One of your exam papers includes a section called 21st Century Challenges (21CC).
You need to complete an essay based on several figures, with a command phrase such as ‘evaluate’, ‘discuss’ or ‘to what extent’.
As usual, there are plenty of AO1 and AO2 marks available, so you’ll need to include a combination of knowledge and argument in your essay.
In addition, you need to use your AO3 skills and make frequent references to the figures throughout your answer.
Click on the different Assessment Objectives to see what is required for each one.
Mae un o'ch papurau arholiad yn cynnwys adran o'r enw Sialensau'r 21ain Ganrif (S21G).
Mae angen i chi gwblhau traethawd yn seiliedig ar sawl ffigur, gydag ymadrodd gorchymyn megis 'gwerthuswch', 'trafodwch' neu 'i ba raddau'.
Fel arfer, mae digonedd o farciau AA1 ac AA2 ar gael, felly bydd angen i chi gynnwys cyfuniad o wybodaeth a dadl yn eich traethawd.
Yn ogystal, mae angen i chi ddefnyddio eich sgiliau AA3 a chyfeirio'n aml at y ffigurau drwy eich ateb.
Cliciwch ar yr Amcanion Asesu gwahanol i weld beth sydd angen ar gyfer pob un.
Study the three figures very carefully.
Write a quick overview or summary of what each figure is showing in the space below it.
Astudiwch y tri ffigur yn ofalus iawn.
Ysgrifennwch amlinelliad neu grynodeb sydyn o'r hyn mae pob ffigur yn ei ddangos yn y bwlch oddi tano.
Figure 1 Australia’s summer wildfires, 2020
Ffigur 1 Tannau gwyllt yr haf yn Awstralia, 2020
Figure 2 Population density map of Australia
Ffigur 2 Map dwysedd poblogaeth Awstralia
Figure 3 Fact file about Australian coal production
Ffigur 3 Ffeil ffeithiau am gynhyrchiad glo Awstralia
Here’s the 21CC question:
Evaluate the view that some local communities in Australia face an increasingly unsustainable future.
Time to make a quick plan:
Find a few important AO3 themes to write about using Figures 1, 2 and 3. (Tip – use ALL of them!)
Add some AO1 knowledge and understanding of your own to each point – can you think of a process, concept or other idea it’s worth mentioning?
Then add TWO evaluative AO2 points. (For example, make a generalisation and then also acknowledge there could be exceptions.)
Decide what your final view will be – and remember, you mustn’t sit on the fence!
Make sure you stay focused on the question throughout – do some local communities in Australia have an unsustainable future or not? And how far ahead in time should we be looking?
Dyma'r cwestiwn S21G:
Gwerthuswch y safbwynt bod rhai cymunedau lleol yn Awstralia yn wynebu dyfodol cynyddol anghynaliadwy.
Amser i wneud cynllun cyflym:
Meddyliwch am rai themâu AA3 pwysig i ysgrifennu amdanyn nhw gan ddefnyddio Ffigurau 1, 2 a 3. (Awgrym - defnyddiwch BOB UN ohonyn nhw!)
Ychwanegwch rywfaint o wybodaeth a dealltwriaeth AA1 eich hun at bob pwynt – allwch chi feddwl am broses, cysyniad neu syniad arall y mae'n werth cyfeirio ato?
Yna ychwanegwch DDAU bwynt AA2 gwerthusol. (Er enghraifft, gwneud cyffredinoliad ac yna chydnabod hefyd y gallai fod eithriadau.)
Penderfynwch ar eich barn derfynol – a chofiwch, rhaid i chi beidio ag eistedd ar y ffens!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio ar y cwestiwn drwy'r ateb – ydy dyfydol rhai cymunedau lleol yn Awstralia yn anghynaliadwy neu beidio? A pha mor bell ymlaen mewn amser y dylen ni fod yn edrych?
AO3 points
Use key evidence from all the figures. Look for patterns and trends, but also exceptions. |
AO1 points
Add your own expert voice, using learned K&U – concepts, processes, examples, etc. |
AO2 evaluation
Make an argument, then try a counterargument based on the same point. Try to make links between ideas and evidence – show you understand about complexity and uncertainty in the real world. |
---|---|---|
Figure 3 shows Australia producing around 500 million tonnes of coal in 2018, meaning there must be many places where the coal industry is a major employer. | But the Paris Agreement and other global agreements are increasing pressure for countries to stop using coal and to decarbonise their economies. | Although it may take many years, it seems likely that eventually Australia may stop producing as much coal, either for political reasons or because coal runs out. Settlements which currently depend on coal may be economically unsustainable. |
On the other hand, some ex-mining towns in the UK have successfully rebranded and reimaged themselves. Australia's mining communities may find similar solutions, in which case they would have a sustainable future after all. | ||
|
|
|
|
||
|
|
|
|
||
|
|
|
|
Pwyntiau AA3
Defnyddiwch dystiolaeth allweddol o bob ffigur. Edrychwch am batrymau a thueddiadau, ond hefyd am eithriadau. |
Pwyntiau AA1
Ychwanegwch eich llais arbenigol eich hun, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth a ddysgwyd gennych chi – cysyniadau, prosesau, enghreifftiau, ac ati. |
Gwerthusiad AA2
Rhowch ddadl, yna ceisiwch gyflwyno gwrthddadl yn seiliedig ar yr un pwynt. Ceisiwch wneud cysylltau rhwng syniadau a thystiolaeth – dangoswch eich bod yn deall cymhlethdod ac ansicrwydd yn y byd go iawn. |
---|---|---|
Mae Ffigur 3 yn dangos bod Awstralia wedi cynhyrchu tua 500 miliwn o dunelli o lo yn 2018, sy'n golygu bod yn rhaid bod llawer o leoedd lle mae'r diwydiant glo yn cyflogi llawer o bobl. | Ond mae Cytundeb Paris a chytundebau byd-eang eraill yn cynyddu'r pwysau ar wledydd i roi'r gorau i ddefnyddio glo ac i ddadgarboneiddio eu heconomïau. | Er y gall gymryd llawer o flynyddoedd, mae'n ymddangos yn debygol y gall Awstralia yn y pen draw roi'r gorau i gynhyrchu cymaint o lo, naill ai am resymau gwleidyddol neu oherwydd eu bod yn rhedeg allan o lo. Gallai aneddiadau sydd ar hyn o bryd yn dibynnu ar lo fod yn anghynaliadwy yn economaidd. |
Ar y llaw arall, mae rhai o drefi oedd yn arfer bod yn drefi mwyngloddio yn y DU wedi llwyddo i ailfrandio ac ailddelweddu eu hunain. Gall cymunedau mwyngloddio Awstralia ganfod atebion tebyg, ac yn yr achos hwnnw byddai ganddyn nhw ddyfodol cynaliadwy wedi'r cyfan. | ||
|
|
|
|
||
|
|
|
|
||
|
|
|
|
Read the extracts from two responses to the following question:
Evaluate the view that some local communities in Australia face an increasingly unsustainable future.
Darllenwch y darnau o'r ddau ymateb i'r cwestiwn canlynol:
Gwerthuswch y safbwynt bod rhai cymunedau lleol yn Awstralia yn wynebu dyfodol cynyddol anghynaliadwy.
Evaluate the view that some local communities in Australia face an increasingly unsustainable future.
One view is that local communities in Australia do not have a sustainable future because of climate change. As temperatures rise because of the greenhouse effect, drought and fires will become more commonplace in countries like Australia that were already quite dry to start off with. Climate change is caused by greenhouse gas emissions due to a range of human activities, including the burning of fossil fuels to generate electricity and power transport, and also methane produced by cattle. Since the industrial revolution, over 200 years ago, carbon dioxide in the atmosphere has been increasing, with the result that global temperature has increased by 1 degree Celsius already. If action is not taken and the Paris Agreement acted on, scientists fear the temperature rise will be much higher with devastating consequences for places like Australia.
The problem is made worse by positive feedback effects including the thawing of permafrost in the Arctic. Huge amounts of methane are stored by the frozen soil but as the temperature rises, the soil thaws and the methane is released. The leads to even greater temperature rises in a never-ending cycle. If the worst predictions are true, large parts of Australia may be uninhabitable by 2100. Elsewhere in the world local communities will suffer from extreme weather events like increased hurricane activity in the Caribbean, droughts in Europe and more winter storms like those in the UK in 2020. Many local communities in the UK may have an unsustainable future if floods recur more frequently than in the past. Towns like Hebden Bridge in Yorkshire are being flooded more and more frequently. Some homes may need to be abandoned altogether.
However, it is still possible that action can be taken to keep local places sustainable. One of the diagrams shows coal mining in Australia, which is a big part of the climate change problem. Although new technologies, such as carbon capture and storage, may be able to help modify the global carbon cycle in a way which allows us to keep using coal without increasing the size of the global carbon store.
If this can be achieved, then Australia may continue to use coal as its energy source without bringing further harm to the environment. This would offer an economic and environmentally sustainable solution to the problem. Stopping carbon emissions is also known as mitigation and it is the best way to deal with the issue of climate change.
In conclusion, all of Australia’s local communities face an unsustainable future if nothing is done to stop fires and extreme weather from becoming more common. It could be that large areas of the country eventually become uninhabitable. However, if the world’s countries can pull together and work out ways to deal with the issues, then a sustainable future may be possible after all.
Gwerthuswch y safbwynt bod rhai cymunedau lleol yn Awstralia yn wynebu dyfodol cynyddol anghynaliadwy.
Un safbwynt yw nad oes gan gymunedau lleol yn Awstralia ddyfodol cynaliadwy oherwydd newid hinsawdd. Wrth i dymereddau godi oherwydd yr effaith tŷ gwydr, bydd sychder a thannau yn dod yn fwy cyffredin mewn gwledydd fel Awstralia a oedd yn eithaf sych yn barod. Achosir newid hinsawdd gan allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i amrywiaeth o weithgareddau dynol, gan gynnwys llosgi tanwyddau ffosil i gynhyrchu trydan a phweru trafnidiaeth, a methan a gynhyrchir gan wartheg hefyd. Ers y chwyldro diwydiannol, dros 200 o flynyddoedd yn ôl, mae carbon deuocsid yn yr atmosffer wedi bod yn cynyddu, a chanlyniad hynny yw bod tymheredd y byd wedi codi o 1 gradd Celsius yn barod. Os nad oes camau'n cael eu cymryd, mae gwyddonwyr yn ofni y bydd y codiad mewn tymheredd yn llawer uwch gyda chanlyniadau dinistriol ar gyfer lleoedd fel Awstralia.
Mae'r broblem yn cael ei gwaethygu gan effeithiau adborth cadarnhaol, yn cynnwys dadmer rhew parhaol yn yr Arctig. Mae symiau enfawr o fethan yn cael eu storio gan y pridd sydd wedi'i rewi ond wrth i'r tymheredd godi, mae'r pridd yn dadmer ac mae'r methan yn cael ei ryddhau. Mae hyn yn arwain at godiad hyd yn oed yn uwch mewn tymheredd mewn cylchred diddiwedd. Os yw'r rhagfynegiadau yn gywir, ni fydd yn bosibl byw mewn rhannau mawr o Awstralia erbyn 2100. Bydd cymunedau lleol eraill yn y byd yn dioddef tywydd eithafol fel mwy o gorwyntoedd yn y Caribî, sychderau yn Ewrop a mwy o stormydd gaeaf fel y rhai yn y DU yn 2020. Gall llawer o gymunedau lleol yn y DU fod â dyfodol anghynaliadwy os yw llifogydd yn digwydd yn fwy aml nag yn y gorffennol. Mae trefi fel Hebden Bridge yn Swydd Efrog yn cael llifogydd yn fwy a mwy aml. Gall fod angen gadael rhai tai yn wag yn gyfan gwbl.
Fodd bynnag, mae'n bosibl cymryd camau er mwyn sicrhau bod ardaloedd lleol yn gynaliadwy o hyd. Mae un o'r diagramau yn dangos y diwydiant cloddio am lo yn Awstralia sy'n rhan fawr o'r broblem newid hinsawdd. Er, gall technolegau newydd, fel dal a storio carbon, helpu i addasu'r gylchred garbon fyd-eang mewn ffordd sy'n golygu y gallwn barhau i ddefnyddio glo heb gynyddu maint y storfa garbon fyd-eang.
Os gellir gwneud hyn, yna gall Awstralia barhau i ddefnyddio glo fel ei ffynhonnell egni heb niweidio'r amgylchedd ymhellach. Byddai hyn yn cynnig ateb i'r broblem sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol. Enw arall ar atal allyriadau carbon yw 'lliniaru' a dyma'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r broblem o newid hinsawdd.
I grynhoi, mae holl gymunedau lleol Awstralia yn wynebu dyfodol anghynaladwy os na wneir unrhyw beth i atal tanau a thywydd eithafol rhag dod yn fwy cyffredin. Efallai na fydd yn bosibl byw mewn rhannau mawr o'r wlad ymhen amser. Fodd bynnag, os gall gwledydd y byd gydweithio a chanfod ffyrdd o fynd i'r afael â'r problemau yna efallai y bydd dyfodol cynaliadwy yn bosibl wedi'r cwbl.
This response does not meet all three AO criteria strongly. The answer is knowledgeable and could score well according to the AO1 criterion. AO2 marks are also likely to be limited because the question is not being answered directly and the quality of evaluation is poor overall. There is little focus on specific local communities in Australia. (Instead the answer is all about Australia in general, or impacts in other countries.) The evaluation is simplistic because only a very basic argument is presented. We are told climate change may get worse in which case many problems will arise. Then we are told that ‘on the other hand, technology could save the day’. A better evaluation would ‘dig deeper’ by (i) weighing up the extent to which all places will be equally badly affected if climate change gets worse; and by (ii) developing the view about technology in a more critical way, recognising possible limitations of what is being argued.
Dydy'r ymateb hwn ddim yn bodloni meini prawf y tri AA yn gryf. Mae'r ateb yn ddeallus a gallai ennill marciau da yn unol â meini prawf AA1. Mae'n debygol y bydd marciau AA2 yn gyfyngedig oherwydd dydy'r cwestiwn ddim yn cael ei ateb yn uniongyrchol ac mae ansawdd y gwerthuso yn wael ar y cyfan. Ychydig o ganolbwyntio sydd ar gymunedau lleol penodol yn Awstralia. (Yn hytrach, mae'r ateb yn ymwneud ag Awstralia yn gyffredinol, neu effeithiau mewn gwledydd eraill.) Mae'r gwerthusiad yn rhy syml oherwydd mai dim ond dadl sylfaenol iawn sy'n cael ei chyflwyno. Dywedir wrthym ni y gall newid hinsawdd waethygu, ac yn yr achos hwnnw bydd llawer o broblemau'n codi. Yna, dywedir wrthym ni 'ar y llaw arall, gallai technoleg achub y dydd'. Byddai gwerthusiad gwell yn 'ymdreiddio'n ddyfnach' drwy (i) pwyso a mesur i ba raddau y bydd pob man yn cael ei effeithio os yw newid hinsawdd yn gwaethygu; a thrwy (ii) datblygu'r safbwynt ar dechnoleg mewn ffordd fwy beirniadol, gan gydnabod cyfyngiadau posibl yr hyn sy'n cael ei ddadlau.
Evaluate the view that some local communities in Australia face an increasingly unsustainable future.
The figures paint a picture of a country badly affected by high temperatures and wildfires which may be an early indicator of climate change. If conditions worsen, it is possible that some parts of Australia may become hazardous places to live and might have to be abandoned. Furthermore, Australia is a major coal producer and any move to stop using fossil fuel to prevent further climate change will harm the economy of some towns. This essay will explore different possible scenarios and their implications for the sustainability of some local communities.
Figure 1 shows literally hundreds of wildfires around the coast of Australia and particularly in eastern areas in the states of Queensland and New South Wales. Comparing this with Figure 2, these are also the most densely populated parts of Australia with over 100 people per square km. It could be that fires are worse here because the local ecosystems include grassland areas, or forests, where fire can take hold easily in the dry season.
If Earth’s climate were to warm further, it is possible that higher frequency of fires could make some parts of Eastern Australia too hazardous for people to remain. A policy of managed retreat might be needed, similar to that used in some coastal areas in the UK, where sea levels are rising. However, it is also possible that communities may be able to adapt by introducing land zoning laws or finding ways of stopping fire from spreading. With adaptation, communities could still have a sustainable future. We also can’t tell from Figure 1 just how large or significant these fires have been - which is a big weakness of the map.
Turing now to Figure 3, we can see that Australia is a major coal producer. In 2018, 300 million tonnes of coal were exported, making Australia a major player in global economic systems. If climate change is to be prevented from escalating further, Australia needs to stop producing and exporting coal because it is a major source of greenhouse gas emissions.
The figure tells us that some places, such as Mount Isa and Broken Hill, are mining towns where thousands of people are employed producing coal. If coalmining were to stop in Australia, these places may become unsustainable communities. This happened in Wales, when coalmines closed in the 1980s, leaving communities with no alternative source of employment and income. This is because mining towns often only exist because there is coal there and are not well situated for either types of industry to locate there.
However, the situation can be more complex and depends on many different factors. In Wales, Blaenavon is an ex-mining town where rebranding has taken place. The Big Pit National Coal Museum has been established, turning this place into a heritage site which draws in tourists and has helped make the area economically sustainable. We therefore cannot predict with any certainty whether all coalmining communities in Australia would have an unsustainable future without coal, because there could be many ingenious ways of regenerating those places.
In conclusion, some degree of change appears inevitable for some places and communities in Australia. If climate change worsens, due to failure to mitigate combined with carbon cycle feedback loops, extreme weather events may make it harder for some local communities to remain where they are. Equally, any moves to de-carbonise Australia’s economy could lead to the de-industrialisation of mining towns. Whichever happens, the sustainability of different local communities can only be predicted on a case by case basis, depending on what the local management, adaptation and regeneration options will be. On balance, I believe most local communities will find a way to adapt and survive because Australia is a rich developed country with the resources needed to manage change and adopt new technologies.
Gwerthuswch y safbwynt bod rhai cymunedau lleol yn Awstralia yn wynebu dyfodol cynyddol anghynaliadwy.
Mae'r ffigurau'n darlunio gwlad wedi'i heffeithio yn ddrwg gan dymereddau uchel a thannau gwyllt, a allai fod yn arwydd cynnar o newid hinsawdd. Os yw amodau'n gwaethygu, mae'n bosibl y gall rhai rhannau o Awstralia ddod yn lleoedd peryglus i fyw ynddyn nhw a gallai fod angen eu gadael. Ar ben hynny, mae Awstralia yn gynhyrchydd glo mawr a bydd unrhyw symudiad tuag at roi'r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil i atal newid hinsawdd pellach yn niweidio economi rhai trefi. Bydd y traethawd hwn yn archwilio senarios posibl gwahanol a'u goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd rhai cymunedau lleol.
Mae Ffigur 1 yn dangos cannoedd o danau gwyllt o gwmpas arfordir Awstralia ac mewn ardaloedd dwyreiniol yn arbennig yn nhaleithiau Queensland a New South Wales. Gan gymharu hyn â Ffigur 2, dyma'r rhannau mwyaf poblog yn Awstralia hefyd gyda dros 100 o bobl fesul km sgwâr. Gallai tanau fod yn waeth yma oherwydd bod yr ecosystemau lleol yn cynnwys ardaloedd o laswelltir neu goedwigoedd lle gall tân ledaenu'n hawdd mewn tywydd sych.
Pe byddai hinsawdd y Ddaear yn cynhesu mwy, mae'n bosibl y gallai tanau amlach wneud rhai rhannau o Ddwyrain Awstralia yn rhy beryglus i bobl aros ynddynt. Mae'n bosibl y byddai angen rhoi polisi encilio rheoledig ar waith, yn debyg i'r hyn a ddefnyddir mewn rhai rhannau arfordirol yn y DU lle mae lefel y môr yn codi. Fodd bynnag, mae'n bosibl hefyd y gallai cymunedau addasu drwy gyflwyno cyfreithiau rhannu tir yn barthau (land zoning) neu ddod o hyd i ffyrdd o atal tanau rhag lledaenu. Drwy addasu, gallai cymunedau gael dyfodol cynaliadwy o hyd. Ni allwn ychwaith ddweud o Ffigur 1 pa mor fawr neu sylweddol y bu'r tanau hyn, sy'n un o wendidau mawr y map.
Gan droi nawr at Ffigur 3, gallwn weld bod Awstralia yn gynhyrchydd glo mawr. Yn 2018, cafodd 300 miliwn o dunelli o lo eu hallforio, gan wneud Awstralia yn gyfrannwr pwysig mewn systemau economaidd byd-eang. Os ydym am atal newid hinsawdd rhag gwaethygu ymhellach, bydd angen i Awstralia roi'r gorau i gynhyrchu ac allforio glo gan ei fod yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae'r ffigur yn dweud wrthym fod rhai lleoedd, fel Mount Isa a Broken Hill, yn drefi cloddio lle caiff miloedd o bobl eu cyflogi i gynhyrchu glo. Petai cloddio am lo yn dod i ben yn Awstralia, byddai'r cymunedau hyn yn anghynaladwy. Digwyddodd hyn yng Nghymru pan gaewyd pyllau glo yn yr 1980au, gan olygu nad oedd gan gymunedau unrhyw ffynonellau cyflogaeth ac incwm amgen. Mae hyn am fod trefi cloddio ond yn bodoli'n aml am fod glo yno ac nad ydynt mewn lleoliad da i fathau eraill o ddiwydiant symud yno.
Fodd bynnag, gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth ac mae'n dibynnu ar lawer o ffactorau gwahanol. Yng Nghymru, mae hen dref gloddio Blaenafon wedi cael ei hailfrandio. Sefydlwyd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru gan droi'r lle yn safle treftadaeth sy'n denu twristiaid ac sydd wedi helpu i wneud yr ardal yn gynaliadwy yn economaidd. Ni allwn felly ragweld ag unrhyw sicrwydd a fyddai dyfodol pob cymuned gloddio yn Awstralia yn anghynaladwy heb lo oherwydd gellid adfywio'r lleoedd hynny mewn nifer o ffyrdd dyfeisgar.
I grynhoi, mae'n ymddangos bod rhywfaint o newid yn anochel i rai lleoedd a chymunedau yn Awstralia. Os bydd newid hinsawdd yn gwaethygu, o ganlyniad i ddiffyg mesurau lliniaru ynghyd â dolenni adborth y gylchred garbon, gall tywydd eithafol ei gwneud hi'n anoddach i rai cymunedau lleol aros ble maent. Yn yr un modd, gallai unrhyw ymdrechion i ddatgarboneiddio economi Awstralia arwain at ddad-ddiwydianeiddio trefi cloddio. Pa bynnag un fydd yn digwydd, dim ond fesul achos y gellir rhagweld cynaliadwyedd cymunedau lleol gwahanol, gan ddibynnu ar beth fydd yr opsiynau rheoli, addasu ac adfywio lleol. At ei gilydd, credaf y bydd y rhan fwyaf o gymunedau lleol yn canfod ffordd o addasu a goroesi gan fod Awstralia yn wlad ddatblygedig a chyfoethog sydd â'r adnoddau angenrheidiol i reoli newid a mabwysiadu technolegau newydd.
This response meets all the AO criteria well. There is a strong focus on the figures, and connections are established between Figure 1 and Figure 2. Sufficient AO1 knowledge is included to support all the points being made – but the candidate rightly resists ‘going overboard’ on points such as managed retreat in the UK. The evaluation is excellent because each argument that is made is sophisticated and critical. For example, there is recognition that not all of the fires may be equally severe – therefore, some communities may be in a worse position than others if nothing is done to tackle climate change. Similarly, there is recognition that even if coalmining ends in future it does not necessarily mean that all communities who currently rely on coal have an unsustainable future.
Mae'r ymateb hwn yn bodloni holl feini prawf yr AA yn dda. Mae'n canolbwyntio'n gryf ar y ffigurau, ac mae cysylltiadau wedi'u sefydlu rhwng Ffigur 1 a Ffigur 2. Mae digon o wybodaeth AA1 wedi'i chynnwys i gefnogi'r holl bwyntiau sy'n cael eu gwneud – ond mae'r ymgeisydd yn ddoeth yn ymwrthod rhag 'mynd dros ben llestri' ar bwyntiau fel encilio rheoledig yn y DU. Mae'r gwerthusiad yn ardderchog oherwydd bod pob dadl a wneir yn soffistigedig ac yn feirniadol. Er enghraifft, mae'n cydnabod na all pob tân fod yr un mor ddifrifol – felly, gall rhai cymunedau fod mewn sefyllfa waeth nag eraill os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Yn yr un modd, mae'n cydnabod hyd yn oed os yw cloddio glo yn dod i ben yn y dyfodol, nid yw'n golygu o reidrwydd bod gan bob cymuned sydd ar hyn o bryd yn dibynnu ar lo ddyfodol cynaliadwy.