Delivery techniques

Technegau cyflwyno

Health and Social Care

To ensure the delivery of a session meets several learning styles the facilitator could do the following:

  • For visual learners: use pictures, power points or videos clips.
  • For aural learners: use sound and music.
  • For verbal learners: use written text and spoken words.
  • For physical learners: use role-play, practical demonstrations which the learners then repeat.
  • For logical learners: use quizzes, tests or technological systems.
  • For social learners: use group and pair work, delivery session in group environment.
  • For solitary learners: use homework and self-directed study.

Group Ground Rules

Ground rules should be set at the start of every session. They are important for learner safety, comfort and to maximise participation and learning. This may include:

  • mobile phone use
  • breaks
  • fire safety and evacuation information
  • how learners participate
  • respecting others
  • confidentiality – this includes when information may be shared to protect the safety of children and adults.

Learner Participation

All learners must have the opportunity to contribute and participate in sessions. This can include using individual tasks, group work where everyone is assigned a role, asking all learners questions, etc.

Methods used to deal with difficulties

A number of difficulties may arise in the training session such as poor participation, challenging behaviour, lack of respect from other learners, technology issues, lack of resources and timing issues. Methods should be used to counteract these difficulties such as encouraging participation, confronting challenging behaviour in a dignified manner, use of ground rules to prompt learners when difficulties arise, alternative resources and adjusting break times.

Impact of own opinions

There is a potential that one’s own opinions may impact on participants and the delivery of the session such as: moral values, religion, gender, different knowledge set, different educational background, different learning style, environment and comfort break timings.

A conscious effort should be made to ensure that a difference in opinion and preference does not disrupt the learning experience.

Signposting individuals to further information

Signposting should be relevant to the subject area. This could be in the form of a subject area book or leaflet.

This could also be in the form of websites. Useful websites for health include:

www.nhs.uk

www.nice.org.uk

Shared understanding and expectations

The facilitator must engage with the group to share understandings and expectations at the start of the session. This will support participation and will allow for everyone to know the aim and objectives of the session.

Promoting participation and facilitated discussion

Throughout the session, the facilitator should promote the participation of all individuals to ensure everyone contributes and learns the required objectives. This can be done though facilitated discussion, individual and group work as appropriate.

Support a range of learning styles

Using the range of delivery techniques discussed previously the facilitator ensures inclusion of participants in group and/or individual work.

Considerations

Equality – the facilitator must ensure that participants or groups of participants are not treated differently or less favourable on the basis of their specific protective characteristics including: race, gender, disability, religion, sexual orientation and age.

Diversity – the facilitator must recognise, respect and value the differences between participants or grounds of participants.

Bilingualism – the facilitator should provide bilingual learning material where required.

Forms of communication

It is important to use a range of different forms of communication that promote interaction within the session. This includes:

  • verbal
  • non-verbal
  • active listening
  • questioning techniques
  • open body language
  • tone of voice.

I sicrhau bod sesiwn yn cael ei gynnal mewn modd sy'n bodloni llawer o arddulliau dysgu, gallai'r hwyluswr wneud y canlynol:

  • I ddysgwyr gweledol: defnyddio lluniau, PowerPoint neu glipiau fideo.
  • I ddysgwyr clywedol: defnyddio sain a cherddoriaeth.
  • I ddysgwyr geiriol: defnyddio testun ysgrifenedig a geiriau llafar.
  • I ddysgwyr corfforol: defnyddio chwarae rôl ac arddangosiadau ymarferol i'r dysgwyr eu hailadrodd.
  • I ddysgwyr rhesymegol: defnyddio cwisiau, profion neu systemau technolegol.
  • I ddysgwyr cymdeithasol: gweithio mewn grwpiau a pharau, cynnal y sesiwn mewn amgylchedd grŵp.
  • I ddysgwyr unig: defnyddio gwaith cartref ac astudio hunangyfeiriedig.

Rheolau Sylfaenol i'r Grŵp

Dylid pennu'r rheolau sylfaenol ar ddechrau pob sesiwn. Maent yn bwysig i ddiogelwch a chysur dysgwyr ac i gynyddu cyfranogiad a dysgu. Gallai hyn gynnwys:

  • defnyddio ffonau symudol
  • egwyliau
  • gwybodaeth am ddiogelwch tân a gwagio'r adeilad
  • sut mae dysgwyr yn cyfranogi
  • parchu eraill
  • cyfrinachedd – mae hyn yn cynnwys pryd gellir rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu plant ac oedolion.

Cyfranogiad Dysgwyr

Mae'n rhaid i'r holl ddysgwyr gael cyfle i gyfrannu a chymryd rhan mewn sesiynau. Gall hyn gynnwys defnyddio tasgau unigol, gwaith grŵp a rhoi rôl i bawb, gofyn cwestiynau i'r dysgwyr i gyd, ac ati.

Dulliau i'w defnyddio i ymdrin ag anawsterau

Gall nifer o anawsterau ymddangos yn ystod y sesiwn hyfforddi fel cyfranogiad gwael, ymddygiad heriol, diffyg parch gan ddysgwyr eraill, problemau â thechnoleg, diffyg adnoddau a phroblemau amseru. Dylid defnyddio dulliau i wrthweithio'r anawsterau hyn fel annog cyfranogiad, ymateb ag urddas i ymddygiad heriol, defnyddio rheolau sylfaenol i arwain dysgwyr pan fydd anawsterau'n codi, dewisiadau eraill o ran adnoddau ac addasu amseroedd egwyl.

Effaith eich barn eich hun

Mae'n bosibl y gallai barn un unigolyn effeithio ar gyfranogwyr ac ar gynnal y sesiwn, er enghraifft: gwerthoedd moesol, crefydd, rhywedd, set wybodaeth wahanol, cefndir addysgol gwahanol, arddull dysgu gwahanol, amgylchedd ac amseru egwyliau cysur.

Dylid gwneud ymdrech ymwybodol i sicrhau nad yw gwahaniaeth rhwng barn a hoff ddewisiadau'n tarfu ar y profiad dysgu.

Cyfeirio unigolion at wybodaeth bellach

Dylai unrhyw gyfeirio fod yn berthnasol i faes y pwnc. Gallai fod ar ffurf llyfr neu daflen am faes y pwnc.

Gallai hefyd fod ar ffurf gwefannau. Dyma rai gwefannau defnyddiol ar gyfer iechyd:

www.nhs.uk

www.nice.org.uk

Rhannu dealltwriaeth a disgwyliadau

Mae'n rhaid i'r hwyluswr ymgysylltu â'r grŵp i rannu dealltwriaeth a disgwyliadau ar ddechrau'r sesiwn. Bydd hyn o gymorth i gyfranogiad ac yn caniatáu i bawb wybod nod ac amcanion y sesiwn.

Hybu cyfranogiad a thrafodaeth wedi'i hwyluso

Drwy gydol y sesiwn, dylai'r hwyluswr hybu cyfranogiad pob unigolyn i sicrhau bod pawb yn cyfrannu ac yn dysgu'r amcanion gofynnol. Gellir gwneud hyn drwy hwyluso trafodaethau a gwneud gwaith unigol a gwaith grŵp fel y bo'n briodol.

Hybu amrywiaeth o arddulliau dysgu

Gan ddefnyddio'r amrywiaeth o dechnegau a drafodwyd i gynnal y sesiwn, mae'r hwyluswr yn sicrhau bod cyfranogwyr yn cael eu cynnwys mewn gwaith grŵp a/neu waith unigol.

Ystyriaethau

Cydraddoldeb – mae'n rhaid i'r hwyluswr sicrhau na chaiff cyfranogwyr na grwpiau o gyfranogwyr eu trin yn wahanol nac yn llai ffafriol ar sail eu nodweddion gwarchodedig penodol gan gynnwys: hil, rhywedd, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol ac oed.

Amrywiaeth – mae'n rhaid i'r hwyluswr adnabod, parchu a gwerthfawrogi'r gwahaniaethau rhwng cyfranogwyr neu rhwng eu safbwyntiau.

Dwyieithrwydd – dylai'r hwyluswr ddarparu deunydd dysgu dwyieithog lle bo ei angen.

Ffurfiau cyfathrebu

Mae'n bwysig defnyddio amrywiaeth o wahanol ffurfiau cyfathrebu sy'n hybu rhyngweithio yn ystod y sesiwn. Mae hyn yn cynnwys:

  • geiriol
  • di-eiriau
  • gwrando gweithredol
  • technegau cwestiynu
  • iaith corff agored
  • tôn y llais.