *cwestiynau, *cyfathrebu di-eiriau

Cyfathrebu di-eiriau

  • Mae hwn yn bwysig iawn i bennu ystyr yn y cyd-destun rhyngbersonol (h.y. llais, mynegiant wyneb, symudiadau'r corff

Arsylwi ar ymddygiad

Gellir arsylwi ymddygiad mewn perthynas â:

  • llafar, e.e. ochneidio, goslef, dwysedd;
  • mynegiant wyneb, e.e. gwneud wynebau;
  • ystumiau, e.e. rhwbio;
  • osgo, e.e. *rhy stiff, *ystumiau cydadferol, sy'n cael eu cyfeirio atynt fel grymuso (bracing) neu gochel (guarding)
  • ymsymudiad, e.e. cloffni;
  • gweithgaredd medrus penodol, e.e. *pitran llyfn vs. chwit chwat, *amrediad mudiant (h.y. osgled).

*Anghymesuredd amlwg, *buanedd annormal, *cywirdeb, *mudiant y corff cyfan vs. mudiant cyfyngedig

Strategaethau i wella dibynadwyedd yr arsylwad

  • Penderfynu ar ymddygiadau targed sy'n berthnasol ac yn gynhwysfawr.
  • Bod yn gyfarwydd â'r fformat arsylwadol safonol gwrthrychol.
  • Rhagnodi'n bendant yr uned ddadansoddi, y system sgorio, y raddfa raddio ac ati.
  • Bod yn ymwybodol o ffynonellau posibl o wallau yn yr arsylwadau, fel rhagfarn.
  • Ystyried y posibiliadau ar gyfer adweithedd, h.y. dylanwad yr ymwybyddiaeth eich bod yn cael eich arsylwi.
  • Ystyried yn ofalus pa mor gynrychiadol yw'r arsylwad (o ran cyffredinoli)

Profion personoliaeth

  • Eysenck (EPI) - niwrotiaeth a mewnblygrwydd (r = .50).
  • Rhestr Pryder Cyflwr-Nodwedd (STAI) - Spielberger a Lushene, 1970.
  • Proffil Cyflwr Hwyliau (POMS) - McNair, Lorr a Droppleman, 1971 - tensiwn, iselder, dicter, egni, blinder, dryswch, aflonyddu hwyliau yn llwyr.
  • Rhestr Cymhelliant Athletig (AMI) - Tutko ac Ogilvie, 1969:
    • y gallu i ymdopi â straen emosiynol
    • ymroddiad i'r hyfforddwr a'r gamp
    • dyhead i lwyddo yn y byd athletau.
  • Prawf Pryder Cystadleuaeth Chwaraeon - Martens 1977:
    • "Tendency to perceive competitive situation as threatening and to respond with feelings of apprehension or tension", Ludwig, 1981.

Yna byddai ymyriadau'n cael eu gwneud i wella cyflwr seicolegol y sbortsmon, e.e. technegau ymlacio, ymarfer yn feddyliol a siarad â'i hun yn gadarnhaol.

Adolygu cyflym

  • Gall dadansoddiad perfformiad roi gwybodaeth am agweddau technegol, tactegol, corfforol ac ymddygiadol chwaraeon.
  • Mae dadansoddiad corfforol yn cael ei gyflawni'n bennaf drwy brofion ffitrwydd a data GPS o sesiynau hyfforddi a gemau.
  • Dadansoddiad nodiannol yw'r dull o gofnodi gwybodaeth o gêm. Gall fod yn ddadansoddiad amser real neu'n ddadansoddiad ar ôl gêm. Dim ond 30-45% yn gywir mae arsylwadau hyfforddwyr. Mae yna broblemau eraill yn gysylltiedig ag arsylwadau hyfforddwyr hefyd:
    • Mae'n anodd cofio'r wybodaeth enfawr mewn gêm/perfformiad.
    • Gall emosiynau yn ystod y gêm/perfformiad effeithio ar grebwyll.
    • Syniadau rhagdybiedig a rhagfarn bersonol chwaraewyr a gwrthwynebwyr.
    • Mae gwahanol hyfforddwyr yn edrych ar wahanol ddangosyddion perfformiad, e.e. byddai hyfforddwr sy'n canolbwyntio ar ymosod yn edrych ar bethau gwahanol i hyfforddwr sy'n canolbwyntio ar amddiffyn.
  • Mae data technegol a thactegol yn deillio o ddadansoddiadau fideo/cyfriadurol/GPS. Mae'n darparu data gwrthrychol o wybodaeth ystadegol.
  • Gellir dadansoddi pob agwedd ar gêm, o berfformiad unigolyn i berfformiad uned i berfformiad y tîm.
  • Mae biomecaneg hefyd yn darparu data technegol o ran grymoedd, onglau cymalau, ac aerodynameg, i enwi dim ond rhai.
  • Gellir gwneud dadansoddiad a phroffil seicolegol drwy arsylwadau hyfforddwyr, holiaduron a chyfweliadau.