What are person-centred approaches?

Beth yw dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn?

Doctor listening to patient

Being person-centred is about listening to and learning about what individuals want from their lives and helping individuals to think about what they want now and in the future. Family, friends, professionals and services work together with the individual to make this happen.

Person-centred approaches ensure that the individual is at the centre of all that happens, they involve doing things that sees the individuals using health and social care services as equal partners in planning, developing and monitoring care to make sure it meets their needs.

It is about considering people’s desires, values, family situations, social circumstances and lifestyles, seeing the individual as an individual, and working together to develop appropriate solutions.

Beliefs, values and preferences have to be taken into account when using person-centred approaches when planning to meet an individual’s needs.

Mae'r ymddygiad o fod yn berson-ganolog yn golygu gwrando ar unigolion a dysgu am yr hyn y maent am ei gael o'u bywydau, a helpu unigolion i feddwl am yr hyn y maent yn ddymuno ei gael nawr ac yn y dyfodol. Mae aelodau o'r teulu, ffrindiau, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn cydweithio â'r unigolyn er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.

Mae dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd popeth sy'n digwydd, ac maent yn golygu gwneud pethau sy'n sicrhau bod yr unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried yn bartneriaid cyfartal yn y gwaith o gynllunio, datblygu a monitro gofal er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn diwallu eu hanghenion.

Yr hyn sy'n bwysig yw ystyried dyheadau pobl, eu gwerthoedd, eu sefyllfaoedd teuluol, eu hamgylchiadau cymdeithasol a'u ffyrdd o fyw, gan weld yr unigolyn fel unigolyn, a chydweithio i ddatblygu atebion priodol.

Rhaid ystyried credoau, gwerthoedd a dewisiadau wrth ddefnyddio dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion unigolyn.

What is co-production?

Beth yw cyd-gynhyrchu?

Unity in diversity

Co-production is an approach whereby professionals and individuals work together as equal partners to plan their care ensuring that they are key decision makers in the process, recognising that both have vital contributions to make in order to improve quality of life for the individual.

Co-production is value driven and based on the principle that those who use a service are best placed to help design the service.

Dull gweithredu lle y bydd gweithwyr proffesiynol ac unigolion yn cydweithio fel partneriaid cyfartal i gynllunio eu gofal gan sicrhau eu bod yn wneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y broses a chydnabod bod gan y naill a'r llall gyfraniadau hollbwysig i'w gwneud er mwyn gwella ansawdd bywyd yr unigolyn yw cyd-gynhyrchu.

Ysgogir cyd-gynhyrchu gan werthoedd ac mae'n seiliedig ar yr egwyddor mai'r rhai sy'n defnyddio gwasanaeth sydd yn y sefyllfa orau i helpu i'w gynllunio.

What is voice, choice and control?

Beth yw llais, dewis a rheolaeth?

Giving adults voice, choice and control in health and social care is the approach staff in settings use to ensure individuals accessing services get personalised care and support.

Individuals need to have their views and experiences taken into account on an ongoing basis to have ‘choice’ and ‘control’ in decisions that affect them, they need to be seen as individuals and be given a ‘voice’ to express who they are and what they want.

To enable individuals to have voice, choice and control, interpersonal relationships need to be good between individuals, their relatives, carers and health and social care staff and between the setting and wider health and social care system.

Rhoi llais, dewis a rheolaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw'r dull y bydd staff mewn lleoliadau yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau yn cael gofal a chymorth wedi'u teilwra ar eu cyfer.

Mae angen i farn a phrofiadau unigolion gael eu hystyried yn barhaus er mwyn iddynt gael ‘dewis’ a ‘rheolaeth’ mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae angen iddynt gael eu gweld fel unigolion a chael ‘llais’ i fynegi pwy ydyn nhw a beth maen nhw am ei gael.

Er mwyn galluogi unigolion i gael llais, dewis a rheolaeth, mae angen cydberthnasau rhyngbersonol da rhwng unigolion, eu perthnasau, eu gofalwyr a staff iechyd a gofal cymdeithasol, a rhwng y lleoliad a'r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Understanding an individual’s preferences and background

Deall cefndir a'r hyn sy'n well gan yr unigolyn

Nurse and patient

It is important that individuals are at the centre of the care planning process, so they feel that they are actively involved in their own care. Detailed and effective care planning can ensure all of their needs, wishes and preferences are met, and care packages should never be made without the involvement of the individual concerned.

In relation to health needs and preferences, holistic means seeing the whole individual, not just their physical health, but also their emotional, sexual, social, intellectual, mental and spiritual health needs and preferences. This information is valuable when creating the care plan.

Traditionally, health has been seen as mostly physical but, increasingly, it is usual, and good practice to consider an individual’s holistic health. Only concentrating on physical aspects of care could miss important needs, and as a consequence as well as not caring for that aspect of their health, the physical side of an individual’s health may not improve.

Mae'n bwysig bod unigolion wrth wraidd y broses cynllunio gofal, er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn eu gofal eu hunain. Gall gwaith cynllunio gofal manwl ac effeithiol sicrhau bod eu holl anghenion, dymuniadau a dewisiadau'n cael eu bodloni, ac ni ddylid byth creu pecynnau gofal heb gynnwys yr unigolyn dan sylw.

Mewn perthynas ag anghenion a dewisiadau iechyd, mae holistaidd yn golygu gweld yr unigolyn cyfan, nid dim ond ei iechyd corfforol, ond hefyd ei anghenion a'i ddewisiadau o ran iechyd meddwl ac iechyd emosiynol, rhywiol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol. Mae'r wybodaeth hon yn werthfawr wrth greu'r cynllun gofal.

Yn draddodiadol, mae iechyd wedi cael ei weld fel rhywbeth corfforol yn bennaf, ond mae'n dod yn fwyfwy arferol ac yn arfer da ystyried iechyd holistaidd unigolyn. Gallai canolbwyntio ar agweddau corfforol ar ofal yn unig olygu bod anghenion pwysig yn cael eu colli ac, o ganlyniad i hynny, yn ogystal â pheidio â gofalu am yr agwedd honno ar iechyd yr unigolyn, mae'n bosibl na fydd ei iechyd corfforol yn gwella chwaith.

The importance of understanding an individual’s background

Pwysigrwydd deall cefndir unigolyn

Man visiting a friend

Being person-centred is about listening to and learning about what individuals want from their lives, what they did and enjoyed in the past, and helping them to think about what they want now and in the future. The individual’s experience, history, culture, beliefs, preferences, family, relationship, informal networks and community are all key to establishing a way forward and meeting their needs to enable positive progress. Family, friends, professionals and services need to work together with the individual to make this happen.

Mae gweithredu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu gwrando ar unigolion a dysgu am yr hyn y maent am ei gael o'u bywydau, yr hyn a wnaethant a'r hyn y gwnaethant ei fwynhau yn y gorffennol, a'u helpu i feddwl am yr hyn y maent yn ddymuno ei gael nawr ac yn y dyfodol. Mae profiad, hanes, diwylliant, credoau, dewisiadau, teulu, cydberthynas, rhwydweithiau anffurfiol a chymuned yr unigolyn i gyd yn allweddol i ganfod ffordd ymlaen a diwallu ei anghenion er mwyn galluogi cynnydd cadarnhaol. Mae angen i aelodau o'r teulu, ffrindiau, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn cydweithio â'r unigolyn er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd.

Supporting individuals with person-centred approaches

Cefnogi unigolion â dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Support Worker

Person-centred approaches means working in partnership with the individual to plan for their care and support. The individual is at the centre of the care planning process and should be in control of all choices and decisions made about their lives. The values of compassion, dignity and respect are important when involving individuals in their own care. Decisions should not be made by health and social care workers alone, the individual needs to be seen as an equal partner in their care.

Person-centred planning is about discovering and acting upon what is important to the individual and what matters most to them in their lives.

Mae dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth â'r unigolyn i gynllunio ar gyfer ei ofal a'i gymorth. Yr unigolyn sydd wrth wraidd y broses cynllunio gofal a dylai fod â rheolaeth dros yr holl ddewisiadau a phenderfyniadau a wneir ynglŷn â'i fywyd. Mae gwerthoedd tosturi, urddas a pharch yn bwysig wrth gynnwys unigolion yn eu gofal eu hunain. Ni ddylai penderfyniadau gael eu gwneud gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn unig – mae angen ystyried bod yr unigolyn yn bartner cyfartal yn ei ofal.

Mae gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu darganfod yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a'r hyn sydd bwysicaf iddo yn ei fywyd, a gweithredu ar sail hynny.

What is consent?

Beth yw cydsyniad?

health visitor on home visit

Consent is the permission given by a person with capacity to make the decision which is needed at the time. In relation to the provision of health and social care services, it is important to remember that:

  • it is a legal requirement that consent is established before any intervention or care-giving activity takes place
  • establishing consent is a way that health and social care workers can show they respect the individual
  • the process of establishing consent is a part of the process of developing trust between health and social care workers and the individual.

Consent can be given in a number of ways, this can be through verbal communication, in writing, or through actions. The individual might also allow another individual to do something with or to them, perhaps by raising an arm to be supported when dressing, therefore indicating consent. Informed consent is given when the individual understands what they are consenting to.

Cydsyniad yw’r hawl a roddir gan berson sydd gyda’r galluedd i wneud y penderfyniad sydd ei angen ar y pryd. Mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n bwysig cofio'r canlynol:

  • mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith cael cydsyniad cyn i unrhyw ymyriad neu weithgaredd rhoi gofal ddigwydd
  • mae cael cydsyniad yn ffordd y gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddangos eu bod yn parchu'r unigolyn
  • mae'r broses o gael cydsyniad yn rhan o'r broses o feithrin ymddiriedaeth rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a'r unigolyn.

Gellir rhoi cydsyniad mewn nifer o ffyrdd, boed drwy gyfathrebu geiriol, yn ysgrifenedig neu drwy weithredoedd neu symudiadau. Gallai'r unigolyn hefyd ganiatáu i unigolyn arall wneud rhywbeth iddo neu gydag ef, efallai drwy godi braich i gael cymorth wrth wisgo, sydd felly'n dangos cydsyniad. Rhoddir cydsyniad gwybodus pan fydd yr unigolyn yn deall beth mae'n cydsynio iddo.

Supporting individuals with person-centred approaches

Cefnogi unigolion â dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Doctor's meeting

The individual should be able to decide what care and support they need. By working with the individual to identify their strengths and abilities they can make their own decisions. For example, an individual may want to make their own decisions about the activities they are able and want to participate in.

The individual has as much control as possible over the choices they make. For example, an individual will be supported to try to use the walking frame.

The care and support plan is led by the needs and the wishes of the individual, not service or staff led. This means that support is identified to meet the specific needs of the individual to make their life better, and not around what is already available or what is easier for staff. For example, the diet planned is what is best for the individual, not what is already chosen by others.

Fe ddylai unigolyn allu penderfynu pa ofal a chymorth sydd ei angen arnynt. Trwy weithio gyda’r unigolyn i nodi ei gryfderau a’i alluoedd gallant wneud eu penderfyniadau eu hunain. Er enghraifft, efallai y bydd unigolyn am wneud ei benderfyniadau ei hun am y gweithgareddau y gallant ac y maent yn bwriadu cymryd rhan ynddynt.

Mae gan yr unigolyn gymaint o reolaeth â phosibl dros y dewisiadau a wnânt. Er enghraifft, bydd unigolyn yn cael ei gefnogi i geisio defnyddio’r ffrâm gerdded.

Mae’r cynllun gofal a chymorth yn cael ei arwain gan anghenion a dymuniadau’r unigolyn, nid y gwasanaeth neu’r staff. Mae hyn yn golygu bod cefnogaeth yn cael ei nodi i ddiwallu anghenion penodol yr unigolyn i wneud eu bywyd yn well, ac nid o gwmpas yr hyn sydd ar gael eisoes neu beth sy’n haws i staff. Er enghraifft, y deiet sydd wedi’i gynllunio yw’r hyn sydd orau i’r unigolyn, nid yr hyn sydd eisoes wedi’i ddewis gan eraill.

How to identify the preferences and backgrounds of individuals

Sut i nodi dewisiadau a chefndiroedd unigolion

Doctor on a home visit

When assessing and planning, it is vital that the individual leads the process. Care professionals must remember that the individual is at the foundation of care planning; it is their body, their discomfort, their life and their care. Care planning which is not person-centred is meaningless and not acceptable. Providing care that health and social care workers think individuals need is not appropriate. Health and social care workers must value an individual’s role in this process - this is the best practice. It is essential to empower the individual in their own care.

When establishing the preferences and backgrounds of individuals, it is vital to ask the individual what they want and what they consider their needs to be. Leading questions should be avoided, for example: ‘Your after-school arrangements are fully meeting all your needs, aren’t they?’ This may lead to agreement when it may not actually be the case. Open questions are preferred to closed questions so, instead of asking ‘Are you happy?’ the question could be rephrased as ‘Tell me about how you feel at the moment.’

Wrth asesu a chynllunio, mae'n hollbwysig mai'r unigolyn sy'n arwain y broses. Rhaid i weithwyr gofal proffesiynol gofio bod yr unigolyn wrth wraidd gwaith cynllunio gofal; ei gorff, ei anghysur, ei fywyd a'i ofal ei hun sydd dan sylw. Mae gwaith cynllunio gofal nad yw'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ddiystyr ac yn annerbyniol. Nid yw'n dderbyniol darparu gofal y mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn meddwl sydd ei angen ar unigolion. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol werthfawrogi rôl unigolyn yn y broses hon – dyma'r arfer gorau. Mae'n hanfodol grymuso'r unigolyn yn ei ofal ei hun.

Wrth ganfod dewisiadau a chefndiroedd unigolion, mae'n hollbwysig gofyn i'r unigolyn beth mae am ei gael a beth mae'n credu yw ei anghenion. Dylid osgoi cwestiynau arweiniol, er enghraifft: ‘Mae dy drefniadau ar ôl ysgol yn diwallu dy anghenion i gyd yn llawn, onid ydyn nhw?’ Gall hyn wneud i'r unigolyn gytuno er nad yw'n teimlo hynny mewn gwirionedd. Mae'n well defnyddio cwestiynau agored yn hytrach na rhai caeedig felly, yn lle gofyn ‘Wyt ti'n hapus?’, gellid aralleirio'r cwestiwn fel hyn, ‘Dweda wrtha i sut rwyt ti'n teimlo ar hyn o bryd.’

What are personal plans?

Beth yw cynlluniau personol?

Nutritionist

A personal plan identifies an individual’s care needs, the types of services they will receive to meet those needs and who will provide the services and when.

The role of the individual in their personal care planning has long been recognised as important, it is prioritised as best practice and has been developing as a way forward for all future care planning.

However, since then, the idea has evolved that individuals requiring care should be involved in every stage of the planning process. This process needs to be a continuous cycle, as needs can change. A personal plan meeting an individual’s holistic needs when implemented, may not meet the requirements six months later.

In relation to health, holistic means seeing the whole individual, not just their physical health, but also their emotional, sexual, social, intellectual, mental and spiritual health. When we care for someone, we need to consider all these needs, which can be interlinked.

Mae cynllun personol yn nodi anghenion gofal unigolyn, y mathau o wasanaethau y bydd yn eu cael er mwyn diwallu'r anghenion hynny, a phwy fydd yn darparu'r gwasanaethau a phryd.

Cydnabyddir ers tro bod rôl yr unigolyn yn y gwaith o gynllunio ei ofal personol yn bwysig. Yr arfer gorau yw rhoi blaenoriaeth i rôl yr unigolyn, ac mae hyn wedi bod yn datblygu fel ffordd ymlaen ar gyfer pob math o waith cynllunio gofal yn y dyfodol.

Fodd bynnag, y syniad yw y dylai unigolion y mae angen gofal arnynt gael eu cynnwys ar bob cam o'r broses gynllunio. Mae angen i'r broses hon fod yn gylch parhaus, oherwydd gall anghenion newid. Efallai na fydd cynllun personol sy'n diwallu anghenion holistaidd unigolyn pan gaiff ei roi ar waith, yn bodloni'r gofynion chwe mis yn ddiweddarach.

Mewn perthynas ag iechyd, mae holistaidd yn golygu gweld yr unigolyn cyfan, nid dim ond ei iechyd corfforol, ond hefyd ei iechyd meddwl a'i iechyd emosiynol, rhywiol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol. Pan fyddwn yn gofalu am rywun, bydd angen i ni ystyried yr holl ofynion hyn, a all fod yn gysylltiedig.

How to identify what matters to individuals and the outcomes that they want

Sut i nodi'r hyn sy'n bwysig i unigolion a'r canlyniadau y maent am eu cael

Paper family

Health and social care workers should meet with individuals face to face. They should make it clear that anything discussed will be confidential. This will reassure the individual that it is okay to divulge any necessary information.

Discussions should be in a simple format. Confusing individuals with acronyms, jargon and technical terminology will not help them to lead the assessment. However, workers should avoid patronising individuals by using language that is too simplistic. A balance of clear, detailed information is important.

If anything needs repeating, it should be done patiently and clearly. Care workers should clarify and summarise to ensure that everything is understood as well as to minimise mistakes.

Individuals should be given the time to read the relevant documents and given the opportunity to ask any questions that they may have.

Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gwrdd ag unigolion wyneb yn wyneb. Dylent ddweud yn glir y bydd unrhyw beth a drafodir yn cael ei gadw'n gyfrinachol. Bydd hyn yn tawelu meddwl yr unigolyn ei bod yn iawn datgelu unrhyw wybodaeth angenrheidiol.

Dylai trafodaethau fod yn syml. Ni fydd drysu unigolion ag acronymau, jargon a therminoleg dechnegol yn eu helpu i arwain yr asesiad. Fodd bynnag, dylai gweithwyr osgoi bod yn nawddoglyd ag unigolion drwy ddefnyddio iaith sy'n rhy syml. Mae'n bwysig taro cydbwysedd rhwng gwybodaeth glir a manwl.

Os bydd angen ailadrodd unrhyw beth, dylid gwneud hynny'n amyneddgar ac yn glir. Dylai gweithwyr gofal egluro a chrynhoi er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn deall popeth, a hefyd er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o gamgymeriadau.

Dylai unigolion gael amser i ddarllen y dogfennau perthnasol a chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

What is active participation?

Beth yw cyfranogiad gweithredol?

Working together

Active participation recognises an individual’s right to participate in the activities and functions of everyday life as independently as possible. In doing this the individual is an active partner in their own care and support, rather than receiving the care and support others think they need and want. Key benefits to the individual as an active partner in their own care or support include physical, psychological, social aspects and improved well-being.

Mae cyfranogiad gweithredol yn cydnabod hawl unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bywyd pob dydd mor annibynnol â phosibl. Drwy wneud hyn, mae'r unigolyn yn bartner gweithredol yn ei ofal a'i gymorth ei hun, yn hytrach na'i fod yn cael y gofal a'r cymorth y mae pobl eraill yn credu y mae eu heisiau a'u hangen arno. Ymhlith y manteision allweddol i'r unigolyn fel partner gweithredol yn ei ofal neu ei gymorth ei hun mae manteision corfforol a seicolegol, agweddau cymdeithasol a llesiant gwell.

How can we provide a rights based approach?

Sut y gallwn sicrhau dull gweithredu seiliedig ar hawliau?

Couple visiting the doctor

Often carers will be supporting individuals when they are in a vulnerable position. The quality of care that can be provided will be improved if carers have knowledge of the whole individual, not just the current circumstances. For example, knowledge can help to develop a better understanding as to why individuals behave in the way they do.

Person-centred planning involves seeing the individual being supported as the central concern. Carers need to find ways to care and support for each individual in a way which is specific to their needs.

A rights based approach involving person-centred planning is a way of helping individuals to think about what they want now and in the future. It is about supporting individuals to plan their lives, work towards their goals and get the right support. It is a collection of tools and approaches based upon a set of shared values that can be used to plan with an individual, not for them. Planning should build the individual’s circle of support and involve all the individuals who are important in their life.

Yn aml, bydd gofalwyr yn cefnogi unigolion pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Bydd safon y gofal y gellir ei ddarparu yn well os bydd gan ofalwyr wybodaeth am yr unigolyn cyfan, nid dim ond yr amgylchiadau presennol. Er enghraifft, gall gwybodaeth helpu i ddeall yn well pam mae unigolion yn ymddwyn fel y maent.

Mae gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu ystyried mai'r unigolyn a gefnogir sydd bwysicaf. Mae angen i ofalwyr ddod o hyd i ffyrdd o roi gofal a chymorth i bob unigolyn mewn ffordd sy'n benodol i'w anghenion.

Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau, sy'n cynnwys gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ffordd o helpu unigolion i feddwl am yr hyn y maent am ei gael nawr ac yn y dyfodol. Y nod yw helpu unigolion i gynllunio eu bywydau, gweithio tuag at gyflawni eu nodau a chael y cymorth cywir. Yr hyn sydd dan sylw yw casgliad o adnoddau a dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar gyfres o werthoedd a rennir y gellir eu defnyddio i gynllunio gydag unigolyn, nid ar ei ran. Dylai'r gwaith cynllunio ddatblygu cylch cymorth yr unigolyn a chynnwys yr holl unigolion sy'n bwysig yn ei fywyd.

Meaningful and enjoyable activities and experiences

Profiadau a gweithgareddau ystyrlon a phleserus

Last 2 cards

An individual’s well-being includes their sense of hope, confidence and self-esteem, their ability to communicate wants and needs, to socialise and to experience and show pleasure or enjoyment. This can involve the activities and experiences an individual chooses to take part in. What an individual considers as well-being for them will be different depending on such things as age, disability, illness and mobility. To promote an individual’s well-being, they need to be happy with as many aspects of their life as possible. If the individual thinks that something would help them to feel better, health and social care workers need to be positive, understanding, empathic and non-judgemental. They should listen to what the individual considers to be important in their lives and help them to make the changes they want, such as being able to join in particular activities or groups, for example.

Mae llesiant unigolyn yn cynnwys ei ymdeimlad o obaith, hyder a hunan-barch, a'i allu i gyfleu'r hyn sydd ei eisiau a'i angen arno, i gymdeithasu ac i gael a dangos pleser neu fwynhad. Gall hyn gynnwys y gweithgareddau a'r profiadau y bydd unigolyn yn dewis cymryd rhan ynddynt. Mi fydd yr hyn y mae unigolyn yn ei weld fel llesiant yn amrywio gan ddibynnu ar ffactorau fel oed, anabledd, salwch neu symudedd. Er mwyn hybu llesiant unigolyn, bydd angen iddo fod yn hapus â chynifer o agweddau ar ei fywyd â phosibl. Os bydd yr unigolyn o'r farn y byddai rhywbeth yn ei helpu i deimlo'n well, mae angen i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gadarnhaol, yn amyneddgar ac yn empathig, a pheidio â barnu. Dylent wrando ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn yn ei fywyd, a'i helpu i wneud y newidiadau y mae am eu gwneud, fel gallu ymuno mewn gweithgareddau neu grwpiau penodol, er enghraifft.

How are person centred approaches used to support active participation and inclusion?

Sut mae dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu defnyddio i gefnogi cyfranogiad gweithredol a chynhwysiant?

Equality

When supporting individuals, it is vital that the individual is involved in any decision making and planning in relation to their lives and their care needs. Health and social care workers must remember that the individual is at the foundation of care planning and of all aspects of their daily lives. It is their body, their life and their care. Care planning and practice which is not person-centred is not supportive of active participation or inclusive. Health and social care workers must value an individual’s role in this process - doing this is best practice. It is essential to empowering individuals in their own care and to ensuring they feel included and involved at every stage. Individuals are then active participants in their own lives, in their care and in decision making.

Wrth gefnogi unigolion, mae'n hollbwysig bod yr unigolyn yn cael ei gynnwys wrth wneud unrhyw benderfyniadau ac mewn unrhyw waith cynllunio mewn perthynas â'u bywydau a'u hanghenion gofal. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gofio bod yr unigolyn wrth wraidd gwaith cynllunio gofal a phob agwedd ar ei fywyd beunyddiol. Ei gorff, ei fywyd a'i ofal ei hun sydd dan sylw. Nid yw gwaith cynllunio nac ymarfer ym maes gofal nad ydynt yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn cefnogi cyfranogiad gweithredol nac yn gynhwysol. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol roi gwerth ar rôl unigolyn yn y broses hon – gwneud hyn yw'r arfer gorau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn grymuso unigolion yn eu gofal eu hunain a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ar bob cam. Wedyn, bydd unigolion yn gyfranogwyr gweithredol yn eu bywydau eu hunain, yn eu gofal ac wrth wneud penderfyniadau.

What are personal plans?

Beth yw cynlluniau personol?

Nutritionist

A personal plan identifies an individual’s care needs, the types of services they will receive to meet those needs and who will provide the services and when.

The role of the individual in their personal care planning has long been recognised as important, it is prioritised as best practice and has been developing as a way forward for all future care planning.

However, since then, the idea has evolved that individuals requiring care should be involved in every stage of the planning process. This process needs to be a continuous cycle, as needs can change. A personal plan meeting an individual’s holistic needs when implemented, may not meet the requirements six months later.

In relation to health, holistic means seeing the whole individual, not just their physical health, but also their emotional, sexual, social, intellectual, mental and spiritual health. When we care for someone, we need to consider all these needs, which can be interlinked.

Mae cynllun personol yn nodi anghenion gofal unigolyn, y mathau o wasanaethau y bydd yn eu cael er mwyn diwallu'r anghenion hynny, a phwy fydd yn darparu'r gwasanaethau a phryd.

Cydnabyddir ers tro bod rôl yr unigolyn yn y gwaith o gynllunio ei ofal personol yn bwysig. Yr arfer gorau yw rhoi blaenoriaeth i rôl yr unigolyn, ac mae hyn wedi bod yn datblygu fel ffordd ymlaen ar gyfer pob math o waith cynllunio gofal yn y dyfodol.

Fodd bynnag, y syniad yw y dylai unigolion y mae angen gofal arnynt gael eu cynnwys ar bob cam o'r broses gynllunio. Mae angen i'r broses hon fod yn gylch parhaus, oherwydd gall anghenion newid. Efallai na fydd cynllun personol sy'n diwallu anghenion holistaidd unigolyn pan gaiff ei roi ar waith, yn bodloni'r gofynion chwe mis yn ddiweddarach.

Mewn perthynas ag iechyd, mae holistaidd yn golygu gweld yr unigolyn cyfan, nid dim ond ei iechyd corfforol, ond hefyd ei iechyd meddwl a'i iechyd emosiynol, rhywiol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol. Pan fyddwn yn gofalu am rywun, bydd angen i ni ystyried yr holl ofynion hyn, a all fod yn gysylltiedig.