Introduction

Cyflwyniad

Raised hands painted like national flags

Promoting equality and diversity is about identifying the practical steps health and social care workers can take in daily activities to ensure children and young people are able to make decisions about their own lives.

Health and social care workers must promote equality and diversity in all aspects of their job role, challenging any practice they think does not reinforce this approach.

Through promoting equality and diversity, health and social care workers must ensure an inclusive approach, adapting their approach to meet the needs of children and young people and treating each of them with fairness and dignity.

Mae hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn golygu nodi'r camau ymarferol y gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eu cymryd mewn gweithgareddau beunyddiol er mwyn sicrhau y gall plant a phobl ifanc wneud penderfyniadau ynglŷn â'u bywydau eu hunain.

Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar eu rôl, gan herio unrhyw ymarfer nad yw'n atgyfnerthu’r dull hwn yn eu barn nhw.

Wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau dull gweithredu cynhwysol, gan addasu eu dull gweithredu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc a thrin pob un â thegwch ac urddas.

What is equality?

Beth yw cydraddoldeb?

Gender equality

Equality involves treating children and young people fairly, regardless of their differences, by ensuring that they have access to the same life opportunities as everyone else, meaning that they have equal opportunities.

Life opportunities include:

  • housing - warmth and shelter are basic human needs
  • education and employment
  • transport
  • health and social care
  • the ability to purchase goods and services.

Mae cydraddoldeb yn golygu trin plant a phobl ifanc yn deg, waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt, drwy sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phawb arall, sy'n golygu eu bod yn cael cyfle cyfartal.

Mae cyfleoedd mewn bywyd yn cynnwys:

  • tai – mae gwres a lloches yn anghenion dynol sylfaenol
  • addysg a chyflogaeth
  • cludiant
  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • y gallu i brynu nwyddau a gwasanaethau

What is diversity?

Beth yw amrywiaeth?

Racial equality

Diversity means variety. Every high street or shopping centre has a diverse selection of shops, restaurants, banks and bars. Even football teams have a diversity of roles, including full back, goalkeeper, centre forward and winger.

We live in a diverse society, where individuals vary in many ways. These diversities can be:

  • age
  • sex
  • sexual orientation
  • physical characteristics such as height, weight and skin colour
  • ability
  • personal experiences
  • personal attributes such as beliefs, values and preferences.

Health and social care settings reflect the diversity of the population. Every child and young person will have their own experiences and may come from a variety of different countries. An individual’s preference for food and music, for example, will vary from one to another.

Mae amrywiaeth yn golygu gwahaniaethau. Mae detholiad amrywiol o siopau, bwytai, banciau a thafarndai ar bob stryd fawr neu ym mhob canolfan siopa. Mae gan dimau pêl-droed, hyd yn oed, amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cefnwr, gôl-geidwad, blaenwr canol ac asgellwr.

Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiol, lle mae unigolion yn amrywio mewn llawer o ffyrdd. Gall yr amrywiaethau hyn fod ar sail:

  • oedran
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • nodweddion corfforol fel taldra, pwysau a lliw croen
  • gallu
  • profiadau personol
  • rhinweddau personol, fel credoau, gwerthoedd a dewisiadau.

Mae lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth. Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ei brofiadau ei hun a gall ddod o amrywiaeth o wahanol wledydd. Er enghraifft, bydd hoff fwyd neu gerddoriaeth yn amrywio o un unigolyn i'r llall.

What is inclusion?

Beth yw cynhwysiant?

Discrimination

Acknowledging individual differences and understanding them helps individuals to develop a sense of belonging, or inclusion, and that disadvantaging individuals because they are different in some way leads to their becoming excluded.

Inclusion is about accepting everyone, regardless of their differences. It is also about being understanding and tolerant of differences and providing help and support where appropriate.

Any organisation or institution – including local authorities, health and social care service providers, educational establishments, the police service, voluntary organisations and workplaces that support and promote inclusion – must demonstrate that it values everything about the individuals involved within it. Inclusion brings about a sense of well-being and of confidence in one’s own identity and abilities.

Bydd cydnabod a deall gwahaniaethau unigol yn helpu unigolion i feithrin ymdeimlad o berthyn, neu gynhwysiant; a bydd rhoi unigolion dan anfantais am eu bod yn wahanol mewn rhyw ffordd yn arwain at eu hallgáu.

Mae cynhwysiant yn golygu derbyn pawb, ni waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hefyd yn golygu deall gwahaniaethau a bod yn oddefgar ohonynt, a rhoi cymorth a chefnogaeth lle bo hynny'n briodol.

Rhaid i unrhyw sefydliad – gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg, gwasanaeth yr heddlu, sefydliadau gwirfoddol a gweithleoedd sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo cynhwysiant – ddangos ei fod yn gwerthfawrogi popeth ynglŷn â'r unigolion sydd ynghlwm wrtho. Mae cynhwysiant yn rhoi ymdeimlad o lesiant i unigolion, yn ogystal â hyder yn ei hunaniaeth a'i alluoedd ei hun.

What is discrimination?

Beth yw gwahaniaethu?

Challenging discrimination

Discrimination means treating children and young people differently or negatively without having a good reason for doing so. The law states that everyone should be treated as favourably as everyone else and that an individual must not be discriminated against because of a personal characteristic such as religion, gender, age or race.

There are two forms of discrimination – direct and indirect. Direct discrimination occurs when someone is intentionally treated unfairly, for example harassment on the basis of skin colour or religion. Indirect discrimination occurs when rules or guidelines meant to apply to everyone unintentionally affect one group of individuals more than others. Discrimination can include:

  • not including a child or young person in an activity
  • paying less attention to one child or young person than another with no good reason.

https://bit.ly/3chEVds

https://bit.ly/2XVfmtR

https://bit.ly/2M9ASWf

Mae gwahaniaethu yn golygu trin plant a phobl ifanc yn wahanol neu mewn ffordd negyddol heb fod rheswm da dros wneud hynny. Noda'r gyfraith y dylai pawb gael eu trin mor ffafriol â'i gilydd ac na ddylid gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd nodwedd bersonol fel crefydd, rhywedd, oedran neu hil.

Mae dau fath o wahaniaethu – uniongyrchol ac anuniongyrchol. Bydd gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei drin yn annheg yn fwriadol, er enghraifft aflonyddu ar sail lliw croen neu grefydd. Bydd gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd rheolau neu ganllawiau sydd wedi'u bwriadu i fod yn berthnasol i bawb yn effeithio ar un grŵp o unigolion yn fwy na grwpiau eraill yn anfwriadol.

Gall gwahaniaethu gynnwys:

  • peidio â chynnwys plentyn neu berson ifanc mewn gweithgaredd
  • talu llai o sylw i un plentyn neu berson ifanc nag i un arall heb reswm da.

https://bit.ly/2XEuxr7

https://bit.ly/2Xbehi6

https://bit.ly/3ciQ3qp

How child-centred approaches promote equality, diversity and inclusion

Sut mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Inclusive practice

Child-centred approaches involve developing strategies to ensure that children and young people are not excluded or isolated from any service, treatment or activity.

All children and young people should be welcomed and included to nurture a sense of belonging. Through a range of activities and experiences that are adapted to ensure inclusivity, all children can feel supported in being able to fulfil their potential.

Health and social care workers demonstrate inclusive practice by working in ways that recognise, respect, value and make the most of all aspects of diversity. Having a good understanding and awareness of a child or young person’s diverse needs, and responding sensitively to them, supports them in developing a sense of belonging, well-bring and confidence in their identity and abilities.

Mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn cynnwys yr agweddau a'r dulliau a ddilynir i sicrhau na chaiff unigolion eu hallgáu na'u neilltuo o unrhyw wasanaeth, triniaeth neu weithgaredd.

Mae'n golygu cefnogi amrywiaeth drwy dderbyn gwahaniaethau unigolion a hyrwyddo cydraddoldeb drwy sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Ymarfer cynhwysol yw'r ymarfer gorau.

Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddangos ymarfer cynhwysol drwy weithio mewn ffyrdd sy'n cydnabod, yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn gwneud y gorau o bob agwedd ar amrywiaeth. Mae meddu ar ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o anghenion amrywiol plant a phobl ifanc, ac ymateb yn sensitif iddynt, yn eu helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn, llesiant a hyder yn eu hunaniaeth a'u galluoedd.

The impact of not promoting equality, diversity and inclusion

Effaith peidio â hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Prejudice is an attitude or way of thinking based on an unfounded, unreasonable pre-judgement of an individual, particular group of individuals or situation, rather than on a factual assessment. This approach does not promote equality, diversity and inclusion.

Inclusive practice strives to deter the negative impact that discrimination, inequality and social exclusion can have on a child or young person's physical and mental health. Having such an understanding ensures appropriate, personalised care and support, thereby enabling a child or young person to develop self-respect and maintain a valued role in society.

Individuals who fail to support diversity or promote equality are often not aware of their attitudes and the impact of their behaviour; therefore, inclusive practice involves reflecting on and challenging one’s own prejudices, behaviours and work practices. It also involves challenging those of colleagues and other service providers, with a view to adapting ways of thinking and working to influence good practice.

Ystyr rhagfarn yw agwedd neu ffordd o feddwl sy'n seiliedig ar farn ddi-sail ac afresymol a ffurfiwyd ymlaen llaw mewn perthynas ag unigolyn, grŵp penodol o unigolion neu sefyllfa, yn hytrach nag ar asesiad ffeithiol. Nid yw hyn yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth na chynhwysiant.

Mae ymarfer cynhwysol yn golygu deall yr effaith drychinebus y gall gwahaniaethu, anghydraddoldeb ac allgáu cymdeithasol ei chael ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl unigolyn. Mae meddu ar ddealltwriaeth o'r fath yn sicrhau gofal a chymorth priodol sydd wedi'u teilwra i'r unigolyn, a thrwy hynny alluogi unigolyn i feithrin hunan-barch a chynnal rôl werthfawr mewn cymdeithas.

Yn aml, nid yw unigolion sy'n methu â chefnogi amrywiaeth neu hyrwyddo cydraddoldeb yn ymwybodol o'u hagweddau ac effaith eu hymddygiad, felly mae ymarfer cynhwysol yn golygu myfyrio ar ein rhagfarnau, ein hymddygiad a'n harferion gwaith ein hunain, a'u herio. Mae hefyd yn golygu herio rhagfarnau, ymddygiad ac arferion gwaith cydweithwyr a darparwyr gwasanaethau eraill, gyda'r nod o addasu ffyrdd o feddwl a gweithio a newid gwasanaethau er mwyn adeiladu ar arfer da a chefnogi amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb yn well.

How cultural, religious and linguistic backgrounds of children and young people can be valued

Sut gall cefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol plant a phobl ifanc gael eu gwerthfawrogi

Working within health and social care practice provides an opportunity for health and social care workers the privilege of working with individuals from various cultural and religious backgrounds. As a result, developing an understanding of values that should be respected.

Understanding individual needs, preferences and values will help to establish a positive and respectful partnership.

In addition, learning about different ways of thinking and living can be life-enriching. We become more open-minded to new experiences, opportunities and challenges, and can develop new relationships. As a result, we grow as human beings and can achieve our full potential.

Holding special events to mark cultural or religious occasions or learning new words in another language are both ways of increasing value and respect for the diverse range of backgrounds children and young people may have.

Health and social care workers demonstrate inclusive practice by working in ways that recognise, respect, value and make the most of all aspects of diversity, including cultural, religious and linguistic backgrounds.

Having a deep awareness of and responding sensitively to a child or young person's diverse needs supports them in developing a sense of belonging, well-being and confidence in their identity and abilities. It helps them to achieve their potential and take their rightful place in society.

Mae gweithio o fewn ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnig cyfle i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gael y fraint o weithio gydag unigolion o gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol amrywiol. O ganlyniad, maent yn datblygu dealltwriaeth o werthoedd a ddylai gael eu parchu.

Bydd deall anghenion, dewisiadau a gwerthoedd unigol yn helpu i sefydlu partneriaeth gadarnhaol a pharchus.

Yn ychwanegol, gall dysgu am ffyrdd gwahanol o feddwl a byw gyfoethogi bywyd. Rydym yn dod yn fwy meddwl agored i brofiadau, cyfleoedd a heriau newydd, a gallwn ddatblygu perthnasoedd newydd. O ganlyniad, rydym yn tyfu fel bodau dynol a gallwn gyflawni ein potensial llawn.

Mae cynnal digwyddiadau arbennig i nodi achlysuron diwylliannol neu grefyddol neu ddysgu geiriau newydd mewn iaith arall yn ffyrdd o gynyddu gwerth a pharch tuag at yr amrywiaeth eang o gefndiroedd a all fod gan blant a phobl ifanc.

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos arfer cynhwysol trwy weithio mewn ffyrdd sy'n cydnabod, yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn gwneud y gorau o bob agwedd ar amrywiaeth, gan gynnwys cefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol.

Mae meddu ar ymwybyddiaeth ddofn o anghenion amrywiol plentyn neu berson ifanc ac ymateb yn sensitif iddynt yn eu cefnogi i ddatblygu teimlad o berthyn, lles a hyder yn eu hunaniaeth a'u galluoedd. Mae'n eu helpu i gyflawni eu potensial a chymryd eu lle haeddiannol mewn cymdeithas.

Identifying discriminatory practice

Nodi ymarfer sy’n gwahaniaethu

A boy in a wheelchair being left out of activities

Discriminatory practice, or practice not supportive of equality, diversity and inclusion, can take place in a variety of situations.

For example:

  • within schools or colleges, where children/young people may not be given support and encouragement if it’s assumed that their disability or lack of interest affects their ability to learn and achieve
  • during play and interaction with other children/young people
  • in care settings when individuals are persecuted on the basis of their skin colour or sexual preference.

https://bit.ly/2yH1r1E

Gall ymarfer gwahaniaethol, neu ymarfer nad yw'n cefnogi ansawdd, amrywiaeth a chynhwysiant, ddigwydd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Er enghraifft:

  • o fewn ysgolion neu golegau, lle na fydd plant/pobl ifanc o bosibl yn cael cefnogaeth ac anogaeth os tybir bod eu hanabledd neu ddiffyg diddordeb yn effeithio ar eu gallu i ddysgu a chyflawni.
  • wrth chwarae a rhyngweithio â phlant/pobl ifanc eraill
  • mewn lleoliadau gofal pan fydd unigolion yn cael eu herlid ar sail lliw eu croen neu eu dewis rhywiol.

https://bit.ly/36FQDxv

Challenging discriminatory practice

Herio ymarfer sy’n gwahaniaethu

Hands together

Health and social care workers have a responsibility to provide a high standard of care, to protect the rights and promote the interests of the children/young people they work with. Anything else would be neglect. Talking to children and young people about discrimination does not ensure that they will change their mindset and, as a consequence, their behaviour. The existence of legislation, policies and procedures and Codes of Practice does not guarantee that children/young people using services receive fair treatment and that their rights are upheld.

Health and social care workers must try to demonstrate and model good practice at all times. In addition to leading by example, they should be prepared to support the equality and rights of children/young people they work with by speaking up on their behalf. Many children or young people don’t have the ability to make their own voices heard. For example they may be frightened or lack the confidence to speak up for themselves; they may be ill, confused, not able to communicate effectively; and many children/young people are just simply not aware of their rights.

Health and social care workers should be prepared to talk to their manager, or senior, about the behaviour of others if it fails to promote equality and rights or is discriminatory. They may need to speak to an advocate who could speak up on the child/young person’s behalf. Health and social care workers should be open to feedback about their own work practices, acting on this feedback if necessary.

Mae cyfrifoldeb ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal o safon uchel i'r plant/pobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, i ddiogelu eu hawliau a hyrwyddo eu buddiannau. Byddai unrhyw beth arall yn gyfystyr ag esgeulustod. Nid yw siarad â phlant/pobl ifanc am wahaniaethu yn sicrhau y byddant yn newid eu ffordd o feddwl ac, o ganlyniad, eu hymddygiad. Nid yw bodolaeth deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau a Chodau Ymarfer yn sicrhau y bydd plant/pobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau yn cael eu trin yn deg ac y bydd eu hawliau'n cael eu parchu.

Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol geisio dangos a modelu arfer da bob amser. Yn ogystal ag arwain drwy esiampl, dylent fod yn barod i gefnogi cydraddoldeb a hawliau plant/pobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw drwy siarad ar eu rhan. Nid yw llawer o blant a phobl ifanc yn gallu sicrhau bod eu lleisiau eu hunain yn cael eu clywed; er enghraifft, efallai fod ofn arnynt neu ddiffyg hyder i leisio eu barn; efallai eu bod yn sâl, wedi drysu, neu'n methu â chyfathrebu'n effeithiol; ac, yn syml, nid yw llawer o blant/bobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau.

Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn barod i siarad â'u rheolwyr, neu aelodau uwch o staff, ynglŷn ag ymddygiad pobl eraill os yw'n methu â hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau neu os yw'n gwahaniaethu. Efallai y bydd angen iddynt siarad ag eiriolwr a allai siarad ar ran y plentyn/person ifanc. Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn agored i gael adborth ar eu harferion gwaith eu hunain, ac ymateb iddo os bydd angen.