Legislation, national policies and Codes of Conduct and Practice

Deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a Chodau Ymddygiad ac Ymarfer

A child with a social worker

Several key principles underpin health and social care services in Wales:

  • The child/young person is at the centre of everything we do.
  • Services should be designed around the child/young person’s needs.
  • Professionals should work together with the child/young person to meet their needs.
  • The well-being and protection of the child/young person is paramount.
  • Services must always promote diversity, independence, choice, empowerment, identity and safety.

Mae nifer o egwyddorion allweddol yn ategu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru:

  • Mae'r plentyn/person ifanc wrth wraidd popeth a wnawn.
  • Dylai gwasanaethau gael eu dylunio yn seiliedig ar ei anghenion unigol.
  • Dylai gweithwyr proffesiynol gydweithio â'r plentyn/person ifanc er mwyn diwallu ei anghenion.
  • Mae llesiant a diogelwch y plentyn/person ifanc yn hollbwysig.
  • Mae'n rhaid i wasanaethau hybu amrywiaeth, annibyniaeth, dewis, hunaniaeth a diogelwch a grymuso'r unigolyn bob amser.

The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Children playing basketball

The Social Services and Well–Being (Wales) Act 2014 changed the way local authority social services and other care services work together in partnership to help and support individuals. The Act helps ensure that individuals enjoy well-being in every area of their lives, as much as they choose and are able to. The Act brings together and modernises different pieces of existing social care law.

This new legal framework consists of three elements:

  • the Act
  • the regulations, which provide greater detail about the requirements of the Act
  • the codes of practice, which give practical guidance about how it should be implemented in social care settings.

The Act applies to:

  • adults - individuals aged 18 or over
  • children - individuals under the age of 18
  • carers - adults or children who provide care and support.

The Act is made up of 11 parts, consists of four principles and clearly identifies the individuals the Act affects. The principles or values of the Act are important as they impact on the way services are provided and how we work with and support individuals.

Newidiodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal eraill awdurdodau lleol yn cydweithio mewn partneriaeth i helpu a chefnogi unigolion.

Mae'r Ddeddf yn helpu i sicrhau bod unigolion yn mwynhau llesiant ym mhob rhan o'u bywydau, cymaint ag ydynt yn dewis ac yn gallu ei wneud. Mae'r Ddeddf yn dwyn ynghyd ac yn moderneiddio gwahanol ddarnau o gyfraith gofal cymdeithasol presennol.

Mae'r fframwaith cyfreithiol newydd hwn yn cynnwys tair elfen:

  • y Ddeddf
  • y rheoliadau, sy'n rhoi mwy o fanylion am ofynion y Ddeddf
  • y codau ymarfer, sy'n rhoi arweiniad ymarferol ynghylch sut y dylai gael ei rhoi ar waith mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Mae'r Ddeddf yn gymwys i:

  • oedolion – unigolion 18 oed neu drosodd
  • plant – unigolion o dan 18 oed
  • gofalwyr – oedolion neu blant sy'n darparu gofal a chymorth.

Mae'r Ddeddf mewn 11 rhan, gan gynnwys pedwar egwyddor, ac mae'n nodi'n glir yr unigolion mae'r Ddeddf yn effeithio arnynt.

Mae egwyddorion neu werthoedd y Ddeddf yn bwysig am eu bod yn effeithio ar y ffordd y darperir gwasanaethau, a sut rydym yn gweithio gydag unigolion ac yn eu cefnogi.

Principles and values of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

A paper family

The Act is built on the following core principles:

  • Voice and control, which means putting the individual and their needs at the very centre of their care and support so that they have voice and control over the outcomes that will help meet their needs.
  • Prevention and early intervention – increasing preventative services within the community to minimise the escalation of critical need.
  • Well-being identifies how to support individuals to achieve well-being in every aspect of their lives. This involves all the relevant services working together to support an individual’s health and well-being, for example.
  • Co-production is working with individuals, their family, carers and friends to identify and meet their support needs.

Mae'r Ddeddf yn seiliedig ar yr egwyddorion craidd canlynol:

  • Llais a rheolaeth, sy'n golygu rhoi'r unigolyn a'i anghenion wrth wraidd ei ofal a'i gymorth, fel bod ganddynt lais a rheolaeth dros y canlyniadau a wnaiff helpu i ddiwallu ei anghenion.
  • Ataliad ac ymyrryd yn gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned fel nad yw anghenion yn gwaethygu i lefel gritigol.
  • Mae Llesiant yn nodi sut i helpu unigolion i sicrhau llesiant ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae hyn yn cynnwys yr holl wasanaethau perthnasol yn cydweithio i gefnogi iechyd a llesiant unigolyn, er enghraifft.
  • Mae a wnelo Cydgynhyrchu â gweithio gydag unigolion, eu teuluoedd, eu gofalwyr a'u ffrindiau i nodi a diwallu eu hanghenion cymorth.

The principles and values of the Children Act (1989 and 2004)

Egwyddorion a gwerthoedd Y Ddeddf Plant (1989 a 2004)

A family moving into their new home

The Children Act (1989 and 2004) provides a framework for the care and protection of children, centring on the welfare of children up to their 18th birthday. It defines parental or carer responsibility and encourages partnership working with parents/carers. It focuses on putting children and young people at the heart of planning and decision making through co-production and person-centred practice.

The main principles of the Act:

  • The welfare of the child is always the main focus.
  • Wherever possible, children should be brought up and cared for within their own families.
  • Parents/carers with children in need should be supported to bring up their children themselves. This support should:
    • Be provided in partnership.
    • Meet each child's identified needs.
    • Be appropriate to the child's race, culture, religion and language.
    • Be open to effective independent representations and complaints procedures.
    • Utilise existing partnerships between the local authority and other agencies, including voluntary agencies.

Use the link below to access further information about the Children Act (1989 and 2004).

https://bit.ly/3cihNvs

Mae Ddeddf Plant (1989 a 2004) yn cynnig fframwaith ar gyfer gofalu am blant a’u hamddiffyn, gan ganolbwyntio ar les plant hyd at pan fyddant yn 18 oed. Mae'n crynhoi cyfrifoldeb rhiant neu ofalwr ac yn annog gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni/gofalwyr. Mae'n canolbwyntio ar roi plant a phobl ifanc wrth wraidd cynllunio a gwneud penderfyniadau drwy gyd-gynhyrchu arferion gweithredu mewn ffordd plant-ganolog.

Dyma brif egwyddorion y Ddeddf:

  • Lles y plentyn yw’r brif ffocws.
  • Lle bynnag y bo modd, dylai plant gael eu magu a'u gofalu amdanynt gan eu teuluoedd eu hunain.
  • Dylid cefnogi rhieni/gofalwyr sydd â phlant mewn angen i fagu eu plant eu hunain. Dylai'r cymorth hwn:
    • Cael ei ddarparu mewn partneriaeth.
    • Diwallu anghenion penodol pob plentyn.
    • Bod yn briodol i hil, diwylliant, crefydd ac iaith y plentyn.
    • Bod yn agored i gynrychiolaethau a gweithdrefnau cwyno annibynnol effeithiol.
    • Defnyddio partneriaethau presennol rhwng yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill, gan gynnwys asiantaethau gwirfoddol.

Ewch i’r linc isod i ddarganfod mwy o wybodaeth Y Ddeddf Plant (1989 a 2004).

https://bit.ly/3gvxgMd

Applying the principles of the Social Services and Well–Being (Wales) Act 2014 and the Children Act (1989 and 2004)

Cymhwyso egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Ddeddf Plant (1989 a 2004)

Children outdoors jumping up

Find out more about the principles and values of the Social Services and Well–Being (Wales) Act (2014) and the Children Act (1989 and 2004) by clicking on the links below.

Social Care Wales Information and Learning Hub

http://bit.ly/2RkuRcY

Carers UK Care Act FAQ

https://bit.ly/36Nk2Wv

Private law court orders in relation to children

http://bit.ly/33RCGJy

Dysgwch fwy am egwyddorion a gwerthoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drwy glicio ar y dolenni isod.

Hwb Gwybodaeth a Dysgu Gofal Cymdeithasol Cymru

http://bit.ly/2r6HhdX

Cwestiynau Cyffredin Deddf Gofal Carers UK

https://bit.ly/36Nk2Wv

Gorchmynion cyfraith breifat yn ymwneud â phlant

http://bit.ly/33RCGJy

How the Social Services and Well-Being (Wales) Act 2014 and the Children Act (1989 and 2004) support practice

Sut mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a’r Ddeddf Plant (1989 a 2004) yn cefnogi ymarfer

A child and their teacher

The Social Services and Well–Being (Wales) Act 2014 and the Children Act (1989 and 2004) create a national approach to the way in which local authorities deliver services and protect individuals from harm, abuse and neglect.

These Acts ensure that carers, parents or guardians are also supported in order to have their needs met and that they are supported to access services to help and support them. It also ensures that they are treated in the same way as those using services, with a right to support if they are assessed as needing it. Prior to the implementation of the Social Services and Well-Being (Wales) Act 2014 there was a specified threshold of how many hours of care was provided in order to be eligible for a carers assessment of their needs.

Children and young people must be consulted when deciding the support they need, and in relation to making decisions about their care and support they are viewed as an equal partner. Children and young people can use an independent professional advocate to help them participate fully in the assessment, care and support planning, review and safeguarding processes. Children and young people have a right to an independent professional advocate provided free of charge if they have difficulties in expressing their views, needs, wishes and preferences.

As a carer, working together with a child or a young person should inform practice. Advocates are an important resource to help you do this.

An advocate offers independent support to individuals who might not be heard, to ensure they are taken seriously and that their rights are respected. Advocates also help individuals to access and understand appropriate information and services.

Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r Ddeddf Plant (1989 a 2004) yn creu dull cenedlaethol i'r ffordd mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau ac yn diogelu unigolion rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.

Mae'r Deddfau hyn yn sicrhau bod gofalwyr, rhieni neu warcheidwaid hefyd yn cael cymorth er mwyn ateb eu hanghenion a'u bod yn cael cymorth i geisio gwasanaethau i'w helpu a'u cynorthwyo. Mae'n sicrhau hefyd eu bod yn cael eu trin yn yr un ffordd â'r rheiny sy'n defnyddio gwasanaethau, gyda hawl i gymorth os ydynt yn cael eu hasesu bod ei angen arnynt. Cyn gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 roedd trothwy penodol o faint o oriau o ofal oedd yn cael ei ddarparu er mwyn bod yn gymwys am asesiad gofalwr o'i anghenion.

Mae'n rhaid ymgynghori â phlant a phobl ifanc wrth benderfynu'r cymorth sydd ei angen arnynt, ac mewn perthynas â gwneud penderfyniadau am eu gofal a chymorth, maen nhw'n cael eu hystyried yn bartner cyfartal. Mae plant a phobl ifanc yn gallu defnyddio eiriolwr proffesiynol annibynnol i'w helpu i gymryd rhan yn llawn yn yr asesiad, cynllunio gofal a chymorth, prosesau adolygu a diogelu. Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gael darpariaeth eiriolwr proffesiynol annibynnol am ddim os ydynt yn cael anawsterau i fynegi eu safbwyntiau, anghenion, dymuniadau a dewisiadau.

Fel gofalwr, dylai gweithio gyda phlentyn neu berson ifanc lywio ymarfer. Mae eiriolwyr yn adnodd pwysig i'ch helpu i wneud hyn.

Mae eiriolwr yn cynnig cymorth annibynnol i unigolion na fyddent efallai'n cael eu clywed, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif a bod eu hawliau'n cael eu parchu. Mae eiriolwyr hefyd yn helpu pobl i gyrchu a deall gwybodaeth a gwasanaethau priodol.

Codes of Conduct and Professional Practice for Carers

Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofalwyr

Children volunteering

The Code of Professional Practice for Social Care consists of a list of statements describing the standards of professional conduct and practice expected of workers in the social care profession in Wales.

Codes of Conduct and Professional Practice sets standard and guidance for all care professionals.

In Wales the Code of Practice for Social Care Employers (Employers' Code) sets the standards for employers. Practice guidance gives registered workers guidance related to their role. Other codes include the NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales, and the Code of Practice for NHS Wales Employers and practice guidance such as the Practice Guidance for Residential Child Care for Workers Registered with Social Care Wales.

Visit the link below and make a note of 4 requirements for workers explained in the Code for care workers.

Code of Professional Practice for Social Care:

https://bit.ly/3gzRSTl

The Code has 7 sections which focus on the expectations of carers working in health and social care and childcare sectors. Each section highlights what carers should be doing to meet the needs of individuals.

The code of professional practice is for social workers, although the social care workforce can apply these standards of conduct and practice.

Health care workers should consult the code of conduct for their profession.

https://bit.ly/2ZSdXXl

The Code plays a key part in raising awareness of these standards and is intended to be a guide for workers, individuals accessing services and managers of services.

All employers should ensure that their employees are working within the guidelines of the Code of practice for social care in order to meet Care Standards.

Mae Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhestr o ddatganiadau sy'n disgrifio'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sydd eu hangen ar gyflogedigion yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn nodi safonau a chanllawiau ar gyfer pob gweithiwr gofal proffesiynol.

Yng Nghymru, y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol (Cod Cyflogwyr) sy'n pennu safonau cyflogwyr. Mae canllawiau ymarfer yn rhoi canllawiau i weithwyr cofrestredig sy'n gysylltiedig â'u rôl. Ymhlith y codau eraill mae Cod Ymddygiad GIG Cymru i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru, a'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru a chanllawiau ymarfer fel Canllawiau Ymarfer Gofal Preswyl i Blant ar gyfer Gweithwyr sydd wedi Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ewch i'r linc isod a gwnewch nodyn o 4 gofyniad ar gyfer gweithwyr a eglurir yn y Cod.

Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol:

https://bit.ly/2L1bpjL

Mae gan y Cod 7 adran sy'n canolbwyntio ar y disgwyliadau ar ofalwyr sy'n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae pob adran yn amlygu beth ddylai gofalwyr wneud i ateb anghenion unigolion.

Mae’r cod ymarfer proffesiynol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, er y gall y gweithlu gofal cymdeithasol gymhwyso’r safonau ymddygiad ac ymarfer hyn. Dylai gweithwyr gofal iechyd ymgynghori â’r cod ymddygiad ar gyfer eu proffesiwn.

https://bit.ly/3di0UCkM/

Mae'r Cod yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o'r safonau hyn ac fe'i bwriedir i fod yn ganllaw i weithwyr, unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a rheolwyr gwasanaethau.

Dylai pob cyflogwr sicrhau bod eu gweithwyr yn gweithio o fewn canllawiau'r Cod ymarfer ar gyfer gofal cymdeithasol er mwyn ateb Safonau Gofal.

The Code of Professional Practice for Social Care

Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol

A young girl visiting the doctor

The Code of Professional Practice for Social Care is made up of seven sections.

As a social care worker, you must:

  1. Respect the views and wishes, and promote the rights and interests, of individuals and carers.
  2. Strive to establish and maintain the trust and confidence of individuals and carers.
  3. Promote the well-being, voice and control of individuals and carers while supporting them to stay safe.
  4. Respect the rights of individuals while seeking to ensure that their behaviour does not harm themselves or others.
  5. Act with integrity and uphold public trust and confidence in the social care profession.
  6. Be accountable for the quality of your work and take responsibility for maintaining and developing knowledge and skills.
  7. In addition to sections 1 – 6, if you are responsible for managing or leading staff, you must embed the Code in their work.

Mae Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol yn cynnwys saith adran.

Fel gweithiwr gofal cymdeithasol, mae’n hanfodol eich bod yn:

  1. Parchu safbwyntiau a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a buddiannau unigolion a gofalwyr.
  2. Ymdrechu i sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.
  3. Hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr gan eu cefnogi i'w cadw eu hunain yn ddiogel.
  4. Parchu hawliau unigolion gan geisio sicrhau nad yw eu hymddygiad yn niweidio'u hunain na phobl eraill ar yr un pryd.
  5. Gweithredu'n ddidwyll a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.
  6. Bod yn atebol am ansawdd eich gwaith a chymryd cyfrifoldeb dros gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau.
  7. Yn ogystal ag adrannau 1 - 6, os ydych yn gyfrifol am reoli neu arwain staff, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y Cod yn rhan annatod o’u gwaith.

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers in Wales

Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru

The NHS Wales Code of Conduct for Healthcare Support Workers outlines what is expected from healthcare support workers employed by NHS Wales. This relates to the behaviour and attitude expected of them as NHS staff.

The Code provides confidence and reassurance through a framework for public protection, incorporating the provision of guidance and support to healthcare support workers about their practice. This is to ensure that they understand what standards of conduct employers, colleagues, service users and the public expect them to follow.

The Code sets out standards for healthcare support workers to highlight clearly what is expected of them within their role.

Healthcare support workers can use the Code to review their practice and identify possible areas for personal development. The Code supports healthcare support workers to fulfil the requirements of their role, to act accordingly and to follow a duty of care and good practice. This is essential to protect service users, public and others from harm and abuse.

Mae Cod Ymddygiad GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru yn amlygu’r hyn a ddisgwylir gan weithwyr cymorth gofal iechyd a gyflogir gan GIG Cymru. Cyfeirir hyn at y safonau ymddygiad ac agweddau sy’n ddisgwyliedig ohonynt fel gweithwyr.

Mae'r Cod yn rhoi hyder a thawelwch meddwl drwy fframwaith amddiffyn y cyhoedd sy’n cynnwys darparu cymorth ac arweiniad i weithwyr cymorth gofal iechyd o ran eu hymarfer. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn deall pa safonau ymddygiad mae cyflogwyr, cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd yn disgwyl ganddynt.

Mae'r Cod yn nodi safonau, fel y gall gweithwyr cymorth gofal iechyd fod yn siŵr pa safonau mae disgwyl iddynt eu cyrraedd.

Gall gweithwyr cymorth gofal iechyd ddefnyddio'r Cod i adolygu eu hymarfer a nodi meysydd datblygu personol posibl. Mae'r Cod yn helpu gweithwyr cymorth gofal iechyd i fodloni gofynion eu rôl, ymddwyn yn briodol a dilyn dyletswydd gofal ac arfer da drwy'r amser. Mae hyn yn hanfodol er mwyn amddiffyn defnyddwyr gwasanaeth, y cyhoedd ac eraill rhag niwed a cham-drin.

The Code of Practice for NHS Wales Employers

Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru

A woman painting eggs with young children

The Code of Practice for NHS Wales Employers is supported by a Code of Conduct for Health Care Support Workers which describes the standards workers must follow and comply with. Employers should be understanding and implement the Code of Conduct and ensure staff are supported to achieve the standards.

Both Codes support the basic principles of safety and public protection and must underpin the day to day working practices of NHS Wales in all aspects of service delivery. Employers will need to implement systems and processes to support Healthcare Support Workers to achieve the standards in the Code of Conduct. Employers also need to use the workplace as an opportunity to develop Health Care Support Workers by providing more fulfilling working conditions that help staff carry out their roles safely and effectively, preparing them for personal development and progress in line with their Personal Appraisal Development Review (PADR).

https://www.wales.nhs.uk/nhswalescodeofconductandcodeofpractice

Ategir y Cod Ymarfer i Gyflogwyr GIG Cymru gan God Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd sy'n disgrifio'r safonau mae'n rhaid i weithwyr eu dilyn a'u cyrraedd. Dylai cyflogwyr fod yn gydymdeimladol a gweithredu'r Cod Ymddygiad a sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i gyrraedd y safonau.

Mae'r ddau God yn cefnogi egwyddorion sylfaenol diogelwch ac amddiffyn y cyhoedd, a rhaid iddynt ategu arferion gwaith dyddiol GIG Cymru ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau. Bydd angen i gyflogwyr weithredu systemau a phrosesau i gefnogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i gyrraedd y safonau yn y Cod Ymddygiad. Mae angen i gyflogwyr hefyd ddefnyddio'r gweithle i ddatblygu Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd drwy gynnig amodau gwaith mwy boddhaus sy'n helpu staff i gyflawni eu rolau'n ddiogel ac yn effeithiol, gan eu paratoi ar gyfer datblygiad personol a chynnydd yn unol a’r Adolygiad Gwerthuso a Datblygu Perfformiad (PADR).

https://www.wales.nhs.uk/codymddygiadachodymarfergigcymru

Practice Guidance

Canllawiau Ymarfer

A child with cerebral palsy laughing with a carer

The Practice guidance for residential child care workers registered with Social Care Wales describes what is expected of workers to support a high-quality service in relation to residential child care.

The guidance can also be used by employers to assess whether they have arrangements in place to ensure a professional and safe service is delivered at all times. The guidance covers child-centred care and support, good residential child care practice, safeguarding individuals, health and safety, professional development, learning culture and contributing to the development of others and to the service, including raising concerns.

The guidance builds on the ‘Code of Professional Practice for Health and Social Care’, and failure to follow the guidance could put a worker’s registration at risk.

https://bit.ly/37eUVvv

Mae'r Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i blant sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn disgrifio'r hyn a ddisgwylir gan weithwyr er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â gofal preswyl i blant.

Gall y canllawiau hefyd gael eu defnyddio gan gyflogwyr i asesu p'un a oes trefniadau ar waith ganddynt i sicrhau bod gwasanaeth proffesiynol a diogel yn cael ei ddarparu drwy'r amser.

Mae'r canllawiau yn cwmpasu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn, arfer da gofal preswyl i blant, diogelu unigolion, iechyd a diogelwch, datblygiad proffesiynol, diwylliant dysgu a chyfrannu at ddatblygiad pobl eraill ac at y gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon. Mae'r canllawiau yn adeiladu ar 'Cod Ymarfer Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol', a gallai methu â dilyn y canllawiau beryglu cofrestriad gweithwyr.

https://bit.ly/2qeZDsJ

Code of Conduct and Professional Practice for Social Care and its impact on the principles and values of health and social care

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Disabled child and carers

Social care workers are responsible for making sure that they work to the standards in the Codes of Conduct and Professional Practice. Workers must ensure that their conduct and practice meet the standards, and that no action or omission on their part harms the safety or well-being of children and young people.

The Codes of Conduct and Professional Practice provide a criteria to guide the workers’ practice and gives clarity about the standards of conduct that they are expected to meet. Workers are encouraged to use this guidance to examine and reflect on their own conduct and practice and to identify areas in which they can improve.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gweithio yn ôl safonau'r Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Rhaid i weithwyr sicrhau bod eu hymddygiad a'u hymarfer yn cyrraedd y safonau, ac nad oes unrhyw weithred na diffyg gweithredu ar eu rhan yn peryglu diogelwch na llesiant plant a phobl ifanc.

Darperir y Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol feini prawf i lywio ymarfer gweithwyr, a chynnig eglurder ynghylch y safonau ymddygiad mae disgwyl iddynt eu cyrraedd. Anogir gweithwyr i ddefnyddio'r canllawiau hyn i archwilio a myfyrio ar eu hymddygiad a'u hymarfer eu hunain, a nodi meysydd lle gallant wella.

What are principles and values in relation to work practice?

Beth ydy egwyddorion a gwerthoedd mewn perthynas ag ymarfer gwaith?

A doctor on a home visit with a very young child

All health and social care workers must follow principles and values when supporting children and young people. This ensures children and young people receive the correct care they need and can access what/who is important to them. Principles and values are there to protect children and young people, their families and carers and health and social care workers.

Principles and values include:

  • promoting effective communication and relationships
  • promoting anti-discriminatory practice
  • maintaining confidentiality of information
  • promoting and supporting children and young people’s rights to dignity, independence, empowerment, choice and safety
  • acknowledging children and young people’s personal beliefs and identity and respecting diversity
  • safeguarding children and young people from abuse
  • individual centred ways of working.

It is clear from the list that principles and values ensure that the child, young person or adult is at the centre of the planning and implementing of their care and being able to access what is important to them. A holistic view of those we work with will ensure that we consider the principles and values outlined above.

Mae'n rhaid i'r holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddilyn egwyddorion a gwerthoedd wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc. Mae hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn y gofal cywir sydd ei angen arnynt a gallant gyrchu beth/pwy sy'n bwysig iddynt. Mae egwyddorion a gwerthoedd yno i ddiogelu plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a gofalwyr a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae egwyddorion a gwerthoedd yn cynnwys:

  • hyrwyddo cyfathrebu effeithiol a pherthnasoedd
  • hyrwyddo ymarfer gwrth-ragfarnllyd
  • cynnal cyfrinachedd gwybodaeth
  • hyrwyddo a chynorthwyo hawliau plant a phobl ifanc i urddas, annibyniaeth, awdurdod, dewis a diogelwch
  • cydnabod credoau a hunaniaeth bersonol plant a phobl ifanc a pharchu amrywiaeth
  • diogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth
  • ffyrdd o weithio wedi'u canoli ar yr unigolyn.

Mae'n amlwg o'r rhestr fod egwyddorion a gwerthoedd yn sicrhau bod y plentyn, person ifanc neu oedolyn yng nghanol cynllunio a gweithredu eu gofal ac yn gallu cael mynediad at beth sy'n bwysig iddynt. Mae edrych ar yr unigolion o safbwynt cyfannol yn sicrhau ein bod yn ystyried yr egwyddorion a gwerthoedd sydd wedi ei hamlinellu uchod.

Applying Codes of Conduct and Professional Practice

Gweithredu y Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Grandmother sat on the sofa with young boy and baby

In relation to their work practice in social care, Codes of Conduct and Professional Practice state that social care workers must always promote the rights and interests of children and young people and their carers. They must also establish and maintain the trust and confidence of children and young people and carers and promote children and young people’s independence while safeguarding them from abuse, danger or harm. In addition, they should respect the individual’s rights whilst ensuring that their behaviour does not harm themselves or others, and uphold public trust and confidence in social care services. Finally, they must be accountable for the quality of their work, taking responsibility for maintaining and improving their competence, knowledge and skills.

Mewn perthynas â'u hymarfer gwaith mewn gofal cymdeithasol, mae Codau Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn datgan bod rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol hyrwyddo hawliau a buddiannau plant a phobl ifanc bob tro a'u gofalwyr. Mae'n rhaid iddynt hefyd sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder plant a phobl ifanc a gofalwyr a hyrwyddo annibyniaeth plant a phobl ifanc tra'n eu diogelu rhag camdriniaeth, perygl neu niwed. Yn ychwanegol, dylent barchu hawliau’r unigolyn tra'n sicrhau nad yw ei ymddygiad yn niweidio ei hunain nac eraill, a chynnal ymddiriedaeth gyhoeddus a hyder mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Yn olaf, mae'n rhaid iddynt fod yn atebol am ansawdd eu gwaith, gan gymryd cyfrifoldeb am gynnal a gwella eu cymhwyster, gwybodaeth a sgiliau.