English Cymraeg
jigsaw pie chart

Accuracy, reliability and validity

When you are planning and evaluating your investigation, you need to consider 5 areas:

  1. Accuracy
  2. Reliability
  3. Validity
  4. Limitations*
  5. Bias*

Accuracy is about knowing how to use the equipment and surveys correctly, so your data is correct.

Reliability is about making sure you follow a plan, so that someone else can repeat the investigation.

Validity is about making sure what you decide to measure is going to help you answer your enquiry question.

*Limitations are about how time, location and resource use could be improved on next time.

*Bias is about how the data might be affected by someone’s opinion.

*requires teacher guidance

Cywirdeb, dibynadwyedd a dilysrwydd

Pan fyddwch yn cynllunio ac yn gwerthuso eich ymchwiliad, bydd angen i chi ystyried 5 agwedd:

  1. Cywirdeb
  2. Dibynadwyedd
  3. Dilysrwydd
  4. Cyfyngiadau*
  5. Tuedd*

Mae cywirdeb yn ymwneud â gwybod sut i ddefnyddio'r cyfarpar a'r arolygon yn gywir, felly mae eich data yn gywir.

Mae dibynadwyedd yn ymwneud â sicrhau eich bod yn dilyn cynllun, er mwyn i rywun arall allu ail-wneud yr ymchwiliad.

Mae dilysrwydd yn ymwneud â sicrhau bod yr hyn rydych yn penderfynu ei fesur yn mynd i'ch helpu i ateb eich cwestiwn ymholiad.

Mae *cyfyngiadau yn ymwneud â sut y gellir gwella'r defnydd o amser, lleoliad ac adnoddau y tro nesaf.

Mae *tuedd yn ymwneud â sut y gall barn rhywun effeithio ar y data.

*mae angen canllawiau athrawon


Accuracy

Accuracy is about how close a measurement is to the actual value (or true value).

  • Count everything: Have you counted everything in your sample without missing anything?
  • Read correctly: Have you correctly read any instruments used?

    measuring ore
  • Record carefully: Have you recorded the results carefully in the correct units?

    recording
  • Secondary data: Do you know where secondary data came from and is it up to date?

Cywirdeb

Mae cywirdeb yn ymwneud â pha mor agos yw mesuriad at y gwir werth (neu'r gwerth gwirioneddol).

  • Cyfri popeth: A ydych chi wedi cyfri popeth yn eich sampl heb fethu unrhyw beth?
  • Darllen yn gywir: A ydych chi wedi darllen unrhyw offerynnau a ddefnyddiwyd yn gywir?

    Measuring ore
  • Cofnodi'n ofalus: A ydych chi wedi cofnodi'r canlyniadau'n ofalus yn yr unedau cywir?

    recording
  • Data eilaidd: A ydych chi'n gwybod o ble mae'r data eilaidd yn dod ac a yw'n gyfredol?

Reliability

Reliability is how repeatable the data collection methods are and how reproducible your results are.

(1) Repeatable data (can you do it again?)

  • Repeat it: Can you carry out the same data collection methods a second (or third) time?
  • Representative sample: Did you use the right sampling technique to represent the whole population?
  • Sample size: How confident are you that your sample size was big enough?

    sample size
  • Timing: Was your data collected often enough?

    clock

(2) Reproducible results (if you do it again are your results similar?)

  • Average: Have you calculated an average if your data varies a lot? data triangle
  • Anomalies: Have you identified your anomalies?
  • Check calculations: Have you checked any calculations you have used?

    equation
  • Similar results: How similar are these results to the first ones?

Dibynadwyedd

Dibynadwyedd yw pa mor ailadroddadwy yw'r dulliau casglu data a pha mor atgynyrchadwy yw eich canlyniadau.

(1) Data ailadroddadwy (allwch chi ei wneud eto?)

  • Ailadrodd: Allwch chi gyflawni'r un dulliau casglu data am ail (neu drydydd) waith?
  • Sampl cynrychiadol: A wnaethoch chi ddefnyddio'r dechneg samplu gywir i gynrychioli'r boblogaeth gyfan?
  • Maint y sampl: Pa mor hyderus ydych chi fod maint eich sampl yn ddigon mawr?

    sample size
  • Amseru: A gasglwyd eich data yn ddigon aml?

    clock

(2) Canlyniadau atgynyrchadwy (os ydych chi'n ei wneud eto a yw eich canlyniadau'n debyg?)

  • Cyfartaledd: A ydych chi wedi cyfrifo cyfartaledd os yw eich data'n amrywio'n fawr?

    data triangle
  • Anomaleddau: A ydych chi wedi nodi'ch anomaleddau?
  • Gwirio cyfrifiadau: A ydych chi wedi gwirio unrhyw gyfrifiadau rydych chi wedi'u defnyddio?

    equation
  • Canlyniadau tebyg: Pa mor debyg yw'r canlyniadau hyn i'r rhai cyntaf?

Validity

Validity is the extent to which the results actually measure what they are supposed to.

  • Concepts: Is your enquiry question based on a geographical concept or process?
  • Variables: Can you identify measurable variables in your enquiry question?

    vegitation pattern
  • Controls: Have you controlled some of the variables identified in your enquiry question?
  • Conclusions: How closely do your conclusions link to a geographical concept or process?

Dilysrwydd

Dilysrwydd yw'r graddau y mae'r canlyniadau yn mesur yr hyn y maen nhw i fod yn ei wneud mewn gwirionedd.

  • Cysyniadau: A yw eich cwestiwn ymholiad yn seiliedig ar gysyniad neu broses ddaearyddol?
  • Newidynnau: Allwch chi nodi newidynnau mesuradwy yn eich cwestiwn ymholiad?

    vegitation pattern
  • Rheolaethau: A ydych chi wedi rheoli rhai o'r newidynnau a nodwyd yn eich cwestiwn ymholiad?
  • Casgliadau: Pa mor agos mae eich casgliadau yn cysylltu â chysyniad neu broses daearyddol?