Identifying common signs and indicators of stress

Nodi arwyddion a dangosyddion cyffredin straen

Stressed doctor

The body’s response to stress involves the nervous system and specific hormones in the body, and it enables us to do things under pressure. It is when stress is excessive or ongoing and interfering with day to day functioning that anxiety and stress become a problem. This can lead to a person feeling overwhelmed and unable to cope. This weakens the immune system making it even harder to deal with daily demands.

Mae ymateb y corff i straen yn cynnwys y system nerfol a hormonau penodol yn y corff, ac mae'n ein galluogi i wneud pethau o dan bwysau. Pan fo'r straen yn ormodol neu'n parhau ac yn ymyrryd â gweithrediad o ddydd i ddydd mae pryder a straen yn dod yn broblem. Gall hyn beri i berson deimlo ei fod yn cael ei lethu ac na all ymdopi. Mae hyn yn gwanhau'r system imiwnedd gan ei gwneud hyd yn oed yn fwy anodd i ddelio â gofynion dyddiol.

What is stress?

Beth yw straen?

Man on computer

In some circumstances stress is not necessarily a bad thing as mild forms of stress can motivate and energise an individual.

Stress is a state of tension on the body as it attempts to cope with everyday situations. It’s the body’s way of preparing to face difficult situations.

Anxiety is a sense of apprehension, dread or uneasiness.

We tend to perceive anxiety and stress as negative, but in fact both are normal and can be adaptive. It is how we understand and deal with stress that lets us manage it effectively.

Consider what causes you to be stressed as being aware of what your triggers are can help you deal with the causes effectively.

Dan rai amgylchiadau nid yw straen yn beth drwg o reidrwydd gan y gall mathau ysgafn o straen gymell ac ysgogi unigolyn.

Mae straen yn gyflwr o densiwn ar y corff wrth iddo geisio ymdopi â sefyllfaoedd bob dydd. Dyma ffordd y corff o baratoi i wynebu sefyllfaoedd anodd.

Mae gorbryder yn ymdeimlad o bryder, ofn neu anhawddgarwch.

Rydym yn tueddu i dybio bod pryder a straen yn negyddol, ond mewn gwirionedd mae'r ddau yn normal a gellir eu haddasu. Y ffordd yr ydym yn deall ac yn delio â straen sy'n ein galluogi i'w reoli'n effeithiol.

Ystyriwch beth sy'n peri i chi fod dan straen gan fod bod yn ymwybodol o'r hyn y gall sbarduno straen yn gallu eich helpu i ddelio â'r achosion yn effeithiol.

Managing stress and support mechanisms for dealing with stress

Rheoli straen a mecanweithiau cymorth ar gyfer delio â straen

Relaxation

The Health and Safety Executive defines stress as ‘the adverse reaction individuals have to excessive pressures or other types of demand placed on them’.

Workers feel stress when they can’t cope with pressures and other issues.

Stress is part of everyday life. In a health and social care context this can be caused by increasing demands on staff due to staff shortage and cutbacks in funding leading to a heavier workload for individuals. This can also be caused by the increasing complexity of the care needs of individuals.

Stress affects individuals differently and what stresses one person may not affect another. Factors like skills and experience, age or disability may all affect whether a person copes with every day stress.

Once the triggers are identified individuals need to manage their stresses to avoid as far as possible the impact on everyday life.

Everyone has different mechanisms for dealing with day to day stresses and there are steps that everyone can take to aim to reduce the effects of stress.

Support

Everyone needs a little support sometimes when dealing with stressful situations. It is important that those who are suffering from stress are able to talk to those that they trust. Support can come from several directions some formal and others informal including:

  • parents
  • friends
  • other family members
  • school counsellor or teacher
  • minister or priest
  • your doctor
  • a local pharmacist
  • social worker.

There are also phone services including confidential advice-lines which individuals may find easier to use. Support can also be found on-line on websites such as MIND, the mental health charity.

Those suffering from stress may also benefit from:

  • taking deep breaths
  • taking a break
  • doing something relaxing such as listening to music
  • living a healthy lifestyle
  • taking exercise.

Stress is a normal process. It’s only when it is ongoing and not dealt accordingly that it could pose as a problem for both physical and mental health.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn diffinio straen fel 'yr adwaith andwyol sydd gan unigolion i bwysau gormodol neu fathau eraill o alw a roddir arnynt'.

Mae gweithwyr yn teimlo straen pan na allant ymdopi â phwysau a materion eraill.

Mae straen yn rhan o fywyd bob dydd. Mewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol gall hyn fod oherwydd y galw cynyddol ar staff oherwydd prinder staff a thoriadau mewn cyllid sy'n arwain at lwyth gwaith trymach i unigolion. Gall hyn hefyd gael ei achosi oherwydd y galw cynyddol gymhleth i ofal unigolion.

Mae straen yn effeithio ar unigolion yn wahanol ac nid yw’r hyn sy'n peri straen i un unigolyn yn effeithio dim ar un arall. Gall ffactorau fel sgiliau a phrofiad, oedran neu anabledd i gyd effeithio ar p’un a yw person yn ymdopi â straen bob dydd.

Unwaith y bydd y sbardunau wedi'u nodi, bydd angen i'r unigolion reoli eu straen er mwyn osgoi'r effaith ar fywyd bob dydd cyn belled ag y bo modd.

Mae gan bawb fecanweithiau gwahanol ar gyfer delio â straen o ddydd i ddydd ac mae camau y gall pawb eu cymryd i geisio lleihau effeithiau straen.

Cymorth

Mae angen ychydig o gymorth ar bawb weithiau wrth ddelio â sefyllfaoedd sy'n achosi straen. Mae'n bwysig bod y rhai sy'n dioddef o straen yn gallu siarad â'r rheini y maen nhw’n ymddiried ynddynt. Gall cefnogaeth ddod o sawl cyfeiriad rhai yn ffurfiol ac eraill yn anffurfiol gan gynnwys:

  • rhieni
  • ffrindiau
  • aelodau eraill o’r teulu
  • cwnselydd ysgol neu athro
  • gweinidog neu offeiriad
  • eich meddyg
  • fferyllydd lleol
  • gweithiwr cymdeithasol.
  • Mae yna hefyd wasanaethau ffôn gan gynnwys llinellau cyngor cyfrinachol a all fod yn haws i unigolion eu defnyddio. Gellir hefyd gael cymorth ar-lein ar wefannau fel MIND, yr elusen iechyd meddwl.

Gall pobl sy'n dioddef o straen elwa hefyd o'r canlynol:

  • anadlu’n ddwfn
  • cymryd saib
  • gwneud rhywbeth ymlaciol megis gwrando ar gerddoriaeth
  • dilyn ffordd iach o fyw
  • gwneud ymarfer corff.

Mae straen yn broses arferol ond dim ond pan fydd yn parhau a phan nad yw’n cael ei drin yn briodol y gallai fod yn broblem i iechyd corfforol a meddyliol.