Cynnwys
- Pam profi ffitrwydd
- Gweithdrefnau cywir o ran cynnal profion ffitrwydd
- Sut ydym ni’n dehongli a defnyddio’r canlyniadau
- Profi mewn labordai
I gynnal datblygiad ffitrwydd corfforol, rhaid i athletwyr ddeall pwysigrwydd profi ffitrwydd. Mae’r gallu i ddilyn y gweithdrefnau cywir a sut i ddehongli canlyniadau’n holl bwysig i’r athletwr a’r hyfforddwr fel ei gilydd.
Caiff prawf ei ystyried yn ddibynadwy os ydy’r canlyniadau’n gyson ac wedi’u hailadrodd ar wahanol gyfnodau. Dylech gael yr un canlyniad neu un tebyg yn dilyn dau brawf gwahanol. Mae hyn yn bwysig gan eich bod, yn aml, yn chwilio am fân newidiadau yn y sgorau.
Mae dilysrwydd yn golygu bod y profion yn mesur yr hyn a fwriadwyd ei fesur. Mae profion yn gallu bod yn ddibynadwy ond nid yn ddilys (e.e. er bod y dynamometr llaw yn cynnig canlyniadau dibynadwy, nid yw’n ddilys oherwydd nad yw’n brawf dilys o gryfder coesau gan ei fod ond yn mesur y gafael).
Os nad ydych yn gwybod beth ydy ystyr y rhifau yn y canlyniadau, mae’r profion yn ddiwerth. Rhaid i’r canlyniadau olygu rhywbeth fel eu bod yn cael eu defnyddio i newid rhaglen hyfforddi. Er mwyn cael syniad o ystyr y canlyniadau hyn, rhaid i ni eu cymharu â:
Cynhelir y profion mwyaf dilys a dibynadwy mewn labordy. Mantais profion o’r fath yw eu bod yn mesur y cydran. Fodd bynnag, maen nhw’n gymharol ddrud, yn cymryd llawer o amser ac fel arfer, yn gofyn am y defnydd o gyfarpar drud.
Prawf o bŵer aerobig athletwyr ydy’r prawf VO2 max . Yma, mae disgrifiad o sut i fesur VO2 max yn uniongyrchol. Mae llawer o brofion ffitrwydd aerobig eraill yn defnyddio’u canlyniadau’n sail i amcangyfrif y sgôr VO2 max.
Pwrpas: nod pwyso o dan y dŵr ydy mesur dwysedd y corff ac o’r ffigwr hwnnw cyfrifo canran y braster sydd ynddo.
Y prawf Wingate, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Prawf Anaerobig Wingate, efallai ydy’r asesiad mwyaf poblogaidd o bŵer anaerobig uchaf, blinder anaerobig a chapasiti anaerobig.
Pŵer anaerobig uchaf: mae’n cynrychioli’r pŵer uchaf a gynhyrchwyd yn ystod unrhyw gyfnod o 3-5 eiliad o’r prawf
Capasiti anaerobig: mae’n cynrychioli’r cyfanswm o waith dros gyfnod o ymdrech sy’n para 30 eiliad.
Blinder anaerobig: mae’n cynrychioli canran y dirywiad mewn pŵer mewn cymhariaeth â’r allbwn uchaf o bŵer a’r allbwn isaf o bŵer.