Self-confidence in the parenting role

Hunanhyder teuluoedd/gofalwyr wrth rianta

Playing with daughter

The family is the focus of children and young people and families/carers must develop self-confidence to participate in play activities with their children. Some families may feel that raising their children is very hard where there are periods of stress, loneliness, tiredness and worry for their children. On the other hand there are periods of joy and unconditional love which provide the opportunity to build confidence, not to worry unnecessarily and take one day at a time. Children's development and identity is influenced more by parents/carers than anyone else, therefore it is important that they are confident in guiding their children correctly.

Some settings encourage parents/carers to help to prepare activities for the children e.g. gardening, story time or cooking. This will give parents/carers confidence when parenting so that they understand how important their role is. It may also help the parents/carers to build a robust relationship with their children. The majority of settings have an 'open door' policy where parents/carers are encouraged to call in at any time. This will lead to a strong partnership between them and the staff, developing positive attitudes with the children and their families feeling safer and more confident. By respecting parents'/carers' views and wishes, and recognising that they know their child best, they can be encouraged to play a significant role in their children's education.

Parents/carers can be encouraged to display self-confidence skills by:

  • Considering their emotions - stepping back from the situation if you feel angry in order to avoid losing control, which will show the children that you have the confidence to deal with the situation.
  • Developing a good relationship - the best way parents/carers can support their children's development is by fostering a good relationship and understanding that children will want to please them.
  • Using body language - this is a big contributor towards showing confidence. When playing with children the adult can bend down to the same level as them rather than bending over them.
  • Using sentences which show control - showing the child that you are aware that they are finding it difficult with specific play - 'do you want me to play with you?'
  • Receiving support - if parents/carers are finding it difficult to be confident they can be offered assistance by suggesting they attend parenting courses.

For further information on parenting skills visit:

https://bit.ly/2G8ExRz

There is a wide range of support services available for parents/carers and children and young people in order to cope better with the challenges of family life such as:

  • Flying Start
  • Team Around the Family
  • Family Team
  • Parents, Childcare and Employment (PaCE)
  • Family centres
  • Children centres

Play is a natural instinct and it allows children to make choices and discover their own solutions. It helps children develop social skills and encourages them to develop emotionally and become physically healthy. Parents/carers play a crucial role in ensuring that children have access to a variety of play opportunities and confidence needs to be developed in order to do this successfully.

Ten top tips

  1. Remember that every child is different and enjoys playing differently.
  2. Give your child the opportunity to choose the game they want to play.
  3. Don't solve every task for your child.
  4. Don't be a competitive parent or carer.
  5. Remember to take part in your child's pretend games.
  6. Allow your child to take part in challenges such as tree climbing - children learn by taking risks.
  7. Go out to play, it's healthier and more fun.
  8. Let your children teach you how to play with their toys and computer games.
  9. Share a game you used to play as a child.
  10. Enjoy playing.

Y teulu yw canolbwynt plant a phobl ifanc ac mae’n hanfodol bod teuluoedd/gofalwyr yn meithrin hunanhyder i fedru cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae gyda’u plant. Gall rai teuluoedd deimlo bod magu eu plant yn broses anodd iawn ble ceir cyfnodau o straen, unigrwydd, blinder a gofid am eu plant. Ar y llaw arall ceir adegau llawn hwyl a chariad diamod sy’n gyfle i fagu hyder, i beidio mynd o flaen gofid a chymryd un dydd ar y tro. Mae datblygiad a hunaniaeth plant yn cael ei ddylanwadu mwy gan rieni/gofalwyr na neb arall ac felly mae’n bwysig eu bod yn hyderus i arwain eu plant yn y modd cywir.

Gwelir fod rhai lleoliadau yn annog rhieni/gofalwyr i ymuno â hwy wrth iddynt baratoi gweithgareddau i’r plant e.e. sesiynau garddio, darllen storiâu neu goginio. Bydd hyn yn rhoi hyder i rieni wrth ymdrin â’u sgiliau rhianta fel eu bod yn ystyried pa mor bwysig yw eu rôl nhw. Gall hefyd gyfrannu at y rhieni/gofalwyr yn adeiladu perthynas gadarn gyda’u plant. Mae gan y mwyafrif o leoliadau bolisi ‘drws agored’ ble anogir rhieni/gofalwyr i alw heibio unrhyw amser. Bydd hyn yn arwain at bartneriaeth gref rhyngddynt a’r staff gan feithrin agweddau cadarnhaol gyda’r plant a’u teuluoedd yn teimlo’n fwy diogel a hyderus. Wrth barchu safbwyntiau a dymuniadau rhieni, a chydnabod mai nhw sydd yn adnabod eu plant orau gellir feithrin eu hyder i gymryd rhan sylweddol yn addysg eu plant.

Gellir annog rieni arddangos sgiliau hunanhyder drwy wneud y canlynol:

  • Ystyried eu hemosiynau - Camu nôl o’r sefyllfa os ydych chi'n teimlo’n ddig er mwyn osgoi colli rheolaeth, bydd hyn yn dangos i’r plant bod gennych hyder i ymdrin â’r sefyllfa.
  • Meithrin perthynas dda - Y ffordd orau y gall rhieni gefnogi datblygiad eu plant yw trwy feithrin perthynas dda a dod i ddeall bod plant am eu plesio.
  • Defnyddio Iaith corff - Mae hyn yn cyfrannu’n fawr tuag at arddangos hyder. Wrth chwarae gyda phlant gellir plygu lawr i’r un lefel a hwy yn hytrach na phlygu drostynt.
  • Defnyddio brawddegau sy’n arddangos rheolaeth - Dangos i’r plentyn eich bod yn ymwybodol ei fod yn cael anhawster gyda’r chwarae penodol - ‘a wyt ti eisiau i mi chwarae gyda thi?’
  • Derbyn cymorth - Os yw bod yn hyderus yn profi’n heriol i rieni/gofalwyr yna gellir cynnig cymorth iddynt drwy awgrymu eu bod yn mynychu cyrsiau rhianta.

Os am fwy o wybodaeth am sgiliau rhianta ewch i:

https://bit.ly/2JAMvDV

Mae yna amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gyfer rhieni/gofalwyr a phlant a phobl ifanc, er mwyn iddynt allu ymdopi â sialensiau bywyd teuluol yn well megis:

  • Dechrau’n Deg
  • Tîm o Amgylch y Teulu
  • Tîm Teulu
  • Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth
  • Canolfannau teulu
  • Canolfannau plant

Mae chwarae’n reddf naturiol ac mae’n galluogi plant i wneud dewisiadau a darganfod eu datrysiadau eu hunain. Mae’n helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a’u hannog i ddatblygu’n emosiynol a chorfforol iach. Mae rhieni/gofalwyr yn cymryd rhan allweddol wrth sicrhau bod plant yn cael mynediad i fwynhau cyfleoedd chwarae amrywiol ac mae angen datblygu hyder i fedru gwneud hyn yn llwyddiannus.

Deg awgrym gwych

  1. Cofiwch fod pob plentyn yn wahanol ac yn mwynhau chwarae yn wahanol.
  2. Rhowch gyfle i'ch plentyn ddewis y gêm y mae am ei chwarae.
  3. Peidiwch â datrys pob tasg dros eich plentyn.
  4. Peidiwch â bod yn rhiant neu ofalwr cystadleuol.
  5. Cofiwch gymryd rhan yng ngemau ffug eich plentyn.
  6. Gadewch i'ch plentyn fwynhau heriau fel dringo coed - mae plant yn dysgu drwy gymryd risgiau.
  7. Ewch allan i chwarae, mae'n iachach ac yn llawer o hwyl.
  8. Gadewch i blant eich dysgu sut i chwarae gyda'u teganau nhw a’u gemau cyfrifiadurol.
  9. Rhannwch gêm yr oeddech chi'n arfer ei chwarae fel plentyn.
  10. Mwynhewch chwarae.

Promoting families'/carers' self-confidence in the parenting role

Drag the statements to the correct column

Hunanhyder teuluoedd/gofalwyr wrth rianta

Llusgwch y datganiadau i’r golofn gywir