Health campaigns

Ymgyrchoedd iechyd

1/3

Healthy Lifestyle

Health promotion is about targeting potential issues and encouraging lifestyle changes and healthy behaviours in order to try to prevent future problems, rather than dealing with the illness as it occurs.

Health campaigns can include:

Mae hybu iechyd yn ymwneud â thargedu materion posibl ac annog newidiadau i ffyrdd o fyw unigolion ac ymddygiad iach er mwyn ceisio atal problemau yn y dyfodol, yn hytrach na delio â’r salwch pan fydd yn codi.

Gall ymgyrchoedd iechyd gynnwys:

Health Campaigns

Look at the images and decide which health campaign they could support.

Ymgyrchoedd iechyd

Edrychwch ar y lluniau a phenderfynwch pa ymgyrch iechyd fydden nhw’n gallu eu cefnogi.

1/3

Safe Sex
Safe Sex Rhyw diogel
Alcohol
Alcohol Alcohol
Hygine
Hygiene Hylendid
Medical conditions
Medical conditions Cyflyrau meddygol
Stress
Stress Straen
Environmental pollution
Environmental pollution Llygredd amgylcheddol
Bullying
Bullying Bwlio
Life Expectancy
Life expectancy Disgwyliad oes
Healthy Food
Healthy eating Bwyta'n iach
Exercise
Exercise Ymarfer corff
Smoking
Smoking Ysmygu

Well-being campaigns

Ymgyrchoedd llesiant

1/3

Well-being campaigns are about targeting potential issues that can impact on an individual’s safety, mental health or general well-being.

These can include:

Personal safety

  • CrimeStoppers offer advice on how to stay safe and protect against crimes, such as mobile phones safety, hate crime, identity theft etc. https://bit.ly/2YcuRNo

Road safety

  • Road Safety Wales provide a wide range of resources to ensure individuals stay safe on the road, including information on eye health, fitness to drive, anti-mobile phone campaigns as well as advice on how to travel safely in winter. https://bit.ly/2YdMIDQ
  • GoSafe is a campaign to reduce speed on the roads. https://bit.ly/35WYDs9
  • Deadly Mates is a campaign aimed at young drivers to warn them of the consequences of dangerous driving. https://bit.ly/2rU7nAw

Keeping warm in winter

  • Spread the Warmth is Age Cymru's national campaign to raise public awareness of the health risks that cold weather and a drop in temperature can have on older people. https://bit.ly/2OLeMeM

Fire safety (smoke alarms)

  • Home fire safety checks are free checks offered by the fire service. They will give advice on how to make the home safe and will fit free smoke alarms if necessary. https://bit.ly/34L2QiD

Social isolation

  • Campaign to End Loneliness is a campaign in Pembrokeshire and Carmarthenshire working with health services, local authorities, charities and businesses to ensure everyone knows what they can do to challenge loneliness in rural and isolated communities. https://bit.ly/2OJ3Pua

Modern slavery

  • Hidden in plain sight is a campaign to provide specialist support to all adult victims of modern slavery in England and Wales. https://bit.ly/2rO7ygU
  • Live Fear Free offers a helpline and provides information and advice so that the individuals know what signs to look for. https://bit.ly/34IH9Qk

Rental housing

  • Rent Smart Wales do not only process landlord registrations and grant licences to landlords and agents who need to comply with the Housing (Wales) Act 2014, they also provide a range of information sheets for both landlords and tenants. https://bit.ly/2DIqiRK

Dementia-friendly towns and businesses

  • Dementia Supportive Communities provide guides and tools to support you in making your community more dementia friendly, and links to websites and organisations to help you in your work. https://bit.ly/34MS5w6

Domestic violence

Suicide prevention

  • Talk to me too provides key information and advice, as well as links to other suitable websites relating to suicide and self-harm prevention. https://bit.ly/2YaYa2U

Mae ymgyrchoedd llesiant yn anelu at dargedu materion posibl a all effeithio ar ddiogelwch, iechyd meddwl neu lesiant cyffredinol unigolyn.

Gall y rhain gynnwys y canlynol:

Diogelwch personol

  • Mae CrimeStoppers yn cynnig cyngor ar sut i aros yn ddiogel ac amddiffyn eich hun yn erbyn troseddau, fel diogelwch ffonau symudol, troseddau casineb, dwyn hunaniaeth ac ati. https://bit.ly/2YgVkJN

Diogelwch ar y ffyrdd

  • Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau i sicrhau bod unigolion yn aros yn ddiogel ar y ffyrdd, gan gynnwys gwybodaeth am iechyd llygaid, ffitrwydd i yrru, ymgyrchoedd atal defnyddio ffonau symudol yn ogystal â chyngor ar sut i deithio'n ddiogel yn ystod y gaeaf. https://bit.ly/2Rimn66
  • Nod ymgyrch GanBwyll yw lleihau cyflymder ar y ffyrdd. https://bit.ly/2PcXQg0
  • Mae ymgyrch Ffrind Peryg Bywyd wedi'i hanelu at yrwyr ifanc i'w rhybuddio am ganlyniadau gyrru'n beryglus. https://bit.ly/2P8Qv13

Cadw'n gynnes yn y gaeaf

  • Mae Lles drwy Wres yn ymgyrch genedlaethol gan Age Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r risgiau iechyd i bobl hŷn sy'n gysylltiedig â thywydd oer a gostyngiad mewn tymheredd. https://bit.ly/2PfcfIS

Diogelwch tân (larymau mwg)

  • Mae'r gwasanaeth tân yn cynnig gwiriadau diogelwch tân yn y cartref am ddim. Bydd yn rhoi cyngor ar sut i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel ac yn gosod larymau mwg am ddim os bydd angen. https://bit.ly/2OLERdJ

Arwahaniad cymdeithasol

  • Mae'r Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd yn ymgyrch yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin sy'n gweithio gyda gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol, elusennau a busnesau i sicrhau bod pawb yn gwybod beth y gallant ei wneud er mwyn herio unigrwydd mewn cymunedau gwledig ac ynysig. https://bit.ly/2r9ooqz

Caethwasiaeth fodern

  • Mae Hidden in plain sight yn ymgyrch i ddarparu cymorth arbenigol i bob oedolyn sydd wedi dioddef caethwasiaeth fodern yng Nghymru a Lloegr. https://bit.ly/34Rnmyg
  • Mae Byw Heb Ofn yn cynnig llinell gymorth ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor er mwyn sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o'r arwyddion. https://bit.ly/2RfjDX3

Tai rhent

  • Nid prosesu cofrestriadau landlordiaid a dyfarnu trwyddedau i landlordiaid ac asiantiaid y mae angen iddynt gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014 yn unig a wna Rhentu Doeth Cymru, mae hefyd yn darparu amrywiaeth o daflenni gwybodaeth i landlordiaid a thenantiaid. https://bit.ly/34JNevD

Trefi a busnesau sy'n gyfeillgar i bobl â dementia

  • Mae Cymunedau sy'n Cefnogi Pobl â Dementia yn darparu canllawiau ac adnoddau i'ch helpu i sicrhau bod eich cymuned yn fwy cyfeillgar i bobl â dementia, a dolenni i wefannau a sefydliadau i'ch helpu yn eich gwaith. https://bit.ly/2DKyyAs

Trais yn y cartref

Atal hunanladdiad

  • Mae Talk to me too yn darparu gwybodaeth a chyngor allweddol, yn ogystal â dolenni i wefannau addas eraill sy'n ymwneud ag atal hunanladdiad a hunan-niweidio. https://bit.ly/360VqI2