There are a wide range of agencies that aim to promote health in Wales. These agencies will focus upon different areas of health and can be government run or voluntary organisations, such as charities. They include:
Mae amrediad eang o asiantaethau yn ceisio hybu iechyd yng Nghymru. Bydd yr asiantaethau hyn yn canolbwyntio ar feysydd iechyd gwahanol a gallan nhw fod yn sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan y llywodraeth neu fudiadau gwirfoddol, fel elusennau. Mae’r rhain yn cynnwys:
The NHS covers the whole of the UK and has a major role in promoting the health of the population. The NHS provides diagnostic services and treatments for various health conditions. If an individual is diagnosed with a condition, appropriate advice and treatment would be offered in order to try and maintain the individual’s health and well-being.
The NHS also offers health promotion service (Public Health Wales) and advice to try and encourage individuals to make healthy choices and to prevent ill-health. This can include advice and services about issues such as:
Mae'r GIG yn ymdrin â'r Deyrnas Unedig i gyd ac mae'n chwarae rhan fawr i hybu iechyd y boblogaeth. Mae'r GIG yn darparu gwasanaethau diagnostig a thriniaethau ar gyfer gwahanol gyflyrau iechyd. Os bydd unigolyn yn cael diagnosis o gyflwr byddai cyngor a thriniaeth briodol yn cael eu cynnig er mwyn ceisio cynnal iechyd a llesiant yr unigolyn.
Mae'r GIG hefyd yn cynnig gwasanaeth hybu iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a chyngor i geisio annog unigolion i wneud dewisiadau iach ac i atal afiechyd. Gall hyn gynnwys cyngor a gwasanaethau am faterion fel:
Councils have been given a leading role to reduce health inequalities and premature deaths, and improve health and well-being.
They are required to tackle the cause of ill-health, reduce health inequalities and commission services that address the needs of the local population, particularly the health needs of the disadvantaged and vulnerable groups, as well as giving consideration to equality issues.
Click on the link to see Healthy Working Wales’ health promotion resources catalogue: https://bit.ly/2PzT92Z
Mae cynghorau wedi cael rôl flaenllaw i leihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau cynamserol, a gwella iechyd a llesiant.
Mae’n ofynnol iddyn nhw fynd i’r afael ag achosion afiechyd, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chomisiynu gwasanaethau sy'n rhoi sylw i anghenion y boblogaeth leol, yn benodol anghenion iechyd grwpiau dan anfantais a rhai sy'n agored i niwed, yn ogystal ag ystyried materion yn ymwneud â chydraddoleb.
Cliciwch ar y linc i weld catalog o adnoddau hybu iechyd Cymru Iach ar Waith: https://bit.ly/2ZZOp7D
Schools promote health by providing health education through both the formal curriculum during lesson times and through the informal curriculum, such as through assemblies. Through the formal curriculum, classroom-based topics might include healthy eating, mental health and well-being and sexual health. Through the informal curriculum, topics such as road safety may be addressed, for example having an assembly on road safety or bullying prevention.
Teachers and lecturers can encourage positive attitudes and healthy living and give advice on general well-being. They can carry out classroom activities to promote health, such as projects on diet and facilitate physical education.
Public Health Wales believe that teaching and learning can help an individual build the knowledge and skills they need to grow into healthy individuals through:
Julie Bishop – Public Health Wales
Mae ysgolion yn hybu iechyd drwy ddarparu addysg iechyd drwy'r cwricwlwm ffurfiol yn ystod gwersi a thrwy'r cwricwlwm anffurfiol, fel yn ystod gwasanaethau. Fel rhan o'r cwricwlwm ffurfiol, gallai testunau a drafodir gynnwys bwyta'n iach, iechyd meddwl a llesiant ac iechyd rhywiol. Fel rhan o'r cwricwlwm anffurfiol, gellid rhoi sylw i bynciau fel diogelwch ffyrdd, er enghraifft drwy gynnal gwasanaeth ar ddiogelwch ffyrdd neu atal bwlio.
Gall athrawon a darlithwyr annog agweddau cadarnhaol a byw'n iach a rhoi cyngor ar lesiant cyffredinol. Gallan nhw gynnal gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth i hybu iechyd, fel projectau ar ddeiet a hwyluso addysg gorfforol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu gall addysgu a dysgu helpu unigolyn i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arno i dyfu yn unigolyn iach drwy'r dulliau canlynol:
Julie Bishop – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Charities work both on a local and national level. National charities extend their work across the whole of the UK Health promotion charities raise awareness about health-related conditions and provide support and advice to those that are affected. National charities that promote health include:
Local charities work on a much smaller scale and generally focus their work within a town, city, county or country within the UK. Charities that work on a local level within Wales include:
Mae elusennau yn gweithio ar lefel leol a chenedlaethol. Mae elusennau cenedlaethol yn gweithio ar draws y Deyrnas Unedig. Mae elusennau hybu iechyd yn codi ymwybyddiaeth am gyflyrau sy'n gysylltiedig ag iechyd ac yn rhoi cymorth a chyngor i'r rhai sy'n cael eu heffeithio. Mae elusennau cenedlaethol sy'n hybu iechyd yn cynnwys:
Mae elusennau lleol yn gweithio ar raddfa llawer llai ac yn gyffredinol mae eu gwaith yn canolbwyntio ar dref, dinas, sir neu wlad yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddyn nhw lai o arian fel arfer o'u cymharu ag elusen genedlaethol. Mae elusennau sy'n gweithio ar lefel leol yng Nghymru yn cynnwys: