The roles and responsibilities

Y rolau a chyfrifoldebau

Safety precautions

We are all responsible for the prevention and control of infection. The Health and Safety at Work Act 1974 puts a general duty on an employer to protect the health and safety of employees. However, staff will also have a duty to comply with infection control procedures and take appropriate action to protect themselves.

The National Institute for Clinical Excellence has guidelines on infection control (https://www.nice.org.uk/guidance/cg2) which include these standard principles:

  • hand hygiene
  • the use of personal protective equipment
  • use and disposal of sharps
  • education of individuals, their carers and staff.

Many measures taken to protect patients using these principles will also protect staff. However, the risks staff face may be significantly different to the risks faced by individuals as staff tend to be generally healthy, which will make them less vulnerable to many infections.

Rydyn ni gyd yn gyfrifol am atal a rheoli heintiau. Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar gyflogwr i amddiffyn iechyd a diogelwch gweithwyr cyflogedig. Fodd bynnag, bydd gan staff ddyletswydd hefyd i gydymffurfio â gweithdrefnau rheoli heintiau a chymryd camau priodol i'w hamddiffyn eu hunain.

Mae gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol ganllawiau ar reoli heintiau (https://www.nice.org.uk/guidance/cg2) sy'n cynnwys yr egwyddorion safonol hyn:

  • hylendid dwylo
  • defnyddio cyfarpar amddiffynnol personol
  • defnyddio a gwaredu offer miniog
  • addysgu unigolion, eu gofalwyr a staff.

Bydd llawer o'r mesurau a gymerir i ddiogelu cleifion gan ddefnyddio'r egwyddorion hyn hefyd yn amddiffyn staff. Fodd bynnag, gallai'r risgiau sy'n wynebu staff fod yn wahanol iawn i'r risgiau a wynebir gan unigolion gan fod staff yn tueddu i fod yn iach ar y cyfan, a fydd yn eu gwneud yn llai tebygol o ddal llawer o heintiau.

The importance of a clean environment

Pwysigrwydd amgylchedd glân

Clinical waste bin

A dirty working environment is one of the factors that may contribute towards infection rates. High standards of cleanliness will help to reduce the risk of cross-infection.

Safe handling and disposal of sharps is also important. To reduce the risk of injury and exposure to blood borne viruses, it is vital that sharps are used safely and disposed of carefully, following the workplace’s agreed policies on safe working procedures. Employers should provide training for all health care workers.

Safe handling and disposal of chemical waste is important and the workplace should have a written policy on waste disposal.

This should include colour coding of bags used for waste, for example:

  • yellow bags for clinical waste
  • black bags for household waste
  • special bins for glass and aerosols
  • colour coded bins for pharmaceutical or cytotoxic waste.

All health care and support staff should be instructed in the safe handling of waste, including disposal and dealing with spillages.

Managing blood and bodily fluids spillages should be dealt with quickly, following the workplace’s written policy for dealing with spillages.

Decontaminating equipment is important as inadequate decontamination has frequently been associated with outbreaks of infection in hospitals.

It is vital that re-usable equipment is scrupulously decontaminated between each patient.

To ensure that control of infection is maintained at a high level, all health care staff must be aware of the implications of safe decontamination and their responsibilities to their patients, themselves and their colleagues.

It’s important to achieve and maintain a clean clinical environment. Cleaning removes contaminants, including dust and soil, large numbers of micro-organisms and the organic matter that may shield them, for example, faeces, blood and other bodily fluids.

Mae amgylchedd gwaith budr yn un o'r ffactorau a all gyfrannu tuag at gyfraddau heintiau. Bydd safonau glendid uchel yn helpu i leihau'r perygl o draws-heintio.

Mae trin a chael gwared ar offer miniog yn ddiogel hefyd yn bwysig. Er mwyn lleihau'r risg o anaf ac amlygiad i firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed, mae'n hanfodol bod offer miniog yn cael eu defnyddio'n ddiogel a'u gwaredu'n ofalus, gan ddilyn polisïau y cytunwyd arnynt yn y gweithle ar weithdrefnau gweithio diogel. Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd.

Mae trin a gwaredu gwastraff cemegol yn ddiogel yn bwysig a dylai fod gan y gweithle bolisi ysgrifenedig ar waredu gwastraff.

Dylai hyn gynnwys codio bagiau a ddefnyddir ar gyfer gwastraff yn ôl eu lliw, er enghraifft:

  • bagiau melyn ar gyfer gwastraff clinigol
  • bagiau du ar gyfer gwastraff cartref
  • biniau arbennig ar gyfer gwydr ac erosolau
  • biniau â chodau lliw ar gyfer gwastraff fferyllol neu cytotocsig.

Dylid rhoi cyfarwyddyd i bob aelod o staff gofal iechyd a chymorth wrth drin gwastraff yn ddiogel, gan gynnwys ei waredu a thrin ac unrhyw achos o ollwng hylifau.

Dylid ymdrin â rheoli achosion o ollwng gwaed a hylifau’r corff yn gyflym, gan ddilyn polisi ysgrifenedig y gweithle ar gyfer ymdrin â gorlifiadau.

Mae dadhalogi cyfarpar yn bwysig gan fod dadlygru annigonol yn aml wedi bod yn gysylltiedig ag achosion o heintiau mewn ysbytai.

Mae'n hanfodol bod cyfarpar y gellir ei ailddefnyddio yn cael ei ddadhalogi'n drylwyr rhwng pob claf.

Er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau rheoli heintiau yn cael eu cynnal ar lefel uchel, mae'n rhaid i bob aelod o staff gofal iechyd fod yn ymwybodol o oblygiadau dadhalogi diogel a'u cyfrifoldebau i'w cleifion, iddyn nhw eu hunain ac i’w cydweithwyr.

Mae'n bwysig sicrhau a chynnal amgylchedd clinigol glân. Mae glanhau yn cael gwared ar halogyddion, gan gynnwys llwch a phridd, nifer fawr o ficro-organebau a'r deunydd organig a allai eu cuddio, er enghraifft, ysgarthion, gwaed a hylifau corfforol eraill.

Good personal hygiene

Hylendid personol da

Bacteria

One of the most effective ways we have to protect ourselves and others from illness is good personal hygiene.

This means not only washing your hands but also your body. It means being careful not to cough or sneeze on others, cleaning things that you touch if you are unwell, putting items such as tissues into a bin and using protection when you might be at risk of catching an infection.

Personal hygiene, such as bathing or showering, is very much dependent on the culture in which you live. In some cultures, it is expected that you will wash your body daily and use deodorants to stop body smells.

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol sydd gennym i amddiffyn ein hunain ac eraill rhag salwch yw hylendid personol da.

Yn ogystal â golchi eich dwylo mae hyn hefyd yn golygu golchi eich corff. Mae'n golygu bod yn ofalus i beidio â pheswch neu disian ar eraill, glanhau pethau rydych chi'n eu cyffwrdd os ydych chi'n sâl, rhoi eitemau fel hancesi papur mewn bin a defnyddio dulliau amddiffyn pan fyddwch chi efallai mewn perygl o ddal haint.

Mae hylendid personol, fel ymolchi yn y baddon neu gael cawod, yn dibynnu i raddau helaeth ar y diwylliant rydych chi'n byw ynddo. Mewn rhai diwylliannau, mae disgwyl i chi olchi eich corff bob dydd a defnyddio diaroglyddion i atal arogleuon y corff.

Hand washing techniques

Technegau golchi dwylo

Washing hands

Promoting good hand hygiene has been at the forefront of the NHS’s drive to reduce MRSA cases. Healthcare workers have been encouraged to wash their hands before and after dealing with individual patients, or when they are likely to be contaminated. In doing so, it is likely they are reducing their own risk of acquiring some healthcare-acquired infections as well.

The Five Moments for Hand Hygiene (World Health Organisation Guidelines)

  1. BEFORE PATIENT CONTACT
    WHEN? Clean hands before touching a patient when approaching him or her.
    WHY? To protect the patient against harmful germs carried on hands.
  2. BEFORE AN ASEPTIC TASK
    WHEN? Clean hands immediately before any aseptic task.
    WHY? To protect the patient against harmful germs, including the patient’s own germs, entering his or her body.
  3. AFTER BODY FLUID EXPOSURE RISK
    WHEN? Clean hands immediately after an exposure risk to body fluids (and after glove removal).
    WHY? To protect yourself and the health-care environment from harmful patient germs.
  4. AFTER PATIENT CONTACT
    WHEN? Clean hands after touching a patient and his or her immediate surroundings when leaving.
    WHY? To protect yourself and the health-care environment from harmful patient germs.
  5. AFTER CONTACT WITH PATIENT SURROUNDINGS
    WHEN? Clean hands after touching any object or furniture in the patient’s immediate surroundings, when leaving - even without touching the patient.
    WHY? For personal protection and the protection of the health-care environment from harmful patient germs.

Click on the link below to see the poster developed for hand hygiene.

https://bit.ly/2Ib3CMV

Mae hyrwyddo hylendid dwylo da wedi bod yn flaenllaw yn ymgyrch y GIG i leihau achosion o MRSA. Mae gweithwyr gofal iechyd wedi cael eu hannog i olchi eu dwylo cyn ac ar ôl delio â chleifion unigol, neu pan fyddant yn debygol o fod wedi'u halogi. Wrth wneud hynny, mae'n debygol eu bod yn lleihau eu risg eu hunain o ddal rhai heintiau a geir mewn gofal iechyd hefyd.

Five Moments for Hand Hygiene (Canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd)

  1. CYN CYFFWRDD Â CHLAF
    PRYD? Golchwch eich dwylo cyn cyffwrdd â chlaf wrth agosáu ato neu ati.
    PAM? I amddiffyn y claf rhag germau niweidiol sy'n cael eu cario ar ddwylo.
  2. CYN TASG ASEPTIG
    PRYD? Golchwch eich dwylo yn syth cyn unrhyw dasg aseptig.
    PAM? I amddiffyn y claf rhag germau niweidiol, gan gynnwys germau'r claf ei hun, yn mynd i mewn i'w gorff.
  3. PERYGL AR ÔL AMLYGIAD I HYLIF Y CORFF
    PRYD? Golchwch eich dwylo ar unwaith ar ôl amlygiad i hylifau corff (ac ar ôl tynnu menig).
    PAM? I amddiffyn eich hun a'r amgylchedd gofal iechyd rhag germau niweidiol ar gleifion.
  4. AR ÔL CYFFWRDD Â CHLAF
    PRYD? Golchwch eich dwylo ar ôl cyffwrdd â chlaf a'i amgylchoedd agos wrth adael.
    PAM? I amddiffyn eich hun a'r amgylchedd gofal iechyd rhag germau niweidiol ar gleifion.
  5. AR ÔL CYFFWRDD AG AMGYLCHEDD Y CLAF
    PRYD? Golchwch eich dwylo ar ôl cyffwrdd ag unrhyw wrthrych neu ddodrefn yn amgylchedd uniongyrchol y claf, wrth adael - hyd yn oed heb gyffwrdd y claf.
    PAM? I amddiffyn eich hun ac amddiffyn yr amgylchedd gofal iechyd rhag germau niweidiol ar gleifion.

Cliciwch ar y linc isod i weld y poster a ddatblygwyd ar gyfer hylendid dwylo.

https://bit.ly/2Ib3CMV