The World Health Organisation defines gender as ‘the socially constructed characteristics of women and men – such as norms, roles and relationships of and between groups of women and men. It varies from society to society and can be changed.’
Gender stereotypes – Even today men and women are expected to conform to certain gender stereotypes. Women who refuse to conform are classed as being butch, whilst men who fail to conform are referred to as effeminate.
Gender inequality – Women tend to live longer than men but spend fewer years in good health. The gender pay gap puts women at greater risk of living in poverty, which would affect their well-being.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio rhywedd fel ‘nodweddion menywod a dynion a adeiladwyd yn gymdeithasol – megis normau, rolau a pherthnasoedd grwpiau o fenywod a dynion a rhyngddynt. Mae’n amrywio o gymdeithas i gymdeithas a gellir ei newid.’
Stereoteipiau o ran rhywedd – Hyd yn oed heddiw, mae yna ddisgwyl i fenywod a dynion gydymffurfio â stereoteipiau o ran rhywedd penodol. Mae menywod sy’n gwrthod cydymffurfio yn cael eu hystyried fel rhywun gwrywaidd, tra bod dynion sy’n methu â chydymffurfio yn cael eu hystyried fel rhywun merchetaidd.
Anghydraddoldeb rhywiol – Mae menywod yn dueddol o fyw'n hirach na dynion ond maent yn treulio llai o flynyddoedd mewn iechyd da. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn golygu bod menywod yn wynebu mwy o risg o fyw mewn tlodi, a fyddai'n effeithio ar eu llesiant.
A transgender person is someone whose personal idea of their gender does not match with his or her assigned gender role.
Transsexual – Someone who uses hormones and/or surgery to correct their gender identity from the identity given at birth.
Experiences of discrimination, social exclusion, harassment and violence directly impact the health and well-being of transgender individuals. However, transitioning and being able to express gender identity improves health and well-being.
Mae person trawsryweddol yn rhywun nad yw eu syniad personol o’u rhywedd yn cyd-fynd â’u rol rhyw benodol.
Trawsrywiol - rhywun sy’n defnyddio hormonau a/neu lawdriniaeth i gywiro eu hunaniaeth rhywedd o’r hunaniaeth a roddir adeg genedigaeth.
Mae profiadau o wahaniaethu, allgáu cymdeithasol, aflonyddu a thrais yn effeithio’n uniongyrchol ar iechyd a llesiant unigolion trawsryweddol. Fodd bynnag, mae trawsnewid a gallu mynegi hunaniaeth rhywedd yn gwella iechyd a llesiant.
Being employed is good for health and well-being. It allows individuals to:
According to the Royal College of Psychiatrists, individuals who are unemployed are more likely to:
If the demands of a job are greater than the employee’s ability to cope, then this can lead to work related stress. This can lead to anxiety and depression.
Mae bod mewn swydd yn dda i iechyd a llesiant. Mae'n galluogi unigolion i:
Yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion mae unigolion di-waith yn fwy tebygol o:
Os bydd gofynion swydd yn fwy na gallu’r gweithiwr i ymdopi, gall hyn arwain at straen sy'n gysylltiedig â gwaith. Gall arwain at orbryder ac iselder.
Culture is a set of ideas, customs and behaviours shared by a particular group of people or society.
It can affect how a group of people think of health, illness and death, causes of diseases, where they seek help and the types of treatment they want. All of these things can influence health and well-being.
Young people from different cultural backgrounds can feel caught between two sets of cultural standards and values due to cultural views on sexuality, relationships, gender roles, education and employment. They can feel restricted in their choice of friends, and dating can cause family conflict.
Race refers to an individual's race, colour, nationality and ethnic or national origins.
Some races have a higher chance of certain diseases; for instance, sickle cell anaemia is more prominent in Africans, Asians, Middle Eastern individuals and East Europeans.
Mental health issues can arise due to racism, which can lower an individual’s self-esteem and confidence, which can lead to individuals withdrawing from contact with others or being afraid of going to school or work. This will increase the risk of problems such as depression, anxiety and substance use.
Diwylliant yw set o syniadau, arferion a ffyrdd o ymddwyn a rennir gan grŵp o bobl neu gymdeithas benodol.
Gall effeithio ar y ffordd mae grŵp o bobl yn meddwl am iechyd, salwch a marwolaeth, achosion clefyd, ble i gael help a'r mathau o driniaeth maent am ei chael. Gall yr holl bethau hyn ddylanwadu ar iechyd a llesiant.
Gall pobl ifanc o wahanol gefndiroedd diwylliannol deimlo eu bod wedi'u dal rhwng dwy set o safonau a gwerthoedd diwylliannol, oherwydd safbwyntiau diwylliannol yn ymwneud â rhywioldeb, perthnasoedd, rolau o ran rhywedd, addysg a chyflogaeth. Gallant deimlo'n rhwystredig o ran eu dewis o ffrindiau, a gall dêtio achosi gwrthdaro o fewn y teulu.
Mae hil yn cyfeirio at hil, lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol unigolyn.
Mae ambell hil yn wynebu risg uwch o gael rhai clefydau, er enghraifft mae anemia cryman-gell yn fwy cyffredin ymhlith pobl Affricanaidd, Asiaid, unigolion o'r Dwyrain Canol ac unigolion o Ddwyrain Ewrop.
Gall problemau iechyd meddwl ddeillio o hiliaeth, a all ostwng lefel hunan-barch a hyder unigolyn, a all arwain at unigolion yn osgoi cael cyswllt ag eraill, neu fod ofn mynd i'r ysgol neu'r gwaith. Bydd hyn yn cynyddu'r risg o broblemau fel iselder, gorbryder a defnyddio sylweddau.