For individuals who misuse substances, stigma can be a barrier to a wide range of opportunities and rights. People who are branded for their drug involvement can undergo social rejection, labelling, typecasting and discrimination, even if there are no adverse consequences connected with their drug use. This is displayed in a variety of ways, including not being employed or being denied housing.
Stigma is one of the main influences stopping substance misusers from looking for and completing addiction treatments and from making use of harm reduction services, such as needle exchange services. In a vicious cycle, the social exclusion created by stigma can increase the need for a variety of services.
Service users who misuse substances may also stigmatise other people who use substances. People who use socially acceptable, legal substances, such as alcohol, may have adverse biases against people who use illegal substances. Users of illegal so-called ‘soft drugs’, such as cannabis, may have adverse biases against people who use illegal ‘hard’ drugs, such as cocaine. People who insufflate may have prejudice against people who inject.
I unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau, gall stigma eu hatal rhag manteisio ar amrywiaeth eang o gyfleoedd a hawliau. Gall pobl a gaiff eu brandio am eu cyfranogiad â chyffuriau gael eu gwrthod yn gymdeithasol, cael eu labelu, eu stereoteipio a gellir gwahaniaethu yn eu herbyn, hyd yn oed os nad oes unrhyw ganlyniadau andwyol yn gysylltiedig â'u defnydd o gyffuriau. Caiff hyn ei arddangos mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys peidio â chael eu cyflogi neu gael eu gwrthod am dai.
Stigma yw un o'r prif ddylanwadau sy'n atal unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau rhag edrych am driniaethau i bobl sy'n gaeth i sylweddau a chwblhau triniaeth o'r fath a rhag defnyddio gwasanaethau lleihau niwed, fel gwasanaethau cyfnewid nodwyddau. Mewn cylch dieflig, gall yr all-gau cymdeithasol a gaiff ei greu gan stigma gynyddu'r angen am amrywiaeth o wasanaethau.
Gall defnyddwyr gwasanaethau sy'n camddefnyddio sylweddau hefyd stigmateiddio pobl eraill sy'n defnyddio sylweddau. Gall fod gan bobl sy'n defnyddio sylweddau cyfreithiol a dderbynnir yn gymdeithasol, fel alcohol, ddangos rhagfarn andwyol yn erbyn pobl sy'n defnyddio sylweddau anghyfreithiol. Gall defnyddwyr 'cyffuriau meddal', fel y'u gelwir, anghyfreithiol, fel canabis, ddangos rhagfarn andwyol yn erbyn pobl sy'n defnyddio cyffuriau 'caled' anghyfreithiol, fel cocên. Gall pobl sy'n chwythu sylweddau ddangos rhagfarn yn erbyn pobl sy'n eu chwistrellu.
Potential impacts of societal attitudes and values on equality, diversity and inclusion. An individual could experience difficulties with:
Stigmatisation and stereotyping - Impacts on exclusion, socio-economic, education, employment, independence, emotional and physical well-being, life choices. Methods of overcoming stigma include the Time to Change campaign, education, social inclusion, legislation and case studies. Various media outlets (film, TV, social media, radio) contribute to the development of negative stereotypes and stigmatisation.
Discrimination / Prejudice – Impacts on access to services, access to education or training and restrictions to potential occupations. Social life restrictions can lead to isolation and therefore, could result in relapse. Due to negative stigmatisation and stereotyping people could fear and exclude individuals with a history of drug dependence in professional and private contexts.
Effeithiau posibl agweddau a gwerthoedd cymdeithas ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gallai unigolion brofi anawsterau â'r canlynol:
Stigmateiddio a stereoteipio - Effeithiau ar all-gau, materion economaidd gymdeithasol, addysg, cyflogaeth, annibyniaeth, llesiant emosiynol a chorfforol, dewisiadau bywyd. Mae dulliau i oresgyn stigma yn cynnwys yr ymgyrch Amser i Newid, addysg, cynhwysiant cymdeithasol, deddfwriaeth ac astudiaethau achos. Mae amrywiol allfeydd y cyfryngau (ffilm, teledu, y cyfryngau cymdeithasol, radio) yn cyfrannu at y broses o ddatblygu stereoteipiau negyddol a stigmateiddio.
Gwahaniaethu / Rhagfarn – Yn effeithio ar y gallu i gael gafael ar wasanaethau, addysg neu hyfforddiant a chyfyngiadau ar alwedigaethau posibl. Gall cyfyngiadau ar fywyd cymdeithasol arwain at arwahanrwydd a gallai, o ganlyniad, arwain at ailwaelu. Oherwydd stigmateiddio a stereoteipio negyddol, gallai pobl fod ofn unigolion â hanes o ddibyniaeth ar gyffuriau a gallent eu heithrio mewn cyd-destunau proffesiynol a phreifat.
To support individuals to lead a full and valued life, a care plan must be created to consider the following legislation:
Human Rights Act 1998 – The rights to a full and valued life is supported by the basic freedoms stipulated in the Human Rights Act 1998. These rights apply to an individual regardless of their origins, beliefs or where they live. These rights cannot be removed, but they can be restricted in situations, such as breaking the law or in the interests of national security. An individual’s right to a full and valued life includes:
Human rights are supported by shared values like dignity, fairness, equality, respect and independence.
Mental Capacity Act 2005 – The Mental Capacity Act (2005) understands, recognises and supports each individual as a unique person, with different objectives, aspirations and lifestyles. The MCA introduces a flexible approach to decision-making and seeks to empower those individuals to make their own decisions and protect those who lack capacity to do so. The MCA has five principles to uphold, which are:
Equality Act 2010 – The Equality Act (2010) promotes two key components that have a direct effect on the quality of health and social care services. Care staff working in health and social care must ensure that service users are treated fairly and equally, with dignity and respect.
Care Act 2014 – Under the Care Act 2014, local authorities must:
Er mwyn helpu unigolion i fyw bywyd llawn a werthfawrogir, rhaid llunio cynllun gofal er mwyn ystyried y ddeddfwriaeth ganlynol:
Deddf Hawliau Dynol 1998 – Ategir yr hawl i fywyd llawn a werthfawrogir gan y rhyddid sylfaenol a ddynodir yn Neddf Hawliau Dynol 1998. Mae'r hawliau hyn yn gymwys i unigolyn ni waeth beth fo'i darddiad, ei gred na ble y mae'n byw. Ni ellir dileu'r hawliau hyn, ond gellir eu cyfyngu mewn sefyllfaoedd penodol, fel torri'r gyfraith neu er budd diogelwch cenedlaethol. Mae hawl unigolyn i fywyd llawn a werthfawrogir yn cynnwys y canlynol:
Ategir hawliau dynol gan werthoedd cyffredin fel urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth.
Deddf Galluedd Meddyliol 2005 – Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) yn deall, yn cydnabod ac yn cefnogi pob unigolyn fel person unigryw, ag amcanion gwahanol, dyheadau gwahanol a ffyrdd gwahanol o fyw. Mae'r Ddeddf hon yn cyflwyno dull hyblyg o wneud penderfyniadau ac yn ceisio grymuso'r unigolion hynny i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac amddiffyn y rheini nad oes ganddynt y galluedd i'w gwneud. Mae'r Ddeddf yn cynnwys pump egwyddor i'w rhoi ar waith, sef:
Deddf Cydraddoldeb 2010 – Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn hyrwyddo dwy elfen allweddol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i staff gofal sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau y caiff defnyddwyr gwasanaethau eu trin yn deg ac yn gyfartal, ag urddas a pharch.
Deddf Gofal 2014 – O dan Ddeddf Gofal 2014, rhaid i awdurdodau lleol wneud y canlynol:
Religious environments – Studies have consistently shown that people who report no religious affiliation or belief at all are more likely to have drinking problems. Additionally, all religious groups have fewer alcohol misusers than non-religious groups. Religious practices, such as church attendance, reading religious texts, and praying were correlated with lower rates of substance misuse (Borras et al., 2010; Ghandour, Kalam, & Maalouf, 2009). Participation in organized religious activities (ORA) gives a person access to a social support system that has a similar moral fabric and can discourage substance use among its members. Religious support and spirituality foster social recovery and reduce relapse in some patients (Bartkowski & Xu, 2007; Cotton, Zebracki, Rosenthal, Tsevat, & Drotar, 2006; Snipes et al., 2014).
Gender – According to recent research, men are more likely than women to misuse all types of illicit substances, and substance misuse is more likely to result in visits to the emergency department or overdose deaths for men than for women. For most age groups, men have higher rates of use or dependence on illegal drugs and alcohol compared to women. Women are more susceptible to craving and relapse after misuse (National Institute on Drug Abuse, 2018). The majority of drug misuse deaths (73% in 2016) occur in men. However, drug misuse deaths among women are on a long-term increasing trend (Public Health England, 2017).
Ethnicity – The main facts and figures of recent data about substance misuse in ethnic populations are:
Substance use and abuse are more common among Caucasians than African-Americans. A study of 72,561 youths resulted in 37% of them engaging in substance use, 9% of which were white, compared to 5% being black. (Szalavtia, M. 2015)
Social / Cultural – Socio-cultural aspects that affect substance misuse have been identified as:
Family structure – In cases where children lived with a divorced parent, single parent or step-parent, the chance of them being exposed to behavioural health problems increased significantly. They were also more likely to need counselling themselves with these family histories present and changing family dynamics. Parental substance abuse during the childhood years can predispose individuals to a host of problems, with adult drug and alcohol abuse being one of them. Children of alcoholic parents have a fourfold increased risk of being dependent on alcohol themselves later in life. In addition, households in which one or both caretakers are substance abusers are more likely to be of lower economic status. (United States Census Bureau, 2009)
Amgylcheddau crefyddol – Mae astudiaethau wedi dangos yn gyson bod pobl nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad crefyddol neu gred o gwbl yn fwy tebygol o ddioddef problemau alcohol. Yn ogystal, mae pob grŵp crefyddol yn cynnwys llai o unigolion sy'n camddefnyddio alcohol na grwpiau anghrefyddol. Roedd cysylltiad rhwng arferion crefyddol, fel mynd i'r eglwys/capel, darllen testunau crefyddol a gweddïo a chyfraddau is o ran camddefnyddio sylweddau (Borras et al., 2010; Ghandour, Kalam a Maalouf, 2009). Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau crefyddol wedi'u trefnu yn cynnig system cymorth cymdeithasol â strwythur moesol tebyg i berson a gall annog ei aelodau i beidio defnyddio sylweddau. Mae cymorth crefyddol ac ysbrydolrwydd yn meithrin adferiad cymdeithasol ac yn lleihau achosion o ailwaelu ymhlith rhai cleifion (Bartkowski a Xu, 2007; Cotton, Zebracki, Rosenthal, Tsevat a Drotar, 2006; Snipes et al., 2014).
Rhywedd – Yn ôl gwaith ymchwil diweddar, mae dynion yn fwy tebygol na menywod o gamddefnyddio pob math o sylweddau anghyfreithlon, ac mae camddefnyddio sylweddau yn fwy tebygol o arwain at ymweliadau â'r adran damweiniau ac achosion brys neu at farwolaethau o ganlyniad i ddos gormodol i ddynion na menywod. Ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau oedran, mae gan ddynion gyfraddau defnydd neu ddibyniaeth uwch ar gyffuriau anghyfreithiol ac alcohol o gymharu â menywod. Mae menywod yn fwy tebygol o gael ysfeydd ac o ailwaelu ar ôl camddefnyddio (Y Sefydliad Cenedlaethol ar Gamddefnyddio Sylweddau, 2018). Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau (73% yn 2016) yn digwydd ymhlith dynion. Fodd bynnag, mae marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ymhlith menywod yn dangos tuedd cynyddol hirdymor (Public Health England, 2017).
Ethnigrwydd – Mae'r prif ffeithiau a ffigurau yn deillio o ddata diweddar am gamddefnyddio sylweddau o fewn poblogaethau ethnig fel a ganlyn:
Mae defnyddio a chamddefnyddio sylweddau yn fwy cyffredin ymhlith Cawcasiaid na phobl Affricanaidd-Americanaidd. Dangosodd astudiaeth o 72,561 o bobl ifanc fod 37% ohonynt wedi defnyddio sylweddau, gyda 9% ohonynt yn wyn, o gymharu â 5% a oedd yn ddu. (Szalavtia, M. 2015)
Cymdeithasol / Diwylliannol – Nodwyd yr agweddau diwylliannol cymdeithasol sy'n effeithio ar gamddefnyddio sylweddau fel:
Strwythur y teulu – Mewn achosion lle roedd plant yn byw gyda rhiant a oedd wedi ysgaru, rhiant unigol neu lys-riant, roedd y tebygolrwydd y byddent yn wynebu problemau iechyd ymddygiadol yn cynyddu'n sylweddol. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o fod angen gwasanaeth cwnsela eu hunain o ganlyniad i hanes y teulu a'r newid o ran deinameg y teulu. Gall unigolion yr oedd eu rhieni yn camddefnyddio sylweddau pan oeddent yn blant wynebu llu o broblemau, ac mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol fel oedolyn yn un ohonynt. Mae plant rhieni alcoholig bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar alcohol eu hunain yn ddiweddarach yn eu bywyd. Yn ogystal, mae cartrefi lle mae un neu ddau o'r gofalwyr yn camddefnyddio sylweddau yn fwy tebygol o berthyn i grŵp statws economaidd is. (Canolfan Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, 2009)
Media Influences – Various media outlets (TV, film, radio and social media) frequently portray individuals experiencing substance misuse in a negative light, which affects the perceptions shared by the public. Stereotyping and stigmatisation is perpetuated by these inaccurate portrayals, which leads to issues surrounding discrimination and prejudice.
Campaigns, such as ‘Time to Change’ and the World Health Organisation’s ‘Global strategy to reduce harmful use of alcohol’ have challenged these misconceptions in an effort to re-educate the public. Educational campaigns in the UK, such as ‘Frank’ provides facts, support and advice on substance misuse, specifically focusing on young people. NHS Wales supports a variety of charitable programmes focusing on the re-education and rehabilitation of those experiencing substance misuse and works closely with outreach community projects across the UK.
Acceptance and integration of individuals with a history of drug dependence and addiction could affect the individual and their friends and family.
Dylanwad y Cyfryngau – Mae amrywiol allfeydd yn y cyfryngau (teledu, ffilm, radio a'r cyfryngau cymdeithasol) yn aml yn portreadu unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau mewn ffordd negyddol, sy'n effeithio ar y canfyddiadau a rennir gan y cyhoedd. Caiff stereoteipiau a stigmateiddio eu gwaethygu gan y portreadau anghywir hyn, sy'n arwain at broblemau mewn perthynas â gwahaniaethu a rhagfarn.
Mae ymgyrchoedd fel 'Amser i Newid' a strategaeth fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd i leihau defnydd niweidiol o alcohol wedi herio'r camdybiaethau hyn er mwyn ceisio ailaddysgu'r cyhoedd. Mae ymgyrchoedd addysgol yn y DU, fel 'Frank', yn darparu ffeithiau, cymorth a chyngor ar gamddefnyddio sylweddau, gan ganolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc. Mae GIG Cymru yn cefnogi amrywiaeth o raglenni elusennol sy'n canolbwyntio ar ailaddysgu ac adsefydlu'r rheini sy'n camddefnyddio sylweddau ac mae'n gweithio'n agos â phrosiectau allgymorth cymunedol ledled y DU.
Gallai derbyn ac integreiddio unigolion â hanes o ddibyniaeth ar gyffuriau ac sy'n gaeth i gyffuriau effeithio ar yr unigolyn a'i ffrindiau a'i deulu.