The Welsh Language Act 1993, Welsh Language measure (2011) and Mwy na Geiriau gives the Welsh language official status in Wales, introduces standards to explain how organisations are expected to use the Welsh Language, increases the use of the Welsh language and makes it easier for individuals to use it in their everyday lives.
The Welsh Government Strategic Framework for the Welsh Language in Health and Social Care (2013) is the Welsh Government’s commitment to strengthen Welsh language services to individuals accessing health and social care, and their families.
Visit the link below to read more about Welsh language skills.
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (2011) a Mwy na Geiriau yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru, yn cyflwyno safonau i egluro sut y disgwylir i sefydliadau ddefnyddio'r Gymraeg, cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a'i gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd.
Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013) yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau Cymraeg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a'u teuluoedd.
Dilynwch y ddolen isod i ddarllen mwy am sgiliau Cymraeg.
It is no longer correct for organisations to assume that English is the chosen language when providing services. When providing services to individuals who usually speak Welsh, providers should assume that they would prefer to speak Welsh when accessing services.
Mwy na Geiriau / More than Just Words states that Welsh speakers should not be required to request a service in Welsh, but the service should be provided in the language normally used by the individual. This could be in Welsh, English, or both. This reflects the principle of the ‘Active Offer’ now advocated in health, social services and social care, as outlined in the Welsh Government’s strategic framework for the Welsh Language. An ‘Active Offer’ means a service is provided in Welsh without someone having to ask for it.
Nid yw’n iawn mwyach I sefydliadau dybio mae Saesneg yw’r iaith a dethol wrth ddarparu gwasanaethau. Wrth ddarparu gwasanaethau i unigolion sy'n siarad Cymraeg fel arfer, dylai darparwyr dybio y byddai'n well ganddynt siarad Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.
Mae Mwy na Geiriau yn nodi na ddylai fod angen i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth yn Gymraeg, ond y dylai'r gwasanaeth gael ei ddarparu yn yr iaith a ddefnyddir gan yr unigolyn fel arfer. Gallai hyn fod yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith. Mae hyn yn adlewyrchu egwyddor y ‘Cynnig Rhagweithiol’ sydd bellach yn cael ei hyrwyddo ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, fel yr amlinellir yn fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Mae ‘Cynnig Gweithredol’ yn golygu y caiff gwasanaeth ei ddarparu yn Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny.
An Active Offer means a service will be provided in Welsh without someone having to ask for it. It is the responsibility of everyone who provides health and social care services for individuals and their families across Wales to deliver the Active Offer. For example, implementing a key worker system ensures ‘named’ staff members are ‘matched’ to individuals who are Welsh-speaking or signage in the service setting supports the orientation of Welsh-speaking users. In addition, Welsh language books, newspapers and other resources are, or can be made, available in a health and social care setting for children and adults who speak Welsh.
Mae ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn golygu y caiff gwasanaeth ei ddarparu yn Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny. Mae cyfrifoldeb ar bawb sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i unigolion a'u teuluoedd ledled Cymru i ddarparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’. Er enghraifft, rhoi system gweithiwr allweddol ar waith yn sicrhau y caiff aelodau ‘a enwir’ o staff eu ‘paru’ ag unigolion sy'n siarad Cymraeg neu sicrhau bod arwyddion yn y gwasanaeth yn helpu defnyddwyr sy'n siarad Cymraeg i ganfod eu ffordd o gwmpas. Hefyd, mae llyfrau, papurau newydd ac adnoddau eraill ar gael, neu gallant fod ar gael, mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol i blant ac oedolion sy'n siarad Cymraeg.