Cyfarwyddiadau
Prif nod y rhan fwyaf o fusnesau yw gwneud elw. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i fusnes dderbyn mwy o arian (cyfanswm y derbyniadau) na'i gostau er mwyn cynhyrchu ei nwyddau a'i wasanaethau (cyfanswm y costau). Llenwch y data yn y tablau er mwyn plotio'r llinellau sefydlog a newidiol, llinell cyfanswm y costau a llinell cyfanswm y derbyniadau er mwyn gweithio allan y trothwy elw ar gyfer y gwerthwr hufen iâ.