- Wedi dewis y thema a’r uned cliciwch ar y botwm ‘Agor y ddogfen’ er mwyn darllen y testun cyn ateb y cwestiynau. (Os oes angen gellir argraffu’r testun trwy glicio botwm de'r llygoden ar y ddogfen a dewis ‘print’.)
- Wedi darllen y testun atebwch y cwestiynau gan glicio ar yr ateb y tybiwch chi sydd yn gywir gan wedyn glicio’r botwm i symud i’r cwestiwn nesaf.
- Wedi ateb y cwestiynau a chlicio at y botwm ‘Gwirio’ cewch wybod faint o gwestiynau a atebwyd yn gywir. Os nad yw pob ateb yn gywir yna ceir cyfle arall i’w hateb trwy glicio ar y botwm ‘Ceisiwch eto’. Dangosir eich atebion blaenorol gyda marc oren ar ymyl dde pob ateb.
- Wedi’r ail ymgais cewch weld yn union pa rai o’ch atebion sy’n gywir a pha rai sy’n anghywir. Os nad yw pob ateb yn gywir yna ceir cyfle arall i wella’ch sgôr trwy glicio ar y botwm ‘Ceisiwch eto’. Y tro yma bydd yr atebion cywir yn cael eu dangos gyda marc gwyrdd a’r atebion anghywir gyda marc coch ar ymyl dde pob ateb.
- Ail gliciwch ar yr atebion gwyrdd cywir a cheisiwch ddyfalu’r ateb cywir i’r cwestiynau sy’n dangos ateb anghywir coch.
- Wedi clicio ar y botwm ‘Gwirio’ y tro hwn cewch weld yn union pa atebion sy’n gywir ochr yn ochr â’ch atebion chi.
Ail ddyluniwyd yr unedau gwreiddiol gan CBAC yng Ngorffennaf 2020.