Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth

a : : : a

Iechyd a Diogelwch a Phrofiad yr Ymwelydd

Gweithgaredd 1

Astudiwch y carwsél o ddelweddau isod, gan wneud nodiadau am y peryglon Iechyd a Diogelwch a nodir yn safle Big Pit.

Crynhowch y prif beryglon yn eich barn chi.

Gweithgaredd 2

Gwyliwch y fideo o’r grŵp o fyfyrwyr a’u tywysydd ar y daith dan y ddaear.

Astudiwch rôl y cyn-löwr sy’n dywysydd y grŵp, gan ganolbwyntio ar:

  • ansawdd y wybodaeth a roddir
  • y wybodaeth Iechyd a Diogelwch a roddir
  • lefel gyffredinol y gwasanaeth i gwsmeriaid

a. Aseswch y tywysydd o ran ansawdd y wybodaeth a roddir.
b. Aseswch y tywysydd o ran y cyngor Iechyd a Diogelwch a roddir.
c. Aseswch y tywysydd o ran lefel gyffredinol y gwasanaeth i gwsmeriaid.

Gweithgaredd 3

Rhaid cael cyfaddawd rhwng dilysrwydd ac iechyd a diogelwch. Mae Peter Walker yn egluro.

Eglurwch yr ymadrodd ‘cyfaddawd rhwng dilysrwydd ac iechyd a diogelwch’.



Gwefan gan Gwerin