Recent legislation regarding the Welsh language and developments in language policy in Wales required health and social care providers to ensure that they have appropriate and adequate staffing arrangements in place to provide bilingual Welsh and English services for people who use their services.
In order to deliver a service which meets children and young people’s individual needs and respects their diversity services must be able to support Welsh language and culture by being able to communicate with people whose first language is Welsh.
Recognising that the ability to speak Welsh is a skill of its own, which should be valued and used in a positive manner in the workplace, will ensure that it is seen as a professional skill. In the health and social care sector it is a communication skill that is essential for some jobs and desirable for others. In many instances, as referenced in the More than Just Words strategy, it’s a vital skill for working with individuals and families.
Mae deddfwriaeth ddiweddar mewn perthynas â'r iaith Gymraeg a datblygiadau mewn polisi iaith yng Nghymru wedi'i gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau eu bod wedi rhoi trefniadau staffio priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaethau dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gyfer unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau.
Er mwyn darparu gwasanaeth sy'n bodloni anghenion unigol plant a phobl ifanc ac yn parchu eu hamrywiaeth, rhaid i'w gwasanaethau allu cefnogi iaith a diwylliant Cymru drwy allu cyfathrebu â phobl y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt.
Bydd cydnabod bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil ynddo'i hun, a dylid ei werthfawrogi a'i ddefnyddio mewn modd cadarnhaol yn y gweithlu, yn sicrhau y caiff ei weld fel sgil proffesiynol. Yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n sgil cyfathrebu sy'n hanfodol ar gyfer rhai swyddi ac yn ddymunol ar gyfer rhai eraill. Mewn llawer o achosion, fel y nodir yn strategaeth Mwy na Geiriau, mae'n sgil hollbwysig ar gyfer gweithio gydag unigolion a theuluoedd.
The Welsh Language Act 1993, Welsh Language measure (2011) and Mwy na Geiriau/More Than Just Words introduce standards to explain how organisations are expected to use the Welsh Language. The aim of the legislation is to increase the use of the Welsh language and make it easier for individuals to be supported to speak Welsh in their everyday lives.
The Welsh Government Strategic Framework for the Welsh Language in Health and Social Care (2013) is the Welsh Government’s commitment to strengthen Welsh language services to individuals accessing health and social care, and their families.
Visit the link below to read more about Welsh language skills.
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg 2011 a Mwy na Geiriau yn cyflwyno safonau i esbonio sut y disgwylir i sefydliadau ddefnyddio'r Gymraeg. Nod y ddeddfwriaeth yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a'i gwneud yn haws i unigolion gael eu cefnogi i siarad Cymraeg yn eu bywydau pob dydd.
Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2013) yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau Cymraeg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a'u teuluoedd.
Dilynwch y linc isod i ddarllen mwy am sgiliau Cymraeg.
Mwy na Geiriau / More than Just Words requires health and social care providers to ensure that they have staff with the necessary language skills to care for and support Welsh speaking children and young people who may often be vulnerable.
It is no longer correct for organisations to assume that English is the chosen language when providing services. When providing services to children and young people who usually speak Welsh, providers should assume that they would prefer to speak Welsh when accessing services.
Mwy na Geiriau / More than Just Words states that Welsh speakers should not be required to request a service in Welsh, but the service should be provided in the language normally used by the individual. This could be in Welsh, English, or both. This reflects the principle of the ‘Active Offer’ now advocated in health, social services and social care, as outlined in the Welsh Government’s strategic framework for the Welsh Language. An ‘Active Offer’ means a service is provided in Welsh without someone having to ask for it.
Mae Mwy na Geiriau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau bod ganddynt staff sydd â'r sgiliau iaith angenrheidiol er mwyn darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg, a all fod yn agored i niwed yn aml.
Nid yw'n iawn mwyach i sefydliadau dybio mai Saesneg yw'r dewis iaith wrth ddarparu gwasanaethau. Wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg fel arfer, dylai darparwyr dybio y byddai'n well ganddynt siarad Cymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.
Mae Mwy na Geiriau yn nodi na ddylai fod angen i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth yn Gymraeg, ond y dylai'r gwasanaeth gael ei ddarparu yn yr iaith a ddefnyddir gan yr unigolyn fel arfer. Gallai hyn fod yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith. Mae hyn yn adlewyrchu egwyddor y ‘Cynnig Rhagweithiol’ sydd bellach yn cael ei hyrwyddo ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, fel yr amlinellir yn fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Mae ‘Cynnig Gweithredol’ yn golygu y caiff gwasanaeth ei ddarparu yn Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny.
An Active Offer means a service will be provided in Welsh without someone having to ask for it. It is the responsibility of everyone who provides health and social care services for individuals and their families across Wales to deliver the ‘Active Offer’. For example, implementing a key worker system ensures ‘named’ staff members are ‘matched’ to children and adults who are Welsh-speaking, or signage in the service setting supports the orientation of Welsh-speaking users. In addition, Welsh language books, newspapers and other resources are or can be made available in a health and social care setting for children and adults who speak Welsh.
Mae Cynnig Rhagweithiol yn golygu y caiff gwasanaeth ei ddarparu yn Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny. Mae cyfrifoldeb ar bawb sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i unigolion a'u teuluoedd ledled Cymru i ddarparu'r Cynnig Rhagweithiol. Er enghraifft, rhoi system gweithiwr allweddol ar waith yn sicrhau y caiff aelodau ‘a enwir’ o staff eu ‘paru’ â phlant ac oedolion sy'n siarad Cymraeg neu sicrhau bod arwyddion yn y gwasanaeth yn helpu defnyddwyr sy'n siarad Cymraeg i ganfod eu ffordd o gwmpas. Hefyd, mae llyfrau, papurau newydd ac adnoddau eraill ar gael, neu gallant fod ar gael, mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol i blant ac oedolion sy'n siarad Cymraeg.