The All Wales Induction Framework for Early Years and Childcare supports new workers during the induction stage of their employment. It covers the principles and values, knowledge and skills that workers need to carry out their role. The framework offers settings a robust structure for induction and ensures that new workers are clear about the knowledge and skills that they need to be able to evidence in their first six months of employment. It also creates a firm foundation for new workers to develop their practice and future careers, in and across the early years and childcare sector.
Induction for Early Years and Childcare:
In its document Building a Brighter Future: Early Years and Childcare Plan, the Welsh Government sets out its aim to increase the skills and standards of the early years and childcare workforce. The intention is to improve outcomes for children through access to high-quality early education and care.
The Welsh Government expects childcare workers to be learners who take responsibility for their professional development throughout their career. Working in childcare involves so much more than supervision alone. Childcare workers need to be professionals with a high level of skills, knowledge and behaviours.
Childcare, Play and Early Years Workforce Plan:
Continuing Professional Development Principles for the early years and childcare workforce in Wales:
This Code of Conduct describes the standards of conduct and attitude required of all healthcare support workers employed within the National Health Service in Wales (NHS Wales). According to the Code, healthcare support workers must improve the quality of care to service users by updating their knowledge, skills and experience through personal and professional development. They must:
Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales:
The Code of Practice for NHS Wales Employers offers assurance, supporting the employment of healthcare support workers in Wales. It is supported by a Code of Conduct for Healthcare Support Workers, which describes the standards that individuals must comply with. Employers should be familiar with the Code of Conduct and ensure that staff are supported to achieve the standards it contains. Employers will need to establish and implement systems and processes to support healthcare support workers to achieve the standards in the Code of Conduct. Employers must provide timely, appropriate and accessible education, training and development opportunities to enable childcare workers to develop and strengthen their skills and knowledge. Employers must:
Code of Practice for NHS Wales Employers:
This document sets out the 'National Minimum Standards which apply to child minders and providers of day care for children up to 12 years of age’. Childcare providers must meet the standards and they are inspected by the Care Inspectorate Wales in order to ensure that they do so. Under the standards, the setting's registered person is responsible for making sure that every member of staff has the experience, the qualifications, the skills and the abilities to fulfil their functions. The registered person is responsible for ensuring that the person in charge has at least a level 3 qualification recognised on Social Care Wales' current list of 'Accepted Qualifications for the Early Years and Childcare Workforce in Wales'. They must also ensure that every member of staff receives induction training, which includes health and safety and child protection policies and procedures, during their first week of employment and that the continuing training needs of staff are addressed and provided for regularly. All paid staff need to receive regular one-to-one supervision which encourages them to think about the quality of their practice and raise any safeguarding concerns. They must also receive formal appraisal at least once a year.
Qualification framework for social care and regulated childcare in Wales:
Mae’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cefnogi gweithwyr newydd yn ystod cyfnod sefydlu eu cyflogaeth. Mae’n cynnwys yr egwyddorion a’r gwerthoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae gweithwyr eu hangen i wneud eu swydd. Mae’r fframwaith yn rhoi strwythur cadarn i leoliadau ar gyfer y broses sefydlu a sicrhau bod gweithwyr newydd yn glir o ran gwybodaeth a’r sgiliau sydd angen iddynt ddangos tystiolaeth ohonynt yn ystod eu chwe mis cyntaf o gyflogaeth. Mae hefyd yn creu sylfaen gadarn ar gyfer gweithwyr newydd fel y gallant ddatblygu eu hymarfer a’u gyrfaoedd yn y dyfodol, ac ar draws sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Sefydlu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant:
Yn ei ddogfen Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei nod o gynyddu sgiliau a safonau gweithwyr gofal plant y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Y bwriad ydy gwella canlyniadau i blant trwy fynediad at ofal ac addysg gynnar o ansawdd uchel.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gweithwyr gofal plant y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn ddysgwyr sy’n cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol drwy gydol eu gyrfa. Mae gweithio ym maes gofal plant yn ymwneud â chymaint mwy na’u goruchwylio yn unig. Mae angen i gweithwyr gofal plant fod yn weithwyr proffesiynol sydd â lefel uchel o sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau.
Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar:
Egwyddorion Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru:
Mae’r Côd Ymddygiad hwn yn disgrifio’r safonau ymddygiad ac ymagwedd a ddisgwylir gan weithwyr cynnal gofal iechyd a gyflogir yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG Cymru). Yn ôl y Côd, mae’n rhaid i weithwyr cynnal gofal iechyd wella ansawdd gofal defnyddwyr y gwasanaethau drwy ddiweddaru eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad drwy ddatblygiad personol a phroffesiynol. Mae’n rhaid iddynt:
Côd Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru:
Mae’r Côd Ymarfer ar gyfer cyflogwyr GIG Cymru yn cynnig sicrwydd wrth gyflogi gweithwyr cynnal gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n cyd-fynd â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cynnal Gofal Iechyd sy’n disgrifio’r safonau y mae’n rhaid i unigolion gydymffurfio â nhw. Dylai cyflogwyr fod yn gyfarwydd â’r Côd Ymddygiad a sicrhau bod aelodau staff yn cael eu cynorthwyo i gyrraedd y safonau a gynhwysir ynddo. Bydd angen i gyflogwyr sefydlu a gweithredu systemau a phrosesau i gynorthwyo gweithwyr cynnal gofal iechyd i gyrraedd y safonau a osodir yn y Côd Ymddygiad. Mae’n rhaid i gyflogwyr ddarparu cyfleoedd amserol, priodol a hygyrch ar gyfer addysg, hyfforddiant a datblygiad, i alluogi gweithwyr gofal plant ddatblygu a chryfhau eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae’n rhaid i gyflogwyr:
Côd Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru:
Dogfen sy’n gosod ‘Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy'n berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd i blant hyd at 12 oed’. Mae’n rhaid i ddarparwyr gofal plant gyfarfod â’r safonau ac maen nhw’n cael eu harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd. Yn ôl y safonau, mae person cofrestredig y lleoliad yn gyfrifol am sicrhau bod gan bob aelod o staff y profiad, y cymwysterau, y sgiliau a'r gallu i gyflawni eu swyddogaethau. Mae’r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau bod gan y person â chyfrifoldeb gymhwyster ar lefel 3 o leiaf a gydnabyddir ar restr bresennol Gofal Cymdeithasol Cymru o ‘Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru’. Mae hefyd angen iddynt sicrhau bod pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant sefydlu, sy'n cynnwys polisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant ac iechyd a diogelwch, yn ystod eu hwythnos gyntaf yn y gwaith a bod anghenion hyfforddiant parhaus staff yn cael eu nodi a’u darparu'n rheolaidd. Mae angen i’r holl staff cyflogedig dderbyn goruchwyliaeth un-i-un yn rheolaidd sy'n eu hannog i feddwl am ansawdd eu dulliau a chodi unrhyw bryderon ynghylch materion amddiffyn plant. Rhaid sicrhau eu bod yn cael eu harfarnu'n ffurfiol o leiaf unwaith y flwyddyn.
Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru:
Drag the code of conduct to the correct description
Llusgwch y cod ymddygiad i'r disgrifiad cywir
Warning! This resource is not optimised for use on mobile devices.
Rhybudd! Ni ellir defnyddio’r adnodd yma ar ffonau symudol neu dabled.
Well done. You have matched them all correctly.
Da iawn. Rydych wedi paru pob un yn gywir.
Code of conduct
Cod ymddygiad
|
Description
Disgrifiad
|
Correct answers
Atebion cywir
|
---|