Use some of these linking words and phrases to improve the paragraph below on voting behaviour.

The question (on politics of the USA) was, "‘The core vote for the two main parties is loyal and can be depended upon.’ Discuss."

The candidate has been arguing that voting behaviour is volatile and changeable, and this is the first paragraph of the next section of the essay.

Defnyddiwch rai o'r geiriau a'r ymadroddion cysylltu hyn i wella'r paragraff isod ar ymddygiad pleidleisio.

Y cwestiwn (ar wleidyddiaeth UDA) oedd "‘Mae’r bleidlais graidd i’r ddwy brif blaid yn deyrngar a gellir dibynnu arni.’ Trafodwch".

Mae'r ymgeisydd wedi bod yn dadlau bod ymddygiad pleidleisio yn anwadal ac yn gyfnewidiol, a dyma baragraff cyntaf adran nesaf y traethawd.

Long term factors that influence voting behaviour are still largely significant. One of the primacy factors in American voting behaviour is gender. Traditionally and currently, men and women have different voting patterns. The Democrat vote is strongly affiliated with the female vote as the Democrats have championed women’s rights and still have a large amount of their party platform dedicated to long term policy plans to combat the pay gap, female representation in the workplace and domestic violence. In 2016 there was a Republican candidate who had numerous sexual assault allegations and made many misogynistic comments, and there was the highest gender gap in history - a 24% difference in male and female voting for Clinton. The female core vote for the Democrats remains strong and dependable.

Mae ffactorau hir dymor sy'n dylanwadu ar ymddygiad pleidleisio yn dal i fod yn arwyddocaol i raddau helaeth. Rhywedd yw un o ffactorau blaenaf ymddygiad pleidleisio yn America. Yn draddodiadol ac ar hyn o bryd, mae gan ddynion a menywod batrymau pleidleisio gwahanol. Mae gan y beidlais Democrataidd gysylltiad cryf â phleidlais y fenyw, gan fod y Democratiaid wedi hyrwyddo hawliau menywod ac mae rhan helaeth o waith y parti yn ymroi i gynlluniau polisi hir dymor sy'n mynd i'r afael â'r bwlch cyflog, cynrychiolaeth fenywaidd yn y gweithlu a thrais yn y cartref. Yn 2016 roedd yna ymgeisydd Gweriniaethol a oedd yn destun nifer o honiadau o ymosodiadau rhywiol ac a wnaeth lawer o sylwadau misogynistaidd, ac roedd y bwlch rhwng y rhywiau ar ei uchaf erioed - gwahaniaeth o 24% yn y dynion a menywod a oedd yn pleidleisio dros Clinton. Mae'r bleidlais graidd fenywaidd dros y Democratiaid yn parhau i fod yn gryf ac yn ddibynadwy.

Suggested response (actual candidate response)

Ymateb a awgrymir (ymateb go iawn yr ymgeisydd)

However, to analyse this in more detail, long term factors that influence voting behaviour are still largely significant. One of the most important primacy factors in American voting behaviour is gender. Traditionally and currently, men and women have different voting patterns. The Democrat vote is strongly affiliated with the female vote as the Democrats have championed women’s rights and still have a large amount of their party platform dedicated to long term policy plans to combat the pay gap, female representation in the workplace and domestic violence. In 2016 this, combined with a Republican candidate who had numerous sexual assault allegations and made many misogynistic comments, resulted in the highest gender gap in history as there was a 24% difference in male and female voting for Clinton. Therefore, this suggests that the female core vote for the Democrats remains strong and dependable.

Fodd bynnag, er mwyn dadansoddi hyn yn fanylach, mae ffactorau hir dymor sy'n dylanwadu ar ymddygiad pleidleisio yn dal i fod yn arwyddocaol i raddau helaeth. Rhywedd yw un o ffactorau blaenaf pwysicaf ymddygiad pleidleisio yn America. Yn draddodiadol ac ar hyn o bryd, mae gan ddynion a menywod batrymau pleidleisio gwahanol. Mae gan y beidlais Ddemocrataidd gysylltiad cryf â phleidlais y fenyw, gan fod y Democratiaid wedi hyrwyddo hawliau menywod ac mae rhan helaeth o waith y blaid yn ymroi i gynlluniau polisi hir dymor sy'n mynd i'r afael â'r bwlch cyflog, cynrychiolaeth fenywaidd yn y gweithlu a thrais yn y cartref. Yn 2016 roedd hyn, ynghyd â ymgeisydd Gweriniaethol a oedd yn destun nifer o honiadau o ymosodiadau rhywiol ac a wnaeth lawer o sylwadau misogynistaidd, wedi arwain at y bwlch rhwng y rhywiau uchaf erioed - roedd gwahaniaeth o 24% yn y dynion a menywod a oedd yn pleidleisio dros Clinton. Mae hyn felly'n awgrymu fod y bleidlais graidd fenywaidd dros y Democratiaid yn parhau i fod yn gryf ac yn ddibynadwy.