Hyd yn oed yn achos cerddi a gyfansoddwyd dros chwe chanrif yn ôl, gall arbenigwyr weithiau newid eu meddyliau mewn ffyrdd eithaf sylfaenol. Ac felly y bu yn achos y gerdd hon. Am amser maith credid mai cerdd am fisoedd Mai ac Ionawr ydoedd ‒ ‘Mis Mai a Mis Ionawr’ yw ei theitl yn y gyfrol Gwaith Dafydd ap Gwilym a gyhoeddwyd gan Thomas Parry yn 1952. Ond pan ail-olygwyd y gerdd yn 2007, ailystyriwyd ei chynnwys yn ofalus gan ddod i gasgliad newydd: ‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ yw ei henw yn y golygiad diweddaraf ar dafyddapgwilym.net.
Pam y newid felly? Mae’r gerdd yn enwi ‘Mai’ ddwywaith (llinellau 2 a 9) ond yr ymadrodd ‘y mis ... du’ yw’r un sy’n peri ansicrwydd. Os edrychwch dan mis du yn Geiriadur Prifysgol Cymru fe welwch fod yno enghreifftiau o’r ymadrodd yn golygu Tachwedd. Ond mae yno enghreifftiau sy’n cyfeirio at fisoedd Rhagfyr ac Ionawr hefyd! I benderfynu ar ba un sydd yng ngherdd Dafydd, rhaid edrych yn fanwl ar y disgrifiad o’r mis du hwn. Er bod Dafydd yn cyfeirio at cenllysglaw (ll. 36, ‘cawod o genllysg’) nid yw’n sôn am eira, fel y gellid ei ddisgwyl pe bai’n trafod Rhagfyr neu Ionawr. Dywed Dafydd hefyd fod y gwynt yn ysbeilio gwŷdd (ll. 34, ‘dinoethi’r coed’), gan awgrymu bod dail yn para i fod ar y coed. Mae hynny’n gweddu orau i fis Tachwedd, gan fod y rhan fwyaf o’r dail eisoes wedi syrthio erbyn Rhagfyr ac Ionawr.
Roedd yn arferol yn yr Oesoedd Canol ‒ fel heddiw ‒ i rannu’r flwyddyn yn bedwar tymor. Chwefror, Mawrth ac Ebrill oedd misoedd y gwanwyn. Mai, Mehefin a Gorffennaf (‘gorffen haf’) oedd tri mis yr haf. Wedi hynny deuai tymor yr hydref: Awst, Medi a Hydref. Ac wedyn deuai’r gaeaf: Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr. Felly os Tachwedd yw’r ‘mis du’, gwelwn fod y gerdd yn gwrthgyferbynnu mis cyntaf yr haf â mis cyntaf y gaeaf.
Ond mewn gwirionedd nid yw gwybod yr union fis mor bwysig â hynny. Cymharu dau dymor y mae Dafydd yn ei wneud yma, y naill yn hafaidd a’r llall yn aeafol. Mae llu o enghreifftiau o’r gymhariaeth hon i’w cael yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, ac yn wir mewn llenyddiaeth ers hynny hefyd.
Dechreuwn felly drwy ystyried y cwpledi agoriadol lle mae’r bardd yn cyfleu ei berthynas arbennig â mis Mai:
Mae Dafydd yn agor yn barchus ddigon â’r cyfarchiad ‘hawddamor’, gan annerch mis Mai yn uniongyrchol, fel petai’n fod dynol. Mae’n ei bersonoli ymhellach drwy gyfeirio ato fel marchog cadarn (ll. 3) a meistr ar y coed (ll. 4). Er ei gryfder, nid yw’r marchog hwn yn gymeriad bygythiol—mae’n gyfaill i gariad ac i adar (ll. 5) ac mae’n un sy’n ymwneud yn agos â chariadon a chyfarfyddiadau (rhamantaidd os nad rhywiol, gallwn dybio) yn y goedwig. Ond rhaid inni nodi bod Dafydd hefyd yn gwneud un sylw bach arwyddocaol am ei hoed (ll. 2 ‘hiraeth’). Gwelwn fod y bardd dan deimlad, ac efallai yn dioddef o ryw fath o anhapusrwydd a phoen emosiynol, er gwaethaf harddwch yr haf a ffigur atyniadol y marchog. Mae’r tinc bach hwn o anfodlonrwydd yn creu tensiwn ar ddechrau’r gerdd.
 
Yn y frawddeg nesaf, mae Dafydd yn datgan ei fodlonrwydd bod Mai yn dod i hawlio’r tir. Er nad yw’n cyfeirio ato fel marchog yma, mae’r ddelwedd filwrol yn parhau trwy’r defnydd o’r ferf goresgyn.
Brawddeg ddigon cymhleth sydd gan y bardd yma, ond mae’r ystyr yn ddigon clir: mae’n beth llesol iawn (‘mawr a fudd’) fod Mai yn dod â’i fryd ar hawlio (‘arddelw’) y wlad, ac i goncro neu oresgyn pob dyffryn glas. Yn y sangiadau mae’r bardd yn dangos ei frwdfrydedd drwy dyngu llw (‘myn Mair’) a thrwy ganmol y mis am ei natur ddi-fai a’i urddas gwresog.
Geiriau sy’n ymwneud â gwisgoedd sy’n fwyaf amlwg yn y cwpled nesaf, a hynny’n cyfleu llawnder tyfiant y goedwig ar ddechrau’r haf:
Mae gwasgod (‘mantell’), gwisgad (‘gwisg’), y ferf gwisgai, a gwe (‘defnydd’) oll yn gysylltiedig â dillad, a phrif ddelwedd y cwpled yw honno o’r marchog yn gwisgo’r ffyrdd a phobman arall mewn gwyrddni trwchus.
 
Cawn wedyn frawddeg faith (ond digon syml at ei gilydd) sy’n rhoi inni olwg estynedig ar rinweddau mis Mai:
Er mor faith yw’r frawddeg, gwelwn mai rhestr o nodweddion mis Mai a gawn o linell 20 ymlaen, ac felly nid yw’r gystrawen yn gymhleth o gwbl yn y llinellau hynny—cyfres o ymadroddion sydd yma wedi eu cysylltu â’r cysylltair a(c).
Dychwelwn at linell 15, felly, a deallwn mai cyfeirio at fis Mai y mae’r bardd wrth ddweud ‘Pan ddêl yn ôl rhyfel rhew ...’ (‘pan ddaw [mis Mai] ar ôl rhyfel y rhew ...’). Unwaith eto, mae’r ddelwedd filwrol yn cael ei chynnal yma trwy’r sôn am y ‘rhyfel rhew’. Yn llinell 16 mae’r bardd eto’n cyfeirio at wyrddni cyfoethog mis Mai, ac wedyn mewn sangiad helaethach (llinellau 19–20) mae'n sôn am ei hoffter o’r llwybrau y mae Ebrill wedi ymweld â nhw, gan ddweud bod caneuon yr adar yno yn grefydd iddo.
Ond fe gofiwn fod llinell 15 wedi dod i ben â brawddeg ar ei hanner, ac i gwblhau’r frawddeg honno rhaid neidio ymlaen i linellau 19-20.
Yno cawn ddysgu beth sy’n dilyn y ‘rhyfel rhew’. Yr ateb yw caneuon (‘caniadau’) adar bach (‘cywion adar’) a fydd yn dod o frig y coed derw, ynghyd â phob math o hyfrydwch sy’n nodweddiadol o fis Mai, megis y gog (ll. 21), niwl gwyn (ll. 23), coed gwyrdd niferus (‘glaswyd aml’, ll. 26), a dail newydd ffres (‘irddail’, ll. 28). Yn goron ar y cyfan y mae Morfudd, y ferch y mae’n amlwg fod y bardd yn gobeithio ei charu yn y coed. Hi sy’n peri cyffro serch iddo (ll. 30), a chyda’r gair hwnnw (‘serch’) y daw’r adran hon o’r gerdd i’w therfyn.
 
Ond mae’r rhan nesaf o’r gerdd yn dangos yn syth fod newid mawr ar droed:
Drwy osod y gair ‘annhebig’ yn union ar ddechrau’r cwpled (ac yn union wedi’r gair serch) mae’r bardd yn tynnu sylw at y newid sydyn yng nghywair y gerdd. Cawn ganddo gyfres hir o linellau sy’n cyfleu nodweddion negyddol y mis gaeafol. Mae’n manteisio ar debygrwydd y geiryn perthynol a (a geir o flaen y ferf yn llinellau 32 a 33) a’r cysylltair a(c) i greu cyfres o linellau sy’n dechrau ag a neu ac.
Fel yn achos llinellau 19–30, mae hyn yn creu effaith a elwir yn gymeriad—sef cysylltu cyfres o linellau drwy ddechrau â’r un llythyren (cymeriad llythrennol) neu â’r un gair (cymeriad geiriol). Drwy hynny mae’r bardd yn adeiladu darlun manwl o ddiflastod y gaeaf.
Mae’r ‘mis dig du’ yn rhwystro pawb rhag caru—neu o leiaf y rheini sydd â’u bryd ar gwrdd â chariad yn y dirgel yn y goedwig. Cysylltir emosiwn dynol â’r glaw ei hun (‘tristlaw’, ll. 33) ac mae gan y mis y gallu i ddigio neu ‘lidio’ y dydd (ll. 40). Mae’r tywydd yn peri ‘llesgedd’ a gwendid (‘breuoledd’, ll. 35), a salwch neu ‘annwyd’ (ll. 37). Personolir y gwynt yntau drwy ddweud ei fod yn ysbeilio’r coed (ll. 24). Yn yr adran hon mae’r bardd yn cyfuno effaith ymarferol y gaeaf ar y wlad ag effaith ddynol yr oerfel a’r gwlypter.
 
Ond wedi’r rhestru maith hwn, mae’r gerdd yn cloi yn sydyn gyda chwpled tra chofiadwy:
Mae’r bardd yn dymuno dau ddrwg neu ddau anffawd i’r mis, a hynny ar sail ei wladeiddrwydd. Gallwn gymryd yma fod ‘gwladeiddrwydd’ yn cynrychioli nodweddion sy’n gwbl groes i werthoedd y bardd ei hun (a’i gynulleidfa). Bôn y gair yw gwlad. Mae awgrym yma o ddirmyg at y rheini a weithiai ar y tir er mwyn ennill eu bywoliaeth. Cymdeithas hierarchaidd iawn oedd cymdeithas yr Oesoedd Canol, ac ar waelod y gymdeithas roedd y taeogion neu’r caethion. Nid oedd y taeogion hyn yn berchen ar eu tiroedd eu hunain, ond yn hytrach yr oedd cyfraith gwlad yn mynnu eu bod yn llafurio ar diroedd pobl eraill. Roedd beirdd y cyfnod hwn yn ddirmygus ohonynt, gan dybio eu bod yn bobl eilradd ac anwaraidd. Drwy bersonoli’r mis a’i gysylltu â gwladeiddrwydd, mae Dafydd yn bwrw ei sen arno. Mae hefyd yn ei wrthgyferbynnu’n uniongyrchol â mis Mai, y marchog cadarn, sydd ar ben arall y pyramid cymdeithasol.
 
Ar un wedd, mae hon yn gerdd hynod o syml. Cyferbyniad sydd yma rhwng yr haf a’r gaeaf, a hynny wedi ei gyflwyno fel rhyfel rhwng y tymhorau, syniad a geir mewn llenyddiaethau o bob cyfnod ac o bob rhan o’r byd. Yn sicr, mae gan Ddafydd y ddawn i gyfleu harddwch mis Mai a’i wrthgyferbynnu’n effeithiol â diflastod y gaeaf. Ac y tu ôl i’r cyfan, mae gobeithion carwriaethol y bardd. Mae mis Mai yn cynnig yr amodau perffaith iddo garu yn y goedwig, ond rhwystro hynny y mae mis Tachwedd. Tybed felly nad yw’r portread o’r gaeaf yn adlewyrchu ofnau’r bardd ynghylch unigrwydd a chael ei wrthod gan ei gariad?
Ar un wedd, mae’r gerdd hon yn cyfleu rhywbeth oesol nad yw wedi ei gyfyngu i gyfnod hanesyddol penodol, sef treigl y tymhorau. Ond bydd yn fuddiol inni holi a fyddai darllen y gerdd gyda golwg ar ei chyd-destun hanesyddol yn rhoi dealltwriaeth lawnach ohoni inni. Yn sicr, mae ffigur y marchog a’r defnydd o’r gair ‘gwladeiddrwydd’ yn awgrymu bod y gerdd yn deillio o gyd-destun diwylliannol sy’n wahanol i’n un ni heddiw.
Yn gyntaf, gallwn ystyried y modd y mae’r bardd yn cysylltu’r marchog â dillad gwyrdd (yn arbennig yn llinellau 19–20). Gall fod hyn yn adlais o’r arfer o sut y byddai milwyr yn cael eu gwisgo yng nghyfnod Dafydd. Yn 1346, casglwyd byddin o wŷr ynghyd o diroedd Tywysog Cymru (sef Edward, ‘y Tywysog Du’, 1330–76) yng Nghymru a Lloegr, a’u gorchymyn i ymgasglu yn Dover ar gyfer ymgyrch yn Ffrainc. Ymhlith y milwyr roedd dynion o siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, ardal a elwid bryd hynny yn Dywysogaeth De Cymru. Derbyniodd un o swyddogion y dywysogaeth honno orchymyn i brynu digon o ddefnydd gwyn a gwyrdd i ddilladu’r milwyr mewn cotiau byrion a hetiau, gan gadw’r gwyrdd ar yr ochr dde: le verte a destre yw’r ymadrodd yn y Ffrangeg gwreiddiol. Anfonwyd yr un gorchymyn at y swyddog cyfatebol a oedd yn gyfrifol am sir y Fflint ac am iarllaeth Caer, dros y ffin yn Lloegr. Nid milwyr o Gymru yn unig a wisgai’r dillad arbennig hyn, felly. Ond mae’n debyg iawn y byddai cydnabod i Dafydd o sir Aberteifi a sir Gaerfyrddin wedi bod yn eu plith, yn amlwg iawn i bawb yn eu gwyn a’u gwyrdd.
Un milwr amlwg iawn yn yr ymgyrch i Ffrainc yn 1346 oedd Syr Rhys ap Gruffudd, gŵr o Dywysogaeth De Cymru a pherthynas i Dafydd ei hun a oedd wedi ei urddo’n farchog erbyn 1330. Yn wir, mae’n debyg iawn mai ef yw’r ‘Rhys’ a enwir yn un o gerddi Dafydd (‘I Ddymuno Boddi’r Gŵr Eiddig’) sy’n sôn amdano’n arwain milwyr sy’n gyfeillion ac yn berthnasau i Dafydd draw i Ffrainc. Roedd yn ffigur hynod bwysig yn ei ddydd, ac yn wir derbyniodd geffyl rhyfel drudfawr yn anrheg gan y Tywysog Du ei hun tra oedd yn Ffrainc yn 1346. Tybed felly nad yw’r marchog yng ngherdd Dafydd sy’n gosod ei ddefnydd gwyrdd dros y wlad yn adlais o ffigwr fel Syr Rhys, a fu’n arwain milwyr o Gymru wedi eu gwisgo mewn dillad gwyrddion? Efallai i'r gerdd gael ei chyfansoddi cyn 1346, wrth gwrs, ond mae’n bosibl hefyd fod yr arfer o wisgo milwyr o Gymru mewn gwyrdd yn deillio o’r cyfnod cyn hynny. Mae’r awgrym yn un gogleisiol, heb amheuaeth!
Yn olaf, gallwn roi sylw i’r tirlun ei hun, a’r disgrifiad sydd yn y gerdd o fis Mai (neu’r marchog cadarn) yn ailgyflwyno gwyrddni i’r priffyrdd. Mae’n bwysig cofio yma i Dafydd gael ei fagu mewn gwlad lle’r oedd concwest Edward I a marwolaeth Llywelyn y Llyw Olaf yn dal o fewn cof. Roedd canlyniadau’r goncwest honno i’w gweld yn glir mewn sawl ffordd, megis yn y cestyll trawiadol a godwyd gan Edward mewn lleoedd fel Aberystwyth a Chaernarfon. Ond wrth goncro Cymru roedd Edward wedi newid y tirlun mewn ffordd arall, sef drwy dorri ffyrdd llydan newydd drwy goedwigoedd eang y wlad. Gwyddai’n iawn y gallai milwyr Cymru ddefnyddio’r coedwigoedd hyn i ymosod yn annisgwyl ar y byddinoedd Seisnig, ac er mwyn lleihau’r perygl fe fynnodd fod ffyrdd newydd yn cael eu torri trwy’r coed mewn sawl rhan o’r wlad. I wneud hynny fe ddefnyddiodd filoedd o ddynion i dorri, clirio a llosgi’r coed. Roedd y ffyrdd newydd a gliriwyd yn sylweddol iawn—gwyddom fod Edward ar adegau wedi mynnu eu bod cyn lleted ag ergyd saeth. Roedd rhai o’r ffyrdd hyn yng Ngheredigion, ardal Dafydd ei hun, ac mae’n siŵr ei fod ef yn gyfarwydd iawn â nhw.
Un peth yw creu ffordd drwy goedwig, ond oni bai fod y tyfiant yn cael ei glirio’n gyson, buan iawn y bydd y goedwig yn dechrau ailfeddiannu’r tir. Ac mae’n siŵr y byddai Dafydd wedi bod yn gyfarwydd â rhai o’r ffyrdd hyn a oedd—er gwaethaf eu maint—yn dechrau diflannu wrth iddynt gael eu meddiannu unwaith eto gan wyrddni. Tybed felly nad yw’r gerdd hon (a’r sôn sydd ynddi am wyrddio’r priffyrdd) yn adleisio’r broses naturiol honno?
Cyn cloi mae’n bwysig pwysleisio ambell beth. Nid wyf yn dweud mai cyfeirio’n fwriadol at wisg milwyr y cyfnod y mae Dafydd wrth ddisgrifio’r marchog cadarn yn cyflwyno gwyrdd i’r goedwig. Nid wyf yn dweud mai Rhys ap Gruffudd yw’r marchog hwnnw. Ac nid wyf chwaith yn dweud mai trafod ffawd hen ffyrdd Edward I y mae Dafydd yn y gerdd hon. Ni allwn wybod beth oedd bwriad Dafydd wrth gyfansoddi’r gerdd. Ond wrth feddwl am ei chyd-destun hanesyddol, gallwn awgrymu y gallai ymwybyddiaeth ynghylch gwisgoedd milwyr, ynghylch marchog fel Rhys ap Gruffudd, ac ynghylch hen ffyrdd Edward I, fod wedi chwarae rhan yn y modd y derbyniwyd y gerdd gan gynulleidfaoedd gwreiddiol Dafydd tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Nid yw cerddi natur, hyd yn oed, yn bodoli mewn gwagle hanesyddol a chymdeithasol.
 
 
Dyma lif y prif frawddegau yn y cywydd hwn wedi eu nodi mewn coch. Mae’r sangiadau sy’n rhannu’r dweud wedi eu nodi mewn du. Trowch i‘r adran ‘Darllen gwaith Dafydd ap Gwilym’ yn y Cyflwyniad am fwy o wybodaeth am sangiadau.