Key relevant legislation that relates to health and safety in the workplace and what this means in practice

Deddfwriaeth berthnasol allweddol sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gweithle a beth mae’n ei olygu yn ymarferol

Florence Nightingale Statue

Safe practice is very important to the promotion of dignity in care. There are a number of legislative measures and regulations to support health and safety at work. These are intended to protect people in work, those using services and the wider public (Health and Safety at Work Act, 1974).

The key health and safety legislation are:

  • The Health and Safety at work Act (1974)
  • Manual Handling Operations Regulations (1992) amended in (2002)
  • Control of Substances Hazardous to Health (COSHH) (2002)
  • Reporting of Injuries, Diseases and Dangerous Occurrences Regulations (2003)
  • Health and Safety (First Aid) Regulations (1981)
  • Food Safety Act (1990)
  • Food Safety (General Food Hygiene) Regulations (1995) and Food Safety (Temperature Control) Regulations (1995)

Mae arfer diogel yn bwysig iawn i hyrwyddo urddas mewn gofal. Mae nifer o fesurau a rheoliadau deddfwriaethol i gefnogi iechyd a diogelwch yn y gwaith. Bwriad y rhain yw diogelu pobl mewn gwaith, y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau a’r cyhoedd yn ehangach (Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, 1974).

Y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch allweddol yw:

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario (1992) a ddiwygiwyd yn (2002)
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) (2002)
  • Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (2003)
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) (1981)
  • Deddf Diogelwch Bwyd (1990)
  • Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) (1995) a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) (1995)

Responsibilities of employers, the worker and others for health and safety at work

Cyfrifoldebau cyflogwyr, y gweithiwr ac eraill am iechyd a diogelwch yn y gwaith

Health and safety

Employers

When working in a care environment there will be every day risks and hazards for staff to cope with.

All employers and organisations have a duty to protect the health, safety and welfare of all of their employees at work, as well as any other people who may reasonably be affected by their business.

The responsibility of organisations/employers is to:

  • carry out risk assessments in the workplace and to train and inform workers of these risks along with any methods that must be followed to ensure staff are protected
  • consult with workers on aspects of health and safety, making sure that employees have appropriate and regular health and safety training for example on what to do in case of a fire or how to move and handle the people being cared for safely, and how to use safety equipment safely
  • have agreed policies and procedures in place and monitor compliance
  • report injuries, accidents and infectious diseases as required by law
  • display the approved Health and Safety Information for Employees Regulations poster in a noticeable position within the work place.

More information is available at:

http://bit.ly/2QWjIyW

Workers

Workers have a duty to take care of their own health and safety and that of others who may be affected by actions at work.

The responsibilities of employees are to:

  • follow policies and procedures and take part in training
  • co-operate with employers and co-workers to help everyone meet their legal requirements
  • be fully trained and competent in the use of equipment including personal and protective clothing
  • identify and report any hazards or risks that are identified as part of everyday practice.

More information is available at:

http://bit.ly/2qDBGvn

Cyflogwyr

Gan weithio mewn amgylchedd gofal bydd risgiau a pheryglon bob dydd i staff ymdopi â nhw.

Mae gan bob cyflogwr a sefydliad ddyletswydd i amddiffyn iechyd, diogelwch a lles pob un o'u gweithwyr a phobl eraill y gallai eu busnes effeithio arnynt, fel sy'n rhesymol bosibl.

Cyfrifoldeb sefydliadau/cyflogwyr yw:

  • cynnal asesiadau risg yn y gweithle ac i hyfforddi a hysbysu gweithwyr o'r risgiau hyn ynghyd ag unrhyw ddulliau y mae'n rhaid eu dilyn er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu hamddiffyn
  • ymgynghori â gweithwyr ar agweddau ar iechyd a diogelwch, gan sicrhau bod gweithwyr yn cael hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol a rheolaidd, er enghraifft, ar beth i'w wneud mewn achos o dân neu sut i symud a thrin y bobl sy’n derbyn gofal yn ddiogel, a sut i ddefnyddio offer diogelwch yn ddiogel
  • bod â pholisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ar waith a monitro cydymffurfiaeth
  • adrodd am anafiadau, damweiniau a chlefydau heintus fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
  • arddangos y poster Rheoliadau Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch i weithwyr mewn lle amlwg yn y gweithle.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

http://bit.ly/2QWjIyW

Gweithwyr

Mae'n ddyletswydd ar weithwyr i ofalu am eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain ac iechyd pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan weithredoedd yn y gwaith.

Cyfrifoldebau gweithwyr cyflogedig yw:

  • dilyn polisïau a gweithdrefnau a chymryd rhan mewn hyfforddiant
  • cydweithredu â chyflogwyr a chyd-weithwyr i helpu pawb i fodloni eu gofynion cyfreithiol
  • cael eu hyfforddi'n llawn a bod yn gymwys i ddefnyddio offer gan gynnwys dillad personol ac amddiffynnol
  • nodi ac adrodd am unrhyw beryglon neu risgiau a nodir fel rhan o arfer bob dydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

http://bit.ly/35B8mUY