1/5
Fwy na thebyg mai cydberthnasau yw'r rhan fwyaf dwys ac emosiynol o fywyd. Rydym yn dysgu i nodi pa unigolion rydym yn eu hoffi a pha rai nad ydym yn eu hoffi; rydym yn dysgu bod angen i ni uniaethu mewn ffordd wahanol â gwahanol unigolion; ac rydym yn dysgu bod rhai cydberthnasau yn rhoi boddhad ac yn werthfawr, ond bod eraill bron yn amhosibl i ddygymod â nhw. Fodd bynnag, mae cydberthnasau yn angen dynol sylfaenol ac yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yn anelu at eu meithrin a'u cynnal drwy gydol ein bywydau. Mae'n bwysig gweithredu fel model rôl cadarnhaol wrth weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; gan sicrhau bod ymarfer yr unigolyn bob amser yn ddiogel ac yn cydymffurfio â chanllawiau y cytunwyd arnynt. Ystyriwch ddulliau cyfathrebu ag eraill, y ffordd y caiff cofnodion eu cwblhau - a ydynt yn arddangos ymarfer da y dylai eraill ei ddilyn? Dyma enghraifft o fodelau rôl cadarnhaol.
1/5
Er nad yw'n briodol gwneud datgeliadau personol o fewn cydberthynas waith broffesiynol, mae'n bosibl y bydd angen i rai unigolion sy'n cael cymorth allu ymlacio, yn enwedig os byddant yn cael cymorth gydag anghenion gofal personol. Nid yw caniatáu i gydberthnasau gwaith ddod yn fwy personol yn golygu y dylid datgelu pethau personol nac y dylid gofyn cwestiynau personol. Gall sôn am gynlluniau gwyliau, cofio penblwyddi a gofyn am eu hwyrion, er enghraifft, greu cydberthynas ddyfnach sy'n eu helpu i ddod i adnabod ei gilydd yn well, gan ei gwneud hi'n haws ac yn fwy effeithlon iddynt gydweithio.
1/5
Mae'r cyhoedd yn dibynnu ar gydberthnasau gwaith proffesiynol er mwyn cael cymorth a gofal iddyn nhw eu hunain a'u hanwyliaid. Felly, ystyrir bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn cydberthynas waith â'r cyhoedd. Yn anffodus, mae digwyddiadau yn parhau i danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cyfrifoldeb, yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith, i ymddwyn mewn ffordd sy'n meithrin ac yn cynnal hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn.
Mae hyn yn cynnwys defnydd ehangach o dechnoleg megis negeseuon testun ar ffonau symudol, negeseuon e-bost, camerâu digidol, fideos, gwe-gamerâu, gwefannau a blogiau. Ni ddylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rannu unrhyw wybodaeth bersonol ag unigolion. Ni ddylent ofyn am unrhyw wybodaeth bersonol gan yr unigolyn, nac ymateb i wybodaeth o'r fath, ac eithrio gwybodaeth a allai fod yn briodol fel rhan o'u rôl broffesiynol. Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn dryloyw ac yn destun craffu.
1/5
Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn ofalus wrth gyfathrebu ag unigolion er mwyn osgoi unrhyw achosion posibl o gamddehongli eu cymhellion neu unrhyw ymddygiad y gellid ei ystyried yn amhriodol. Ni ddylent roi eu manylion cyswllt personol i unigolion, gan gynnwys cyfeiriad e-bost, rhifau ffôn cartref neu symudol. Gall negeseuon e-bost neu negeseuon testun rhwng gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol ac unigolyn y tu allan i brotocolau y cytunwyd arnynt arwain at ymchwiliadau disgyblu a/neu droseddol. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfathrebu drwy wefannau ar y rhyngrwyd.
1/5
Gall camddefnyddio pŵer a chynyddu rheolaeth un unigolyn dros un arall esgor ar achosion o gam-drin. Lle ceir dibyniaeth, mae'n bosibl y caiff yr unigolyn ei gam-drin neu ei esgeuluso oni roddir camau diogelu ar waith. Mae'n bwysig bod y rheini sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau yn ymwybodol y gall yr anghydbwysedd hwn o ran pŵer ddigwydd. Rhaid i bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol gydymffurfio â safonau gofal penodol, gan gynnwys cynnal ffiniau proffesiynol a thrin unigolion ag urddas a pharch.