The aim of this digital resource is to guide you or your students through the steps involved in creating a good geographical enquiry title.

Each section builds on the contents of the previous one to lead to the generation of a suitable enquiry title.

The resource also assists in the identification of what data needs to be collected, the methodology and sampling strategies as well as how the data can be presented and analysed.

Activities are included in the resource to guide you to ask questions about what you are doing and why it is relevant to the enquiry title you are considering.

Each section includes text boxes into which content necessary for the enquiry planning sheet will be entered by the participant. This information can then be printed off and used in the planning stage of the enquiry process.

Additional information on specific terminology can be accessed by rolling over words which are in bold and underlined.

Nod yr adnodd digidol hwn yw eich tywys chi neu'ch myfyrwyr drwy'r camau i'w dilyn i lunio teitl da ar gyfer ymholiad daearyddol.

Mae pob adran yn seiliedig ar gynnwys yr adran flaenorol er mwyn arwain at lunio teitl addas ar gyfer yr ymholiad.

Mae'r adnodd hefyd yn helpu i nodi pa ddata y mae angen eu casglu, y fethodoleg a'r strategaethau samplu, yn ogystal â sut y gellir cyflwyno a dadansoddi'r data.

Mae'r adnodd yn cynnwys gweithgareddau i'ch helpu i ofyn cwestiynau am yr hyn rydych yn ei wneud a pham ei fod yn berthnasol i deitl yr ymholiad rydych yn ei ystyried.

Mae pob adran yn cynnwys blychau testun y bydd y cyfranogwr yn eu defnyddio i nodi'r cynnwys sydd ei angen ar gyfer taflen cynllunio'r ymholiad. Wedyn, gellir argraffu'r wybodaeth hon a'i defnyddio yn ystod cam cynllunio'r broses ymholi.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am derminoleg benodol drwy rolio dros unrhyw eiriau sydd mewn print du ac wedi'u tanlinellu.

FocusFfocws

Focus

The most common way to start to plan your enquiry is by deciding if you are interested in a Location or a specific Geographical context. You need to have both but you can start with either one.

Ffocws

Y ffordd fwyaf cyffredin o ddechrau eich ymholiad yw drwy benderfynu a ydych am ddewis Lleoliad neu Gyd-destun daearyddol penodol. Mae angen y ddau arnoch ond gallwch ddechrau gyda'r naill neu'r llall.


Activity 1: Geographical Context

Geographical context can be described by specific Geography words, for example processes or concepts. Look through the five Geography words below and decide which word(s) help explain your Geographical context.

Processes

Concepts

Policies

Issues

Perceptions

Gweithgaredd 1: Cyd-destun Daearyddol

Gellir disgrifio cyd-destun daearyddol gan ddefnyddio geiriau Daearyddiaeth penodol, er enghraifft prosesau neu gysyniadau. Edrychwch drwy'r pum gair Daearyddiaeth isod a phenderfynwch pa air / pa eiriau sy'n helpu i esbonio eich cyd-destun Daearyddol.

Prosesau

Cysyniadau

Polisïau

Materion

Canfyddiadau


Activity 1: Location

Every enquiry needs a location. Describe where you want to do your fieldwork. Use these headings to help you. Remember you can come back to add the exact location as you go through the process.

Urban: Located in an area with high population density.

River: Located within the drainage basin on a river system.

Coastal: Located in a coastal area between the ocean and the land. e.g Beach.

Habitat: Located within a named habitat with distinct environmental conditions. e.g. sand dune system, woodland, saltmarsh, mountain.

Rural settlement: Located in a village.

Geographical area: Location which will be included in your title and/or sub-questions e.g. Oxwich Beach

Site: The sites where you will undertake sampling.

Data Point: The exact location within your sites where you will undertake the data collection.

Example:

Geographical area

Definition: Large scale description of the location. e.g. South Wales, Oxwich National Nature Reserve.

WJEC

Site Location

Definition: The local area you will walk around to collect your data. e.g. Oxwich Fore dunes.

WJEC

Data Point

Definition: The exact place where you will be standing to undertake the data collection method. e.g. 10m from the strandline.

WJEC Further information

Gweithgaredd 1: Lleoliad

Mae angen lleoliad ar bob ymholiad. Disgrifiwch ble yr hoffech wneud eich gwaith maes. Defnyddiwch y penawdau hyn i'ch helpu. Cofiwch y gallwch ddychwelyd er mwyn ychwanegu'r union leoliad wrth i chi weithio drwy'r broses.

Trefol: Wedi'i leoli mewn ardal â dwysedd poblogaeth uchel.

Afon: Wedi'i leoli o fewn dalgylch afon ar system afon.

Arfordirol: Wedi'i leoli mewn ardal arfordirol rhwng y cefnfor a'r tir e.e. traeth.

Cynefin: Wedi'i leoli o fewn cynefin wedi'i enwi ag amodau amgylcheddol penodol. E.e. system twyni tywod, coetir, morfa heli, mynydd.

Anheddiad gwledig: Wedi'i leoli mewn pentref.

Ardal ddaearyddol: Lleoliad a gaiff ei gynnwys yn eich teitl a/neu eich is-gwestiynau e.e. Traeth Oxwich.

Safle: Y safleoedd lle y byddwch yn ymgymryd â gwaith samplu.

Pwynt Data: Yr union leoliad ar eich safleoedd lle y byddwch yn ymgymryd â'r gwaith casglu data.

Enghraifft:

Ardal ddaearyddol

Diffiniad: Disgrifiad eang o'r lleoliad. E.e. De Cymru, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich.

WJEC

Lleoliad y Safle

Diffiniad: Yr ardal leol y byddwch yn cerdded o'i hamgylch er mwyn casglu eich data. E.e. Blaen-dwyni Oxwich.

WJEC

Pwynt Data

Diffiniad: Yr union fan lle y byddwch yn sefyll wrth roi'r dull casglu data ar waith. E.e. 10m o'r draethlin.

WJEC Gwybodaeth bellach

Types of Enquiry QuestionMathau o Gwestiynau Ymholi

Type of Enquiry

Deciding what type of enquiry question(s) you are going to create will give you a framework to help plan. You will need to decide which of the five categories your location and geographical area of interest best fit into.

You may find you want to blend two types of enquiry; this is possible but you will need to be sure that you have a specific justification for this, otherwise the investigation may get too large and unfocused.

Math o Ymholiad

Bydd penderfynu pa fath o gwestiwn (cwestiynau) ymholi rydych yn bwriadu ei lunio (eu llunio) yn rhoi fframwaith i chi er mwyn helpu i gynllunio. Bydd angen i chi benderfynu pa un o'r pum categori sy'n gweddu orau i'r lleoliad a'r ardal ddaearyddol dan sylw.

Mae'n bosibl y byddwch yn penderfynu yr hoffech gyfuno dau fath o ymholiad; gellir gwneud hynny, ond bydd angen i chi wneud yn siŵr bod gennych gyfiawnhad penodol dros wneud hyn, neu gallai'r ymchwiliad fynd yn rhy fawr a cholli ei ffocws.


Activity 2: Finding out about types of enquiry questions

There are 5 different types of enquiry. Match the type of enquiry question to the definitions by dragging each one to its correct location.

Gweithgaredd 2: Dysgu am wahanol fathau o gwestiynau ymholi

Mae pump gwahanol fath o ymholiad. Parwch y math o gwestiwn ymholi â'r diffiniadau drwy lusgo pob un i'w leoliad cywir.

Types of Enquiry

Mathau o Ymholiad

Definitions

Diffiniadau

Correct answers

Atebion cywir


        Activity 3: Deciding what type of enquiry questions you will use

        A) Decide which types of enquiry questions you will use

        An analysis of what is happening in a place or to a group of people. Often includes some descriptive aspects.

        A known geographical theory or model is compared to a place OR two places are compared

        Attempts to explain how different things (variables) relate to each other and asks why this happens

        Exploration of a problem or issue affecting a place.

        Uses control variables to run experiments to test an independent variable.

        Dadansoddiad o'r hyn sy'n digwydd mewn man neu i grŵp o bobl. Mae'n aml yn cynnwys rhai agweddau disgrifiadol.

        Caiff damcaniaeth neu fodel daearyddol hysbys ei gymharu â man NEU ddau fan.

        Yn ceisio esbonio sut mae gwahanol bethau (newidynnau) yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn gofyn pam bod hyn yn digwydd.

        Archwiliad o broblem neu fater sy'n effeithio ar fan.

        Mae'n defnyddio newidynnau rheoli i gynnal arbrofion er mwyn profi newidyn annibynnol.

        B) Add extra information into the textbox, such as which model, issues or variables you might use.

        Gweithgaredd 3: Penderfynu pa fath o gwestiynau ymholi y byddwch yn eu defnyddio

        A) Penderfynwch pa fathau o gwestiynau ymholi y byddwch yn eu defnyddio.

        Dadansoddiad o'r hyn sy'n digwydd mewn man neu i grŵp o bobl. Mae'n aml yn cynnwys rhai agweddau disgrifiadol.

        Caiff damcaniaeth neu fodel daearyddol hysbys ei gymharu â man NEU ddau fan.

        Yn ceisio esbonio sut mae gwahanol bethau (newidynnau) yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn gofyn pam bod hyn yn digwydd.

        Archwiliad o broblem neu fater sy'n effeithio ar fan.

        Mae'n defnyddio newidynnau rheoli i gynnal arbrofion er mwyn profi newidyn annibynnol.

        B) Ychwanegu gwybodaeth ychwanegol yn y blwch testun, fel pa fodel, materion neu newidynnau y byddwch o bosibl yn eu defnyddio.


        Title & Sub-questionsTeitl ac Is-gwestiynau

        Title & Sub-questions

        For the purpose of these activities we are using a title and sub-questions. You will need to create a title and some sub-questions for your own investigation.

        Deciding on your enquiry question is an ongoing process through the planning. It is important to consider Data collection, Data presentation and Analysis when creating a title and a sub-question.

        Teitl ac Is-gwestiynau

        At ddiben y gweithgareddau hyn, rydym yn defnyddio teitl ac is-gwestiynau. Bydd angen i chi lunio teitl a rhai is-gwestiynau ar gyfer eich ymchwiliad penodol chi.

        Mae penderfynu ar eich cwestiwn ymholi yn broses barhaus drwy gydol y cam cynllunio. Mae'n bwysig ystyried Casglu data, Cyflwyno data a Dadansoddi wrth lunio teitl ac is-gwestiwn.


        Success criteria for your title

        Checklist for title:

        1. Explores a geographical context.
        2. Includes a specific location.
        3. Conforms to an enquiry type.
        4. Leads to the generation of sub-questions.
        5. Links to the geography specification.
        6. Manageable - The data required to answer the questions is collectable in the time frame.
        7. Allows you to access all parts of the enquiry process.
        8. Contains appropriate task words.

        If not go back and adjust or change it. You can do this at any stage during the enquiry process.

        Further Information

        Y meini prawf llwyddiant ar gyfer eich teitl

        Rhestr wirio ar gyfer teitlau:

        1. Mae'n archwilio cyd-destun daearyddol.
        2. Mae'n cynnwys lleoliad penodol.
        3. Mae'n cydymffurfio â math o ymholiad.
        4. Mae'n arwain at lunio is-gwestiynau.
        5. Mae'n gysylltiedig â'r fanyleb daearyddiaeth.
        6. Mae'n hydrin – mae modd casglu'r data sydd eu hangen i ateb y cwestiynau o fewn y terfyn amser.
        7. Mae'n eich galluogi i gwblhau pob rhan o'r broses ymholi.
        8. Mae'n cynnwys geiriau tasg priodol.

        Os nad yw'n cynnwys gair o'r fath, dychwelwch ato a'i addasu neu ei newid. Gallwch wneud hyn yn ystod unrhyw gam o'r broses ymholi.

        Gwybodaeth Bellach

        Activity 4: Creating a draft title.

        Create a draft title, using your geographical context, location and enquiry type. Remember your title could be written as a question.

        Use a task word in your title.

        Task words Download File

        Use the example below to help you structure your title.

        Geographical context: Perceptions.

        Location: England, Derbyshire, Peak district National Park, Castleton, Cross Street.

        Enquiry type: Descriptive.

        An investigation to identify the different perceptions that people have when visiting Castleton honeypot in Derbyshire.

        Gweithgaredd 4: Llunio teitl drafft

        Lluniwch deitl drafft, gan ddefnyddio eich cyd-destun daearyddol, eich lleoliad a'r math o ymholiad. Cofiwch y gallech ysgrifennu eich teitl ar ffurf cwestiwn.

        Defnyddiwch air tasg yn eich teitl.

        Gair tasg: Lawrlwytho'r Ffeil

        Defnyddiwch yr enghraifft isod i'ch helpu i strwythuro eich teitl.

        Cyd-destun daearyddol: Canfyddiadau.

        Lleoliad: Lloegr, Swydd Derby, Parc Cenedlaethol y Peak District, Castleton, Cross Street.

        Math o ymholiad: Disgrifiadol.

        Ymchwiliad er mwyn nodi'r gwahanol ganfyddiadau sydd gan bobl wrth ymweld ag ardal boblogaidd Castleton yn Swydd Derby.


        Activity 5: Creating sub-questions.

        Follow the steps in the table below to begin creating your sub-questions. Consider these success criteria. If you can’t fill in the sub-question confidently then you can go back and change your title.

        1. Identify the Geography words in your title. You should only have one or two in most cases.
        To what extent does deprivation impact people around central Bolton?
        1. Can you break the Geography words down? What affects or influences these words? A mind map might help here.
        WJEC
        1. Identify some areas of your mind map where you could collect data. Remember you won’t likely have time to collect data for all the elements on your mind map.

        Access to services: service provision

        Physical environment: environmental quality.

        Where people live: Housing

        1. Evaluate your sub-questions.

        Sub-questions:

        Does the amount of service provision change as we move away from the centre of Bolton?

        Does the environmental quality change as we move away from the centre of Bolton?

        Does the housing change as we move from the centre of Bolton?

        Gweithgaredd 5: Llunio is-gwestiynau

        Dilynwch y camau yn y tabl isod er mwyn dechrau llunio eich is-gwestiynau. Ystyriwch y meini prawf llwyddiant hyn. Os na allwch chi lenwi'r is-gwestiwn yn hyderus, yna gallwch ddychwelyd a newid eich teitl.

        1. Nodwch y geiriau Daearyddiaeth yn eich teitl. Dim ond un neu ddau a ddylai fod gennych yn y rhan fwyaf o achosion.
        I ba raddau y mae amddifadedd yn effeithio ar bobl yng nghanol Bolton?
        1. Allwch chi nodi'r geiriau Daearyddiaeth? Beth sy'n effeithio ar y geiriau hyn neu'n dylanwadu arnynt? Gallai map meddwl eich helpu yma.
        1. Nodwch rai o'r rhannau ar eich map meddwl lle y gallech gasglu data. Cofiwch na fydd gennych ddigon o amser fwy na thebyg i gasglu data ar gyfer holl elfennau eich map meddwl.

        Mynediad i wasanaethau: darparu gwasanaethau.

        Yr amgylchedd ffisegol: ansawdd amgylcheddol.

        Ble mae pobl yn byw: Tai.

        1. Gwerthuswch eich is-gwestiynau.

        Is-gwestiynau:

        A yw nifer y gwasanaethau a ddarperir yn newid wrth i ni symud allan o ganol Bolton?

        A yw'r ansawdd amgylcheddol yn newid wrth i ni symud allan o ganol Bolton?

        A yw'r tai yn newid wrth i ni symud allan o ganol Bolton?


        Data Collection Casglu Data

        DATA COLLECTION:

        You need some primary and secondary data to help you answer your enquiry, it could be qualitative or quantitative.

        Your data is likely to be a sample of all the possible available data.

        CASGLU DATA:

        Bydd angen rhywfaint o ddata sylfaenol ac eilaidd arnoch i'ch helpu i ateb eich ymholiad, gallai fod yn ddata ansoddol neu feintiol.

        Fwy na thebyg y bydd eich data yn cynnwys sampl o'r holl ddata posibl sydd ar gael.


        Activity 6: Linking your title to data collection

        Click on the button on the right to see your draft sub-questions. Identify the words that are relevant to collecting data. These are likely to be the Geography words that you choose for your sub-questions, which came from your mind-map. Remember you can go back to previous stages of the process to refine your answers, for example if you can’t identify variables from your question then refine your questions.

        Now complete the table, an example has been done already.

        Which age group has the most positive perceptions of X in the summer?

        What information and evidence do you need to collect to answer your question?

        This should link directly to the highlighted words in your title and sub-question.

        Age groups into under 16, 16-21. 21-35. 35-50, over 50, so that a variety of age groups can be identified.

        Perceptions of what people think about X, so I can see if X is more likely to appeal to a specific age group.

        What data?
        1. What data do you need to collect to answer your enquiry question? Use the highlighted words on your title and sub-questions to help you decide.
        2. What are the different aspects that make up the concept or process you are enquiring about? Are they variables that you have the equipment to measure?
        3. What type of data are you going to collect? Qualitative, quantitative, primary and secondary? For example, are you counting things, or taking pictures or asking questions?
        4. Does your data need to be linked to a specific location, if so, how are you going to link the data to that location?
        5. Do you have a sufficient range of primary data collection techniques?
        6. Is there secondary data available?
        7. A level: you might need to think carefully how this data can be analysed statistically.

        Which surveys, measurements or observations are you doing?

        Give instructions that others could follow. Is it a group effort or on your own?

        Questions using a Likert scale asking about feelings, environment and enjoyment.

        Likert scale survey allows a range of perceptions from negative to positive.

        How?
        1. Is the data collection practical and safe?
        2. Have you considered ethical and risk issues?
        3. Does your methodology require you to have more than one person present to help with data collection?
        4. Are there other members of your class who are undertaking enquiries at the same location and can help you?
        5. How are you going to manage the group data collection if you are not undertaking it individually?
        6. If you are undertaking it individually how are you going to ensure accuracy and safety?

        Where are you going to stand to collect your data? Which website(s) will you use?

        Along the main visitor centre walkway in X

        You can’t measure everything, so what method are you going to use to decide what you can measure? Why pick this method?

        Random sampling using number tables, as this helps eliminate bias, is simple and everyone passing has an equal chance of selection.

        Sampling method?
        1. What sampling strategy do you plan to use?
        2. How can you ensure the data is representative of the location?
        3. What sampling method would allow the collection of the appropriate volume, quality and type of data?
        4. How are you going to choose your sample sites?
        5. How are you going to avoid introducing bias?
        6. How many sample sites do you need?
        7. Will it impact the statistics or graphs and analysis you can do?

        Have you got a data recording sheet that will enable you to record often and how many measurements you take?

        On one day in July in the summer of 2019, as my question is about the summer. 50 people, as this is about 2% of the people likely to arrive on anyone day.

        What might go wrong with the plan? How could you overcome this while you are collecting your data? How will you record what you did?

        Age groups might not be represented equally. Some people asked might not stop to answer, so I will ask the next person after them. Might not reveal their age, so I will guess & note how many people I had to guess for.

        Potential issues & solutions

        Potential issues & solutions:

        1. What problems might you come across when collecting the data?
        2. What will determine if your data is accurate? Is it a controllable factor such as the equipment or are there some uncontrollable, confounding variables– the time of day, the people you survey?
        3. How will you ensure you undertake a fair test to reduce the impact of these factors on your results?
        4. Will your data be representative of the location if you are undertaking your data collection during school hours?

        Gweithgaredd 6: Cysylltu eich teitl â'r broses casglu data

        Cliciwch ar y botwm ar y dde i weld eich is-gwestiynau drafft. Nodwch y geiriau sy'n berthnasol i gasglu data. Mae'n debygol mai'r geiriau Daearyddiaeth fydd y rhain y byddwch yn eu dewis ar gyfer eich is-gwestiynau, a ddaeth o'ch map meddwl. Cofiwch y gallwch fynd yn ôl i gamau blaenorol y broses i fireinio'ch atebion, er enghraifft os na allwch nodi newidynnau o'ch cwestiwn yna mireiniwch eich cwestiynau.

        Nawr cwblhewch y tabl, gwnaed enghraifft i chi'n barod.

        Pa grŵp oedran sydd â'r canfyddiadau mwyaf cadarnhaol o X yn yr haf?

        Pa wybodaeth a thystiolaeth y mae angen i chi eu casglu er mwyn ateb eich cwestiwn?

        Dylai hyn gysylltu'n uniongyrchol â'r geiriau a amlygwyd yn eich teitl a'ch is-gwestiwn.

        Trefnwch eich grwpiau oedran i gynnwys o dan 16 oed, 16-21, 21-35, 35-50, dros 50, er mwyn gallu nodi amrywiaeth o grwpiau oedran.

        Canfyddiadau o'r hyn y mae pobl yn ei feddwl am X, er mwyn imi allu gweld a yw X yn debygol o apelio fwy at grŵp oedran penodol.

        Pa ddata?
        1. Pa ddata y mae angen i chi eu casglu er mwyn ateb eich cwestiwn ymholi? Defnyddiwch y geiriau a amlygwyd ar eich teitl a'ch is-gwestiynau i'ch helpu i benderfynu.
        2. Beth yw'r gwahanol agweddau sy'n gysylltiedig â'r cysyniad neu'r broses rydych yn cynnal ymholiad yn ei gylch/chylch? A oes gennych y cyfarpar i fesur y newidynnau hynny?
        3. Pa fath o ddata y byddwch yn eu casglu? Ansoddol, meintiol, sylfaenol neu eilaidd? Er enghraifft, a ydych yn cyfrif pethau, neu'n tynnu lluniau neu'n gofyn cwestiynau?
        4. A oes angen i'ch data fod yn gysylltiedig â lleoliad penodol? Os felly, sut y byddwch yn cysylltu'r data â'r lleoliad hwnnw?
        5. A oes gennych amrywiaeth ddigonol o dechnegau casglu data sylfaenol?
        6. A oes data eilaidd ar gael?
        7. Safon Uwch: efallai y bydd angen i chi feddwl yn ofalus sut y gellir dadansoddi'r data hyn yn ystadegol.

        Pa arolygon, mesuriadau neu arsylwadau rydych yn eu cynnal?

        Rhowch gyfarwyddiadau y gallai eraill eu dilyn. Ai ymdrech grŵp ydyw neu chi ar eich pen eich hun?

        Cwestiynau sy'n defnyddio graddfa Likert yn gofyn am deimladau, yr amgylchedd a mwynhad.

        Mae arolygon graddfa Likert yn golygu y gellir nodi amrywiaeth o ganfyddiadau, o rai negyddol i rai cadarnhaol – gweler yr enghraifft yn yr atodiad.

        Pam?
        1. A yw'r broses casglu data yn ymarferol ac yn ddiogel?
        2. A ydych wedi ystyried materion moesegol a risgiau?
        3. A yw eich methodoleg yn golygu y bydd angen i chi drefnu bod mwy nag un person yn bresennol er mwyn helpu i gasglu data?
        4. A oes aelodau eraill o'ch dosbarth sy'n cynnal ymholiadau yn yr un lleoliad ac a all eich helpu?
        5. Sut rydych yn bwriadu rheoli'r broses o gasglu data grŵp os nad ydych yn ymgymryd â'r gwaith ar eich pen eich hun?
        6. Os ydych yn ymgymryd â'r gwaith ar eich pen eich hun, sut rydych yn bwriadu sicrhau cywirdeb a diogelwch?

        Ble rydych yn bwriadu sefyll er mwyn casglu eich data? Pa wefan/wefannau y byddwch yn ei/eu defnyddio?

        Ar hyd y prif lwybr drwy'r ganolfan ymwelwyr yn X.

        Ni allwch fesur popeth, felly pa ddull rydych yn bwriadu ei ddefnyddio i benderfynu beth y gallwch ei fesur? Pam dewis y dull hwn?

        Samplu ar hap gan ddefnyddio tablau rhif, gan fod y dull hwn yn helpu i ddileu tuedd, ei fod yn syml a bod gan bawb sy'n mynd heibio yr un siawns o gael eu dethol.

        Dull samplu?
        1. Pa strategaeth samplu rydych yn bwriadu ei defnyddio?
        2. Sut y gallwch sicrhau bod y data yn cynrychioli'r lleoliad?
        3. Pa ddull samplu fyddai'n caniatáu i chi gasglu'r swm, yr ansawdd a'r math priodol o ddata?
        4. Sut rydych yn bwriadu dewis eich safleoedd sampl?
        5. Sut rydych yn bwriadu osgoi cyflwyno tuedd?
        6. Faint o safleoedd sampl sydd eu hangen arnoch?
        7. A fydd yn effeithio ar yr ystadegau neu'r graffiau a'r dadansoddiadau y gallwch eu llunio?

        A oes gennych daflen cofnodi data a fydd yn eich galluogi i gofnodi pa mor aml rydych yn mesur a sawl mesuriad rydych yn eu gwneud?

        Ar un diwrnod ym mis Gorffennaf yn ystod haf 2019, gan fod fy nghwestiwn yn ymwneud â'r haf. 50 o bobl, gan fod hyn yn cyfateb i oddeutu 2% o'r bobl sy'n debygol o gyrraedd ar unrhyw ddiwrnod unigol.

        Beth allai fynd o'i le â'r cynllun? Sut y gallech oresgyn hyn wrth i chi gasglu eich data? Sut y byddwch yn cofnodi'r hyn a wnaethoch?

        Mae'n bosibl na chaiff grwpiau oedran eu cynrychioli'n gyfartal. Mae'n bosibl na fydd rhai o'r bobl y byddwch yn gofyn iddyn nhw yn aros i ateb, felly byddaf yn gofyn i'r person nesaf sy'n mynd heibio. Efallai na fyddan nhw'n datgelu eu hoedran, felly byddaf yn dyfalu ac yn nodi faint o bobl y bu'n rhaid i mi ddyfalu ar eu cyfer.

        Problemau ac atebion posibl:

        Problemau ac atebion posibl:

        1. Pa broblemau y gallech ddod ar eu traws wrth gasglu'r data?
        2. Beth fydd yn dylanwadu ar gywirdeb eich data? A yw'n ffactor y gellir ei reoli fel y cyfarpar, neu a oes rhai newidynnau dryslyd na ellir eu rheoli – yr adeg o'r dydd, y bobl y byddwch yn eu holi?
        3. Sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn cynnal prawf teg er mwyn lleihau effaith y ffactorau hyn ar eich canlyniadau?
        4. A fydd eich data yn cynrychioli'r lleoliad os byddwch yn casglu eich data yn ystod oriau ysgol?

        Data PresentationCyflwyno Data

        DATA PRESENTATION

        You will need to present your data so that you can analyse it and look for patterns which help you answer your enquiry question.

        Data should be presented in a variety of Cartographical, Graphical, Pictorial, and GIS forms.

        Your data needs to be presented using the appropriate method.

        CYFLWYNO DATA

        Bydd angen i chi gyflwyno eich data er mwyn i chi allu eu dadansoddi ac edrych am batrymau sy'n eich helpu i ateb eich cwestiwn ymholi.

        Dylid cyflwyno data mewn amrywiaeth o ffurfiau Cartograffigol, Graffigol, Darluniadol, a GIS.

        Mae angen cyflwyno eich data gan ddefnyddio'r dull priodol.


        Activity 7: Linking your title to data presentation

        Use your Data Collection table to identify which data you need to present. Use your sub-questions to identify which variables you need to present (link) together.

        Complete the table, an example has been done already.

        Sub-question: Which age group has the most positive perceptions of X in the summer?

        This is likely to be two pieces of data within the same sub-question.

        Age group Perception of X

        Flood prevention measures

        Residential areas

        Does your data have values that you can put on a graph?

        • Qualitative
        • Quantitative
        • Measured
        • Counted
        • Categorical

        Age group – In categories of age under 16, 16-21. 21-35. 35-50,over 50.

        Perception of X – Quantitative on a scale 1 - 5

        Qualitative

        Photos

        Field sketch

        Sketch map

        Type of data

        Type of Data:

        Discrete – Data in which each field is unconnected to and does not affect the data in any other field. Each piece of data is independent of each other. e.g. a count of different types of traffic.

        Continuous (Interval) – Data that is measurable on a scale where each value is equal distance apart from each other. e.g. a measure of the temperature of a site each hour.

        Continuous (Ratio) – Data that is measurable on a scale where each value is an equal distance apart from each other and where the data has a definite ‘zero’ or end value. e.g. a measure of the height of different trees along a transect line.

        Categorical (Binary) – Data that falls into one or two mutually exclusive categories. e.g. a count of responses to a questionnaire that requires either a ‘Yes’ or ‘No’ answer.

        Categorical (Ordinal) – Data that can be assigned to categories that have a rank or an order. e.g. a count of the responses to a survey question that asks respondents to rank something on a 1 to 5 scale.

        Categorical (Nominal) – Data that can be assigned to categories that have no rank or order. e.g. a count of the number of individual plants of different species within a quadrat.

        This is the relationship you want to try to show in your data presentation method.

        • Comparison
        • Relationship
        • Correlation
        • Description

        Comparison between age groups.

        Relationship

        This could be

        • A Graph
        • A map
        • A Picture
        • GIS – Map with data

        Justify why you have chosen this method linking back to your sub-question.

        Radial graph

        I have divided my age groups into 5 categories.

        The data is not geospatially linked.

        Map

        GIS

        Picture

        I can show where the flood prevention measures, and the houses are on the same map or picture.

        Data Presentation method

        Graphs.

        Looking for a correlation between two measured data sets, (Interval Data) – Scatter or Line graph. With few points - Histogram.

        Comparing or looking for differences between data, Continuous interval or Categorical Nominal data – Bar charts, Box and Whisker, Radial Rose graph.

        Showing the composition of your data, Categorical and Discrete data – Composite bar graphs, box and whisker, Pie chart.

        GIS.

        Data relates to an exact location point e.g. location on a beach, river – Dot Map, Proportional symbols.

        Data relates to linear locations e.g. footpaths or streets, visitor journeys - Flowlines.

        Data relates to an area e.g. wards, village, seral stage – Choropleth.

        If you are selecting the data, then it is Independent.

        If you are measuring or counting it in the field, then it is dependent.

        Age Group – Independent

        Perception of X - Dependent

        Gweithgaredd 7: Cysylltu eich teitl â'r broses cyflwyno data

        Defnyddiwch eich tabl Casglu Data i nodi pa ddata y mae angen i chi eu cyflwyno. Defnyddiwch eich is-gwestiynau i nodi pa newidynnau y mae angen i chi eu cyflwyno (cysylltu) gyda'i gilydd.

        Cwblhewch y tabl, gwnaed enghraifft i chi'n barod.

        Is-gwestiwn: Pa grŵp oedran sydd â'r canfyddiadau mwyaf cadarnhaol o X yn yr haf?

        Dau ddarn o ddata sy'n rhan o'r un is-gwestiwn fwy na thebyg.

        Grŵp oedran
        Canfyddiad o X

        Mesurau atal llifogydd

        Ardaloedd preswyl

        A oes gan eich data werthoedd y gallwch eu rhoi ar graff?

        • Ansoddol
        • Meintiol
        • Wedi'u mesur
        • Wedi'u cyfrif
        • Categorïaidd

        Grŵp oedran – Mewn categorïau oedran o dan 16 oed, 16-21, 21-35, 35-50, dros 50.

        Canfyddiad o X – Meintiol ar raddfa o 1-5

        Ansoddol

        Ffotograffau

        Braslun maes

        Llinfap

        Math o Ddata

        Math o Ddata:

        Arwahanol – Data lle mae pob maes yn ddigyswllt ac nad ydyn nhw'n effeithio ar y data mewn unrhyw faes arall. Mae pob darn o ddata yn annibynnol ar ei gilydd. E.e. Cyfrif o wahanol fathau o draffig.

        Parhaus (Cyfwng) – Data sy'n fesuradwy ar raddfa lle mae pellter cyfartal rhwng pob gwerth. E.e. Mesur o dymheredd safle bob awr.

        Parhaus (Cymhareb) – Data sy'n fesuradwy ar raddfa lle mae pellter cyfartal rhwng pob gwerth a lle mae 'sero' neu werth terfynol pendant i'r data. E.e. Mesur o uchder coed gwahanol ar hyd llinell trawslun.

        Categorïaidd (Deuaidd) – Data sy'n perthyn i un o ddau gategori cydanghynhwysol. E.e. Cyfrif o'r ymatebion i holiadur sy'n gofyn am ateb 'Ie' neu 'Na'.

        Categorïaidd (Trefnol) – Data y gellir eu neilltuo i gategorïau sy'n rhestrol neu wedi'u trefnu. E.e. Cyfrif o'r ymatebion i gwestiwn arolwg sy'n gofyn i ymatebwyr restru rhywbeth ar raddfa o 1 i 5.

        Categorïaidd (Enwol) – Data y gellir eu neilltuo i gategorïau nad ydynt yn rhestrol neu wedi'u trefnu. E.e. Cyfrif o nifer y planhigion unigol o rywogaethau gwahanol mewn cwadrad.

        Dyma'r gydberthynas y dylech anelu at ei dangos yn eich dull cyflwyno data.

        • Cymharu
        • Cydberthynas
        • Cydberthyn
        • Disgrifiad

        Cymharu grwpiau oedran

        Cydberthynas

        Er enghraifft

        • Graff
        • Map
        • Llun
        • GIS – Map â data

        Cyfiawnhewch pam eich bod wedi dewis y dull gan gyfeirio at eich is-gwestiwn.

        Graff rheiddiol

        Rwyf wedi rhannu fy grwpiau oedran yn 5 categori.

        Nid oes cysylltiad geo-ofodol rhwng y data.

        Map

        GIS

        Llun

        Gallaf ddangos lleoliad y mesurau atal llifogydd, ac mae'r tai ar yr un map neu lun.

        Dull cyflwyno data

        Graffiau.

        Yn chwilio am gydberthyniad rhwng dwy set o ddata wedi'u mesur (Data Cyfwng) – Graff gwasgariad neu graff llinell. Yn cynnwys nifer fach o bwyntiau – Histogram.

        Yn cymharu neu'n chwilio am wahaniaethau rhwng data, data Cyfwng Parhaus neu ddata Categorïaidd Enwol – Siartiau bar, Graff Blwch a Blewyn, Graff Rhosyn Rheiddiol.

        Yn dangos cyfansoddiad eich data, data Categorïaidd ac Arwahanol – Graffiau bar cyfansawdd, Blwch a Blewyn, Siart cylch.

        GIS.

        Mae'r data yn ymwneud ag union bwynt lleoliad e.e. lleoliad ar draeth, afon – Map Dotiau, Symbolau cyfrannol.

        Mae'r data yn ymwneud â lleoliadau llinol e.e. llwybrau troed neu strydoedd, teithiau ymwelwyr – Llinellau rhediad.

        Mae'r data yn ymwneud ag ardal e.e. Wardiau, pentref, cam seral – Cloropleth.

        Os ydych yn dethol y data, mae'n annibynnol.

        Os ydych yn eu mesur neu'n eu cyfrif yn y maes, yna mae'n ddibynnol.

        Grŵp Oedran – Annibynnol

        Canfyddiad o X – Dibynnol


        AnalysisFfocws

        Analysis

        Analysis means examining your data and making sense of all your evidence. The way in which you plan to analyse your data may affect how you sample or collect your data or the type of data you need.

        Qualitative and quantitative data can be analysed differently.

        What statistical test does the task word relate to?

        Look at the task words you are using in your sub-questions to identify the appropriate data analysis technique.

        What opportunities does your title open up for high quality analysis?

        Use the table below to help.

        Data Examples Things you might be looking for Example methods
        Qualitative Images such as photos, video or field sketches. Features, characteristics that have meaning in the images.
        Qualitative Text, words, transcripts, news articles, diaries. Patterns and trends in the words, as well as anomalies.
        • Coding
        • Content analysis (e.g. listing the positive words in a text)
        • Discourse analysis (e.g. deciding if the words might impact different people in different ways).
        Quantitative Spatial data, distribution data. Patterns.
        • Mapping for clustering or Nearest Neighbour
        • Spatial maps such as isoline, dot or choropleth maps.
        Quantitative Temporal or numerical data. Trends, sequences, patterns and correlations.
        Most common data, proportions or frequency of data.
        • Descriptive statistics e.g. percentages, fractions, ratios
        • Measures of central tendency: Mean, median, mode
        • Statistics
        • Dispersion diagrams: range and interquartile range.
        • Cost-benefit analysis.

        Dadansoddi

        Ystyr dadansoddi yw archwilio eich data a gwneud synnwyr o'ch holl dystiolaeth. Gall sut rydych yn bwriadu dadansoddi eich data effeithio ar sut y byddwch yn samplu neu'n casglu eich data neu'r math o ddata sydd eu hangen arnoch.

        Gellir dadansoddi data ansoddol a data meintiol mewn ffordd wahanol.

        Pa brawf ystadegol y mae'r gair tasg yn gysylltiedig ag ef?

        Edrychwch ar y geiriau tasg rydych yn eu defnyddio yn eich is-gwestiynau er mwyn nodi'r dechneg dadansoddi data briodol.

        Pa gyfleoedd y mae eich teitl yn eu cynnig ar gyfer gwaith dadansoddi o ansawdd uchel?

        Defnyddiwch y tabl isod i helpu.

        Data Enghreifftiau Pethau y gallech chwilio amdanyn nhw Dulliau enghreifftiol
        Ansoddol Delweddau fel ffotograffau, fideos neu frasluniau maes. Priodweddau, nodweddion sy'n cyfleu ystyr yn y delweddau.
        Ansoddol Testun, geiriau, trawsgrifiadau, erthyglau newyddion, dyddiaduron. Patrymau a thueddiadau yn y geiriau, yn ogystal ag anghysondebau.
        • Codio
        • Dadansoddi cynnwys (e.e. rhestru'r geiriau cadarnhaol mewn testun)
        • Dadansoddi disgwrs (e.e. penderfynu a allai'r geiriau effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd).
        Meintiol Data gofodol, data dosbarthu. Patrymau.
        • Mapio at ddibenion clystyru neu'r Cymydog Agosaf
        • Mapiau gofodol fel isolin, mapiau dotiau neu gloropleth.
        Meintiol Data amseryddol neu rifiadol. Tueddiadau, dilyniannau, patrymau a chydberthyniadau.
        Y data mwyaf cyffredin, cyfrannau neu amledd data.
        • Ystadegau disgrifiadol e.e. canrannau, ffracsiynau, cymarebau
        • Mesur canoldueddiadau: cymedr, canolrif, modd
        • Ystadegau
        • Diagramau clystyru gwasgariad: ystod ac ystod rhyngchwartel.
        • Dadansoddi cost a budd.

        Generated TextTestun a Luniwyd

        Generated Text

        Testun a Luniwyd