Pennod 10 – Derbyniadau, costau a dadansoddiad adennill costau

Adennill Costau

Cyfarwyddiadau

Prif nod y rhan fwyaf o fusnesau yw gwneud elw. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid i fusnes dderbyn mwy o arian (cyfanswm y derbyniadau) na'i gostau er mwyn cynhyrchu ei nwyddau a'i wasanaethau (cyfanswm y costau). Llenwch y data yn y tablau er mwyn plotio'r llinellau sefydlog a newidiol, llinell cyfanswm y costau a llinell cyfanswm y derbyniadau er mwyn gweithio allan y trothwy elw ar gyfer y gwerthwr hufen iâ.

Pennod 10 PDF, tudalennau 6-7

Adennill Costau

I weld faint o hufen iâ y mae’n rhaid i’r gwerthwr eu gwerthu er mwyn adennill costau, hynny yw fel nad yw’n gwneud unrhyw elw nac unrhyw golled, bydd yn rhaid i ni gyfuno’r graffiau sy’n dangos y cyfanswm y costau a’r chyfanswm y derbyniadau. A allwch chi nodi’r trothwy elw yn y graff hwn? Teipiwch eich ateb a chlicio ANFON.

Trothwy elw

Feedback text

Beth fyddai'n digwydd petai 300 o gornedi o hufen iâ yn cael eu gwerthu?

Beth fyddai'n digwydd petai 100 o gornedi o hufen iâ yn cael eu gwerthu?

Defnyddiwch y diagram a'r ffigurau hyn i egluro'r ffin diogelwch.