Mae'r bardd yn dweud am arglwydd Rheged sy'n gorwedd yn y ddaear (dan y dywarchen drom, las) nad oedd yn wrthrych bas i'w foli. Mewn geiriau eraill, mae'n dweud fod dyfnder a sylwedd yn perthyn i Owain. Dyma enghraifft o ddefnyddio lleihad (S. understatement). Trowch at Arddull i ddysgu mwy am y ffordd y mae'r bardd yn gwrthgyferbynnu bas yn y llinell hon â'r syniad o ddyfnder y bedd yn llinell 5.
Dywedir bod Owain yn gorwedd yn y bedd dan y ddaear; yn ystod ei fywyd bu'n enwog mewn cerdd ac yn glodfawr. Cofia'r bardd fod gwaywffyn miniog yn arfer codi i'r awyr uwchben y frwydr pan fyddai Owain yn ymladd.
Yn llinellau 1-2 mae'r bardd yn erfyn ar Dduw i ofalu am enaid Owain, ac yn llinellau 7-8, dywed pam y dylai wneud hynny - 'am nad oes ar gael neb tebyg i arglwydd disglair Llwyfenydd' (neu efallai 'i arglwydd Llwyfenydd ddisglair'). Dyma'r dehongliad mwyaf tebygol, a dyna a ddilynir yma. Byddai'n bosibl hefyd gysylltu llinellau 7-8 â llinell 4: mae Owain yn teilyngu mawl . . . am nad oes neb tebyg iddo.
Ond os cadwn y gair sydd yn y llawysgrif, sef llewenyd, mae dau ddehongliad posibl pellach. (1) Yn gyntaf gallai udd llewenydd 'arglwydd llawenydd' gyfeirio at Owain, arglwydd sy'n dod â hapusrwydd a dedwyddwch i'w bobl. Gallai'r ansoddair llathraid 'disglair, ysblennydd' ddisgrifio Owain neu'r llewenydd. (2) Yr ail bosibilrwydd yw mai Duw sydd dan sylw unwaith eto fel yn llinell 2, ac mai ef yw 'Arglwydd llawenydd' neu Arglwydd y 'llawenydd ysblennydd' (llawenydd llathraid), sef y Nef. O blaid (2) y mae'r ffaith fod y beirdd weithiau yn defnyddio enw Duw ochr yn ochr â'r geiriau lleufer 'goleuni' a llewenydd. Ymhellach, os Duw yw'r udd 'arglwydd' dan sylw yma, mae'n debygol fod y bardd yn erfyn ar Dduw i ofalu am enaid Owain ac yn esbonio hynny yn llinellau 7-8: mae'n gofyn 'am nad oes neb o'r un pwysigrwydd â [Duw sy'n] Arglwydd disglair y llawenydd [nefol]'.'
Mae'r bardd yn dweud fod Owain yn fedelwr gelynion - ei fod yn eu torri i lawr fel petai'n eu cynaeafu - a'i fod yn afaelwr, yn ddaliwr. Yn hyn o beth y mae ganddo'r un natur neu anian â'i dad a'i dad-cu o'i flaen. Urien, wrth gwrs, oedd y tad, brenin yr oedd Taliesin wedi canu iddo droeon. Y tebyg yw mai Cynfarch, tad Urien, oedd y tad-cu dan sylw.
Pan laddodd Owain bennaeth y gelyn, Fflamddwyn, nid oedd hynny'n fwy o ymdrech iddo na phe bai'n cysgu: roedd yn medru gwneud hynny yn ei gwsg.
Mae byddin fawr Lloegr, sef y gelyn, yn 'cysgu' ac mae goleuni yn eu llygaid: mae eu llygaid ar led wedi iddynt gael eu lladd ar faes y gad.
'A'r rhai hynny nad oeddynt prin yn trafferthu i ffoi - roeddynt yn fwy hy nag y dylent fod'. Mae'r bardd am dynnu sylw at y tebygrwydd sain rhwng y gair haeach ar ddiwedd llinell 15 a hyach sy'n odli ag ef yn y llinell nesaf. Ni sylweddolent mor nerthol ydoedd, ac nid oeddent yn cilio ond ychydig. Yng ngeiriau'r gerdd, 'roeddynt yn fwy hy (hyach) na'r angen', 'yn fwy hy nag y dylent fod'. Rydym yn gweld canlyniad rhyfyg y gelynion yn llinellau 17-18 ac Owain yn eu cosbi a'u hymlid fel haid o fleiddiaid yn cwrso defaid.
Cosbodd Owain ei elynion yn greulon, y rhai nad oeddynt wedi ffoi yn ddigon pell, a hynny fel haid o fleiddiaid yn rhedeg ar ôl defaid.
Dywed y bardd fod Owain yn ŵr ysblennydd uwch ei harnais amryliw a'i fod yn arfer rhoi ceffylau i bobl a oedd yn gofyn am roddion.
Dywedir yma fod Owain wedi bod yn rhoi ceffylau i'r sawl a oedd yn gofyn. Er iddo hel y ceffylau ynghyd fel cybydd, cawsant eu dosbarthu wedyn rhag ei enaid. Sylwch ar y syniad o'r economi ysbrydol yma: mae haelioni fel hyn yn dwyn ffrwyth i'r ysbryd. Roedd anrhegu'r Eglwys a thai crefydd yn gyffredin drwy wledydd Cred yn yr Oesoedd Canol: yn aml rhoddid pethau gwerthfawr fel darnau o dir, ac aur ac arian 'er lles yr enaid' - yn Lladin, pro anima (neu pro remedia animae, pro redemptione animae, etc.) - yn y gobaith o sicrhau gweddïau. Defnyddiwyd pro anima sua 'er lles ei enaid' wrth gofnodi gweithred gŵr o'r enw Gelli yn rhoi llyfr Efengylau addurnedig i Dduw ac eglwys Llandeilo yn y 9g. Ac 'er lles ei enaid ei hun' pro salute animae suae y rhoddodd y Brenin Peibio bedair erw o dir ar afon Gwy i'r Eglwys. Rhyw amrywiad ar hynny sydd yma, mae'n ymddangos, a'r sôn am y meirch efallai'n adlewyrchu persbectif y bardd llys a fyddai'n derbyn ceffylau a dillad a rhoddion eraill am ei wasanaeth. Ac ar ddiwedd oes Owain, dyma'r bardd yn gweddïo dros ei noddwr, yn cymell Duw i roi'r rhodd eithaf, sef Ei drugaredd. Darllenwch am bwysigrwydd haelioni a'r elfennau Cristnogol sydd yn y gerdd hon o dan Themâu.
Mae'n ymddangos fod dwy linell gyntaf y gerdd yn cael eu haildrodd yn eu cyfanrwydd ar y diwedd, er mai talfyriad yn unig sydd gennym yn y llawysgrif: Eneit. O. ap vryen. Drwy hynny, cynhelir yr odl yn -aid. Cawn amlen, felly, o gwmpas y gerdd. Ond fe sylwch fod testun Y Traddodiad Barddol yn gorffen ag enw Owain ab Urien. Byddai hynny hefyd yn caniatáu effaith yr amlen, ac yn peri i'r enw atseinio ar ddiwedd y gerdd. Ond byddai absenoldeb yr odl -aid yn rhyfedd. Braidd yn fentrus fyddai awgrymu fod y bardd yn bwriadu cyfleu colled drwy orffen y gerdd gyda'r llinell weddw, sef llinell 23 heb linell 24. Darllenwch am fydr y gerdd o dan Mesur.
Mae Marwnad Owain yn dechrau naw llinell o’r gwaelod ac fe welwch lythyren wyrddlas i air cyntaf y gerdd, sef Eneit ‘enaid’. Ar ochr dde’r un llinell mae’r teitl wedi’i ysgrifennu ag inc coch. Mae’r testun yn parhau ar yr ail dudalen.
Arfer y llawysgrifau cynnar oedd copïo barddoniaeth fel petai’n rhyddiaith gan ddefnyddio holl led y gofod ysgrifennu. Roedd hyn yn fodd i arbed memrwn. Ond dyma’r gerdd wedi ei gosod ar ffurf barddoniaeth yn ôl ein harfer ni heddiw, mewn llinellau mydryddol. Er mai’r llythyren 6 a ddefnyddir yn y llawysgrif, y llythyren w a ddefnyddir yma. Mae’r pwyntiau du a welwch yn y gerdd yn dynodi geiriau a ysgrifennwyd gyda’i gilydd yn y llawysgrif, ond a nodwyd ar wahân yma, e.e. yn llinell 2 yren = y·ren = ‘ei Arglwydd’.
Fe welwch y testun yma gyda’r seiniau wedi’u cynrychioli gan y llythrennau a ddefnyddiwn ni heddiw. Mae priflythrennu ac atalnodi modern wedi’u defnyddio.
Mae newidiadau neu ddiwygiadau golygyddol i‘r testun yn cael eu dangos mewn print italig coch, gyda darlleniad y llawysgrif yn y troednodiadau isod.
1Llewenyd
2llatreit
3. . . ch
Yn ôl y gred gyffredin — ac ym marn Ifor Wllliams, Gwyn Thomas, a llawer o feirniaid eralll — cerdd a ganwyd adeg marwolaeth Owain fab Urien neu’n fuan wedyn yw ‘Marwnad Owain’. Y testun a welwn yn Llyfr Taliesin, llawysgrif o hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg yw’r copi cynharaf sydd wedi goroesi. Weithiau fe ddywedir mai’r hyn sydd gennym yn y llawysgrifau yw fersiynau wedi’u moderneiddio a’u haddasu wrth iddynt gael eu trosglwyddo ar lafar ac mewn ysgrifen. Ac mae’n wir bod modd gweld peth o’r broses foderneiddio honno ar waith mewn testunau fel ‘Y Gododdin’. Yn achos ‘Marwnad Owain’, mae gwead mydryddol y gerdd mor dynn fel ei bod yn anodd credu nad fel yna y cyfansoddwyd y gerdd i ddechrau; ond ni allwn fod yn gwbl sicr.
Yn y llawysgrif, mae’r gerdd yng nghwmni marwnadau eraill. Mae rhai ohonynt yn galaru am gymeriadau chwedlonol fel Dylan Ail Ton (brawd Lleu ym Mhedair Cainc y Mabinogi) neu Ergwl (sef Hercules o’r Hen Fyd Clasurol). Cyn yr adran farwnadau, mae saith cerdd i Urien Rheged, sef tad Owain — gan gynnwys ‘Gwaith Argoed Llwyfain’ — ac mae enw’r bardd Taliesin yn cael ei gysylltu â’r grwp hwnnw. Felly, er nad oes sicrwydd pwy oedd awdur ‘Marwnad Owain’, Taliesin yw’r ymgeisydd cryfaf am iddo weithredu fel bardd yn llys Rheged yn oes Urien.
Pwy oedd Owain fab Urien? Fel y mae’r enw llawn yn dweud wrthym, mab Urien Rheged oedd Owain, un o chwe mab yn ôl tystiolaeth yr achau cynnar (gyda Rhun, Rhiwallon, Elffin, Pasgen, a Chadell). Mae’r gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’ yn portreadu Owain yn ymladd wrth ochr Urien, ac yn cymryd rhan weithredol yn yr herio rhwng lluoedd Rheged a Fflamddwyn, arweinydd y gelyn. Dywed y gerdd honno ymhellach fod Owain yn ddwyrain ffosawd ‘un sy’n dod â gofid i’r dwyrain’; awgryma hyn fod Owain, fel ei dad, yn enwog am ymosod ar diriogaeth yr Angliaid yn ngogledd-ddwyrain Lloegr. Efallai mai Owain a ddaeth yn frenin Rheged wedi marwolaeth Urien tua 580. Nid ydym yn gwybod yn union pryd y bu farw Owain, ond gallwn fentro dyddiad tua diwedd y chweched ganrif neu ddechrau’r seithfed ganrif.
Mae’n amlwg fod y cof am Owain fab Urien wedi parhau drwy’r Oesoedd Canol. Fe enwir ef, ynghyd â’i dad a rhai o’i frodyr, yn y cylch o englynion am gwymp Rheged, sef ‘Canu Urien’ (tua’r nawfed ganrif). Daeth Owain yn enwog drwy Ewrop hefyd, fel Yvain(s) li filz Uriien, diolch i’r awdur Ffrangeg, Chrétien de Troyes. Tua 1170-5, cyfansoddodd Chrétien destun Ffrangeg, Yvain, cerdd storïol lawn hud a lledrith wedi’i gosod ym myd y Brenin Arthur. Owain hefyd yw prif gymeriad y chwedl Gymraeg gyfatebol, sef ‘Owein’ neu ‘Iarlles y Ffynnon’. Gwelir Owain mewn chwedl Arthuraidd arall, sef ‘Breuddwyd Rhonabwy’; yno mae yng nghwmni branes neu haid o frain, trosiad efallai am osgordd neu fyddin o filwyr. Roedd nifer o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif yn gyfarwydd â’r deunyddiau storïol hyn. Yn wahanol i enw Urien, roedd Owain yn enw cyfarwydd drwy gydol yr Oesoedd Canol, ac mae’n dal yn enw poblogaidd hyd heddiw.
Marwnad ydyw, cerdd (nad) am ŵr sydd wedi marw. Mae’r farwnad hon yn cyfuno dwy brif elfen: gweddi Gristnogol a moliant i Owain. Cristnogion oedd y Cymry yn yr Hen Ogledd yn ail hanner y chweched ganrif, yn wahanol i’r Angliaid a oedd yn dal i addoli eu hen dduwiau paganaidd megis Woden. Yr elfen gyntaf yw’r weddi Gristnogol sydd yn amlen o gwmpas y gerdd: dyma sydd ar ddechrau’r gerdd, ac ar ei diwedd hefyd gan fod y cwpled cyntaf yn cael ei ailadrodd. Mae enaid Owain yn cael ei gyflwyno i ofal Duw ac y mae’r bardd yn erfyn ar Dduw i ystyried angen yr enaid. Pam? Am fod angen trugaredd Duw ar yr enaid i ennill bywyd tragwyddol. Byddai Cristnogion y cyfnod yn rhoi pwys mawr ar gyffesu eu pechodau cyn marw; byddent hefyd yn awyddus i weddïau gael eu dweud ar ôl eu marwolaeth er mwyn cyflwyno’r enaid i Dduw.
Nid ydym yn gwybod sut y bu farw Owain, ond byddai defodau arbennig yn digwydd yn sgil y farwolaeth. Byddai’r corff yn cael ei olchi a’i drin cyn ei osod yn y bedd, neu mewn arch dan y ddaear: gwyddom fod y tywysog Cynddylan a fu farw yng nghanol y seithfed ganrif wedi’i osod mewn arch o bren derw. Y mae llinellau 3-4 yn dangos yn glir mai mewn isgell ‘cell neu ystafell isod’ o dan y ddaear, y mae Owain bellach yn gorwedd, wedi’i guddio gan y dywarchen drom, las. Nid yw’n amhosibl mai ar lan y bedd y datganwyd y gerdd hon am y tro cyntaf, efallai ar ddiwedd y gwasanaeth claddu. Byddai’r gerdd Gymraeg yn ategu rhai o’r geiriau Lladin a glywyd yno yn gofyn am drugaredd i enaid Owain. Byddai’r farwnad yn cael ei chanu wedyn ar achlysuron eraill — yn y llys, gerbron teulu a chydnabod Owain. Byddai’r gerdd yn gysur iddynt wrth feddwl am y defodau claddu a ddilynwyd mor ofalus. Byddai hefyd yn eu hatgoffa o fawredd Owain fel arglwydd dewr a hael; drwy hynny gallai’r gerdd gynnig therapi i leddfu eu galar.
Yr ail elfen bwysig yn y gerdd yw’r moliant i Owain. Mae’n cael ei ddarlunio fel y bu yn ystod ei fywyd; mewn ffordd, mae’r gerdd yn dod ag ef yn fyw unwaith eto. Mae hyn yn dra amlwg yn llinellau 9-12 a 17-20, yn y rhannau deinamig hynny lle mae’n gweithredu’n egnïol — yn cynaeafu ei elynion, yn gafael, yn lladd, yn rhoi crasfa i’r gelyn, ac yn dosbarthu ceffylau i’w bobl ei hun.
Dewrder a haelioni Owain yw’r rhinweddau a folir, a dyma’r ddwy rinwedd bwysicaf mewn brenin neu arglwydd yn ôl yr ideoleg arwrol: yn ôl y ffordd honno o feddwl, roedd dewrder eithafol a haelioni’n cyfrif am fwy na dim arall. Datblygodd yr ideoleg hon er mwyn gwasanaethu buddiannau’r gymdeithas, ac yn enwedig yr aristocrasi. Dibynnai’r gymdeithas ar rym milwrol i amddiffyn eu tir a’u daear rhag y gelyn. A thrwy ymosod ar y gelynion hynny a dwyn eu tir a’u hanifeiliaid a’u trysorau y deuai brenhinoedd yn gyfoethog. Byddai’r cyfoeth wedyn yn cael ei ddosbarthu er mwyn talu am wasanaeth y milwyr, ac er mwyn anrhegu pobl bwysig eraill megis y beirdd a swyddogion y llys.
Roedd y gymdeithas gynnar hon yn arddangos grym a chyfoeth brenhinoedd ac arglwyddi drwy bethau materol — arfau wedi’u haddurno, dillad ac arfwisgoedd lliwgar, diod feddwol, a cheffylau hardd. Dyna pam y mae cymaint o sôn am y pethau hyn yn y farddoniaeth fawl gynnar. Yn ogystal, byddai’r cerddi mawl yn y llysoedd yn dathlu llwyddiant y brenin a’r bonedd, ac yn dwyn clod iddynt. Oherwydd ei gampau dewr yr oedd Owain yn ‘un enwog mewn cân’ (cerddglyd llinell 5). Mae’r gerdd bresennol yn rhan o’r mawl sy’n sicrhau clod tragwyddol iddo, yn olyniaeth ei dad a’i daid. Gan fod cyfran fawr o ‘Marwnad Owain’ yn foliant, mae’n cynnig model o’r brenin delfrydol, ac yn gosod patrwm i eraill ei ddilyn.
Mae’r gerdd hon yn gweithredu ar sawl lefel, felly, ac yn gwneud nifer o bethau ar yr un pryd. Mae’r bardd hefyd yn cyfuno ystyriaethau daearol ac ysbrydol. Gwelir hyn yn enwedig yn llinellau 20-22. Disgrifir yno sut y bu i Owain roi ceffylau i’r sawl a oedd yn gofyn. Dyna weithred a ddisgwylid gan frenin go-iawn yn y gymdeithas: dyna a fyddai’n dangos ei gyfoeth a’i bŵer. Ond mae’r gerdd yn mynd ymlaen: er bod Owain yn casglu llawer o geffylau ynghyd fel cybydd (dyn sy’n dal ei afael yn dynn ar ei eiddo a’i arian), byddent yn cael eu dosbarthu wedyn ‘er mwyn ei enaid’. Y syniad o’r lles ysbrydol sy’n ddiddorol yma, gyda haelioni fel hyn yn foesol dda ac felly’n dwyn ffrwyth i’r ysbryd.
Roedd anrhegu’r Eglwys a’r tai crefydd yn gyffredin drwy wledydd Cristnogol Ewrop: yn aml roedd pethau gwerthfawr fel darnau o dir yn cael eu rhoi iddynt, ac aur ac arian a rhoddion eraill ‘er lles yr enaid’; yr ymadrodd Lladin a ddefnyddid oedd pro anima (neu pro remedio animae, pro redemptione animae, etc.). Y gobaith oedd y byddai hynny’n sicrhau bod y mynaich neu’r clerigwyr yn gweddïo dros yr ymadawedig. Rhyw amrywiad ar hynny sydd yma, mae’n ymddangos, a’r sôn am y meirch efallai’n adlewyrchu persbectif y bardd llys a fyddai wedi derbyn ceffylau a dillad a rhoddion eraill am ei wasanaeth. Ac ar ddiwedd oes ei noddwr, dyma’r bardd yn gweddïo dros ei noddwr, yn gofyn i Dduw fod yn drugarog wrth Owain. Yn y pen draw, tynged yr enaid sy’n bwysig, nid clod tragwyddol. Daw’r pethau materol i ben, fel y dywedodd bardd cynnar arall: ‘ar ôl cael ceffylau a medd ffres a gwledd, a chyfathrach â gwragedd, fydda’ i ddim yn cysgu: byddaf yn poeni am fy niwedd’.
Mae Marwnad Owain wedi’i chanu ar fesur yr oedd y Gramadegau Barddol o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen yn ei alw’n awdl-gywydd. Trowch at yr adran sy’n rhoi gwybodaeth bellach am yr awdl-gywydd. Roeddynt yn dweud fod gan yr awdl-gywydd linellau hirion o bedair slllaf ar ddeg.
Fe welwch fod y llinell hir hon yn ymrannu’n ddau hanner. Yr arfer bellach yw argraffu’r llinell yn ddwy ran fel y gwelwch yn y gerdd.
Y brifodl sydd ar ddiwedd pob llinell hir, a’r un brifodl sy’n cael ei chynnal drwy’r gerdd, yw –aid.
Edrychwch eto ar yr enghraifft o linell ar ffurf dau hanner y buom yn ei thrafod o dan Mesur.
Sylwch ar y sillafau mewn glas. Dyma’r ‘odl gyrch’. Yr odl gyrch yw’r odl sy’n cysylltu’r sillaf ar ddiwedd yr hanner cyntaf (gefelliad) gyda gair tua chanol yr ail linell. Weithiau, fel yn yr enghraifft hon, bydd y sillaf yn dod o flaen ail orffwysfa’r ail hanner (dad). Dro arall, gall yr odl ddod yn gynharach yn yr ail linell, fel yr enghraifft yn llinellau 21 a 22.
Sylwch fod dwy odl fewnol yn ail hanner y llinell i’w cael weithiau.
A nodwch yr odl gudd yn yr enghraifft hon.
Pwynt pwysig am yr odlau cyrch yw fod ein sillafu modern yn cuddio rhai cyfatebiaethau a fyddai’n bresennol yn y gwreiddiol. Cymerwn linellau 19-20.
Yma, gwelir yn glir fod seirch yn cael ei ateb gan feirch ond hefyd gan eirchiaid. Ond yn yr iaith ganoloesol, nid rhoddai oedd yr ynganiad, ond rhoddei. Yn yr un modd, eirchieid a glywid, nid eirchiaid. Mewn geiriau eraill, byddai llinell 20 wedi cynnwys pedair enghraifft o’r sain -ei-, yn ogystal â’r odl lawn seirch/ feirch/ eirchiaid. Mae’r math hwn o gyfatebiaeth gyfoethog yn gliriach inni heddiw os ydym yn darllen y gerdd yn yr orgraff wreiddiol.
Fel y gwelwyd o dan Odl 1, y brifodl sydd ar ddiwedd pob llinell hir, a’r un brifodl sy’n cael ei chynnal drwy’r gerdd, sef -aid (a fyddai yn yr iaith wreiddiol yn -eid). Nid hap a damwain yw fod yr odl hon yn adleisio enw Owain ei hun, a’r gair enaid hefyd. Mae’n drawiadol fod 25 enghraifft o’r sain -ai- (ac -ei-) yn y gerdd, yn ein hatgoffa o hyd o enw’r gwrthrych. Dyma’r sain lywodraethol, yn wir, ac mae’n dwysáu wrth i’r gerdd fynd yn ei blaen.
Fe welwch yr un dechneg gyffredin o adleisio enw’r gwrthrych wrth astudio Awdl XXIV o’r ‘Gododdin’ sy’n moli’r arwr, Buddfan fab Bleiddfan. Yno gwelir b (a’i ffurfiau treigledig) yn aml, fel yn bu bwyd brain, bu budd i frân, llinell y mae ei chyfres o eiriau unsill yn tynnu sylw ychwanegol ati.
Mae cytseinedd ar waith hefyd drwy’r gerdd. Dyma enghraifft nodweddiadol yn llinellau 9 a 10, gyda g- ar ddechrau dau air, a d- ar ddechrau dau air.
Mae cytseinedd yn gallu creu patrwm mwy estynedig, fel yn llinellau 13 ac 14.
O leiaf, dyna ein hynganiad ni heddiw. Ond yn y chweched ganrif, nid oedd y sain ll- yn bodoli: dim ond yn y ddegfed ganrif y datblygodd y sain honno yn y Gymraeg. Math o l- gref fyddai yma felly.
O droi at yr enghraifft gyntaf eto yn llinellau 9 a 10, sylwch sut y mae’r cytseinedd d- yn cael ei adleisio ymhellach gan y sain -d ar ddiwedd pedwar gair arall, ac ar ganol un gair, sef medel.
Mae’n siŵr y byddai’r gynulleidfa’n adnabod cytseinedd mwy cynnil hefyd, sef cyfatebiaeth rhwng sain a’i ffurfiau treigledig, fel yn yr enghraifft hon (c a ch) yn llinell 7.
Neu hon (c a g) yn llinell 5.
Mae’r gerdd hon yn rheolaidd iawn o ran nifer y sillafau sydd ym mhob llinell (14) a hanner llinell (7). O ran y patrymau rhythmig, mae nifer o’r hanner llinellau yn cynnwys tair acen gref.
O leiaf, dyna sut y byddem yn acennu’r geiriau heddiw gan fod yr acen yn syrthio ar y sillaf olaf ond un, sef y goben. Ond rydym yn gwybod i sicrwydd mai ar sillaf olaf y gair yr oedd yr acen yn y chweched ganrif. Felly, byddai’r bardd Taliesin wedi datgan rhywbeth tebyg i hyn.
I’n clustiau ni heddiw, mae’r aceniad cyntaf (A) yn swnio’n fwy naturiol, yn fwy cywir na B. Ond darllenwch B gyda’r acen ar y sillaf olaf, ac fe glywch fod y brifodl a’r odlau mewnol yn dod allan yn gryfach o lawer. At ei gilydd, fodd bynnag, mae’r acenion yn eu trefnu eu hunain yn fwy cyfartal ar hyd y llinell o ddefnyddio’r aceniad A ar y goben. Ond nid yw hynny’n profi fod y gerdd yn un ddiweddar, wedi’i chyfansoddi ar ôl i’r acen symud i’r goben tua’r flwyddyn 900. Y gwir amdani yw nad ydym yn gwybod digon am sut roedd y cerddi’n cael eu perfformio; efallai fod peth acennu ‘annaturiol’ er mwyn creu llinellau mwy rheolaidd. Efallai hefyd fod rhai llinellau o bryd i’w gilydd yn cynnwys pedair acen gref yn lle tair, neu ddwy acen — a hynny er mwyn osgoi undonedd, efallai.
‘Marwnad Owain’ yw’r unig enghraifft o gerdd ar fesur yr awdl-gywydd yn yr Hengerdd, ac eithrio cerdd yn Llyfr Du Caerfyrddin sy’n dechrau ‘Breuddwyd a welwn neithiwr’. Wedyn ceir darn o gerdd sy’n trafod Brwydr Mynydd Carn yn 1081. Aderyn prin yw’r awdl-gywydd diweddarach, hefyd, meddai John Morris-Jones yn ei lyfr enwog Cerdd Dafod (1925). Awgryma fod y mesur hwn wedi cael ei ddisodli ‘bron yn llwyr’ gan y cywydd deuair hirion, sef y mesur a ddaeth i amlygrwydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gyda Dafydd ap Gwilym a’r Cywyddwyr a ganai wedyn. Mae’r cywydd deuair hirion yn defnyddio cwpledi o linellau saith sillaf, yn odli sillaf acennog a sillaf ddiacen (hedd/ gomedd). Ond ceir enghreifftiau o’r awdl-gywydd yn y Gramadegau Barddol, ac yng ngwaith y beirdd. Canodd y bardd Gutun Owain i’r abad Dafydd yn y bymthegfed ganrif. Canmol y bwyd hyfryd a’r ddiod sydd ar gael ym mynachlog Glynegwestl sydd yn y darn hwn:
Powdr llysiau siopau y sydd
ar ddiodydd urddedig,
a’r siwgr mewn seigiau, a’r mas
i ddwyn blas i ddyn blysig.
[Mae powdr perlysiau o’r siopau ar ddiodydd o ansawdd, a siwgr mewn seigiau bwyd, a mace i godi blas ar ŵr ac arno chwant bwyd].
Yn y canrifoedd dilynol, roedd patrwm yr awdl-gywydd i’w weld mewn caneuon digynghanedd mwy poblogaidd gyda phedair acen i’r hanner llinell gan amlaf — mesur carol neu salm. O ran diddordeb, dyma ymgais gan y bardd Americanaidd cyfoes, John Liztenberg, i atgynhyrchu mesur yr awdl-gywydd yn Saesneg:
She’s sleeping there on the chaise,
on her face a gentle look;
dreaming no doubt of flowers,
and quiet hours with a book.
Mae ‘Marwnad Owain’ yn gerdd syml ac uniongyrchol. Fel arfer mae’r unedau ystyr yn symud fesul llinell hir (sef dwy linell brint), ond mae adrannau mwy yn cael eu ffurfio hefyd, rhai ohonynt yn ymestyn dros bedair llinell brint. Dyma’r patrwm bras:
1-2 cyflwyno enaid Owain i ofal Duw
3-4 Owain yn y bedd; yn ŵr o sylwedd i’w foli; 5-6 y gŵr clodfawr yn y bedd dwfn a’r cof am y gwaywffyn yn codi i’r awyr.
7-8 y rheswm dros gyflwyno Owain i Dduw
9-10 Owain y medelwr; mae ganddo natur ei dad a’i daid
11-12 episod 1: Owain yn lladd Fflamddwyn yn ei gwsg; 13-14 gwŷr Lloegr yn ‘cysgu’
15-16 episod 2: rhyfyg y gelynion; 17-18 eu cosbi gan Owain
19-20 episod 3: Owain ysblennydd yn rhoi ceffylau; 21-22 nid cybydd mohono, ond yn rhoi ‘rhag ei enaid’
21-22 cyflwyno enaid Owain i ofal Duw
Er bod y gerdd yn fyr, mae yma amrywiaeth naws a thempo. Tawel a digyffro yw’r cyflwyniad i Dduw ar y dechrau, fel sy’n weddus, ynghyd â’r darlun o’r arweinydd enwog sydd bellach yn gorwedd yn y bedd. Ymhlyg yn y llinellau hyn y mae’r syniad o ddyfnder — dyfnder y bedd, wrth gwrs, a dyfnder cymeriad Owain a’i gwnâi’n wrthrych hawdd ei foli. Ond rydym yn cael ein cludo gan linell 6 i faes y gad: yno y mae gwaywffyn miniog yn ‘adenydd y frwydr’ wrth iddynt godi i’r awyr. Dyma wrthgyferbyniad â’r llinellau blaenorol, felly: symud nid gorwedd, codi nid disgyn, yr awyr nid y ddaear.
Mae llinell 6 yn paratoi’r ffordd inni glywed mwy am yr ymladd ar faes y gad. Dyna swyddogaeth llinellau 9 a 10 hefyd, gyda’r trosiad medel galon ‘cynaeafwr gelynion’, y disgrifiad ohono fel gefeiliad ‘gafaelwr’, a’r pwyslais ar y ffaith fod Owain yn meddu ar rinweddau ei dad a’i dad-cu. Calon y gerdd ar un olwg yw llinellau 11-18 sy’n cyflwyno dwy enghraifft benodol o rym Owain wrth iddo ymladd yn erbyn Fflamddwyn a gwŷr Lloegr. Cawn elfen o naratif yma, o ddweud stori — yn gyntaf, ‘dyma beth a ddigwyddodd pan laddodd Owain Fflamddwyn’. Ac yna ‘dyma beth a ddigwyddodd i’r lleill’. Mae hyn yn creu diddordeb a drama, ac yn dod ag Owain yn fyw eto o flaen ein llygaid. Defnyddir gwrthgyferbyniad eto mewn ffordd effeithiol. Sylwch yn arbennig ar y ddau fath o gysgu yn llinellau 12-13 cysgaid/Cysgid. Mae Owain yn gallu trechu’r gelyn yn ei gwsg; cwsg naturiol yw hwnnw, yn wahanol i gwsg annaturiol gwŷr Lloegr. Iasol yw’r darlun o lygaid y gelyn ar led: mae adlewyrchiad y golau yn dynwared mewn ffordd grotesg ddisgleirdeb llygaid byw.
Mae’r ail episod yn dangos beth fu tynged y milwyr hynny nad oeddynt wedi cilio’n ddigon pell rhag Owain: yma, mae’r odlau drud/ cnud/ dylud a’r cytseinedd ar c a d yn cyfleu’r ymosodiad chwim: mal cnud yn dylud defaid. Fe welwch yma gyffelybiaeth hirgynffonnog. Enghraifft o gyffelybiaeth debyg yn Saesneg yw’r llinell enwog gan y bardd Byron: ‘The Assyrian came down like the wolf on the fold’. Math symlach o gyffelybiaeth sydd yn llinell 21, mal caled ‘fel cybydd’. Nid yw cyffelybiaethau mor niferus â throsiadau yn yr Hengerdd. Yr ail episod hon yw rhan fwyaf deinamig ein cerdd wrth i Owain ymddwyn yn ffyrnig fel haid o fleiddiaid rheibus. Mae cymharu arwr ag anifail megis blaidd, ci gwyllt, llew, yn gyffredin iawn yn yr Hengerdd. Gwrthgyferbyniol iawn yw llinellau 19-20: dyma Owain nawr yn ŵr gwiw ysblennydd yn rhannu ei gyfoeth ac yn cynnal ei ddeiliaid. Dyma fynegiant o’r paradocs arwrol — y gwyllt a’r gwâr yn cydfodoli yn yr un dyn, fel y gwelir hefyd yn ‘Y Gododdin’. Tawelu ac arafu a wna’r gerdd wrth gyrchu’r diwedd. Mae ailadrodd y ddwy linell gyntaf yn creu amlen o gwmpas y gerdd ac yn pwysleisio ei phrif bwrpas eto.
‘Awdl fer ond cerdd fawr’ yw disgrifiad Gwyn Thomas o ‘Farwnad Owain’. Tua 100 gair sydd yn y gerdd, a’i phrif nodwedd yw ei chynildeb. Erbyn cyfnod Beirdd y Tywysogion (rhwng tua 1100 a 1282), byddai beirdd yn aml yn cymryd cannoedd o linellau i ganu marwnad. Ystyriwch awdl farwnad enwog Gruffudd ab yr Ynad Coch adeg marw Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282 — cerdd sy’n cynnwys 104 o linellau. Canodd Cynddelw Brydydd Mawr awdl foliant i’r tywysog Hywel ab Owain Gwynedd (tua 1160-70) a honno’n cynnwys 301 o linellau. Techneg sy’n caniatáu cynildeb yw defnyddio’r frawddeg enwol, heb ferf: fe welwch enghreifftiau yn llinellau 5-6 ac eto yn llinellau 9-10. Mae hynny’n wir hefyd am drosiadau gan fod modd cywasgu llawer i ychydig eiriau: dywedir bod Owain yn ‘fedel galon’ (nid ‘mae Owain yn medelu ei elynion fel petai’n lladd gwair’). Mewn trosiad arall, dywedir mai esgyll gawr ‘adenydd y frwydr’ oedd gwaywffyn miniog y milwyr.
Roedd y beirdd cynnar yn troi weithiau at eiriau a fyddai’n cael eu defnyddio’n aml gyda’i gilydd am eu bod yn odli neu’n cyflythrennu. Mae enghraifft o bâr cyffredin yn llinellau 19-20 seirch/ meirch: mae hyn yn digwydd droeon — yn ‘Y Gododdin’, yn ‘Nghanu Heledd’, ac ym marddoniaeth Beirdd y Tywysogion. Dyma’r math o gyfuniad llac sy’n llawer mwy cyffredin yn yr Hengerdd nag ymadroddion parod neu sefydlog (a elwir yn fformwlâu). Fe’u gwelwn yn agos i’w gilydd, yn yr un llinell, neu mewn llinellau cyfagos. Mae hyn yn wahanol i rai traddodiadau barddol eraill (Hen Saesneg, Groeg) lle cewch chi fwy o ailgylchu ymadroddion parod. Enghraifft enwog o fformwla sefydlog o’r math hwnnw fyddai’r Hen Roeg oînops póntos ‘môr tywyll fel gwin’ a welir yn y cerddi epig cynnar, yr lliad a’r Odyssey.
Yn ogystal â’r pâr seirch/ meirch, gallwn nodi fod lleufer a llygad yn digwydd gyda’i gilydd mewn cerddi eraill, e.e. mewn awdl gan y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch (y drydedd ganrif ar ddeg) lle y mae’n disgrifio’r corff yn heneiddio a’r llygaid yn pylu: Llygad briw heb liw, heb leufer. Gwelwn y bardd Cynddelw (y ddeuddegfed ganrif) yn defnyddio’r geiriau drud/ cnud/ dylud gyda’i gilydd. Mae’r bardd Prydydd y Moch (y ddeuddegfed i’r drydedd ganrif ar ddeg) yn gwneud yr un peth: Bwyd i gnud a drud a draig — fu Ruffudd. Yn yr un ffordd, mae enaid/ rhaid, a cudd/ udd yn gyffredin. Dyma’r bardd Gwalchmai ap Meilyr yn marwnadu’r tywysog Madog ap Maredudd yn 1160: Ail dewr udd a’i trymgudd trymdde ‘Ail arglwydd dewr y mae trymder [daear] yn ei drist orchuddio’. Fe welwch fod hyn yn eithaf tebyg ei naws i linell 3 ym ‘Marwnad Owain’: ceir yr un odl fewnol, a’r un gystrawen. Nid yw hyn yn syndod: roedd beirdd llys y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg yn gyfarwydd iawn â gwaith eu rhagflaenwyr. Dysgent yr hen gerddi, a’u defnyddio a’u dynwared. Fel y nodwyd yn barod, roedd tuedd iddynt yn eu hawdlau i frodio a helaethu gan greu cerddi llawer mwy na’n cerdd fer ni.