Relationship-centred working is a personalised, partnership approach of forming and maintaining important relationships, as well as recognising the importance of these relationships in the delivery of effective and safe care and support. This includes team members, colleagues, other professionals, the children and young people who need care and support and everyone who is important to them. Their families, friends and advocates, for example, are further supported by relationship centred working.
The relationship-centred approach recognises the importance of the interpersonal and intrapersonal relationships that exist between children and young people and others around them. The relationship forms the context within which care and support takes place.
Mae gwaith perthnasoedd-ganolog yn ddull wedi'i deilwra i ffurfio a chynnal cydberthnasau pwysig yn ogystal â chydnabod pwysigrwydd y cydberthnasau hyn wrth ddarparu gofal a chymorth effeithiol a diogel. Mae hyn yn cynnwys aelodau o'r tîm, cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill, yr unigolyn y mae angen gofal a chymorth arnynt a phawb sy'n bwysig iddynt. Er enghraifft, caiff eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u heiriolwyr gymorth pellach gan waith sy'n canolbwyntio ar gydberthnasau.
Mae'r dull gweithredu perthnasoedd-ganolog yn cydnabod pwysigrwydd y cydberthnasau rhyngbersonol a phersonol sy'n bodoli rhwng yr plant a’r bobl ifanc ac eraill o'i gwmpas. Y gydberthynas sy'n ffurfio'r cyd-destun ar gyfer darparu gofal a chymorth.
Developing a positive relationship with children and young people, their families and carers in health and social care settings is important. This requires input from team members, colleagues, other professionals who are all stakeholders in meeting the care and support needs of children and young people, their families and their carers. Equally important is the input of the children and young people themselves, their families, friends and advocates. Partnership working through the development of positive relationships ensures a best practice holistic approach in meeting care and support needs.
Positive relationships are based on trust, which is key to ensuring children and young people are safeguarded and receive the care and support they need and request. If a relationship is not positive, children and young people will not feel able to communicate effectively with staff and others, and not able to voice their needs, concerns or preference.
Mae'n bwysig meithrin cydberthynas gadarnhaol gyda plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn gwneud hyn, mae angen mewnbwn gan aelodau'r tîm, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sydd i gyd yn rhanddeiliaid yn y gwaith o ddiwallu anghenion gofal a chymorth y plant a’r bobl ifanc a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae gweithio mewn partneriaeth drwy feithrin cydberthnasau cadarnhaol yn sicrhau bod anghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu mewn modd holistaidd gan ddilyn yr arfer gorau.
Mae cydberthnasau cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth, sy'n allweddol er mwyn sicrhau y caiff plant a phobl ifanc eu diogelu a'u bod yn derbyn y gofal a'r cymorth y maent yn gofyn amdanynt ac sydd eu hangen arnynt. Os nad yw cydberthynas yn un gadarnhaol, ni fydd unigolion yn teimlo y gallant gyfathrebu'n effeithiol â staff a phobl eraill, ac ni fyddant yn gallu cyfleu eu hanghenion, eu pryderon a'u dewisiadau.
Relationships are probably the most involved and complicated area of our lives. Effective work relationships are based on professional boundaries, which means that when carers support children and young people with health and care needs, they must:
Balancing these boundaries with the need for relationship-centred working is important in order to achieve effective service delivery. If a child/young person does not feel valued and included, they will not be willing to express their needs, wishes and concerns.
Providing care, building a relationship, knowing the child or young person inside out, can blur boundaries. However, it is important to maintain the professional standards and accountability when at work.
Cydberthnasau yw’r agwedd fwyaf cymhleth ar ein bywydau, fwy na thebyg. Byddwn yn dechrau ffurfio cydberthnasau pan gawn ein geni. Mae cydberthnasau gwaith effeithiol yn seiliedig ar ffiniau proffesiynol, sy’n golygu pan fydd gweithwyr yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd a gofal, rhaid iddynt wneud y canlynol:
Mae'n bwysig taro cydbwysedd rhwng y ffiniau hyn a'r angen am waith sy'n canolbwyntio ar gydberthnasau er mwyn darparu gwasanaethau'n effeithiol. Os na fydd plentyn/person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gynnwys, ni fydd yn fodlon mynegi ei anghenion, ei ddymuniadau a'i bryderon.
Gall darparu gofal, meithrin perthynas, adnabod y plentyn neu’r person ifanc tu chwithig allan, gymylu ffiniau. Fodd bynnag, mae’n bwysig cynnal y safonau proffesiynol a’r atebolrwydd yn y gweithle.
Good practice in health and social care involves staff working in a way that puts the needs of the child or young person they are supporting first so that they receive dignified and safe care.
Unacceptable practice involves the child or young person not receiving appropriate care and treatment and that they feel they are being failed by the system.
Another example of unacceptable practice is when individuals are put at risk and denied services that they are entitled to, being unfairly treated and/or discriminated against and not supported to meet their needs. It could involve taking advantage of individuals for financial gain or asking them to undertake duties they are not trained to do.
Workers must remember they are professionals not ‘friends’ so must act in a professional manner at all times.
Mae arfer da ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn golygu bod staff yn gweithio mewn ffordd sy'n rhoi blaenoriaeth i anghenion y plant a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi er mwyn iddynt gael gofal urddasol a diogel.
Mae arfer annerbyniol yn golygu nad yw'r plant neu’r person ifanc yn derbyn gofal a thriniaeth briodol a'u bod yn teimlo eu bod yn cael eu methu gan y system.
Enghraifft arall o arfer annerbyniol yw pan fydd unigolion mewn perygl ac yn gwadu gwasanaethau y mae ganddynt hawl i'w cael, yn cael eu trin yn annheg a/neu wedi eu gwahaniaethu yn eu herbyn ac nad ydynt yn cael eu cefnogi i ddiwallu eu hanghenion. Gallai olygu cymryd mantais o unigolion er budd ariannol, neu ofyn iddynt ymgymryd â dyletswyddau nad ydynt wedi'u hyfforddi i'w gwneud.
Mae’n rhaid i’r gweithwyr gofio eu bod yn weithwyr proffesiynol ac nid 'ffrindiau', felly mae'n rhaid iddynt ymddwyn mewn ffordd broffesiynol ar bob adeg.
Unacceptable practices would include:
Byddai arferion annerbyniol yn cynnwys: