The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 came into force in April 2016, adding increased social services support for carers, which included the provision of rights to assessment and support for eligible needs. The Act also gave local authorities a duty to provide information, advice and assistance. The Act requires local authorities and Local Health Boards to carry out assessments of the care and support needs of individuals, including carers who need support.
The Equality Act 2010 brings together over 116 separate pieces of legislation into one single Act. Now they are combined, they make up an Act that provides a legal framework to protect the rights of individuals and make equality of opportunity for all at the forefront of all areas of service provision.
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016, gan gynyddu'r cymorth gwasanaethau cymdeithasol oedd ar gael i ofalwyr, gan gynnwys darparu hawliau i gael asesiad a chymorth ar gyfer anghenion cymwys. Gwnaeth y Ddeddf hefyd roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynnal asesiadau o anghenion gofal a chymorth unigolion, gan gynnwys gofalwyr sydd angen cymorth.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dwyn ynghyd dros 116 o ddarnau gwahanol o ddeddfwriaeth yn un Ddeddf. Nawr eu bod wedi'u cyfuno, maent yn creu Deddf sy'n darparu fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau unigolion a sicrhau bod cyfle cyfartal i bawb wrth wraidd pob agwedd ar ddarparu gwasanaethau.
The Human Rights Act 1998 sets out the fundamental rights and freedoms that everyone in the UK is entitled to. The Act incorporates the rights set out in the European Convention on Human Rights (ECHR) into domestic British law.
The UN Convention on the Rights of Individuals with Disabilities is an international legal agreement which exists to protect and promote the human rights of disabled people.
The UN Principles for Older Persons 1991 consists of 18 principles, which can be grouped under five themes: independence, participation, care, self-fulfilment and dignity. Governments were encouraged to incorporate them into their national programmes whenever possible.
The Declaration of rights of older people in Wales (2014) sets out the rights of older people in Wales.
The Mental Health Act (1989), Code of Practice for Wales (2008) and the Mental Health (Wales) Measure (2010) place legal duties on local health boards and local authorities about the assessment and treatment of mental health problems and ensures an individual’s rights are upheld throughout access to services.
The Mental Capacity Act 2005 and associated Code of Practice are designed to protect and give back power to vulnerable people who may lack the capacity to make certain decisions, because of the way their mental health is affected by illness or disability, or the effects of drugs or alcohol.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol y dylai pawb yn y DU fod yn eu cael. Mae'r Ddeddf yn ymgorffori'r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith ddomestig Prydain.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn gytundeb cyfreithiol rhyngwladol, sy'n bodoli i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol unigolion anabl.
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn 1991 yn cynnwys 18 o egwyddorion, a all gael eu grwpio'n bum thema: annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunanfoddhad ac urddas. Anogwyd llywodraethau i'w cynnwys yn eu rhaglenni cenedlaethol lle bynnag y bo modd.
Mae'r Datganiad o hawliau pobl hŷn yng Nghymru (2014) yn amlinellu hawliau pobl hŷn yng Nghymru.
Mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl (1989), Cod Ymarfer Cymru (2008) a'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) (2010) yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol mewn perthynas ag asesu a thrin problemau iechyd meddwl, ac maent yn sicrhau bod hawliau unigolion yn cael eu cynnal wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau.
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a'r Cod Ymarfer cysylltiedig wedi'u cynllunio i ddiogelu ac ail-rymuso oedolion agored i niwed nad oes ganddynt alluedd efallai i wneud rhai penderfyniadau, oherwydd y ffordd mae salwch neu anabledd, neu effeithiau cyffuriau neu alcohol, yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.
The Deprivation of Liberty Safeguards (DoLS) are an amendment to the Mental Capacity Act 2005. They apply in England and Wales only. DoLS can only be used if the individual will be deprived of their liberty, or freedom and rights, in a care home or hospital. In other settings, the Court of Protection can authorise a deprivation of liberty. Care homes or hospitals must ask a local authority if they can deprive an individual of their liberty and there are six assessments which have to be carried out before a standard authorisation can be given.
Safe Hands 2000: Implementing Adult Protection Procedures in Wales places a duty on local authorities in Wales to coordinate adult protection procedures in their areas. It ensures that policies and procedures are in place across Wales which clarify the principles of good practice and facilitate service development designed to prevent, identify and respond to abuse of adults at risk.
The Wales Safeguarding Procedures (2019) states that individuals have the right to be fully involved throughout the adult protection process and to make decisions about their safety and welfare, unless it has been assessed that they do not have the mental capacity to make any particular decision.
The General Data Protection Regulation (GDPR) 2018 requires all organisations handling personal data to have comprehensive and proportionate arrangements for collecting, storing, and sharing information. The GDPR does not prevent, or limit, the sharing of information for the purposes of keeping children and young people safe.
The Human Rights Act 1998 enables individuals to defend their rights in UK courts and compels public organisations, including the Government, police and local councils, to treat everyone equally, with fairness, dignity and respect.
The Equality Act 2010 protects children, young people and adults against discrimination, harassment and victimisation in relation to housing, education, clubs and the provision of services and work. Under-18s are only protected against age discrimination in relation to work.
The Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015 improves arrangements for the prevention of gender-based violence, domestic abuse and sexual violence, improves arrangements and support for the protection of victims and creates the post of National Adviser on gender-based violence, domestic abuse and sexual violence.
Mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yn ddiwygiad i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Maent ond yn gymwys yng Nghymru a Lloegr. Dim ond os bydd yr unigolyn yn cael ei amddifadu o'i ryddid, neu ei hawliau, mewn cartref gofal neu ysbyty y defnyddir DoLS. Mewn lleoliadau eraill gall y Llys Amddiffyn awdurdodi amddifadedd o ryddid. Rhaid i gartrefi gofal neu ysbytai ofyn i awdurdod lleol a gânt amddifadu unigolyn o'i ryddid ac mae chwe asesiad y mae'n rhaid eu cynnal cyn y gellir rhoi awdurdodiad safonol.
Mae Dwylo Diogel 2000: Gweithredu Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion yng Nghymru yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol I gydlynu gweithdrefnau amddiffyn oedolion yn eu hardal. Mae'n sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau ar waith ledled Cymru sy'n egluro egwyddorion arfer da ac yn hwyluso datblygu gwasanaeth sydd wedi'i ddylunio i atal, nodi ac ymateb i gamdriniaeth oedolion sydd mewn perygl.
Mae Gweithrdrefnau Diogelu Cymru (2019) yn nodi bod gan unigolion yr hawl i gymryd rhan drwy gydol y broses amddiffyn oedolion ac i wneud penderfyniadau am eu diogelwch a'u lles, oni bai yr aseswyd nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud unrhyw benderfyniad penodol.
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl sefydliadau sy'n ymdrin â data personol i feddu ar drefniadau cynhwysfawr a chymesur ar gyfer casglu, storio, a rhannu gwybodaeth. Nid yw'r GDPR yn atal, nac yn cyfyngu ar, rannu gwybodaeth at ddibenion cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn galluogi unigolion i amddiffyn eu hawliau yn llysoedd y DU ac yn cymell sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys y Llywodraeth, yr heddlu a chynghorau lleol, i drin pawb yn gyfartal, gyda thegwch, urddas a pharch.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion yn erbyn gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth mewn perthynas â thai, addysg, clybiau a darpariaeth gwasanaethau a gwaith. Mae pobl ifanc dan 18 mlwydd oed yn cael eu hamddiffyn yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran yn unig mewn perthynas â'r gwaith.
Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn gwella'r trefniadau ar gyfer atal trais sy'n seiliedig ar rywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn gwella'r trefniadau a'r cymorth ar gyfer amddiffyn dioddefwyr ac yn creu swydd yr Ymgynghorydd Cenedlaethol ar drais sy'n seiliedig ar rywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Codes of conduct and professional practice set standards and give guidance for all care professionals. In Wales, the Code of Practice for Social Care Employers (Employers' Code) sets the standards for employers. Practice guidance gives registered workers guidance related to their role. Other codes include the NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales, the Code of Practice for NHS Wales Employers and practice guidance, such as the Practice Guidance for Residential Child Care Workers Registered with the Social Care Wales.
Mae codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol yn nodi safonau a chanllawiau ar gyfer pob gweithiwr gofal proffesiynol. Yng Nghymru, y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol (Cod Cyflogwyr) sy'n pennu safonau cyflogwyr. Mae canllawiau ymarfer yn rhoi canllawiau i weithwyr cofrestredig sy'n gysylltiedig â'u rôl. Ymhlith y codau eraill mae Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru, a'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru a chanllawiau ymarfer fel Canllawiau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Preswyl Plant sydd wedi Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
The Code of Professional Practice for Social Care consists of a list of statements describing the standards of professional conduct and practice necessary for employees in the social care profession in Wales. The Code plays a key part in raising awareness of these standards. The Code is intended to be a guide for workers, individuals accessing services and managers of services.
In relation to individuals receiving care or a member of the public, the Code will make them aware of how a social care worker should behave towards them. It also notes the role of employers in supporting social care workers to do their jobs well.
Employers of social care workers are expected to promote the use of the Code and use it when making any decisions about the conduct and practice of staff.
Mae Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhestr o ddatganiadau sy'n disgrifio'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sydd eu hangen ar weithwyr yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r Cod yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o'r safonau hyn. Bwriedir iddo roi canllaw i weithwyr, unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a rheolwyr gwasanaethau.
Mewn perthynas ag oedolion sy'n derbyn gofal neu aelod o'r cyhoedd, bydd y Cod yn eu gwneud yn ymwybodol o sut y dylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn tuag atyn nhw. Mae hefyd yn nodi rôl cyflogwyr wrth gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud eu swyddi'n dda.
Disgwylir i gyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol hyrwyddo'r defnydd o'r Cod a'i ystyried wrth wneud unrhyw benderfyniadau am ymddygiad ac ymarfer staff.
The Code of Professional Practice for Social Care is made up of seven sections.
As a social care worker, you must:
Mae Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys saith adran.
Fel gweithiwr gofal cymdeithasol, rhaid i chi:
https://gofalcymdeithasol.cymru/cms_assets/file-uploads/Cod-Ymarfer-Proffesiynol-2017.pdf
The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales describes what is expected from Healthcare Support Workers employed by NHS Wales in relation to the standards of conduct, behaviour and attitude expected when they are at work. The Code applies to all Healthcare Support Workers employed in clinical and non-clinical environments within the NHS and will be used to reference job descriptions.
The Code provides confidence and reassurance through a framework for public protection, incorporating the provision of guidance and support to Healthcare Support Workers about their practice. This ensures they understand what standards of conduct employers, colleagues, service users and the public expect them to follow.
The Code sets out standards so Healthcare Support Workers can be sure of the standards they are expected to meet. Healthcare Support Workers should use the Code to make sure they are working to the expected standard and if not, then change the way they are working.
Healthcare Support Workers can use the Code to review their practice and identify possible areas for personal development. The Code supports Healthcare Support Workers in fulfilling the requirements of their role, they should behave in the correct way and follow a duty of care and good practice at all times. This is essential to protect service users, the public and others from harm and abuse.
Mae Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru yn disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd a gyflogir gan GIG Cymru o ran safonau ymddygiad ac agweddau disgwyliedig yn y gwaith. Mae'r Cod yn gymwys i bob Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a gyflogir mewn amgylcheddau clinigol ac anghlinigol yn y GIG, ac fe'i defnyddir mewn cyfeiriadau disgrifiadau swydd.
Mae'r Cod yn darparu hyder a sicrwydd drwy fframwaith ar gyfer amddiffyn cyhoeddus, gan ymgorffori darpariaeth canllawiau a chymorth i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd am eu hymarfer. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn deall pa safonau ymddygiad mae cyflogwyr, cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd yn disgwyl iddynt eu dilyn.
Mae'r Cod yn nodi safonau, fel y gall Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd fod yn siŵr pa safonau mae disgwyl iddynt eu cyrraedd. Dylai Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ddefnyddio'r Cod i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon disgwyliedig ac, os nad ydynt, yna newid eu ffordd o weithio.
Gall Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ddefnyddio'r Cod i adolygu eu hymarfer a nodi meysydd datblygu personol posibl. Mae'r Cod yn helpu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i fodloni gofynion eu rôl, ymddwyn yn briodol a dilyn dyletswydd gofal ac arfer da drwy'r amser. Mae hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth, y cyhoedd ac eraill rhag niwed a cham-drin.
The Code of Practice for NHS Wales Employers is supported by a Code of Conduct for Healthcare support workers, which describes the standards workers must follow and comply with. Employers should understand and implement the Code of Conduct and ensure staff are supported to achieve the standards.
Both Codes support the basic principles of safety and public protection and must underpin the day-to-day working practices of NHS Wales in all aspects of service delivery. Employers will need to implement systems and processes to support Healthcare support workers to achieve the standards in the Code of Conduct. Employers also need to use the workplace as an opportunity to develop Healthcare support workers by providing more fulfilling working conditions that help staff carry out their roles safely and effectively, whilst preparing them to progress to new and more challenging roles in the future.
Mae'r Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru yn cael ei gefnogi gan God Ymddygiad i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd, sy'n disgrifio'r safonau mae'n rhaid i weithwyr eu dilyn a chydymffurfio â nhw. Dylai cyflogwyr ddeall a gweithredu'r Cod Ymddygiad a sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i gyrraedd y safonau.
Mae'r ddau God yn cefnogi egwyddorion sylfaenol diogelwch ac amddiffyn y cyhoedd, a rhaid iddynt ategu arferion gwaith dyddiol GIG Cymru ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau. Bydd angen i gyflogwyr weithredu systemau a phrosesau i gefnogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i gyrraedd y safonau yn y Cod Ymddygiad. Hefyd mae angen i weithwyr cyflogedig ddefnyddio'r gweithle fel cyfle i ddatblygu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd drwy ddarparu amodau gwaith mwy boddhaus sy'n helpu staff i gyflawni eu rolau yn ddiogel ac yn effeithiol, tra'n eu paratoi i symud ymlaen i rolau newydd, mwy heriol yn y dyfodol.
The Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with the Social Care Wales describes what is expected of workers to support a high-quality service in relation to residential child care.
The guidance can also be used by employers to assess whether they have arrangements in place to ensure a professional and safe service is delivered at all times. The guidance covers child-centred care and support, good residential child care practice, safeguarding individuals, health and safety, personal development and contributing to the development of others and to the service. The guidance builds on the ‘Code of professional practice for social care’, and failure to follow the guidance could put a worker’s registration at risk.
Mae'r Canllawiau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Preswyl Plant sydd wedi Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan weithwyr er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â gofal preswyl i blant.
Gall y canllawiau hefyd gael eu defnyddio gan gyflogwyr i asesu p'un a oes trefniadau ar waith ganddynt i sicrhau bod gwasanaeth proffesiynol a diogel yn cael ei ddarparu drwy'r amser. Mae'r canllawiau yn cwmpasu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn, arfer da gofal preswyl i blant, diogelu unigolion, iechyd a diogelwch, datblygiad personol a chyfrannu at ddatblygiad pobl eraill ac at y gwasanaeth. Mae'r canllawiau yn adeiladu ar 'Cod Ymarfer Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol', a gallai methu â dilyn y canllawiau beryglu cofrestriad gweithwyr.
The United Nations Convention on the Rights of the Child is a legally-binding international agreement setting out the civil, political, economic, social and cultural rights of every child, regardless of their race, religion or abilities.
The Children Act (1989 and 2004) places a duty on all agencies to safeguard and promote the welfare of children, which includes sharing concerns at an early stage to encourage preventative action.
The Wales Safeguarding Procedures (2019) are based on the principle that the protection of children from harm is the responsibility of all individuals and agencies working with children and families, and with adults who may pose a risk to children.
The Working Together under the Children Act 2004 sets out the processes which should be followed when there are concerns about a child, and the action which should be taken to safeguard and promote the welfare of children who are suffering, or at risk of suffering significant harm.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn gytundeb cyfreithiol rhyngwladol sy'n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, ni waeth beth fo'u hil, crefydd neu eu galluoedd.
Mae'r Ddeddf Plant (1989 a 2004) yn rhoi dyletswydd ar yr holl asiantaethau i ddiogelu a hybu lles plant, sy'n cynnwys rhannu pryderon yn gynnar er mwyn annog gweithredu ataliol.
Mae Gweithrdrefnau Diogelu Cymru (2019) yn seiliedig ar yr egwyddor bod amddiffyn plant rhag niwed yn gyfrifoldeb ar yr holl unigolion ac asiantaethau sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd, a gydag oedolion a allai beri risg i blant.
Mae Gweithio Gyda'n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004 yn nodi'r prosesau y dylid eu dilyn pan fydd pryderon am blentyn, a'r camau gweithredu y dylid eu cymryd i ddiogelu a hybu lles plant sy'n dioddef, neu mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol.
Find out more about the principles and values of the Social Services and Well–being (Wales) Act 2014 by clicking on the link below.
Social Care Wales Information and Learning Hub: https://socialcare.wales/hub/sswbact
Gallwch ddysgu mwy am egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drwy glicio ar y linc isod.
Hwb Gwybodaeth a Dysgu Gofal Cymdeithasol Cymru: https://gofalcymdeithasol.cymru/hyb/deddf-sswb
The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 is built on the following core principles: voice and control, prevention and early intervention, well-being, co-production and multi-agency. Let’s look at these in more detail.
This means your role is about being very involved with individuals, their families and carers in relation to identifying and meeting their support needs. You will be involved in providing support, advice and guidance, or in passing on queries to individuals that their families and carers may have in relation to care needs and the support available.
Partnership working will increase to make better use of resources, funds and staffing. There is an increased focus on what really matters to the individual.
How can carers help people achieve their aims and goals?
How can you involve an individual's own support networks and enable them to access community and voluntary resources?
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn seiliedig ar yr egwyddorion craidd canlynol: llais a rheolaeth, atal ac ymyrryd yn gynnar, llesiant, cyd-gynhyrchu ac aml-asiantaeth. Beth am edrych ar y rhain yn fwy manwl.
Mae hyn yn golygu bod eich rôl yn cynnwys ymwneud llawer ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr mewn perthynas â nodi a bodloni eu hanghenion cymorth. Bydd yn ymwneud â darparu cymorth, cyngor ac arweiniad, neu â throsglwyddo ymholiadau sydd gan unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr mewn perthynas ag anghenion gofal a'r cymorth sydd ar gael.
Bydd gweithio mewn partneriaeth yn cynyddu i wneud defnydd gwell o adnoddau, cronfeydd a staffio. Mae ffocws cynyddol ar yr hyn sydd wir o bwys i'r unigolyn.
Sut all gofalwyr helpu pobl i gyflawni eu hamcanion a'u nodau?
Sut allwch chi gynnwys rhwydweithiau cymorth unigolyn ei hun a'u galluogi i fanteisio ar adnoddau cymunedol a gwirfoddol?
Individuals have full control when deciding what kind of support they need. In relation to making decisions about their care and support, they are viewed as an equal partner. Individuals can use an independent professional advocate to help them participate fully in the assessment, planning, review and safeguarding processes. Individuals also have a right to an independent professional advocate provided free of charge if they have difficulties in expressing their views, needs, wishes and preferences.
As a carer, this impacts on your role in terms of care and must now be personalised to the individual through collaboration with them, which may involve support for them from an advocate.
An advocate offers independent support to individuals who might not be heard to ensure they are taken seriously and that their rights are respected. Advocates also help people to access and understand appropriate information and services.
Mae gan unigolion reolaeth lawn wrth benderfynu ar ba fath o gymorth maen nhw ei angen. Mewn perthynas â gwneud penderfyniadau am eu gofal a'u cymorth maen nhw'n cael eu hystyried fel partner cyfartal. Gall unigolion ddefnyddio eiriolwr proffesiynol annibynnol i'w helpu i gymryd rhan yn llawn yn y prosesau asesu, cynllunio, adolygu a diogelu. Mae gan unigolion hefyd hawl i eiriolwr proffesiynol annibynnol a ddarperir yn rhad ac am ddim os oes ganddyn nhw anawsterau o ran mynegi eu barn, anghenion, dymuniadau a hoffterau.
Fel gofalwr, mae hyn yn effeithio ar eich rôl o ran gofal ac mae'n rhaid iddo nawr gael ei wneud yn bersonol i'r unigolyn drwy gydweithio gyda nhw, a allai gynnwys cymorth iddyn nhw gan eiriolwr.
Mae eiriolwr yn cynnig cymorth annibynnol i unigolion heb lais er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae eiriolwyr hefyd yn helpu pobl i fanteisio ar a deall gwybodaeth a gwasanaethau priodol.